giovedì, settembre 17, 2009
Arfon
Dyma ardal y chwareli a’r sedd sydd â’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg – yn wir, y tu allan i Fangor Cymraeg o hyd yw iaith mwyafrif llethol y trigolion. Ar y sail honno’n unig byddai rhywun yn meddwl mai sedd gadarn i Blaid Cymru yw hon – damcaniaeth fyddai gryfaf ymhlith pobl sy’n anymwybodol o’r iaith a gwleidyddiaeth Cymru. Ym 1997, petae Arfon yn bodoli, mae lle i gredu y gallai Dafydd Wigley fod wedi colli i Betty Williams yma. Hawdd anghofio hynny rŵan.
Ond dros gyfnod o ddegawd mae gafael y Blaid Lafur ar y sedd hon wedi dirywio’n enbyd, a gafael y mudiad cenedlaethol wedi cryfhau. Yng nghyd-destun etholiad cyffredinol, ‘does gennym ddim tystiolaeth gadarn ynghylch beth fyddai wedi digwydd yma yn 2005, ond yn ôl yr arbenigwyr (Seisnig) sedd nominal Llafur yw hon, gydag ychydig gannoedd rhwng Llafur a Phlaid Cymru.
Mae’n anodd dweud a ydi hynny’n wir: roedd trai Llafur ar ddechrau tua’r adeg honno ac eto roedd 2005 yn drychinebus o etholiad i Blaid Cymru. Un peth sy’n sicr ydi y byddai’n weddol agos rhwng Hywel a Betty.
Dyma ychydig ffeithiau am yr etholaeth ers hynny. Dwy flynedd yn ddiweddarach cafwyd etholiadau’r Cynulliad, a’r darogan y byddai hon yn gystadleuaeth agos rhwng y ddwy brif blaid yma – dyma’r unig etholiad hyd yn hyn a ymladdwyd yma ar ffiniau’r Arfon newydd.
Er i lai na hanner bleidleisio y flwyddyn honno, roedd y canlyniad yn dweud y cyfan. Enillodd Plaid Cymru 52% o’r bleidlais, gyda Llafur nid yn unig yn ail, ond ymhell y tu ôl ar 27%. Plaid Cymru 1, Llafur 0.
Ond daeth un peth arall i’r amlwg yn ystod yr etholiad hwnnw sef dirywiad enbyd trefniadaeth y blaid Lafur yn yr ardal – erbyn diwedd yr ymgyrch etholiadol nid oedd tîm Martin Eaglestone hyd yn oed yn ymgyrchu. ‘Does gan Lafur yma ddim mo’r adnoddau i gynnal ymgyrch barhaus, tra bod gan gangen Plaid Cymru Arfon gyfrif banc eithriadol o iach.
Daeth bygythiad newydd i Blaid Cymru yn y sir y flwyddyn ganlynol ar ffurf Llais Gwynedd, ond er i’r blaid honno ennill 13 o seddau ledled Gwynedd, dwy yn unig a gafwyd yn Arfon, yn y Bontnewydd a Llanwnda. Petae Llais Gwynedd am sefyll yn Arfon yn 2010, prin y câi unrhyw effaith ar y bleidlais gan nad yw neges y blaid yn berthnasol yn y rhan hon o Wynedd – ar y llaw arall, yn Nwyfor Meirionnydd gallai roi cnoc i fwyafrif Plaid Cymru. Fodd bynnag, dwi ddim o’r farn y bydd Llais Gwynedd yn sefyll yn Arfon.
Yn ôl at Lafur a Phlaid Cymru; enillodd Plaid Cymru dir oddi ar Lafur yn Arfon eto yn 2008, gan ennill wardiau cyngor mewn ardaloedd nas cynrychiolwyd ganddi ynghynt, gyda ward Gerlan, sy’n cynnwys f’annwyl Rachub, yn enghraifft berffaith o hyn. Etholwyd 19 o gynghorwyr Plaid Cymru yn Arfon. Llwyddodd Llafur i ennill tri, sef un yn llai na’r Democratiaid Rhyddfrydol, ac un yn fwy na Llais Gwynedd.
