giovedì, ottobre 16, 2008

Arolwg Barn Beaufort Research

Mae un o’r polau piniwn Cymreig cythryblus 'na wedi cael ei gyhoeddi heddiw. Er y’i hymchwiliwyd cyn yr argyfwng ariannol presennol, ac er ei bod yn hysbys iawn nad ydi polau piniwn yn bethau dibynadwy iawn yng Nghymru (mae’r Hen Rech Flin wedi trafod hyn o’r blaen) mae’n fy synnu bod Adam Price, er y wybodaeth honno, yn ceisio elwa ar yr arolwg barn.

Yn ôl yr arolwg, pe bai etholiad y cynulliad yn cael ei gynnal heddiw byddai Llafur ar 35% (sef 3% yn uwch), y Blaid ar 26% (sef 4% yn uwch), y Ceidwadwyr ar 19% (3% yn is) a’r Dems Rhydd ar 12% (3% yn is). Yn seiliedig ar hynny byddai’r Blaid yn ennill Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro ac yn colli sedd ranbarthol, gyda’r Ceidwadwyr rhywsut yn ennill sedd ranbarthol oddi ar y Democratiaid Rhyddfrydol yn rhanbarth y Gogledd.

Y canlyniad tebygol fyddai Llafur a Phlaid ar yr un faint o seddau, y Ceidwadwyr +1 a’r Dems Rhydd un i lawr. Rŵan, dydi Adam Price ddim yn ddwl, yn wir i’r gwrthwyneb, ond sut y gellir datgan bod cadw’r un nifer o seddau’n llwyddiant, wn i ddim. Yn wir, os mae Plaid Cymru i wireddu ei huchelgais o fod yn brif blaid Cymru, ennill seddau ar draul Llafur sy’n rhaid iddi wneud. Er mwyn gwneud hynny rhaid gweld gogwydd sylweddol o Lafur i’r cenedlaetholwyr. Yn ôl yr arolwg barn hwn, nid dyma’r achos o gwbl.

Fel dywed Denis Balsom o’r Wales Yearbook:


The increase in support shown by Labour and Plaid are within the margin of error, so essentially we are talking about no change since the Assembly election last year

Nid dadlau gyda’r pôl ei hun ydw i, fel mae’n digwydd. Fedra i ddweud yn ddiduedd y disgwyliwn i Blaid Cymru elwa ar drai Llafur yn yr etholiad nesaf, boed hynny’n un cyffredinol, Ewropeaidd neu’n edrych at 2011. Yr hyn sy’n fy synnu ydi clywed un o fawrion y Blaid yn ceisio rhoi’r argraff fod hwn yn bôl da i Blaid Cymru. Sbin yn wir, ond os taw aros yn yr unfan ydi’r uchelgais, ‘does ‘na fawr o obaith, nac oes?

mercoledì, ottobre 15, 2008

Y Dröedigaeth Werdd

Mi ddylem, wrth gwrs, achub y blaned ar gyfer ein plant. Dwi, wrth gwrs, heb blant a ddim yn bwriadu eu cael, felly mi allaf osgoi’r ddadl hon yn bur hawdd os y’i cyflwynir i mi ynghylch yr amgylchedd. Yn wir, pe bai gennyf blant, mi fuasent yn debyg yn tynnu ar fy ôl i, neu fy ngwraig. Pe buasent fel eu tad, mi wn na fyddwn yn eu hoffi. Pe buasent fel eu mam, mae’n bur debyg na fyddwn yn eu hoffi chwaith, canys fy ngwraig y byddai. Felly byddwn i ddim isio achub y blaned ar eu cyfer hwy chwaith.

A tai’m i seiclo i neb, mae’n brifo fy mhen-ôl gormod.

