giovedì, febbraio 07, 2008

Plaid a'r Addewid

Prin iawn y byddaf yn prynu papurau newydd, felly prin y byddwn yn prynu Y Byd ond mae’n amlwg erbyn hyn na ddaw i weld golau dydd. Yn fy marn i dydi papur newydd cenedlaethol Cymraeg ddim yn ddatblygiad pwysig yn y lleiaf mewn oes lle mae’r papur newydd yn dirywio’n gyflym.

Ond fe addawodd Plaid Cymru y byddai’r cyllid ar gael. Roedd yr addewid hwnnw’n glir. Ydw, dw i o’r farn bod yr arian y gofynnwyd amdano gan Y Byd, sef rhwng £600,000 a £1 miliwn, yn erchyll uchel, ond anodd iawn ydyw felly cyfiawnhau rhoi £1.9 miliwn i ardd eithaf dibwynt yn Sir Gaerfyrddin, heb sôn am y miliynau a roddwyd i’r Ganolfan a’r cyllid ychwanegu a gaiff.

Mae’r Blaid eisoes wedi, i bob diben, torri ei haddewid parthed Coleg Ffederal, ac mae synau cynyddol yn dweud nad oes ‘angen’ refferendwm cyn 2011 ac na fydd deddf iaith yn gosod unrhyw orfodaeth ar y sector preifat.

Beth ydi barn yr aelodau llawr gwlad am hyn? Ai dyma a gefnogwyd? Na. Wrth gwrs, mae pethau da yn dod o’r glymblaid yn barod, ond o du Rhodri Glyn Thomas mae pethau’n edrych yn wael. Mae’n rhaid i’r aelodau cyffredin fynegi hyn yn glir ac yn groch.

Ac os na cheir refferendwm na deddf iaith gynhwysfawr mae’n torri fy nghalon i ddweud nid yn unig na fyddwn yn parhau fel aelod ond prin iawn y byddwn yn bwrw croes wrth enw Plaid Cymru byth eto.

Mae’n peri i mi feddwl bod y Blaid cyn waethed â’r lleill. Os maent, colli pleidleisiau cenedlaetholwyr a wnânt. Dim cenedlaetholwyr = dim Plaid Cymru.


Peidiwn â gadael iddi ddod at hynny. Erfyniaf ar yr aelodau llawr gwlad i finiogi eu harfau a chodi llais, oherwydd Plaid Cymru er gwaethaf ei diffygion, yw’r unig obaith sydd gan Gymru o fod yn genedl rydd. Os, o fewn 6 mis iddi ddod yn rhan o’r llywodraeth, bod rhywun mor gryf ei genedlaetholdeb â mi yn dadrithio â hi, ac eisoes yn ystyried a fyddwn yn pleidleisio drosti yn yr etholiad nesaf, mae hi wir wedi canu ar Gymru.

Mae’n bryd i’r aelodau cyffredin wneud safiad.

mercoledì, febbraio 06, 2008

Canol wsos ydi hi...

Fydda’ i’n dilyn y ras arlywyddol yn yr UDA draw yn eithaf agos. Rŵan, yn gyffredinol, dw i’m yn licio gwleidyddiaeth America, ac mae hyd yn oed y Blaid Ddemocrataidd yno’n rhy asgell dde i’m dant i, a dant nifer o bobl yr ochr hwn i’r Iwerydd. Ond fydda’ i’n licio Hillary. Mae hi’n eithaf chwith ei naws (o ran gwleidyddiaeth America, hynny yw), a dydi’r Obama ‘na yn neud dim ond sŵn mawr a dw i’m yn ymddiried yno. Ond nid y fi sy’n pleidleisio. Dw i’m yn gwybod pam dw i’n dangos diddordeb a dweud y gwir.

Rhy bell ydyw America a rhy fawr i mi. Coeliwch ai peidio ond dim ond tua rŵan dw i’n dechrau atgyfodi o’r penwythnos gwirion a gafwyd. Chysgais i ddim ar y Sul na’r Llun, a ddim llawer neithiwr chwaith i fod yn onest efo chi ond mae’n ddechrau. Mae’n RHAID i mi adfywio’n gyflawn erbyn y penwythnos neu bydd hi ‘di cachu arna’ i. ‘Does ‘na ddim llawer gwaeth na chael dechrau araf i’r wythnos a bod hynny’n parhau drwyddi.

