lunedì, febbraio 14, 2011

Ffŵa grâ

Er fy mod i’n parhau i deimlo’n sâl a does dim modd o gwbl gweld y blydi doctor achos dydyn nhw ddim yn atab y ffôn (seriws rŵan, dydi hyd yn oed y doctor ddim yn atab ffôn i fi erbyn hyn), mi wnes fwynhau’r penwythnos. Gwyliasom y gêm yn y Cornwall yn Grangetown. Gêm dda, meddwn i wrth fy hun. Dwi ddim yn cofio llwyr ganolbwyntio ar gêm cymaint ers talwm. Ta waeth, mi wnaeth ambell beint, a mi benderfynasom nad aem i dre, er gwaetha’r ffaith bod Meic Stevens yn cynnal un o’i lu gigau diwethaf – er bod ganddo bron ddegawd i ddal fyny efo Dafydd Iwan yn hynny o beth!

Penderfynwyd mynd i’r Bae am fwyd. Mae ‘na fwytai bach digon da yn Grangetown cofiwch, Merolas yn frenhines yn eu mysg, ond nid oeddem wedi bod am fwyd yn y Bae ers talwm – doeddwn i heb fod, sut bynnag. Ond hynny wnaed ac aethpwyd i fwyty Cote. Lle posh ydi Cote, a’r tro cyntaf i mi fod yno. Gwin da, a ffish pai da iawn (a elwid yn ‘paramentir’ sy’n swnio’n debycach i rywle yn Middle Earth na phastai pysgodyn posh).

Ond mi ges i ddechrau rywbeth na chefais ers hydoedd, mewn ymgais i ddarfod o flaen fy ngwell mae’n siŵr - minnau’r unig un efo crys-t o Peakcocks yn y bwyty cyfan – a chael foie gras.

Cofier rŵan parthed popeth mai fi sy’n iawn a chi sy’n rong. Gas gennyf baté, ond mi a fwytawn foie gras fora, ddydd a nos. Ac fel un a arferai gadw chwïaid, fel anifeiliaid anwes wrth gwrs a’u trin â’r ffasiwn gariad a sylw nad a ddangosais na chynt na wedyn ... wel, at chwadan de ... efallai yn wir nad ydw i’n or-hoff o’r ffordd y caiff y chwadan ei thrin wrth greu foie gras. Ond nid oes lle i egwyddorion na moesau yw’r bwrdd bwyd a minnau’n talu £6.95 am sdartar.

Os oes, yn wir, raid gorfodi chwadan i fwyta er mwyn creu’r fath beth, druan arni, fawr ots gen i yn y bôn – y tafod sydd drechaf yn yr achos hwn.

giovedì, febbraio 10, 2011

Rhagor o fyfyrio am Gyfrifiad 2011 a'r Gymraeg

Hoffwn i ymateb, yn gymharol fras achos fel mae’n siŵr dachi wedi sylwi dydi’r awydd i flogio ddim wedi bod arna i yn ddiweddar, i bost ar FlogMenai ynghylch canlyniad pwysicaf eleni, sef rhai’r cyfrifiad ar y Gymraeg. Cynhelir y cyfrifiad fis Mawrth. Y tro diwethaf fe gymerwyd dwy flynedd i gyhoeddi’r ffigurau ar yr iaith ar ôl cynnal y cyfrifiad ac wn i ddim faint a gymerith eleni.

Dwi’n un o’r rhai sy’n byth a beunydd yn darogan gwae i’r Gymraeg. Nid am fy mod isio, nac fy mod yn mwynhau ei wneud – mae’n destun torcalon i mi. Ond mae fy anobaith ynghylch sefyllfa’r Gymraeg yn gwbl ddiffuant. Wrth gwrs, mae anobaith yn beth peryg, ac fel y dywedodd Saunders Lewis, y mae cysur i gael ynddo – er yn bersonol dwi’m yn teimlo hynny!

Y mae BlogMenai o’r farn na fydd pethau mor ddu â hynny arnom o ran y cyfrifiad a bod angen edrych ar y ffigurau yn wrthrychol. Barn deg. Ond, gan wneud dim ond am ddyfalu, hyd yn oed yn wrthrychol, mi fydd yr ystadegau a gesglir eleni yn druenus, er fel noda Cai fydd pethau’n well yng Ngwynedd a hithau’n Gymreigiach na’r un rhan arall o Gymru – dyna’r ddamcaniaeth p’un bynnag. Mae pa mor well y bydd yn destun dadl. Rhaid cofio peidio â gorddibynnu ar ffigurau. Yr hyn a glywir ar lawr gwlad sydd agosaf ar wir sefyllfa’r Gymraeg. Mae pethau’n sicr yn well yn ardal Cai nag yn f’ardal i: dwi’n cofio dyfyniad arhosodd gyda fi a ddarllenais ar Faes E flynyddoedd nôl, “mae byw yng Nghaernarfon a dweud bod y Gymraeg yn fyw fel eistedd mewn popty a honni bod y byd yn boeth”. Rhywbeth felly – dwi’m yn cofio awdur doeth y geiriau!

