Noda’r Western Mule heddiw fod Ed Milliband am ail-ymgysylltu â ‘Middle Wales’ - sef ein fersiwn ni o ‘Middle England’ am wn i. Mae hyn yn newyddion gwych, ond nid i’r Blaid Lafur. Tra ei bod yn wir bod angen yn Lloegr ennill cefnogaeth y dosbarth canol, ac mai colli pleidleisiau o blith y dosbarth hwnnw gollodd yr etholiad diwethaf i Lafur, nid dyma’r achos yng Nghymru o gwbl. Yng Nghymru, rhaid i Lafur adennill cefnogaeth nid y dosbarth canol, ond y dosbarth gweithiol.
O safbwynt personol dwi’n siomedig mai Ed gipiodd yr arweinyddiaeth, achos dwi’n meddwl y byddai David Milliband yn apelio llai at bleidleiswyr Cymru, yn enwedig y rhai dosbarth gweithiol. Ond dydw i ddim yn rhy siŵr y caiff yr arweinydd ‘cenedlaethol’ effaith enfawr ar etholiad 2011.
Mae gan Lafur o hyd broblemau dwys yng Nghymru. Hyd yn oed, fel y mae’r polau’n awgrymu, pe bai’n gwneud yn dda iawn y flwyddyn nesa, erys y problemau hyn. Mae ei threfniadaeth yn wael. Mae nifer yr aelodau yn llawer llai nag y bu – gwelir ar
flogmenai mai tua 11,000 o aelodau sydd yng Nghymru. Mae hynny’n fwy na Phlaid Cymru neu’r Torïaid, ond serch hynny mae’n syndod o isel yng nghyd-destun hanes gwleidyddol Cymru. Ac, yn ariannol, mae’r blaid yn llanast.
Nid fy mod i’n diystyru Llafur yn 2011 - dwi ymhell o wneud hynny - ond er bod canlyniad eleni yn arwynebol dda rhaid cofio mai 36% gafodd Llafur eleni yng Nghymru - y lefel isaf o gefnogaeth mewn cenedlaethau, a gwaeth na chafodd yn etholiadau’r Cynulliad ym 1999. Canlyniad cymharol dda a gafwyd, ond cragen o ganlyniad ydoedd serch hynny.
Yr hyn dwi’n ei ddweud ydi hyn. Er gwaethaf popeth, ac er gwaetha’r ffaith fy mod wedi ailadrodd ei bod ar ei pheryglaf pan fo’n glwyfedig, mae Llafur Cymru yn parhau’n wannach nag y bu ers talwm. Dwi’n cytuno â barn Vaughan Roderick, o dargedu’n effeithiol yn yr etholaethau, y gallai Plaid Cymru gael etholiad syfrdanol o lwyddiannus yn 2011. Y broblem fawr ydi, yn bersonol, dwi ddim o’r farn y bydd Plaid Cymru yn llwyddo gwneud hyn. Mae un perygl mawr iddi hithau.
Yn ddiweddar mae Llafur Cymru wedi bod yn defnyddio iaith gref iawn am lywodraeth Lloegr – un o’r prif honiadau yw ei bod yn ‘wrth-Gymreig’. I bob pwrpas, mae’r blaid yn defnyddio iaith sydd yn ei hanfod yn genedlaetholgar, a dyma dir Plaid Cymru – neu o leiaf dyma ddylai fod yn dir iddi. A dyma’r iaith y dylai Plaid Cymru nid yn unig ei defnyddio fwy, a pheidio â bod ofn ei defnyddio, ond ei bloeddio’n llawer uwch na Llafur. Dydi hi ddim yn llwyddo gwneud ar y funud; ac oni wneir hynny yn 2011 Llafur, nid Plaid Cymru, a welir fel amddiffynwyr Cymru. Ni ddylai’r Blaid, ar unrhyw gyfrif, adael i Lafur ddwyn wneud hynny, oherwydd bydd canlyniadau gwneud hynny yn ddinistriol iddi.
Polisïau arloesol ar
yr amgylchedd neu ddarlledu? Da iawn. Ond Llafur, nid Plaid Cymru, sy’n bod yn glyfar ar hyn o bryd. ‘Sgen i ddim amheuaeth bod cenedlaetholdeb yn apelio mwy na pholisïau bachog. Ond mae angen i’r Blaid fod yn fwy ymosodol o lawer, tua phob cyfeiriad, neu mi fydd yn edifar. Dwi’n gweld cyfle i wneud yn dda yn 2011. Dwi ddim yn gweld Plaid Cymru yn gwneud popeth y gall i fanteisio arno.