mercoledì, gennaio 09, 2008

Ionawr. Casáu Ionawr.

Eisiau yw gwraidd dioddefaint: un o hanfodion Bwdhaeth. Coeliwch ai peidio (a mwy na thebyg na wnewch), dw i’n eithaf cryf fy ffydd a’m Cristionogaeth, i’r fath raddau na fyddaf yn cytuno â chrefyddau eraill, a wastad efo rhyw deimlad ym mêr fy esgyrn y dylwn fod yn Babydd (wn i ddim pam hynny). Fodd bynnag, mae’r Bwdhyddion wedi taro’r llygad ar ei phen ac yn hoelen eu lle gyda’r dywediad uchod. A dydi’r flog hon ddim yn trafod chwaraeon a chrefydd, maen nhw’n llawer rhy beryg.

Ers gwneud yr adduned na fyddaf yn mynd allan i feddwi ym mis Ionawr dw i wedi syrthio i mewn i dwll o ddigalondid, ac o ystyried nad yw traean y mis wedi mynd rhagddo, nid peth da mo hyn. I raddau helaeth iawn mae fy mywyd yn cylchdroi o amgylch cymdeithasu, a’r llai y byddaf yn cymdeithasu, yr is y byddaf yn ei deimlo. Rŵan, hawdd byddai mynd allan a pheidio â meddwi, ond fel y rhan fwyaf o bobl dw i ddim yn or-hoff o gwmni meddwons ac yn meddu ar yr ymagwedd ‘if you can’t beat them, join them’ yn hyn o beth. Ac i fod yn onest os ydi rhywun am gael noson sobor does lle gwaeth i fod na thafarn.

A p’un bynnag, ymddengys fod pawb arall yn arbed arian ar ôl y Nadolig, a gwn yn iawn nad Myfi yw’r unig un yn y byd sy’n dioddef o’r blŵs blwyddyn newydd. Mae rhywbeth argoelus ac anghysurus am fis Ionawr. Mae’n oer ond heb y cynhesrwydd Nadoligaidd mewnol y caiff rhywun ym mis Rhagfyr, tân gwyllt Tachwedd na Chwe Gwlad Chwefror. Yn wahanol i gyfnod y Flwyddyn Newydd ei hun, bydd rhywun wirioneddol yn sylwi mai ‘blwyddyn nesaf’ yw eleni, ac y byddant hwy a phawb o’u cwmpas flwyddyn yn hŷn.

Yn gyffredinol dw i’n unigolyn optimistaidd o ran sawl peth, ond pan ddaw at faterion personol dw i’n ystyfnig besimistaidd, a hynny o gyfuniad o fod yn realistig a chynnal delwedd, wrth gwrs. Gyda diffyg gweithgareddau Ionawr mae’n anodd peidio â throi at feddwl yn ddu a bod yn gyffredinol hunandosturiol a phrudd.

O wel. Dim ond dau ddiwrnod ar hugain o Ionawr i fynd. Fyddai’n fy nagrau ymhen dim, fe gewch chi weld.

martedì, gennaio 08, 2008

Spring Onion

Be ffwc ‘di ffradach? Oes y ffasiwn air yn bodoli, neu ai rhywbeth a fathais yn fy meddwod Nadoligaidd ydoedd? Wn i ddim, ond mae o wedi bod yng nghefn fy meddwl ers talwm, a ‘sgen i ddim mynadd chwilio geiriadur Bruce, a dydi Cysill da i ddim i neb mewn difri calon.

Wedi cam-glywed oeddwn i, gan gredu bod rhywun yn galw ‘spring onion’ yn ffradach. Y gair y byddaf yn ei ddefnyddio yw sloj; wn i ddim amdanoch chi. Fodd bynnag, fel y merllys a drafodwyd gynt, mae sawl gair Cymraeg am y ‘spring onion’ hefyd. Dywed Bruce mai sibolsyn, siolen, sgaliwn a shibwnsyn ydyw’r geiriau ar ei chyfer, sydd eto yn fwy na sydd i’r Saesneg (er yn ddibwynt felly).

Yn wir, cymaint o hoff yr ydwyf o’r gair sloj fel y byddaf yn prynu’r llysieuyn ei hun yn ddyfal, dim ond er mwyn cael dweud wrth bobl fy mod wedi cael ‘sloj i de’ neithiwr. Nid celwydd mo hyn: o ran eu blas ni welaf fawr o rinwedd iddynt, ond o ran y gair sloj mi fwytwn un y diwrnod pe cawn y cyfle.

