Etholaethau
Llafur 48% (+3%)
Ceidwadwyr 20% (d/n)
Plaid Cymru 19% (-2%)
Dems Rhydd 7% (d/n)
Rhanbarthau
Llafur 45% (+4%)
Ceidwadwyr 20% (d/n)
Plaid Cymru 18% (-3%)
Dems Rhydd 5% (-3%)
Heb ddadansoddi'n fanwl, os mae'r pôl diweddaraf hwn yn agos at y gwir, dylai'r Blaid, y Ceidwadwyr a'r Dems Rhydd boeni'n arw iawn am rai o'u seddau - hyd yn oed rhai cymharol ddiogel fel Llanelli. Y peth mwyaf siomedig o safbwynt y Blaid ydi i'r arolwg gael ei gynnal ar ôl i ganlyniad y refferendwm gael ei gyhoeddi.
giovedì, marzo 10, 2011
lunedì, marzo 07, 2011
Bod yn glyfar: strategaeth Plaid Cymru dros y ddeufis nesa'
Pwt bach am y refferendwm a enillwydd ddydd Gwener. Champion aye! Gafodd neb sioc o ennill ond roedd y canlyniadau o’r gogledd-ddwyrain, a Sir y Fflint yn arbennig, yn gwbl, gwbl annisgwyl. Do’n i ddim cweit yn credu’r canlyniad o’r fan honno. Braf iawn oedd bod yn gwbl anghywir, neu’n or-bryderus i fod yn onast, am yr hyn a allai ddigwydd yn y Gogledd. Ac fel Gwyneddigyn roedd gweld Gwynedd yn cipio’r goron am y bleidlais gryfaf o blaid yn destun balchder enfawr. Yn amlwg mae cadernid Gwynedd yn parhau!
Mi wyliais lawer o raglen refferendwm S4C fore Sadwrn yn fy ngwely yn dal llawn annwyd, a rhwng nôl dŵr, mynd i’r toiled a phesychu digon i godi cyfog ar rywun iach, dechreuodd Vaughan Roderick a Dicw siarad am y goblygiadau i etholiad y cynulliad, sydd bellach lai na deufis i ffwrdd.
Roedd un peth a ddywedodd Vaughan yn ddiddorol am ragolygon y Blaid. Yn ei ôl ef, dywedodd un o hen bennau’r Blaid wrtho bod y Blaid yn cael ei chysylltu â newid cyfansoddiadol. Nis cafwyd yn ’79, ac er mai bai Llafur oedd hynny, Plaid Cymru ddioddefodd (er i Lafur wneud yn ddrwg yn nechrau 80au hyd yn oed yng Nghymru sydd efallai’n tanseilio’r ddamcaniaeth). Ond wele 1999 – sefydlwyd y Cynulliad a Phlaid Cymru gafodd fudd etholiadol o hynny yn ’99 ac i raddau llawer llai yn ’01 – cyn i bethau fynd yn draed moch yn 2003.
Felly ai dyma fydd yr achos eleni? Bydd Llafur a Phlaid Cymru (a hefyd y Ceidwadwyr a’r Dems Rhydd cofiwch) yn brwydro dros bleidleisiau’n rheini a ddywedodd Ie ddydd Iau, sy’n dacteg anochel a hanfodol, ac mae i’r Blaid fantais fawr oherwydd gall ddweud wrth yr etholwyr yn ddi-flewyn ar dafod “Ni sicrhaodd y refferendwm a hebom ni yn y glymblaid ni fyddai refferendwm wedi cael ei gynnal, ac yn fwy na hynny roedd y canlyniad yn dyst i’r ffaith ein bod yn iawn i fynnu arno pryd y gwaethom”. Mae iddi hunan-gyfiawnhad ar ei hochr yn hyn o beth ac mi all ddweud mai hi oedd yn iawn, ac yn fwy na hynny fod rhai o amlygion y blaid Lafur yn anghywir.
Y cwestiwn ydi faint o’r hanner miliwn a ddywedodd ‘ie’ y gall ddenu? A all gael mwy na’r 220,000 o bleidleisiau a gafodd yn 2007? A all nid yn unig ddal ei thir, ond atgyfnerthu yn y Senedd?
Er gwaetha geiriau ffynhonnell Vaughan mae’n anodd gweld cynnydd mawr i Blaid Cymru ymhen deufis. Llwyddodd Llafur mewn nifer o ardaloedd droi’r refferendwm yn bleidlais yn erbyn y glymblaid Lundeinig, a dyma pam gwelwyd canlyniadau hynod yn rhai o’r Cymoedd mi dybiaf, p’un a wnaeth Plaid Cymru’r gwaith caib a rhaw i gyd fel y mae’n ei honni. Wn i ddim sut y gall y Blaid oresgyn hynny, ond dwi’n ffyddiog bod gan ei strategwyr syniad o leiaf.
