Pa un a erfynia dyn fwyaf, yma ar ddiwedd popeth? Bywyd di-boen ynteu farwolaeth ddi-ganlyniad; y ddau fawr anwireddadwy. Pan fo geiriau’n troi’n sŵn a mudandod yn glebran di-baid, a ffurfiau’n cydblethu gylch dy drem yn bopeth ac yn ddim byd. Nid oes yn y dyddiau hynny law i afael ynddi a allai leddfu. Nid oes llaw. Nid oes cwmni eithr rhithiau; yn chwerthin ar dy dwpdra, yn mwynhau pob eiliad fall ac yn trwchu ar dy newyn. Ni ellir ond â fferu ac ymaros nes i bethau eto finiogi, nes i’r llwydni droi’n lliwiau, a meddwl ai’r tro nesaf y daw’r ildiad mawr.
Cylchfan bywyd a’th
flinaist di. Yr un cylch mawr cythryblus, yr un anwybyddu’r allanfeydd, am na
wyddost i le’r ânt. Daeth y daith yn syrffed llwyr. Sut aeth popeth o’i le? Pa ddiawl
â’th hudaist lawr y lôn hon i dreisio dy enaid, a pham wyt yn ei ddilyn bob tro?
Ai twp wyt ti, neu ai’r gwir yw dy fod yn mwynhau’r artaith? Sgrechiaist
gangwaith i’r awyr am angel, ond nid arhosai ond am ennyd. Fe’i blinaist gan dy
flinder wrth i bob bore’n araf droi’n ddiwedd newydd. Am mai ti ydi’r un all
flino hyd yn oed angel. Am allu cas i’w roddi.
Anadlaf fwg fy
chwerwder. Caraf ei losg ynof. A throi hynny’n awyr o nadroedd llwydion yn
gwingo o’m blaen wedi hynny, fel petaent mewn dŵr berw gwyllt. Rhyfeddaf ar
lonni eu poen a didrafferthrwydd eu diflannu.
Oherwydd dyna’r
oll sydd rhwng yr eiliadau.
Cywilyddi ym
mreuder dy feddwl, yng nghri dy eiriau. Ai fy llais i ydi hwn? Y ffaith iti anghofio’r nad arferai fod
fel hyn; nid yw ond atgof chwerw o’r dyddiau llawen y ffarweliaist â nhw amser
mor faith yn ôl. Cofio erfyn traethell cyn eto boddi ym môr dy dduwch a chasáu caru.
Ond nid y tro hwn,
meddaist ti. Nid y tro hwn. Ond nid wyt broffwyd ychwaith.