O ran nifer y pleidleisiau, roedd y patrwm nid yn annhebyg i etholiadau’r Cynulliad – enillodd Plaid Cymru 43% o’r bleidlais a Llafur 18%. Cafodd aelodau annibynnol 23% a Llais Gwynedd 7%.
Mae trosi etholiadau cyngor i rai cenedlaethol yn ffôl, ac ni wnaf hynny, ond serch hynny mae’n arwydd o’r hyn a allai ddigwydd. Yr awgrym o 2008 yw, yn Arfon, bod Plaid Cymru ymhell ar y blaen.
Mae un set arall o etholiadau y gellir ei defnyddio i raddau i ragweld canlyniad 2010 – etholiadau Ewrop. Am ryw reswm rhyfedd, defnyddiwyd yr hen ffiniau i gyfrif pleidleisiau yma. Yng Nghaernarfon, a oedd yn cynnwys Pen Llŷn, enillodd Plaid Cymru yn hawdd iawn – llwyddodd ennill 7,100 o bleidleisiau, wrth i Lafur ddod yn drydydd, y tu ôl i’r Ceidwadwyr, mewn ardal lle nad oes gan y Ceidwadwyr fath o gefnogaeth.
Roedd Dyffryn Ogwen a Bangor, sy’n ffurfio rhan o’r etholaeth newydd, yn dod o dan etholaeth Conwy. Teg dweud yn draddodiadol fod pleidleisiau Plaid Cymru yn yr etholaeth honno yn dod o’r ardaloedd hynny. Plaid Cymru, eto, fu’n fuddugol yma (er dim ond o 8 pleidlais dros y Ceidwadwyr, a hwythau’n gryfach yn ardal Llandudno a Chonwy).
Ond wow funud. Yn draddodiadol, ardaloedd Llafur, nid Plaid Cymru, ydi Dyffryn Ogwen a Bangor, ac o’r fan hon o’r etholaeth y daw ei chefnogaeth hithau hefyd. Ond enillodd Llafur ddwy fil o bleidleisiau yn llai na Phlaid Cymru yn etholaeth Conwy, felly yn rhesymegol gellid dehongli i’r cenedlaetholwyr ennill yn yr ardaloedd hynny.
Dyna ddod â ni at y presennol. Gyda llai na blwyddyn i fynd tan yr etholiad cyffredinol, mae ar ochr Plaid Cymru Hywel Williams, sy’n AS ers 2001 ac yn aelod uchel ei barch, os nad eithriadol o amlwg. Ar ochr y Blaid Lafur – wel, neb. Ymddengys, mewn sedd y mae hi’n ei dal yn nominal, bod Llafur wedi ildio eisoes – mae hynny’n dweud llawer.
Fydd Martin Eaglestone ddim yn sefyll (sy’n fwy o ergyd i Blaid Cymru na neb), a’r sôn ydi y gallai David Taylor, y dyn tu ôl i wefannau Aneirin Glyndŵr a Natwatch, sefyll ar ran y Blaid Lafur, sydd o ystyried ei waith blaenorol gyda’r blaid honno mewn etholaeth fel hon, yn despret. Cymro Cymraeg ydyw, yn ôl y sôn, ond er bod peidio â gallu siarad Cymraeg yn anfantais fawr yn Arfon, dydi’r gallu i siarad Cymraeg ddim yn fantais fel y cyfryw.
Ac ni fydd Betty Williams yno i sefyll yn y bwlch. P’un a ydych yn ei chasáu neu’n ei charu, mae Betty yn wleidydd a hanner sy’n gallu cael ei phleidlais graidd allan i bleidleisio – hi yn anad neb gallasai fod wedi cadw Arfon yn goch. Flwyddyn yn ôl, tasa hi wedi penderfynu sefyll, fyddai Betty v Hywel yn frwydr fawreddog, ond erbyn heddiw byddai brwydr o’r fath yn ffafrio’r gornel werdd yn bur hawdd, Betty ai peidio.