Reit, dyna bum gair Cymraeg am y ‘spring onion’. Tybed a oes mwy?

sabato, gennaio 05, 2008

Ffycin analog

Fedrai'm cael bywyd normal na fedraf? Dw i'n ffecin flin. Dw i yma yn fy nghartref clud a mae'r teledu wedi penderfynu nad yw BBC2 Cymru yn bodoli bellach, ond am ryw rheswm hollol, hollol od mi fedraf bigo fyny BBC News 24 ac Animal Planet.

Mond ffecin analog sy gen i!

venerdì, gennaio 04, 2008

Penwythnos Dialcohol Perffaith

Helo. Dim meddwi’r penwythnos hwn. Fe fydd yn benwythnos rhyfedd iawn. Dw i’n dechrau cynllunio o’i gwmpas yn barod. Y peth cyntaf hanfodol ar gyfer penwythnos sobor ydi Doritos a dip Nionyn a Garlleg. Maent yn gwneud dip Nionyn a Garlleg yn Morristons ond efo ‘herbau’, ac ond am basil ac oregano does ymddiriedaeth gennyf mewn herbau. Felly i ASDA bydd yn rhaid mynd. Dw i’n meddwl yr af am dro i Lidl heno, hefyd, i gael bargen, a minnau heb fod ers oes pys, yn de.

Yr ail beth ydi rhywbeth da ar y teledu. Yn bur ffodus, yr hwn benwythnos mae Cwpan yr FA ar y teledu, a Man Utd yn chwarae, mi fyddaf felly yn gwbl fodlon â hynny, yn Ddoritos i gyd.

Y trydydd peth ydi o bosibl ffilm dda, yn enwedig os ydych chi, megis Y Fi, yn casáu crap fel rhaglenni dawnsio ac Ant a ffwcin Dec. Rŵan, dydw i ddim yn un i fynd i nôl DVD o siop i’w wylio ben fy hun, ond mae cael ffilm dda ar y teledu yn gwbl hanfodol. Mae hyn yn rhywbeth nad ydw i wedi ymchwilio iddo eto. Os ddim, bydd rhaid i mi ddiddori fy hun gyda Facebook am y rhan helaethaf o’r dydd, cyn i Match of the Day gychwyn. Ar ôl hwnnw bydd ‘na ryw ffilm gynhyrfus o’r 80au ar, ni synnwn.

Yn bedwerydd; cwrw. Iawn, penwythnos sobor, ond pwy ddywedodd peidio ag yfed? Mi neith gan slei o Fosters y tro i mi. Ac mi fydd yn gymorth i mi gysgu, sef rhywbeth nad ydw i wedi arfer ei wneud ar nos Sadwrn.

A dyna ni, dau bys i’m hiechyd corfforol a bawd i fyny i’m hiechyd meddyliol. Os aiff pethau rhagddynt yn iawn, ni wisgaf o gwbl, a mynd o amgylch y tŷ yn fy mhyjamas yn gwenu’n slei a meddwl fy mod yn ciwt. Sy’n ddigon teg.

mercoledì, gennaio 02, 2008

Y Rhagolygon

Blwyddyn Newydd Dda! Mi ddechreuais y flwyddyn wrth chwydu a ffendio darn o genhinen yn fy nhrwyn. Os mai dyna fydd tôn y flwyddyn yna waeth i mi neidio i mewn i’r Afon Taf yn eithaf handi.

Rhyngoch chi a mi, dw i’n edrych ymlaen at 2008 erbyn hyn (a hithau’n 2008 eisoes oni sylweddolech gynt). Ewro 2008, y Chwe Gwlad yn dechrau fis i heddiw, etholiadau cyngor i’m diddori. Fel rheol mae fy mlwyddyn yn cylchdroi o amgylch chwaraeon a gwleidyddiaeth, a’r peth gwaethaf, mwy na thebyg, fydd disgwyl i 2009 godi’i phen.

Ar wahân am un penwythnos yn Aberystwyth yr addewais ei fynychu er budd Llinos, ni fyddaf yn mynd allan ym mis Ionawr, oherwydd dw i’n benderfynol o arbed arian ar gyfer y Chwe Gwlad ac o bosibl gliniadur swanc (yn hytrach na’r gliniadur wanc sydd yn fy meddiant). Dw i ddim am wneud nad yfaf canys celwydd byddai hynny. Mae ‘na win a chwrw acw, ac fe yfir hwynt ar fyr o dro.

A pha beth bynnag, gan nad yw’r Hogyn a’i iechyd yn ffrindiau gorau (yn wir, maent wedi ffraeo sawl gwaith - yr Hogyn sy’n ennill bob tro, y rhan fwyaf o’r amser ar ôl poen mawr), ni fydd ‘iechyd’ yn dod o dan y rhestr o flaenoriaethau am eleni. Fe fyddaf yn onest, dw i’n bwriadu mynd allan mwy nac erioed eleni a gwrthod heneiddio. A dw i am feddwi’n waeth nac erioed, dim ond er mwyn codi dau fys personol ar bobl sy’n mynnu bod gormod o bobl yn meddwi'r dwthwn hwn.