Serch hynny, dyma ddarogan gwrthrychol ynghylch y ffigurau eleni, a chroeso i chi anghytuno a checru ac ychwanegu.

1) Bydd nifer y siroedd lle mae’r Gymraeg yn iaith gan y mwyafrif yn haneru – bydd am y tro cyntaf leiafrif Cymraeg ei iaith yng Ngheredigion a Sir Gâr.

2) Bydd cwymp fawr yn y ganran sy’n siarad Cymraeg ar Ynys Môn – hyd nes fod yn fwyafrif bach iawn neu hyd yn oed yn lleiafrif.

3) Ni fydd cymuned y tu allan i’r pedair sir ‘draddodiadol’ Gymraeg a Sir Conwy gyda chymuned lle mae mwy na 60% yn siarad Cymraeg

4) Ni fydd unrhyw le y tu allan i Arfon lle mae mwy na 80% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg, ac eithrio o bosibl Blaenau Ffestiniog. Mi fydd nifer y cymunedau lle mae mwy na 80% yn siarad yr iaith fwy neu lai’n haneru.

5) Gwelir cynnydd o hyd yn y rhan fwyaf o siroedd, ond nid ar yr un raddfa â 2001. Ni chyflawnir targed Iaith Pawb bod 25% o bobl Cymru yn medru’r iaith.

6) Gwelir cynnydd mawr yn nifer y Cymry Cymraeg yng Nghaerdydd.

Hoffwn o waelod calon feddwl na ddaw’r 4 cyntaf o leiaf yn gywir. Yr hyn a brofir ydi, yn anffodus, fod yr ardaloedd Cymraeg a’r iaith ei hun wedi’u hesgeuluso gan ddatganoli. Ond, fel y dywedais, y geiriau a glywir gan y glust ac nid yr ystadegau a ddarllennir gan y llygad sydd fwyaf dangosiadol o sefyllfa’r iaith. I’r rhan fwyaf o bobl sy’n darllen y blog hwn, dwi’n amau mai’r canfyddiad o hynny ydi bod pethau mewn difri yn waeth na’r hyn a awgrymir gan yr ystadegau.

venerdì, febbraio 04, 2011

Cymru, Lloegr, fflêrs a chowboi bŵts

Dyma ni eto felly. Cymru a Lloegr. Gêm agoriadol y Chwe Gwlad. Caerdydd. Nos Wener. Dwi wedi cyffroi digon i biso’n hun. Siŵr o fod y gwna i hynny erbyn tua deg. Ond ni fydd ots gen i os trechir y Sais. Does dim gwell deimlad hyd dywyllaf orwelion y bydysawd.

Y mae rygbi rhyngwladol wedi bod yn rhan fawr o’m mywyd i ers i mi ddod i Gaerdydd yn gyntaf dros saith mlynedd nôl, felly dyma’r seithfed bencampwriaeth i mi ei gweld yma. Doedd fawr o lwyddiant yn perthyn i’r cyntaf a welais yn 2004. Ond y flwyddyn wedyn, blwyddyn y Gamp Lawn ‘gyntaf’, oedd y bencampwriaeth orau i mi’n bersonol. O ydw, dwi’n cofio cic Henson yn y Mochyn Du. Chwalu’r Alban a gwylio’r gêm ym mudreddi Wyverne Road. Bod ym Mharis ar gyfer gêm Ffrainc – a dyna oedd gêm. Cweir i’r Eidalwyr, ac yna curo Iwerddon – sy’n hawdd yn cystadlu â Lloegr ar gyfer gwobr ‘Cas Dîm Rygbi’r Hogyn’ – yn y gêm derfynol.

Dydi Cymru heb golli yn erbyn Lloegr yng Nghaerdydd ers i mi fyw yma, nid fy mod yn hawlio unrhyw glod am hynny. Wel, efallai ‘chydig. A dwi wedi cyrraedd oedran lle dwi’n gyson pissed off bod cymaint o chwaraewyr yn iau na mi.

