venerdì, agosto 15, 2008

Cymry'r Gemau Olympaidd

Does gen i ddim math o ddiddordeb yn y Gemau Olympaidd. Am ryw reswm fydda i’n hoffi javelin ac mi fedraf wylio’r deifio (dwi mond yn dweud hynny oherwydd y bu i mi ei weld yn chwilio am newyddion a phenderfynu gwylio’r gweddill ohono), ond ar wahân i hynny dyma’r tro dwi’n teimlo sympathi dros y bobl hynny sy’n casáu pêl-droed ond sy’n cael cachlwyth ohono bob yn ail flwyddyn yn ystod yr haf.

Ond mae ‘na ddimensiwn gwbl wahanol i’r Gemau Olympaidd. Y peth ydi, dwi’n teimlo wedi fy eithrio yn gyfan gwbl, oherwydd ‘does 'na’r un tîm sy’n fy nghynrychioli i, na’r un tîm felly nid o reidrwydd i mi ei gefnogi, ond y gallaf ei gefnogi.

Ga’i roi enghraifft. Y ddynes beicio, Nicole Cook. Iawn, da iawn hi ac ati ond wyddoch chi, uffern o ots gen i os Cymraeg ydi hi neu ddim. O ran y Gemau Olympaidd, Prydeines ydi Nicole Cook. Prydain bia’r llwyddiant. Nid Cymru. Mae hi’n cynrychioli baner Prydain – baner nad yw’n ei chynrychioli, hyd yn oed.

Buddugoliaeth Brydeinig ydyw. Dyna ddiwedd arni. Pam fod cymaint o Gymry, hyd yn oed y rhai cenedlaetholgar, yn mynnu cefnogi hynny? Dwi jyst ddim yn dallt.

Cymraes ai peidio, sut ydw i, fel un sydd ddim hyd yn oed yn credu ym modolaeth Prydain y wladwriaeth, yn fod i hyd yn oed godi gwên? O waelod perfeddion fy myw, alla i ddim, oherwydd cynrychioli gwlad arall, sy’n amherthnasol i mi, y mae hi. Cynrychioli baner estron, yr wyf yn casáu’r hyn y mae hi’n sefyll drosto, y mae hi.

Dyna y mae hi, a phob ryw athletwr arall sy’n hanu o Gymru, yn ei gynrychioli ar hyn o bryd. Iawn, i’r rhai ohonoch sydd yn Brydeiniwr, digon i’r. I’r “cenedlaetholwyr” sy’n mynnu eu cefnogi, dydyn nhw ddim yn eich cynrychioli – felly pam eu cefnogi? Ffycin ddeffrowch, myn uffern i.

giovedì, agosto 14, 2008

Cyfuniadau

Ceir cyfuniadau sydd at fy nant, a rhaid nad ŷnt. Dwi’n cofio, a minnau’n llai (neu’n ifancach p’un bynnag) fe’m gwrthyrrwyd gan y ffaith bod fy ffrind, Rhys BH, yn hoffi brechdanau cig oen a sbred siocled. Hyd fy myw i’r funud hon ei hun ni allaf ddychmygu'r ffasiwn gyfuniad afiach a fwytäed, yn llawen heb orfodaeth, gan un o’r ddynol ryw.

Un arall sy’n troi arnaf ond sy’n boblogaeth ymhlith y boblogaeth gyffredinol ydi siocled a chreision. Mae’n gwneud i mi deimlo’n sâl. Bydd rhai yn hoffi panad a ffag, a rhai yn hoffi ryvita efo menyn, ond un o’r cyfuniadau od dwi’n hoffi ohonynt ydi brechdan pasta, yn fenyn difeiriog i gyd gyda brith saws tomato. A chyfuniad arall hyfryd, wrth gwrs, brechdan lobsgóws, er mai brechdan anodd ei pherffeithio ydyw.

Ac, heb ymhelaethu gormod, dydi naill ai bwyd môr neu nionod ar bizza ddim yn iawn. Yn foesol, grefyddol ac yn rhesymegol felly.

A beth am nytars sy’n mynnu rhoi caws mewn brechdan ffishffingars, neu ofnadwyon lu’r byd a fynnant gymysgu sôs coch a grefi ar blât – yn enwedig cinio Sul? Ewch ymaith, fudryddion!