Ond gan ddweud hynny mae chwyldro distaw yn mynd rhagddo ym Machen Street. Mae Cyngor Caerdydd, nad ydw i’n ffan ohono ac ni fyddaf fyth (ffycin Cyngor ydi o wedi’r cwbl), wedi darparu biniau bach od lle y gellir gosod gwastraff bwyd. Wedi fy synnu ac yn chwilfrydig gan y datblygiad fe’u defnyddiaf yn gaeth, ac er lleolir f’un i yn y gegin does ‘na ddim drewdod yn dod ohono.

O ganlyniad i hyn, mae’r bag mawr lle rhoddir y bagiau gwastraff bwyd bach yn y bin ei hun. Felly lle rhown fy ngwastraff? Wel, mi osodais fag ailgylchu wrth ymyl y bin bwyd. Ar ôl llai na phythefnos mae’r peth yn llawn dop. Dwi methu credu’r peth, bron â bod. Yn wir, fedra i ddim dod o hyd i wastraff na ellir ei gompostio na’i ailgylchu (er rhaid i mi gyfaddef wn i ddim lle i roi’r tiwb past dannedd gwag sy yn yr ystafell ymolchi).

Rŵan, dydi hynny ddim yn golygu fy mod i gant y cant fy mod yn ailgylchu popeth y gellir ei ailgylchu – mae’n ddigon posibl fod ‘na bethau yn y bag ailgylchu sy ddim i fod yno. Ond Duw, chwarae teg i mi, fel un sy efo ffwc o ots am ffawd y ddynoliaeth ar ôl iddo drengi ei hun, dw ddim yn gwneud yn rhy ddrwg.

martedì, ottobre 14, 2008

Llafur yn ffarwelio â ...

Os oes Gwobr y Tarpan ymhlith pleidiau gwleidyddol Cymru, y Blaid Lafur sy'n ei hawlio yn ddi-amheuaeth yn ddiweddar! Does neb yn medru atal eu hunain rhag dianc, mae'n debyg!

Yn gyntaf, fe aeth Beti – gan wneud i Guto Bebb deimlo’n saffach am ei ddarpar swydd, mi fentraf ddweud...

Yn ddiweddarach aeth Martin, sy’n newyddion da i Arfon gan na fydd bendant yn ei chynrychioli, ond efallai yn llai o newyddion da i Blaid Cymru yn y wybodaeth y bydd unrhyw ymgeisydd arall yn gryfach...

Ond ai fi ydi’r unig un sy’n amau, jyst mymryn, y byddai’n well gan Beti ymladd sedd Arfon nag Aberconwy – wedi’r cyfan, dyma’i thiriogaeth naturiol hi i bob pwrpas.

Wedi’r cyfan, pwy fyddai’n well i ‘gadw’ Arfon i’r Blaid Lafur – yn sicr mewn etholiad y mae’n debyg y bydd angen pob sedd posibl arni?

Wrth gwrs, mae hyd yn oed Jane Davidson wedi penderfynu rhoi’r ffidil yn y to, er rhaid i mi ddweud yn bersonol fedra i ddim meddwl am unrhyw reswm pam y byddai rhywun fel Jane Davidson eisiau gwneud hynny; mae ei sedd yn ddigon ddiogel, a hithau’n weddol uchel ei pharch ymlith gweinidogion y Llywodraeth. Efallai mai wedi cael llond bol y mae hi, wn i ddim.

Ac rŵan sbïwch pwy sy wedi mynd, Eluned Morgan! Mae Vaughan Roderick (a Betsan Powys) wedi dweud ei fod yn ymwneud â rhesymau teuluol ond eto’n awgrymu, yn ddigon cywir a chyfrwys y bydd Pontypridd a Gorllewin Caerdydd yn chwilio am ymgeiswyr mewn tair blynedd.