Felly beth am broffwydoliaeth? Er yn nominal yn sedd Lafur, mae Plaid Cymru wedi nid yn unig ennill yma dri etholiad o’r bron, ond ennill yn hawdd. Ond nid yn yr un o’r etholiadau hynny y bu i fwy na hanner y trigolion bleidleisio – yr argraff sy gen i ydi bod y rhan fwyaf o’r Llafurwyr yn apathetig, gyda lleiafrif yn troi at Blaid Cymru; patrwm a adlewyrchir ledled Cymru.
Gyda diffyg ymgeisydd, diffyg adnoddau, diffyg gweithredu, diffyg aelodau gweithgar, diffyg gweledigaeth, diffyg trefniadaeth a llywodraeth gynyddol amhoblogaidd, mae gan Lafur Wyddfa o fynydd i’w ddringo os yw hi am gynrychioli’r fro o’i hamgylch.
Proffwydoliaeth: buddugoliaeth gadarn i Blaid Cymru gyda thua hanner y bleidlais.
Proffwydo
Dwi am ddechrau heddiw drwy gynnig sylwadau ar etholaeth Arfon a rhyw fath o broffwydoliaeth yn seiliedig ar fymryn o waith ymchwil (dim gormod, dyn prysur dwi i raddau bach) a lwmp go dda o reddf.
Felly i'r gad ym mrwydr y proffwydoliaethau!
mercoledì, settembre 16, 2009
Da da
Un o’m prif broblemau (nid y meithion manion broblemau) ydi fy mod i’n hoff iawn o flas ffisig a thabledi. Stefen, Ibruprofen a phethau felly, ond yn weddol ddiweddar cefais fy hun yn troi at Rennie.
Dwi’n uffernol am gael asid stumog a dŵr poeth, fel arfer ar ôl yfed, felly mae Rennies a’u bath yn bethau digon hanfodol yn fy mywyd i. Mae Rennies blas ar gael, sef y rhai dwi’n licio’n fawr – lemon, mefus, mwyar ac oren dwi’n meddwl ydi’r blasau. Anodd gen i gyfleu faint dwi’n licio’r diawliaid bach; maen nhw’n blasu fel Love Hearts, sef heb amheuaeth un o’r da da’s gorau y rhoddodd Duw yn ei holl wybodaeth ar hon ddaear.
Dyma ddolen ddiddorol am Love Hearts.
Fydda’ i ddim yn bwyta da da’s yn aml. Gas gen i licris allsorts neu anisîd, ond fel y lliaws yn ôl rhyw arolwg diweddar, poteli Cola ffisi ydi fy hoff dda da, ac wedyn Skittles efallai. Da ‘di da da.
lunedì, settembre 14, 2009
Hanes Sinistr Moel Faban
Mae’n wybodaeth gyffredin, yn ôl fy neall, ar hyn o bryd yn Nyffryn Ogwen bod ‘na bethau rhyfedd a sinistr yn mynd ymlaen ar lethrau Moel Faban y dyddiau hyn. Nid fanno’n unig, ychwaith, ond at ganol y Carneddau eu hunain. Adroddaf yn ôl yr hyn a glywais.
Dechreua’r hanes a glywais gyda fy chwaer a’i chariad. Ddydd Mercher diwethaf, y 9efd o Fedi, roedd ‘na sŵn pibgod (bagpipe) yn canu ar Foel Faban. Mae gan gariad fy chwaer fwy o gelloedd retina na phobl eraill, sydd i bob pwrpas yn golygu y gall weld yn llawer gwell a manylach na’r rhan fwyaf ohonom, ac nad eryr mohono, a hefyd yn dda iawn yn y nos. Gŵr mewn cilt ganai’r bibgod ac roedd ‘na sawl cân i’w clywed, o Amazing Grace i Galon Lân. Gwelsant bobl yn mynd i mewn i Dwll Beryl ar Foel Faban, ac o amgylch y mynydd.