Un cyfuniad ddi-frechdan sy’n afiach ydi Snakebite, wrth gwrs. Ac ydych chi erioed wedi clywed am Chinese? Hanner chwerw, hanner lagyr, yn ôl y sôn. Ac un cyfuniad sy’n gwneud i mi isio chwydu hyd eithaf gallu fy stumog ydi fodca a chôc – mae o wastad wedi troi arnaf – yr oglau yn fwy na dim, am ryw reswm.

A phan fyddaf yn cerdded i’r gwaith dwi’n mynd heibio bar coffi Harleys sy’n gwerthu pei twrci a ham, sy jyst ddim yn swnio’n iawn imi.

Ond wrff cwrs, fel y mae nobs yn ei ddweud (PAM ffwc y mae rhai pobl yn ddweud 'wrff cwrs'?), fy marn i ydi hyn oll. Siŵr Dduw bod rhai ohonoch, bobl sâl, allan yno’n hoff o nionyn ar eich pizza neu gôc yn eich fodca, wn i ddim.

Ond, ew, mae ‘na bobl afiach allan yno. Wyddoch chi pwy ydych chi. A dachi’n troi arna’ i.

martedì, agosto 12, 2008

Llawysgrifen

Dydw i ddim yn rhywun mor ddiflas â fy mod yn trafod hyn yn aml â neb ond un o’r pethau sydd gennyf i a’m ffrind dwyfol a rhyfedd Lowri Llewelyn yn gyffredin ydyw’r ffaith nad ydym yn hoff o Comic Sans. Dyma’r ffont i bobl drist sy’n meddwl eu bod yn crazy wrth ysgrifennu adroddiadau a thraethodau. Windings. Dyna ‘di ffwcin crazy; ceisiwch chi feiddio cyfieithu gan ei ddefnyddio, ond Comics Sans? Tai’m i glywed y lol ‘ma fwyach.

Microsoft Sans Serif ydi fy hoff ffont i, wedi’i ddilyn gan Arial, er wrth ysgrifennu â’m llaw mae fy g a’m a yn union ‘run fath â Times New Roman.

Sôn am ysgrifennu â llaw, ydach chi’n cofio yn ‘rysgol fach mai peth pwysicaf, yn ôl yr athrawon, y câi ei ddysgu i chi oedd sut i wneud llawysgrifen gysylltiedig? Fi ydi’r unig un dwi’n ei nabod, yn fater o ffaith, sy’n dal i ysgrifennu llythrennau cyswllt - mae pawb arall yn eu gwneud ar wahân erbyn hyn. Ond hen lawysgrifen flêr ferchetaidd sydd gennyf erbyn hyn sy’n edrych fel trywydd malwen feddw ar ei ffordd adref o’r dafarn. Fedra i ddim helpu gwneud y ffasiwn beth, wrth gwrs; felly ŷm addysgwyd, a dwi’m yn un am newid.

P’un bynnag, llai o’r malu cachu ‘ma, gen i bethau gwaeth i’w gwneud.

lunedì, agosto 11, 2008

Crynodeb byr iawniawn

Mae hi wedi bod yn wythnos ers i mi flogio, a’r rheswm am hynny ydi’r Eisteddfod, wrth gwrs. Mae arna i ofn na allaf ddweud popeth a wnes yn ei gyflawnder, a p’un bynnag mae’r rhan helaethaf ohono’n dra-gywilyddus. Heb sôn am fod yn berchen ar hici gywilyddus ers nos Fercher yn Maes B (sydd DAL yno), aeth dydd Iau yn wirion wrth siarad â Trebor Edwards gyda Ceren. Daeth rhyw ddyn arall atom a fanno fu am ychydig, ac mi ofynnodd Trebor wrthyf a oeddwn yn hoff o Rhys Meirion. Ew, ydw, medda fi, llais mawr tenor arno. Wel, ebe Treb, dyma fo wrth dy ymyl ers meitin. Ro’n i’n teimlo’n wirion.

Tai’m i ddweud mwy am f’anturiaethau Eisteddfodol. Nid fy mod yn cofio’u hanner. Cywilydd bu i mi feddwi ar faes yr Eisteddfod, ond wir-yr, os am roi bar yno a’m cael innau yno, beth arall fydd y canlyniad?

