martedì, aprile 17, 2007

Yr Argyfwng Tai ... a fi

Chi’n gwybod be? Dw i YN sdresd. Yn ofnadwy. Dim ond heddiw y mae hi wedi taro mai tri mis sydd gen i ar ôl yn y tŷ a bod angen un newydd arnaf. Mi ranna’ i fy meddwl efo chi, mae’n helpu fi i setlo.

Pan welais i’r tŷ ddydd Sadwrn dim ond un afiach oedd o, gyda thenantiaid un tŷ cae rhoi mynediad i ni a’r llall, oedd fy nghalon arni yn Grangetown, wedi ei werthu. Ni ffoniodd yr arwerthwr tai neithiwr fel yr addawodd, felly dw i mewn penbleth. Mae pethau fel hyn yn cymryd amser i’w gwneud, a ‘does gen i fawr o hynny erbyn hyn.

Prin y gallaf i fynd dros £130,000, a hynny gyda deposit etifeddiaeth gan Mam a Nain. Ac, yn dweud hynny, hyfforddi ydw i ar y funud felly dydi fy swydd i ddim ymysg y sicrhaf, mae’n siŵr. Mae pethau fel hynna’n fy mhoeni i’n arw; dw i bob amser yn meddwl bod ‘na saciad neu fil ar y ffordd (ac mae meddwl felly yn fy nghadw i ar flaenau ‘nhraed, sef yn union le ydw i’n hoffi bod). Dim peth cefn gwlad ydi methu â phrynu lle i fyw, mae'n ddigon cyffredin yn y ddinas 'fyd.

A lle i fyw, yn de? Fedra i ddim symud yn rhy bell o ganol Caerdydd, felly dw i wedi pennu Grangetown, Riverside, y Rhath a Sblot fel llefydd i fynd i (a Threganna, sy’n rhy ddrud o lawer gwaetha’r modd).

Dydi’r sefyllfa dai ddim yn deg. Dw i’n ifanc a dw i isio dechrau bywyd gyda thŷ digonol a swydd iawn. Ydi hynny’n gofyn gormod?

(gan ddweud hynny mae wastad rhywbeth yn dod fyny i mi; dw i’n argyhoeddedig bod rhywun, neu rywbeth, fel banana mewn ffoil angylaidd, yn edrych ar fy ôl yn sicrhau nad af i ar ormod o gyfeilion … hyd yn hyn)

lunedì, aprile 16, 2007

Nid blog gwleidyddol mo hwn. Cofier.

Â’r etholiad yn dyfod, dw i’n brysur yn chwilio’r we o hyd am y newyddion diweddaraf, er mae’n debyg bod ambell i berson yn rhestru'r blog hwn fel un gwleidyddol. Dydi o ddim, wchi. Bydda i’n dweud rhyw ambell i beth gwleidyddol (e.e. mae Lib Dems i gyd yn bwyta Muesli, Toris yn dirfeddianwyr cas sy’n saethu pobl dlawd a Llafur ... wel, doniol ydynt yn y bôn) o bryd i’w gilydd.

Ond trown o faterion y dydd at bethau pwysicach fel fy mywyd i, a bod yn onest i chi. Roeddwn i yn y Bae ddydd Sadwrn, gyda Rhys y dyn moel a Sioned yr hogan foel (mae hi’n gwisgo wig, medda’ nhw), a does gwell na pheint wrth ddŵr yn yr haf (er gwaetha’r ffaith nad ydyw’n haf a hefyd bod y dŵr wrth ymyl tafarn Y Lanfa yn farwaidd, gyda dim i’w gweld ond am hen long fudur a chraen budur, a gwylanod) ac mi ges liw haul o ryw fath.

Serch hyn, prin fod haul a’r Hogyn yn gyfeillion. Dros y blynyddoedd diwethaf, ers symud i Gaerdydd a dywedyd y gwir i chi, mae clwy’r gwair wedi fy meddiannu rhywfaint. Ond mae hi’n waeth flwyddyn yma, ac mae’n llygaid i’n goch ac yn fawr ac ar y funud dw i’n edrych yn eithaf tebyg i hyn:

Heb y gwallt sinsir. Diolch i Dduw. Ro’n i’n trio darllen llyfr neithiwr, yn sbectols i gyd, a phrin yr oeddwn yn gallu gweld. Dwy dabled cysgu yn ddiweddarach ac mi gysgais cyn ddyfned ac y byddwn i fwy na thebyg yn ei wneud mewn gig Genod Droog, am unwaith.

Mi es hefyd i chwilio am dŷ ar y wicend heb fath o lwc, felly mae hynny’n pwyso’n drwm arna’ i, gyda llai na thri mis ar ôl ar Newport Road. Digartref byddwyf â chlwy’r gwair. Casáu bywyd; mae o’n dwat.

venerdì, aprile 13, 2007

Prudd-der byw

Rydych chi o’r farn fy mod i’n berson cwynfanllyd, yn dydych chi (er nad yw eich barn o’r mymryn lleiaf o ddiddordeb i mi)? Dw i am gwyno rŵan, a chwyn hir a thrist bydd hwn, a hynny oherwydd nad ydw i’n hapus o gwbl heddiw a dweud y gwir yn onest i chi.