Felly aeth fy chwaer a’i chariad at y mynydd i chwilio.
Yn dilyn y pibgodiwr roedd pobl, nifer o bobl, llawer gyda chlogynau, yn dilyn y bibgord gan nodio’u pennau, gan fwy neu lai anwybyddu’r chwaer a’i chariad. Yn ôl y chwaer roedd ar ambell un fathodyn, sef yn ei hôl hi fathodyn y Seiri Rhyddion. Wn i ddim a ydi hynny’n wir mewn difri ac a ydi hi’n andabod y nod, ond dyna ddywedodd.
A hithau’n nosi roedd nifer ohonynt wedi croesi Cwm Llafar a thua Gyrn Wigau, a hynny ar gryn gyflymder, yn mynd at grombil mynyddoedd y Carneddau, rhai gyda chlogynau, rhai gyda llusernau. At ba ddiben, wn i ddim. Pwy ddiawl fyddai am dreulio noson yno, heb offer na dim, wn i ddim, ond alla’ i ddim smalio i hynny fy anesmwytho’n eithriadol ben ei hun. A dyn ag ŵyr, dydi hyd yn oed y rhai sy’n adnabod pob deilien wair arnynt ddim yn gwybod hanes calon y Carneddau yn nyfnder y nos.
Yn ôl Dad mae o’n credu iddo glywed y bibgodau yn canu o’r blaen ar y mynydd. Wn i ddim faint yn ôl oedd hynny chwaith. Yn sicr, er na fedraf yn bersonol gadarnhau hyn ar hyn o bryd er y gwnaf os gallaf, mae cerrig ac esgyrn defaid wedi’u gosod mewn ffurfiau mewn rhai mannau penodol.
Ond nid dyna’r diwedd. Mae Mam yn ffrind i un o’r dynion sy’n edrych ar ôl merlod gwyllt y Carneddau o’i wirfodd, un o’r ychydig rai, ynghyd ag ambell i ffermwr wrth gwrs, sy’n treulio cryn amser ar y Carneddau. Rŵan, nid fy mwriad ydi bod yn or-ddramatig fel petae hyn yn rhywbeth o ffilm, ond yn ei eiriau ef nid yw’r mynyddoedd mwyach yn lle i fynd ar eich pen eich hun – mae o’n dweud bod pethau rhyfedd ar waith yno.
Dywedodd stori wrthi, sydd rai blynyddoedd nôl bellach am wn i, am rywbeth y bu iddo ef a’i dad weld yno un nos, rhywbeth a fyddai fel rheol yn rhagfarnllyd yn erbyn ‘pobl od’ er diffyg disgrifiad gwell – pobl noethlymun yn dawnsio o amgylch coelcerth, i gyd off eu pennau. Nis gwelwyd ef na’i dad ganddyn nhw, ond mae meddwl bod rhwybeth felly actiwli yn digwydd, ac nid yn anwiriad, yn, eto, amesmwythol.
Mae cariad fy chwaer, efo’i olwg ragorol, yn dweud iddo weld pobl yn y nos yn crwydro ar Foel Faban. Y mae’n wir i hofrennydd yr heddlu sawl gwaith erbyn hyn lanio ar y mynydd, yn agos at Dwll Beryl, a chwilio yno, cyn ymadael eto.
Seiri Rhyddion, gorymdeithiau gyda’r hwyr a llusernau yn y mynddoedd, dawnsio noeth o amgylch y tân, pibgodau – mae’n swnio fel un rhagfarn fawr neu ffilm arswyd. Ond dyna hanes y Carneddau ein dyddiau ni. A thro nesa’ y byddaf i yn Rachub, y peth cynta dwi am ei wneud ydi mynd i fusnesu (wrth gwrs!). Mae’r mynyddoedd hynny i mi yn rhywbeth sanctaidd, ac mae gweld unrhyw amhuro arnynt yn fy mrawychu yn ddirfawr.
venerdì, settembre 11, 2009
Ymwelid y Parentals. Eto.