Ond dyna ni, yr oll sydd gen i bellach ydi poced wag. Fe’ch gwelaf yfory, gyfeillion, normal service a ballu eto bryd hynny.

mercoledì, agosto 06, 2008

.cym

Ai fi ydi'r unig un yng Nghymru gyfan sy'n meddwl bod .cym yn swnio'n erchyll ac y byddai rhywbeth fel .cmr yn fwy addas?

lunedì, agosto 04, 2008

I ♥ Daf Iw - a straeon eraill

Mae rhai pethau sydd mor ofnadwy o randym a gwych fel y byddai’n anghywir peidio â’u rhannu. Ddoe oedd, o bosib yn ei gyflawnder, y diwrnod mwyaf randym yn fy mywyd. Dechreuodd wrth i mi a Ceren fynd i Sain Ffagan, gyda’i chwaer sef Glesni yr wyf hefyd yn gweithio gyda hi (helo Glesni!), cael cinio yno, ni ein tri (gallwch chi ddim dallt pa mor randym ydi hwnnw heb fod yno) i yfed alcohol a gwrando ar farddoniaeth yn y man ymladd ceiliogod. Doeddwn i ddim cweit yn dallt sut i hyn ddigwydd ac mi bendronais am ateb na chefais.

Mi fethodd Ceren a fi’r bws yn ôl i ganol y dref, a bu’n rhaid i mi eistedd efo rhaw yng nghar Glesni, wrth i ni bigo i mewn i’r Halfway am beint. Yn y pen draw fi a Ceren oedd yno, wrth i bobl fynd a dod, a chan ganu Cân yr Orsedd mi wnaethom ein ffordd at y Mochyn Du, sydd efallai’n llai randym na gweddill y diwrnod.

Peintiau yn ein dwylo o hyd mi gerddasom i’r Duke of Clarence pell. Wedi dyfeisio gêm ganu ac odli y gwnaethom ei chwarae’r holl ffordd yno, a chael ambell i olwg od wedi’u bwrw atom, cyrhaeddem. Rŵan, oedd yr enwogion out in force yno bryd hynny: Dafydd Iwan, Ffion Dafis, Leanne Wood. Am ryw reswm fe ges i sticer yn dweud “I ♥ Daf Iw” gan Elin Sbrowt (eto, sylwer, mae hyn yn eithaf randym), ac fe’i gwelodd, ac am ryw reswm neu’i gilydd mae bellach llun ohonof ar gamera Dafydd Iwan wrth iddo ofyn i mi fod yn y llun ‘ma.

Fe’i atgoffais, er nad oedd yn cofio, wrth reswm, o’r tro diwethaf i mi ei gyfarfod a’m ffôn lôn yn canu “Yma o Hyd” a fynta’n edrych yn wirion arna i, a dyma fi o’i flaen y tro hwn efo sticer “I ♥ Daf Iw” (ro’n i’n gweld hyn yn ddoniol iawn, ond dwi’n meddwl fy mod wedi rhoi rhywfaint o fraw i’r hen Dafydd – dwi’n siŵr y tynnwyd y llun iddo gofio cadw ffwrdd o’r stalker hwn os fe’i gwelai eto).

A dwi’n cofio dweud wrth Ffion Dafis: “Byddwch ddistaw chi, Ffion Dafis” – nid mewn ffordd gas, cofiwch, dwi’n llawer mwy cas yn fy sobrwydd na’m meddwod.

Nos Sadwrn mi siaradais efo Kelly Pobol y Cwm sy ‘di diflannu o Bobl y Cwm, a synnu bod hogiau wrth ein hymyl yn yfad côc a lagyr. Am ryw reswm roedd Iwcs yno y tu ôl i’r bar yn syrfio ac mi allaf ddweud y prynwyd peint i mi y mae Iwcs wedi’i syrfio. Sy’n ffwc o beth i allu’i ddweud.

Ew, mi fydd ‘rhen Hogyn yn cael hwyl efo’r sêr o bryd i’w gilydd, er, dwi’m yn argyhoeddedig eu bod nhw’n cael cystal hwyl efo fi.

venerdì, agosto 01, 2008

Tapas ac mae Sbaniard a Mecsicas 'run peth

Reit, wn i ddim pam yn union mai dyma fy ffawd ond mae’r trychfilod yn Stryd Machen mewn ffwl swing ar y funud. Heblaw am fosgito yn yr ystafell wely neithiwr, yn mynd biiiiiiiiiiiiiz a finnau’n ei daro ac mae’n o’n smwj ar hyd y wal erbyn hyn, fu’n rhaid ymwared â dau bry cop arall a thair gwlithen neithiwr. Dwi’n siŵr nad oes dim amdanaf sy’n atyniadol i slygs. Yn ddiau, mae tebygolrwyddau, ond fel unigolyn hallt byddech chi’n meddwl y byddant yn cadw draw ohonof.