Neu, efallai bod y pedwar wedi sylwi bod yr hen long Lafur yn prysur suddo? Prin y byddai Betty yn ennill Aberconwy, does gan Martin ddim cyfle yn Arfon. Dwi ddim yn rhagweld y byddai Jane Davidson yn disgwyl colli ym Mhontypridd yn 2011 (ac os byddai o leiaf byddai’n cyhoeddi ei bod yn sefyll lawr yn agosach at yr amser), ond mentrwn ddweud bod rhesymau gwleidyddol, o ryw natur, tu ôl i benderfyniad y ddynes benderfynol hon.

O ran Eluned Morgan, prin y byddai hi’n colli ei sedd fel dewis cyntaf Llafur yn etholiad Ewrop – mi fetia’ i unrhyw beth bod ganddi lygad ar 2011, a rhaid dweud pam lai – ond, tybed, ydi hi’n meddwl bod hynny yn well na fod yr unig ASE Llafur o Gymru yn Ewrop ar ôl flwyddyn nesa’? Ydi hi’n gwbl anghredadwy y gallai Plaid, y Torïaid, neu hyd yn oed y Dems Rhydd ennill sedd oddi ar Lafur?

Ta waeth, mae’n ymddangos bod Llafur Cymru ar ei lawr, a bod rhai aelodau yn sicr yn sylwi hyn. Gan ddweud hynny dio’m yn brain science, nadi?

Y Dagedwriaeth Fawr - Rhan II

Dwi ddim wedi cysgu neithiwr. Na’r noson gynt. Yr un oedd yr hanes; tagu a throi’n gythryblus o boeth hyd orfod agor y ffenestr. Dal i dagu am rywfaint a bod yn iawn. Deffro dwyawr wedyn yn tagu. Nôl i’r gwely, ac ymlaen y mae’r stori’n myned. Sydd o leiaf yn golygu fy mod yn gallu defnyddio fy hoff ddywediad, “Dwi’n teimlo fatha brechdan”, yn bur aml.

Synfyfyrio ddaeth i’m rhan yn y nos paham y mae’r tagu’n manteisio arnaf. Mae’n teimlo yr un fath â phan, tua deufis nôl os cofiwch, y tagais flewyn i fyny ar ôl tair noson o beswch diddiwedd. Mi fyddwn, fel y gellir dallt, yn poenydio’n arw pe byddid hynny’r achos, gan nad ydw i’n bwyta gwallt, llyfu cŵn na gwledda ar gathod.

Ond daeth damcaniaeth arall ataf ym min yr hwyr, a dw i ddim yn golygu hynny mewn ffordd ffyni. Na, wedi eildro o ddeffro neithiwr, a oedd yn dri o’r gloch y bore (do’n i methu cysgu dim) cofiais y ffaith ddifyr honno ein bod yn bwyta ar gyfartaledd wyth pry cop bob blwyddyn. Medrwch ddychmygu y parodd hyn gryn anesmwythder i mi yn fy stâd hanner-freuddwydiol, yn sicr yn y wybodaeth bryd hynny bod un wedi mynd i mewn i’m corn gwddw a chreu gwe yno, felly roedd yn rhaid i mi yfed dŵr.

Y drydedd waith i mi ddeffro, wel, tua chwarter wedi chwech, ro’n i’n eithaf sicr bod un arall wedi dilyn ogof fy ngheg at y llall. Am faint y gallent fod yno? Wrth gwrs, dydi’r ddamcaniaeth hon heb bara, yn hytrach dwi wedi setlo ar y ffaith bod gennyf annwyd neu haint erchyll, neu’n gobeithio, fel y tro diwethaf, heno’r drydedd noson y daw blewyn i’r amlwg ac y caf gysgu unwaith drachefn.

venerdì, ottobre 10, 2008

Tîm GB

Gwych ydi gweld ar fyrddau'r BBC yr ymateb sy gan y mwyafrif helaeth i Dîm Pêl-droed Prydain Fawr yn y Gemau Olympaidd.