Ac wrth gwrs mae’r ffaith bod y Ceidwadwyr mewn grym yn San Steffan o fudd i Lafur heb amheuaeth, drwy dystiolaeth polau neu fel arall. Mae gan Blaid Cymru hanes o wneud yn llai cystal pan fo’r Ceidwadwyr mewn grym. Mi dybiaf y bydd etholiadau’r Cynulliad yn cynnwys elfen gref o bleidlais brotest yn erbyn llywodraeth Llundain, sy’n drueni mawr, achos barn y bobl ar lywodraeth Caerdydd y dylai fod.
Serch hynny, mae’n amlwg iawn bod trefnidiaeth Plaid Cymru bellach yn drawiadol, ac efallai’r gorau o’r pleidiau yng Nghymru. ‘Does angen fawr o waith ymchwil i brofi hyn – wele ganlyniadau’r pedair sir Gymraeg, sef cadarnleoedd Plaid Cymru i bob pwrpas, yn y refferendwm. Gyda’i gilydd, pleidleisiodd dros 70% yn y siroedd Cymraeg o blaid, ond yn fwy na hynny yn y pedair sir hynny y cafwyd y niferoedd uchaf yn pleidleisio. Dylai fod yn hyderus o gadw y seddau sydd ganddi, er bod Aberconwy’n destun pryder dwi’n siŵr.
Os gall y Blaid hawlio perchnogaeth ar lwyddiant y refferendwm, ac mae iddi seiliau cadarn i honni hynny, a defnyddio i’r eithaf ei threfniadaeth rymus nid yn gyffredinol ond wedi’i thargedu, mi allwn weld ambell ganlyniad mawr. Etholiad Llafur fydd 2011, heb amheuaeth, ond er gwaethaf y polau mae Llafur Cymru o hyd yn ymdebygu’n fwyfwy i gragen etholiadol.
Dwi’n meddwl mai’r ffordd orau o ragweld beth fydd hanes y Blaid yn 2011 fydd y pôl nesaf a gawn. Iawn, mi wn fod polau Cymreig o hyd yn datblygu a bod efallai wendidau sylfaenol ynddynt, ond dydyn nhw heb fod yn uffernol o anghywir ers amser, ac roedd rhai’r refferendwm yn gyffredinol agos i’r canlyniad. Mae’r amser pan y’u diystyrwyd yn haeddiannol wedi mynd.
Un ar hugain y cant gafodd Plaid Cymru yn yr etholaethau yn yr un diwethaf a gynhaliwyd. Os gwelwn newid o 3% yn ei darpar bleidlais yn y nesaf, mi dybiaf y bydd yn arwydd o fomentwm a newid tebyg i hyn a welwyd ym 1999, er i raddau llawer llai. Y broblem i’r Blaid o ran hynny ydi nad ymdeimlad hawdd ei greu mohono – fel yn ’99 roedd yn rhywbeth sylfaenol a deimlai pobl ar lawr gwlad, ymchwydd cenedlaetholgar (er dros dro) cyfan gwbl amhleidiol, ond na all fod o fudd i neb ond am Blaid Cymru.
Gan hynny, dydi hi ddim yn amhosibl na chaiff buddugoliaeth y refferendwm, boed o ran maint neu’n ddaearyddol, fawr effaith ar etholiadau’r Cynulliad. Ond drwy fod yn glyfar, mi all; ac os ydi Plaid Cymru isio cael etholiad llwyddiannus, rhaid i hithau hefyd fod yn glyfar iawn dros y ddeufis nesa’.

giovedì, marzo 03, 2011
mercoledì, marzo 02, 2011
True Wales a'r Gymraeg ... eto
Oce, 'does dim angen tystiolaeth o hyn fel y cyfryw, mae diffyg parch True Wales at y Gymraeg yn rhyfeddol o amlwg, i'r graddau ei fod yn sarhad ar y Cymry Cymraeg. Ond y peth gwaethaf ydi ei bod yn ymddangos iddyn nhw wrthod y cyfle i gyfieithu deunydd i'r Gymraeg ... dyma sylw gan David o Gerlan (dwi ddim yn ei nabod gyda llaw) ar y post hwn ysgrifennais fis diwethaf.
Gyda llaw, gwnes i yrru ebost at True Wales, gan gynnig cyfieithu rhannau eu gwefan nhw am ddim. Hynny oherwydd fy mod i eisiau gweld dwy ochr y ddadl ar gael yn Gymraeg.