Ta waeth am hynny, fedra i ddim treulio drwy’r dydd yn cwyno am drychfilod. Dwi’n mynd am tapas heno. Dwi wedi cael tapas unwaith o’r blaen: y tro hwnnw roeddwn yn chwil gach eisoes (wedi deffro am 1 a chael fy mheint cyntaf tua 2, a hithau’n tua 6) a bu i mi ond cael un peth, gan ddatgan yn chwerw bryd hynny “Mae’n fach braidd”. Do, cefais rybudd ynghylch disylwedd-dod tapas ond ni thybiais fyth na fyddai’n llenwi pryf – neu wlithen yn f’achos i. Felly mae’n rhaid i rywun fwyta cryn dipyn ohono.

Yn ogystal â hyn dwi’m yn gwybod os taw peth Sbaenaidd neu Fecsicanaidd ydi tapas; felly mi wneith hi Wikipedia wedyn. Does ‘na fawr o wahaniaeth rhwng Sbaenwyr a Mecsicaniaid, wrth gwrs, hwythau oll yn fwstashios mawr sombreros diog budur, ond mi fydda i yn hoff o baella neu fajita (yr wyf yn mynnu ei ynganu yn anghywir).

Un peth sydd wastad wedi fy rhyfeddu, fodd bynnag, yn enchiladas achos dwi byth wedi cael un, ond wastad wedi ffansi rhoi cynnig arnynt. Felly dyna mi wnaf heno, oni theimlaf yn slimiwr o fri a chael tapas.

Na, dwi’m yn meddwl chwaith.

giovedì, luglio 31, 2008

Afiachrwydd a'r Blewyn Dirgel

Mae haenau o afiach yn yr hwn fyd. Gall rhywun fod yn afiach oherwydd eu bod yn drewi, fel Haydn Blin. Gall rhywun feddu ar bersonoliaeth afiach, fel Dyfed Flewfran. Gall rhywun fod yn gwbl afiach eu naws, fel Lowri Dwd. Gallwch fod yn afiach o hiliol, sydd ryw haen yn uwch o hiliol nag wyf i, neu’n afiach o gas a thywyll eich gwedd. Gallwch fod yn afiach ddigon eich arferion, fel pan gafodd Ceren biso yn bin y golchdy yn Senghennydd. Na, nid wyf wedi anghofio.

Mae’r afiach a wyf innau yn wahanol, ond fe’i cyrhaeddais neithiwr. Ers rhyw dridiau dwi wedi bod yn tagu llawer (sef pesychu i rai pobl ond tagu y bydda i’n ddeud, fel rhywun o Rachub a’i dafodiaith gref, gyfoethog) a heb ddeall pam. Mi gefais ryw ffisig ar ei gyfer ond ni wnaeth wahaniaeth, ac ni chysgais yn ddigonol oherwydd y tagu hirfaith tan y bore bach.

Ond wedi bod yn tagu yn y gwely am dros awr, ac yn syrffedu braidd, mi ddyweda i hynny wrthoch, mi deimlais rywbeth yn dyfod o’m gwddw ac i mewn i’m ceg. Wrth estyn i mewn sylwais mai darn o wallt ydoedd, ac mi beidiais â thagu ar f’union (er bod y gwddw dal yn bur boenus). Do, yn wir, bu’r tagu yn deillio o wallt. Wn i ddim gwallt pwy ydoedd, mawr obeithiaf f’un i, ond nid wyf wedi bod yn cnoi fy ngwallt yn ddiweddar, na gwallt neb arall o ran hynny. A, na, ni piwb mohono chwaith (a naddo, dwi heb â gwneud yn ystod y tridiau felly dim sylwadau ‘ffraeth’).

A dyna fy haen o afiachrwydd ar y raddfa, gwalltbesychwr; sy’n eithaf uchel i fyny, mifawrdybiaf.