Ta waeth, daw’r crys rygbi allan fel y gwna ar gyfer pob gêm, ynghyd â rhai o’m hoff ddillad. Ar hyn o bryd mae ‘na ddau beth. Y cyntaf ydi’r jîns fflêrs. Dwi wedi dweud o’r blaen faint dwi’n hoffi’r rhain ond mae’r rhai a brynais yn fflêri-dêri go iawn de. Ychwaneger at hynny fŵts cowboiaidd sy’n rhoi dwy fodfadd o daldra i mi a dwi’n rêl y boi. Dewch ‘laen, petaech chi’n 5’8 fydda chi’m yn troi eich trwyn ar fod yn 5’10, boed hynny ond am ychydig oriau!

Do, mae’r cynnwrf wedi dechrau. A bydd gweld ambell un sy’n casáu rygbi yn cwyno am yr holl ffys am y saith wythnos nesaf ond yn goron ar y cyfan!

giovedì, febbraio 03, 2011

Geiriau doeth Peter Hain

Heb unrhyw amheuaeth, mae Peter Hain yn uchel ar fy rhestr o gas wleidyddion. Er gwaetha’r ffaith ei fod wastad wedi honni ei fod yn gefnogwr mawr i ddatganoli, prin iawn y mae ei eiriau wedi adlewyrchu hynny. Am rywun a frwydrodd a hynny’n deilwng dros ryddid bobl dduon yn Ne’r Affrig, mae ei agwedd tuag at ryddid y Cymry i benderfynu ar eu dyfodol eu hunain yn wrthgyferbyniol. Ond dyna ni, mae digon o enghreifftiau o bobl yr ymladdasant dros achosion teilwng yn bodloni ar swydd fras, foethus yn y pen draw.

Ymddengys ei fod o hyd yn gefnogwr brwd o’r system drwsgl, aneffeithiol a roddwyd mewn lle ganddo yn 2006, a’i fod ymhlith yr unig rai sy’n meddwl hynny. Yn wir, os galla i weld pa mor uffernol ydi system yr LCOs, dylai unrhyw un allu gwneud oni ei ddellir gan ei drahâ a’i hunanbwysigrwydd ei hun. Dyna un cyhuddiad dwi’n mwy na bodlon ei luchio at gyfeiriad Peter Hain.

Ond mae ei eiriau diweddaraf yn ei fradychu ei hun o ran ei wir agwedd tuag at ddatganoli. Yn anffodus, mae Peter Hain yn llais y mae pobl yn gwrando arno. Mae o’n un o’r rhesymau y gwnaeth Llafur gystal yng Nghymru y llynedd, a buaswn i’n mentro dweud ei fod yn gwybod hynny. O ystyried mae’n anodd gweld ei eiriau fel unrhyw beth ond am ymgais bwriadol i ddadsefydlogi’r ymgyrch o blaid – dydi Hain, yn ôl tôn ei lais a’i osgo, byth yn or-frwdfrydig pan ddaw at ddatganoli.

Y mae dweud mai ‘bai’, i bob pwrpas, y Blaid hefyd yn gwneud i’r ymgyrch o blaid swnio’n ymgyrch genedlaetholgar, ac nid cenedlaethol. Y gwir ydi bod hynny’n fêl ar fysedd yr ymgyrch yn erbyn.

Mae hefyd yn sarhaus ar allu’r Cynulliad i graffu, ond yn fwy na hynny mae’n bradychu agwedd ddiystyriol, ffroenuchel San Steffan tuag at ein llywodraeth ni. Nid lle San Steffan ydi craffu’r LCOs, wrth gwrs, ond penderfynu a oes angen y grym ar y Cynulliad. Syml. Ymddengys yn ymdrech dila i amddiffyn y system da-i-ddim a grëodd. Ar nodyn calonogol, mae’n ymddangos bod agwedd Llafur Cymru a Llafur Llundain yn ymbellháu yn hyn o beth - yn arwynebol dwi'n amau dim.