Ah, Mam. Un anodd i’w disgrifio ydi hi cofiwch. Dwi’n meddwl mai gwir nod Mam mewn bywyd ydi ymuno â rhengoedd y dosbarth canol. Mae hi’n lanhawraig ac yn llnau i lu o bobl, ac alla’ i ond ei disgrifio fel ‘y math o berson sy’n licio bod yn ffrindiau efo darlithwyr a phobl sy’n darllen lot’. Yn gryno, mae hon yn agwedd ar ei phersonoliaeth na chafodd mo’i throsglwyddo i mi. Fel y trafodwyd gennyf i a Lowri Dwd yn y Cornwall y noson o’r blaen, braf fyddai gallu bod yn hollol gomon heb boeni am beth y mae’r rhieni yn ei feddwl.
Dwi rhywfaint yn fwy comon nag sy’n ddelfrydol i Mam, a hynny oherwydd fy mod i’n dweud ‘blydi’ o’i blaen ac yn licio cael caniau yn y tŷ. Mi fyddai heb amheuaeth yn cael sioc angheuol o’m gweld am hanner nos nos Sadwrn, pan wyf ar f’erchyllaf. Ond, yn wahanol i’r sawl tro diweddar y buont lawr, mi fydda i’n sobor y penwythnos hon yn eu gweld.
Mae’r treial newydd ddechrau.
mercoledì, settembre 09, 2009
Nid yw'r ddysgl yn wastad
Wel helo! Hen dywydd sdici ydi hi yng Nghaerdydd ein hoes ni, clòs a sdici. I fod yn onest dwi ddim yn un am y fath dywydd – does fawr gwaeth, pan oes nac awel na gwynt a’ch bod yn teimlo fel kitchen wipe a ddefnyddiwyd ar fan llychlyd. Gwn y gwyddoch y teimlad.
Bydd rhywun yn licio menyn. Fydda i’n licio dweud ‘rhywun’ – bydd Nain yn dweud rhywun yn aml – yn enwedig mewn brawddegau fel “Wel dydi rhywun ddim yn gwybod beth i’w wneud o’r pethau ‘ma” ac yn y blaen. Fyddech chi’n synnu pa mor aml fy mod i’n siarad yn y ffordd yr ysgrifennaf gyda llais dwfn. Ond yn ôl at y pwynt gwreiddiol, bydd, mi fydd rhywun yn licio menyn.
Ond ceir problem â menyn. Menyn go iawn rŵan, cofiwch, ddim marjarîn na menyn mewn pot na’u bath (mae “eu bath” yn rhywbeth dwi bob amser yn aflwyddo i’w gael i mewn i sgwrs hamddenol, ac nid er diffyg ymdrech, fe’ch sicrhâf). Y broblem yw fel a ganlyn: allwch chi ddim cadw menyn go iawn yn yr oergell, oherwydd mae’n mynd yn rhy galed. Faint ohonom, yn wir, fu’n dioddef yn sgîl maleisus rinweddau menyn caled wrth geisio ei daenu ar dafell o fara, dim ond i’r bara rwygo a’r menyn daenu’n gwbl anwastad, gan anharddu ar flas y brechdan neu dostbeth terfynol.
Felly yn fy noethineb tragwyddol mi es o amgylch Caerdydd ar fy nghinio ddoe i chwilio am ddysgl menyn. Ar gyfer y fath bethau y farchad ydi’r stop cyntaf bob tro, ond y tro hwn mi fethodd y farchad â diwallu fy angen. Y tro diwethaf y bûm yno prynais badell sauteé am £2.50 – mae ‘na grac yn y caead ac mae’n bygwth torri’n ddeilchion mân o hyd, ond parhau y mae.
Yr hyn a’m synodd, wrth gerdded i mewn i siop o’r enw Lakeside sy’n darparu nwyddau ceginiol, oedd bod dysglau menyn yn uffernol o ddrud. Roedd yr un rhataf yno dros £14. Dim ffiars, me’ fi, ‘dimi ddysgl menyn rad.