Gwnaethon nhw gytuno mewn egwyddor ond dydyn nhw ddim wedi gyrru'r ffeiliau angenrheidiol ata i, er fy mod i wedi eu hatgoffa nhw sawl gwaith.
David, Gerlan
Dwi'n meddwl ei bod hi'n deg dweud fod True Wales wedi dangos pa mor wrth-Gymraeg ydyn nhw dros yr ymgyrch - heblaw am ryddhau datganiad yn dweud hynny, gallan nhw ddim fod wedi bod yn amlycach ynghylch y peth. Mae'n warth y gallai unrhyw Gymro Cymraeg fenthyg ei bleidlais i'r ymgyrch 'na' ddydd Iau, achos petai Cymru ar eu llun nhw, mae'n amlwg iawn na fyddai lle i'r Gymraeg ynddi.

martedì, marzo 01, 2011
Meddai Dad...
... "So, lle mae'r Wetherpoons 'ma oedda chdi'n siarad am dros y ffôn?" hanner ffordd drwy'r pryd o fwyd. Yn Wetherspoons.
Troelli trwstan
Trydydd diwrnod yr hangover diweddaraf, dwi’n teimlo fel fy mod i wedi bod ar wyliau i Chernobyl. Dwi’n gwbl, gwbl ffiaidd cofiwch a wnaeth y gawod neithiwr fawr wahaniaeth. Mae gen i gylchau duon o amgylch fy llgada, dwi’n crynu ac, neno’r tad, mae Dad yn dod lawr i aros am ychydig ddyddiau heddiw. Sgynno chi ddim syniad sut dwi’n ei deimlo.
Ond yn waeth weithiau na sgîl-effeithiau corfforol sesh mae’r sgîl-effeithiau meddyliol. Dwi wedi sôn o’r blaen am y paranoia cyffredinol sy’n amlygu ei hun, ond weithiau, jyst weithiau, mae’r paranoia hwnnw’n mynd i fyd, “beth uffern wnes i/ddywedish i y noson o’r blaen?”
Dyna’r math sy gen i. Bai Lowri Dwd ydi’r cyfan. O’m hudo allan nos Wener gan addo bwyd rhad yn Bella Italia, aeth y ddau ohonom o amgylch tafarndai a bariau a chlybiau Caerdydd tan oriau mân, mân y bora. Mi yfish ddigon i lorio ceffyl, ac a dweud y gwir taswn i wedi llorio ceffyl fuaswn i fawr callach o’r peth. Roedd y ddau ohonom yn teimlo bod angen ‘catch up’ ar ein gilydd, sy’n ddi-sail i’r eithaf o ystyride i ni weld ein gilydd bob noson namyn un yr wythnos honno beth bynnag.
Mi fwydrasom ac mi ddawnsiasom. Does ‘na ddim y ffasiwn beth â rhywun all ddawnsio’n chwil. Nid eithriad mohonof fi, na Lowri Dwd a oedd os rhywbeth yn waeth na fi synnwn i ddim, ac nid eithriad mo neb. Ond pan fo hynny’r peth olaf a gofiwch, a’r hynny a gofiwch yn codi cywilydd arnoch, rydych chi’n gwybod i chi yfed gormod. A dwi’n gwbod be dwi’n neud pan dwi’n dawnsio’n chwil: dwi’n neud y twist.
Pan fo chi’n dragwyddol wneud y twist yn chwil mi wnewch frifo eich cefn, fel fi, yn aml, ac mi wnewch frifo eich balchder – ac mae ymhlith amlycaf arwyddion y byd eich bod chi’n chwil. Mae ei wneud mewn clwb yn un peth. Mae ei wneud yn O’Neills bach nos Sadwrn ben eich hun yn rhywbeth arall. Mae ei wneud ddwy noson yn olynol yn drosedd.
lunedì, febbraio 28, 2011
giovedì, febbraio 24, 2011
Pawb a'i Farn neithiwr
Er nad ydi hi fyny eto ar S4/Clic, da chwi cofiwch wylio rhaglen Pawb a'i Farn o Gaergybi neithiwr ar fater y refferendwm. Os na fydd hynny'n eich ysbrydoli i bleidleisio Ia wythnos i heddiw, wn i ddim beth a wnaiff! Ac mae Syr Eric Howells, wrth gwrs, yn comedy gold - heb sôn am fod yn anrheg wych i'r ymgyrch Ia. Ac mae Syr Eric a Bill Hugh yn dweud pethau pethau mawr ... gobeithio yn wir y gwnaiff y cyfryngau prif lif bigo fyny arnynt!
Iscriviti a:
Post (Atom)