Sut bynnag, rhaid cwestiynu amseru ei eiriau a’r sbaner bach bwriadol a lunchiwyd i beirianwaith yr ymgyrch o blaid.

mercoledì, febbraio 02, 2011

Courtesy call

Dwi newydd gael courtesy call gan Orange. Maen nhw'n fy ffonio o hyd isio fi gael contract a ddim yn rhoi munud o lonydd imi. Dwi ddim yn dallt be sy mor ffocin gwrtais am hynny.

martedì, febbraio 01, 2011

Lladd trychfilod

Dwi heb flogio fawr ddim fis dwytha oherwydd mynadd. Unwaith yr aiff rhywun i’r arfer o beidio â blogio hawdd ydi bodloni ar hynny. A minnau wedi bod yn brysurach yn Ionawr 2011 na’r un Ionawr arall ers cyn cof, er i fod yn onast dwi’m hyd yn oed yn cofio llynadd, wnaeth hi fawr o les i ‘nhymer ar y cyfan, a ddaru mi ddim mwynhau’r mis, yn ôl f’arfer, er i mi fwynhau bron bopeth a wnes. Ond dyna ni, styfnig dwi, ac wedi dweud na bawn yn mwynhau Ionawr do’n i fyth am wneud pa beth bynnag a wneuthum.

Felly call fyddai dweud ar ddechrau Chwefror y bydda i’n mwynhau. Dibynna llawer ar y rygbi. Mi all fy nhymer, a’r noson yn benodol, gael eu heffeithio’n ddirfawr gan ganlyniad rygbi. Os collwn ni nos Wener fydda i ddim allan yn hir. Mae’n gas gen i golli, sy’n drist achos dwi’m yn ennill fawr o’m byd. Yr unig beth fydda i’n ei ennill fydd gemau Monopoli wrth chwarae efo’r teulu, ond mi ellir yn hawdd gymharu hynny ag ennill gêm o ‘bwy sy’n mynd i ladd pwy yn gynta’ gydag unrhyw bry cop sy’n meiddio dod i ‘nhŷ i.

Fi sy’n ennill y gêm honno bob tro, afraid dweud, neu hyd yn hyn o leiaf. Gas gen i drychfilod. Sgen i mo’u hofn nhw, heblaw am gnonod sy’n troi arna i, ond os wela i un acw mi fydd y diawl farw oni lwydda ddianc dan y carped.

Ro’n i’n ofnadwy o gas pan yn hogyn bach (wel, iau – bach fydda i fyth rŵan). Doedd fawr fwy o ddileit yn fy mywyd na thynnu coesau dadilonglegs i gyd i ffwrdd a gweld pa mor bell y gallai fflio. A phan fu gan Nain ganhwyllau yn yr ardd, gwae’r trychfil a welswn oherwydd y câi farwolaeth danllyd anochel.

‘Sdim rhyfedd fy mod i fel ydw i.

giovedì, gennaio 27, 2011

Angau Ionawr, geni'r Hogyn

Wel, dyna ni, mae Ionawr ar ei wely angau ac mi all rhywun ddechrau teimlo’n well. Dwi wedi goroesi Ionawr eleni ychydig yn well na’r arfer, er suddo i bwll anobaith mewn pyliau digon cas. Y gamp, fel y gwyddais, oedd cadw’n brysur, ac mi wnes.

Mi ddaeth y rhwym i’m rhwymo. Mae o dal yno rhywfaint, ond dwi ddim isio mynd nôl i’r meddyg achos y cam nesaf fyddai ‘archwiliad’. Awn ni ddim i fanylion. Dwi’m yn gwybod y manylion fy hun ond dwi yn gwybod bod ‘na fanag latecs yn infolfd yn rwla, a dwi ddim mor cinci â hynny.

Felly ryw gyfuniad o wledda ac yfed a chadw’n brysur fu hi, heb fawr ddim i flogio amdano mewn difri calon. Roedd y penwsos dwytha yn hwyl ofnadwy ond yn feddw tu hwnt – mi es allan efo Rhys a Haydn a dwi’n reit prowd o’n hun mai fi gofiodd fwya. Er gwaetha’r ffaith fy mod i’n cael ambell i flacowt, fel unrhyw un call, mi fydda i, er gwell neu waeth (a gwaeth fel arfer), ar y cyfan yn cofio antics fin nos waeth pa sothach a yfaf. Ac mi ges gic owt o City Arms am wneud dim. Go wir rwan.

Ond ia, mi fywiogaf rŵan, gyda rygbi a gwleidyddiaeth yn dechrau dod i fyw. Er gwaetha’r ffaith bod blwyddyn wleidyddol gyffrous o’n blaen prin fy mod i wedi cyffroi na chymryd diddordeb mewn gwleidyddiaeth hyd yn hyn eleni. Fel y gwyddoch dwi’n foi ystadegau ac o leiaf y bydd digon o’r rheini o gwmpas ymhen ychydig.

Reit gwell i mi wneud rhywbeth mwy defnyddiol nac adrodd rybish i wehilion. Welai chi.