Mi ges un yn y diwedd ar Heol yr Eglwys Fair am dair punt. Un o wir nodweddion mynd yn hŷn ydi mynnu’n barhaol bod “pethau yn rhy ddrud”, gyda hanner-cof hanner-breuddwyd am y dyddiau a fu pan oedd popeth tua dwy bunt ac roedd pob un o’r hen ferched efo pyrm.
I le’r aeth yr amser?
martedì, settembre 08, 2009
Henffych, fyd modern!
Dwi’n dweud hynny, yno fyddai am fis yn gwylio popeth dan haul yn llenwi ‘mhen â sbwriel, ac ymhen fis mi fydda i wedi diflasu i raddau ac yn cadw at ambell i sianel. Dyna, mi dybiaf, y gwna pawb mewn difri. I brofi’r peth dwi’n recordio Dudley heddiw. Fel rheol mi adawn i frain rwygo fy llygid allan cyn gwylio Dudley, ond dwisho profi’r peth. Dwi hefyd yn recordio Steptoe and Son, y fersiwn du a gwyn. Mae Steptoe and Son yn un o’r rhaglenni comedi hen ffasiwn prin iawn iawn dwi wirioneddol yn ei hoffi ac yn ei ffendio’n ddoniol – mae’r holl beth yn dywyll uffernol a llawer o’r jôcs o flaen eu hamser, ond tai’m i fwydro am hynny rŵan.
Dwi wedi torri fy nghalon braidd nad ydw i’n cael Sky Sports News, rhaid i mi ddweud. Oroesa’ i.
Gobeithio na fydd y blog hwn yn troi’n llith o’r hyn rydw i wedi ei wylio ar y teledu ac na throf yn llysieuyn, i raddau mwy helaeth o leiaf.
Y pwynt ydi, fodd bynnag, dwi wedi cymryd cam enfawr tuag at y byd modern. Yn wir, hiraetha’ fy enaid am ennyn o wybod a sicrwydd y syml a’r glân, hiraetha’ fy enaid am harmoni’r lleisiau a’r alaw sy’n burach na’r gân: ond o leiaf fydda i’n gallu ei recordio fo rŵan pan fydda i allan yn chwydu ar gornel yn rhywle.
giovedì, settembre 03, 2009
Sky+
Rŵan, gwŷr ambell un ohonoch i mi brynu Freebox fisoedd nôl, na phigodd fawr o ddim fyny, felly y troais nôl at yr analog. Heb ddewis ac yn teimlo’n ddig oherwydd y gwaith o roi popeth yn y twll cywir, sy’n anodd ar yr adeg orau credwch chi fi, i fod yn bruddglwyfus i ymuno â’r byd modern, bu’n rhaid setio’r Freebox i fyny eto.
Rŵan, yn bur rhyfedd, mae’n cael ambell i sianel y tro hwn. Fe’m synnwyd. Wrth gwrs, dydi’r un sianel namyn BBC1 yn gweithio pan ddaw’r trên heibio, sef bron bob un dros hanner yr amser cyn tuag wyth o’r gloch, ond mae’n iawn. Serch hynny, dwi angen ffics Sul o Bobl y Cwm, a dydi S4C yn unman ar y radar. Mi ffoniais Sky.
Ac felly’n mae’n swyddogol. O ddydd Llun ymlaen mi fydd gen i Sky+. Wyddoch chi be, dwi’n edrych ymlaen; fydda i mor fodern fel fy mod i’n teimlo fy mod i’n byw yn Futurama.
Mae ‘na rhai sianeli dwi yn edrych ymlaen at eu cael. Dave, wrth gwrs, ydi un, a’r llall wrth gwrs ydi Sky Sports News. Wn i ddim a fyddaf byth yn gadael y tŷ o hyn ymlaen. A dwi hefyd isio UKTV Gold yn ôl. Rhaid i hyd yn oed grinc fel fi chwerthin.
Ond tan hynny byddaf yn dibynnu ar amseroedd y trenau am f’adloniant.