Do, mi es i dorri fy ngwallt neithiwr. Dw i’n ei gasáu â chas perffaith. Mae’n rhy fyr; ac er fy mod i, yn ôl rhai, yn dueddol o edrych ychydig yn well gyda gwallt byr (yn y modd y mae cachu efallai’n edrych ychydig yn neisiach na chwŷd) dydi o jyst ddim yn fi a dydi hi byth wedi bod pan fy mod i un ai wedi cael fy ngorfodi, neu drwy eiliad wallgof wedi ei dorri. A dw i’n drist, a dydw i ddim yn teimlo fel fi fy hun.

Pan dorrwyd gwallt Samson gollodd yntau ei gryfder, ac yn raddol mae fy hyder innau’n diflannu heb wallt. Ac wrth gerdded o’r siop trin gwallt ddoe byth erioed a deimlais y math baranoia ‘mae pawb yn edrych arnaf’. Bu’n syndod i mi mai bron â thagu dagrau a wnes yr holl ffordd adref, a, nadw, dydw i ddim am fynd allan y wicend ‘ma chwaith o’r herwydd fy mod i’n teimlo mor wirion.

Ychwaneger i hynny'r ffaith bod cael teulu i lawr yn sdresio fi allan ac nad ydw i’n cysgu ar y funud, a bod miloedd o eiriau yn syllu arnaf - lle trist a sâl ydyw’r byd i mi ar y funud. Trist, sâl, di-wallt. Newyn Ethiopia a thaith yr Iddewon drwy’r anialwch dyfod drosof cyn hyn. Betia’ i fod ganddyn nhw fwy o wallt. Ond debyg nad ydi rhywun ei angen yn y rhan honno o’r byd, chwaith.

giovedì, aprile 12, 2007

Twat gwallt

Dw i’n teimlo dros y boi RAC ar Heol y Frenhines (Queens Street i chi a mi). Fe fu’r lle yn lloches iddo, ond daeth yr AA yno yn llu a bellach ni welir mohono. Ond does ots gen i, AA ydw i efo.

Medaf i ddim cyfleu fy niflastod llwyr heddiw. Mae’r gwaith yn erchyll. Chefais i mo fy ngeni i gyfieithu. Dw i’m yn siŵr o ddiben fy modolaeth, chwaith, ond mi ddyfalaf ei bod yn cylchdroi o amgylch hufen iâ.

Dw i’n nerfus hefyd. Dw i’n cael fy ngwallt wedi ei dorri wedyn. Ac ni o farbwr. Gyda’r chwaer i lawr mi benderfynodd hithau bod angen makeover arnaf i. Mae hi ‘di dewis steil gwallt newydd i mi. Mae hi ‘di bwcio lle yn Tony & Guy’s p’nawn ‘ma i mi. Edrych fel twat fydda i erbyn diwedd y dydd, mi fetiaf fy holl eiddo arno (sydd yn cynnwys fy CDs Dafydd Iwan a het lwyd o Awstria).

Penderfyniad. Ewyllys. Aberth. Nôl at y gwaith.

mercoledì, aprile 11, 2007

"I'm a Naughty Boy in the World"

Dw i byth yn peidio â rhyfeddu ar sut y mae bywyd yn lluchio rhyfeddodau fel hyn ataf o hyd er mwyn eu hadrodd i bawb; ond dydw i ddim yn ddiolchgar amdani.

Fel rheol mae’n well gen i gerdded na chymryd tacsi. Er hyn, wedi mynd am fwyd efo’r teulu neithiwr, a hwythau i lawr yng Nghaerdydd am sbel, mi gefais dacsi i’r Bae er mwyn gwneud y cwis, fel pob nos Fawrth (aflwyddiant arall y bu er y gwelwyd gwella yn ein safle a’n gwybyddiaeth cyffredinol). Ond tacsi a gefais.

Dyn Arabaidd oedd y gyrrwr. Dim byd annaturiol am hynny, meddyliais. Roedd hynny tan iddo ddechrau taro’i fol a gweiddi “Fat! Fat” – a chymryd dim diddordeb fy ymatebion i (ysywaeth, nid peth angyffredin o mo hynny). Wedyn, dyma fo’n dechrau canu rhyw gân byrfyfyr (mi dybiaf) a gynhwysodd tôn gron o “I’m a Naughty Boy in the World”. Mi fentraf mai cân byrfyfyr ydoedd; wn i ddim pwy ddiawl byddai’n canu y math beth, wrth i mi edrych drwy’r tacsi i’r awyr yn gweddio am achubiaeth rhag y dyn.