A phob hwyl i bawb eleni, pa beth bynnag y gwnewch. Cofiwch hyn o eiriau: yr ail o Ionawr ydyw a dw i ‘di ymwared â’m stôr ewyllys da am 2008 yn barod drwy adrodd hynny.

venerdì, dicembre 28, 2007

Argoelus 2008

Well i mi amlinellu fy ngobeithion am 2008, er fy meddwl fy hun yn hytrach nac unrhyw beth arall. Dw i ‘di bod yn meddwl am beth hoffwn i, ac ar wahân i liniadur newydd, yr ateb ydi dim byd. Dw i’m yn licio’r sownd o 2008, mae ‘na rhywbeth argoelus ac afiach amdano, a blwyddyn i heddiw fe fydda i yma yn cwyno ac yn achwyn bod pethau’n mynd o ddrwg i waeth.

Wel, ni fyddaf yma fel y cyfryw, oherwydd dw i fwy neu lai wedi penderfynu bod Hogyn o Rachub yn dod i ben flwyddyn nesa, mewn tua chwe mis. Mae pum mlynedd o flogio yn fwy na digon.

Ond mi fyddaf, ond am ddamwain erchyll neu gael fy herwgipio, yma. Ond dw i’m yn licio. Mae ‘na rhywbeth ym mêr fy esgyrn yn dweud y bydd fy myd yn lle gwahanol iawn yr adeg hon flwyddyn nesaf. A dw i’m yn anwybyddu mêr fy esgyrn: bydd ‘na rhyw newid mawr. Ew, dw i’n ypsetio’n lân yn meddwl am y peth. Fydda’ i ddim yn un am newid, cofiwch chi.

Gobeithiaf am flwyddyn hwyl a digon diddigwyddiad, dim anturiaethau na chanfyddiadau mawr na dim. Ych, mi fydda’ i’n 23, a hŷn a hyllach a chwerwach (dw i’n edrych ymlaen at yr un olaf).

Sbïwch fi’n malu awyr. Ceisio peidio â gwneud gwaith ydw i. Dylai dyn ddim gweithio dros gyfnod y Nadolig. Ffaith. Neu os ydych chi o Rachub: byth.

giovedì, dicembre 27, 2007

Cofiwch y cyfieithwyr...

Dw i’m am sôn am y Nadolig i chi. Mi gefais het, a dyna ddiwedd y ddadl. A chyda’r twrcwn cafwyd combác (neu guinea-fowl, mae’r enwau Cymraeg a Saesneg yn wirion, mi wn) sy’n gyfuniad o borc, twrcwn a chyw iâr, yn dibynnu â phwy y byddech yn siarad â hwy.

Dw i’n unigolyn blin ac annifyr ac mi fyddaf am beth amser canys anghofiais wifrydd fy ffôn yn y gogledd, ac mi aeth y batri’n fflat ddoe. Bydd Mam yn ei ddanfon i lawr, wrth gwrs, ond fy mhryder mwyaf yw na fydd yn cyrraedd mewn da bryd i drefnu ba flwyddyn newydd bynnag sydd o’m mlaen. Diolch i Dduw am y rhyngrwyd. Heb hwnnw, mi fyddai modd gennyf i gysylltu â neb. A ddaw neb i’m gweld i drefnu, cewch weld.

A dw i ddim chwaith yn edrych ymlaen at y penwythnos. Does neb yng Nghaerdydd. Y fi, a minnau’n unig. Am drychineb trist. Dim fy mod i wirioneddol isio mynd allan, cofiwch, ond yn hytrach does gen i fawr o fynadd efo fy nghwmni fy hun ar adeg fel hyn. Roeddwn i bron â thorri ‘nghalon yn dod nôl i Gaerdydd ar y 26ain.

Felly, os byddwch yn edrych ar y sêr fin nos, cofiwch amdanaf i. Bŵ hŵ.

giovedì, dicembre 20, 2007

Neges Nadoligaidd o lawenydd mawr a mins peis a thinsel a choed Nadolig a dymuniadau gwych i bob dyn, dynes ac o bosib aelodau'r Blaid Lafur (hah!)

Wel dyma ni. Ni fyddaf yn blogio dros y Nadolig rŵan – pethau i’w gwneud a phobl i’w gweld (h.y. dw i’n mynd i weld Nain a mwy na thebyg Dyfed, er does gen i fawr o ddim i’w wneud), felly am ddim rheswm yn fwy na thraddodiadol dymunaf Nadolig llawen i bawb (ond nid blwyddyn newydd dda – fyddai’n nôl cyn i honno fynd rhagddi, cewch chi weld)!