Mae’r hyn a allasai wedi bod yn fy swyno. Hanes gwrthffeithiol ydi’r enw a roddir ar yr astudiaeth, lle bydd rhywun yn damcaniaethu’r hyn a allai fod wedi digwydd pe bai rhai pethau wedi bod yn wahanol.
Prynais ddwy gyfrol ddoe ar y pwnc, sef llyfrau o’r enw What If? Maent yn gyfres o draethodau gan haneswyr academaidd yn synfyfyrio ar hanes gwrthffeithiol. Nid y pethau amlwg a ystyrir o naws Beth fyddai wedi digwydd petai’r Almaen wedi ennill yr Ail Ryfel Byd? ond yn hytrach Beth fyddai wedi digwydd petai’r Almaen wedi ymosod ar y Dwyrain Canol yn hytrach na Rwsia? Yn yr achos hwnnw gallai Hitler fod wedi meddu ar olew gwerthfawr y rhanbarth ar draul Prydain.
Neu beth pe na ddifawyd byddin yr Assyriaid 700 CC o flaen muriau Jerwsalem, sef cadarnle olaf y bobl Iddewig ar yr adeg, gan haint ddisymwth? Roedd Ymerodraeth yr Assyriaid wedi hen ddinistrio dros ddau ddwsin o ddinasoedd caerog terynas Judah bryd hynny, a byddai Jerwsalem wedi syrthio. Y canlyniad? Diwedd Iddewiaeth, fwy na thebyg. Dim Cristnogaeth. Dim Islam. Dim byd a ddeilliodd o’r byd Ambrahamig. Mae’n amhosibl meddwl pa fyd y byddai ohono erbyn hyn pe concwerid Jerwsalem 2700 o flynyddoedd yn ôl.
Beth pe cymhwysid hanes gwrthffeithiol i Gymru? Wn i nad oes gwerth difrifol mewn ystyried y ffasiwn bethau, ond mae’n ddifyr, a dweud y lleiaf! Ystyriwch pa Gymru fyddai ohoni, os byddai Cymru o gwbl, os digwyddodd y canlynol:
- Enillodd Cymry Powys Frwydr Caer yn 616 OC
- Mabwysiadodd Tywysogion Cymru ddull etifeddu’r Saeson (h.y. y mab hynaf i etifeddu’r tir cyfan, nid rhannu’r tir rhwng meibion) – beth pe bai Hywel Dda neu Rhodri Fawr wedi gwneud hynny?
- Cilmeri – er gwaethaf canlyniad y frwydr, ni laddwyd Llywelyn
- Ni fu heddwch rhwng Ffrainc a Lloegr yn ystod gwrthryfel Glyndŵr
- Ni chyfieithwyd y Beibl i’r Gymraeg
- Llwyddodd y Ffrancwyr gipio Abergwaun ym 1797
- Sefydlwyd Plaid Cymru ym 1925 ar egwyddorion cenedlaetholgar a sosialaidd
- Ni foddwyd Tryweryn
- Collwyd refferendwm ‘97