Da iawn i'r Gymdeithas Bêl-droed am ddal ati i wrthwynebu; mae'n bur amlwg i unrhyw un fod y rhan fwyaf helaeth o'r Cymry yn gwbl wrthwynebus i'r ffasiwn beth a bod yr unig bwysau o'i blaid yn dod o dros y ffin.

giovedì, ottobre 09, 2008

Armadilo i Grangetown

Mae’n amser maith ers i mi drafod yr Armadilo, fy hoff anifail. Wel, dydi o ddim yn hoff anifail gen i mewn gwirionedd, ond daw’n drydydd agos iawn ar ôl cŵn a chwïaid.

Ar y funud mi fyddai’n gwylio Amazon efo Bruce Parry, sef y boi ffwr’ o Tribe. Un eiliad, ac un eiliad yn unig y gwelais hogyn bach a dal armadilo fel rhyw anifail anwes. Ar yr olwg gyntaf roedd hyn o galondid mawr i mi - ond eto wn i ddim a fydd armadilo yn anifail anwes da iawn - wedi’r cyfan maen nhw'n claddu a byddai gen i ddiawl o ofn y byddai’r cythraul yn fy mrathu. Maen nhw’n edrych fel rhyw bethau y byddant yn gwneud y fath beth. Bai Robin Llywelyn ydi hyn am ysgrifennu’r stor fer wych Reptiles Welcome, sydd yn ei hanfod yn cynnwys armadilo yn bwyta pidlan. Wn i fy mod yn eangfrydig fy naws ond tai’m i roi fy nghoc mewn ceg armadilo.

Ond pwy arall yn Grangetown y gallent ddweud eu bod yn berchen ar Armadilo?

Dwi ‘di sôn o’r blaen ar y flog hon am anifeiliaid anwes fy ngorffennol, a hyd yn oed y pryf a fu’n anifail anwes i’r trychinebus Lowri Llewelyn am ychydig oriau, ond soniais fyth am y pysgod trofannol.

Ro’n i’n ypset iawn un noson ar ôl prynu rhai newydd i fyw yn y tanc - pethau bach coch a glas llachar oedden nhw, del iawn, a del iawn hefyd i Frederick. Frederick oedd enw’r maelgi (neu angel-fish) mawr du a ffyrnig a oedd yn bwlio pawb arall. R’on i wrth fy modd efo Frederick, ond hen fasdad ydoedd y noson honno wrth iddo, o flaen fy llygaid, ddechrau bwyta’r pysgod bach del. Crio wnes i, ac erbyn y bore doedd ‘run ar ôl, ac o’n i’n casáu Frederick ar ôl hynny.

Dros y blynyddoedd dirywiodd nifer y pysgod. Bu fyw un ohonynt am dros wyth mlynedd, os cofiaf yn iawn, er nad oedd ganddo enw achos doeddwn i ddim yn ffan. Ac roedd y morflaidd bach yn un hyfryd hefyd, yn mynd o amgylch yr ochrau yn sugno’r budredd oddi ar ffenestri’r tanc.

P’un bynnag anaml iawn y gallwn eistedd yno a gwerthfawrogi’r peth achos nid pethau diddorol mo pysgod trofannol mewn tanciau, ac mae rhywbeth anurddasol iawn, hyd yn oed i bysgodyn, derfynu ei oes yn y bin. Mae’n gwneud i rywun yn meddwl be ffwc y byddai’n ei wneud efo armadilo.

mercoledì, ottobre 08, 2008

Y Tlawd Hwn

Ych, dwi ddim yn licio dydd Mercher. Nid gan fod dydd Mercher ydi hi fel y cyfryw, ond achos does ‘na ddim byd ar y teledu. Dwi’n gwybod, o waelod f’enaid, bod hynny’n uffernol o drist, ond dwi’n fwy na digon bodlon eistedd o flaen y teledu ar ôl mynd adref a gwneud fawr o ddim arall. Mi fedrwn ddarllen ond mae angen mynadd i ddarllen. Mi allwn ysgrifennu ond dw i ddim yn ysgrifennu ers symud i Gaerdydd, ‘sdim byd yma i ysbrydoli rhywun. Mi fedrwn fynd am dro ond mai’n oer. A dwi’n 23 dwi ddim am ffwcin “mynd am dro” nadw?