Wedi nifer iawn o’r bennill, a phwyntio at butain yn y stryd a gofyn i mi “Do you like these girls?” (ac na oedd fy ateb, a gaf i gadarnhau) dyma fo’n fy ngollwg yn nhafarn Y Wharf. “£500. Not a penny less. Hah! £5. Get out of my taxi. See you next year”.

Ar fy myw na wnei, meddyliais, wrth fynd i brynu peint.

martedì, aprile 10, 2007

Tywynna'r haul drwy'r swyddfa

Amser cinio caf faguette, ac wedi hynny Lucozade a Boost i’m cadw i fynd drwy’r p’nawn. Anghenfil glwcos wyf y prynhawn, yn dyheu am awyr las a gweirydd gwyrddion.

lunedì, aprile 09, 2007

Arogl yr Afon

Fe fu’n benwythnos da. Bu imi ei fwynhau. Does gwell nag ymweliad â Gogledd Cymru, anheddle angylion.

Dw i’n mynd nôl am Gaerdydd heno. Wedi penwythnos mor hir a hapus prin iawn fy mod i isio mynd i’r gwaith yfory, ond ysywaeth 24 awr i rŵan fe fyddaf yn cyfieithu drachefn. Dw i wedi cadw fy hun yn brysur cofiwch. Mi es i Gaernarfon fore Sadwrn i brynu Diwrnod Efo’r Anifeiliaid, yn ogystal â CD Wil Tân i Nain. Fe soniem am y peth ddydd Gwener, wrth iddi fynnu yr hoffai glywed “CD newydd Sam Tân”.

“Dwyt ti’m yn rhy hen i hynny, Nain?” gofynnais
“Nadw i, mae o’n 40,” atebodd hithau, cyn inni ddatrys y pos.

Y prynhawn hwnnw mi es i bysgota gyda’r Dyn a Elwir yn Dyfed (DED). Yn anffodus bu i’r DED ddewis pysgotfan eithriadol o wael, a’r mwyaf a ddaeth i’m rhan oedd sefyll ar granc. O leiaf bu i’r DED ddal cranc - cyn sefyll arno. Eironig ydoedd. Ac nid pleserus oedd gosod y blow-worms ar y bachyn; cânt yr enw oherwydd eu tueddiad i ffrwydro'r munud y cyffyrddant unrhyw beth siarp.

Diog o ddiwrnod y caf cyn dychwelyd i’r ddinas. Bu imi atal yn nhoiledau Ganllwyd nos Iau ar y ffordd i fyny, wrth yr afon a chanfod fy mod yn cofio sut mae afon yn arogli. Dw i’m yn dweud celwydd. Ydych chi bobl y ddinas yn cofio sut arogl sydd ar afon? Anghofiais i.

Casgliad o bethau bychain yw bywyd. Dydi arogl afon fawr o beth, ond pan mae’n rhan annatod o’ch bod sydd yn amlwg wedi’i cholli mae yn dy daro yn dra chaled.

giovedì, aprile 05, 2007

Diwrnod Hira' 'Mywyd

Dw i’m am smalio y medra’ i wneud gwaith heddiw. Mae’n heulog a dw i’n gyrru i’r Gogledd heno yn syth ar ôl gwaith (sbïwch fi’n blogio’n gwaith yn ddrwg i gyd - ond mae diwygiadau i lwybrau troed Ceredigion yn troi ar rywun yn rhyfeddol o sydyn), ac mi fyddaf yno erbyn 11 er mwyn cael gweld pôl piniwn HTV. Mae hyn yn drist.

Mae pobl Metro yn dal i fy hambygio ar y ffordd i’r gwaith. Hyd yn oed pan dw i’n cerdded tu ôl i’r rhywun (côc yn din o agos) maen nhw dal yn llwyddo i stwffio papur o fy mlaen i a datgan “Metro?”. “Dim diolch” bydda i’n ei ddweud bob tro. Fel arfer, wrth ddweud “diolch” yng Nghaerdydd fe fydd ar hyd y llinellau “Thank you diolch yn fawr”, oherwydd mae’n bwysig dweud ‘diolch’, jyst er mwyn dangos bod ‘na Gymry Cymraeg o gwmpas y lle, yn ogystal â Phwyliaid a Somalis. Ond pan fyddaf mewn tymer drwg, rhyw dim diolch hunanfodlon a swta a ddaw o’r genau i ganlyn targed fy llid. Prin iawn fy mod i isio siarad Saesneg pan fo tymer drwg drosof; rhywsut mae naws y Gymraeg yn addasach o lawer o ran llid a dirmyg.


Gas gen i fod yn y gwaith pan fo rhywbeth gennych chi i wneud ar ôl gwaith a ti bron â marw isio’i gwneud hi. Fe fydd yn ddiwrnod hir. Safwch gyda mi yn y bwlch, gyfeillion; deuwch ataf i’r adwy.