Gall benderfynu beth i wneud gyda’ch hun fod yn eithaf trafferth. Rhaid i mi gyfaddef mai un am drefn ydw i, er fy mod yn fodlon ar newid y drefn honno pan goda’r angen. P’un bynnag, ar ôl cyrraedd adref dwi’n cael fy nhe, gwneud unrhyw lanhau neu olchi sydd angen ei wneud tra bod te yn coginio, ac ar ôl bwyta gorwedd ar y soffa am oriau o flaen y teledu, gan efallai potsian ar y we ‘run pryd. A bodlon iawn y bydda i felly drwy’r nos – weithiau efo can, weithiau efo panad – gan fod yn ofalus i osgoi ITV.

Dwi ddim am yfed heno, cofiwch. Dwi ‘di yfed alcohol fel camel (gan gymryd bod y cyfryw gamel yn yfed alcohol - sy ddim yn rhy debygol i fod yn onest - felly nid cystal y gymhariaeth honno ar ôl mân-ddadansoddi) neu gardotyn (gwell. Gwell o lawer) ers pythefnos, a rhaid i mi gallio cyn y penwythnos achos mae gen i bopty yn dod i’r tŷ rhwng wyth y bore a phedwar y p’nawn. Faint o oedolyn dw i?

Wrth gwrs rhwng Amsterdam, ffôn newydd, rhewgell newydd, y bildar yn dod rhyw ben, biliau nwy a thrydan yn cynyddu i raddau brawychus, y morgais a’r hwn bopty digon trychinebus yw fy sefyllfa ariannol. Sut ddiawl dwi’n fod i fynd i gêm Cymru a phen-blwydd Ceren ar ben hynny, dyn ag ŵyr.

martedì, ottobre 07, 2008

Yr Ooderstromp Erchyll

Ydw, dwi’n f’ôl. Yn freuddwydiol felly. Mae fy mreuddwydion yn erchyll o wirion yn ddiweddar ond roedd neithiwr yn rhyfedd. Yn wir, fe’m dychrynwyd i’r fath raddau fel y deffrois am hanner awr wedi pump ac es i ddim yn ôl i gysgu.

Ro’n i’n ôl yn Amsterdam, ond gyda’r teulu y tro hwn (sori Ceren). Gwelais yno geffyl gwyn, ac am ryw reswm enw’r ceffyl gwyn oedd yr “Ooderstromp”, a dwi’n cofio hynny achos doeddwn i methu ei ynganu yn y dafarn. Yn ôl y dyn tu ôl i’r bar ysbryd dychrynllyd ydoedd, a dywedodd Dad wrthyf fod gan bobl gormod o ofn i siarad amdano.

Wedyn ro’n i mewn pabell, yn sâl (dwi wastad yn ffwcin sâl mewn breuddwydion ‘di mynd) ac roedd yr Ooderstromp y tu allan. Roedd arna i ofn, ac mi wnes hanner-ddeffro, yn teimlo’n wirion fy mod wedi cael fy sbwcio ddigon gan geffyl dychmygol fel nad es yn ôl i gysgu. Gan ddweud hynny, roedd hi’n hanner awr wedi pump ac fe es i’r gwely’n eithaf buan neithiwr felly doedd ‘na ddim pwynt.

Gyda llaw, mae gen i hoff siop newydd. Iceland. Da ‘di Iceland. Ar ôl gwario llwyth nos Sadwrn ar f’anturiaethau roedd Iceland yn donig perffaith. Lle arall y gallwch wario cyn lleied a chael gymaint? Tesco, gwn, ond dw i’m mor gomon â chwi.