Ond waaaaaaaaaanwl mai’n ddydd Mercher yn barod! Tri diwrnod i fynd tan i mi gael codi canu drachefn. Tri diwrnod i eiddgar ddisgwyl y cais nesaf a phrofi i Hwntws bod Gogs yn dallt rygbi, er os dw i’n dweud y gwir dw i ddim yn hollol hollol.

Well gen i bêl-droed fel gêm, wrth gwrs, ond pencampwriaeth y Chwe Gwlad ydi yn hawdd, hawdd iawn y bencampwriaeth orau ar y blaned (gan gynnwys Cynghrair Dartiau Pesda). ‘Does y fath angerdd a gobaith yn bodoli yn yr un gystadleuaeth arall, ac os mae ‘na dwisho darn ohoni rŵan.

Ac unwaith eto mae’n ganol wythnos a dw i’n piso fy hun yn cyffroi am ddydd Sadwrn.

(A dw i'm yn credu dw i 'di actiwli gosod labeli 'chwaraeon' a 'gwleidyddiaeth' am y blogiad hwn!)

lunedì, febbraio 04, 2008

Dathlu a diodda

Bobl bach. Ni theimlais, ar fy myw, y ffasiwn orfoledd â theimlais am tua 6 nos Sadwrn. Roedd o’n warthus o fuan ac roeddwn i’n neidio o amgylch seddau’r Mochyn Du yn swsio pawb am hanner awr dda yn jibidêrs. Roeddwn i, efo Ceren a Haydn a’r Rhys, wedi bod allan ers deuddeg, ar ôl cyrraedd y Mochyn Du yn fuan a chael ein gwahodd i mewn achos ein bod ni’n edrych yn oer tu allan.

Yn ôl Ceren bu inni yfed o leiaf wyth peint cyn y gêm, sy’n gwneud i rywun feddwl eu bod nhw’n fwy o ran o broblem cymdeithas yn hytrach na’r ffisig i’w gwella. Ond does ots. Hanner amser, roedd y Mochyn yn ddistaw. Deugain munud wedyn mi aeth yn wyllt. Wn i ddim beth ddigwyddodd bron. Ond roedd y gorfoledd a’r dathlu mor amlwg. Ro’n i mor hapus. Roeddem ni wedi curo’r Saeson.

Ac fel y Cymro cyffredin yr wyf dw i’n fwy na fodlon cael fy ysgubo i ffwrdd mewn ton o frwdfrydedd a gweiddi’n groch bod y Grand Slam yn dod i Gymru drachefn. Pam lai, yn de?

Llwyddon ni ddim aros allan drwy’r nos o gwbl. Roedd yr ymdrech hwnnw’n gam yn rhy bell a dw i’n siŵr fy mod i adref erbyn 12 yn hawdd.

A dw i’n blydi diodda’ am y peth ‘fyd.

venerdì, febbraio 01, 2008

Cyffrous

Dw i yn llawer, llawer rhy gyffrous am yfory. Dw i wedi bod fel hogyn bach sy’n disgwyl am y Nadolig, ond yn ofni na chaf i ddim.

Mae hyn yn anhygoel. Gêm ddiwethaf Cymru oedd yn erbyn De Affrica. Dyna’r tro cyntaf erioed, erioed i mi wylio gêm Cymru a chyn iddi ddechrau meddu ar ddim gobaith o gwbl. Bob tro yn ddi-ffael cyn hynny roedd ffydd ddall yn dod o rywle cyn gêm, ond nid y tro hwnnw. Ni ddaeth.

Ond mae pethau wedi newid a dw i’n ôl i’m harfer o gredu dall optimistaidd, a mwy. Dw i’m yn cofio bod mor gyffrous ers talwm. Siom ga’ i, fe gewch chi weld, ond peidiwch â cheisio dweud hynny i mi heddiw na bora ‘fory.

Dw i’n arogli gwaed Sais.

mercoledì, gennaio 30, 2008

Tafarn, Cwmni Da a Phengwins

Yng Nghaerdydd mae’r haul yn codi ac mae hynny yn ei hun yn gwneud i mi wenu’n wirion. Na, hoffwn i mo’r tywydd poeth, ond mae’r tywydd braf yn mynd i ddyfnion noethaf y galon. Dw i’n gwybod mai mis Ionawr ydyw, ond yn fwy na fûm o’r blaen erioed dwi’n erfyn i’r tywydd hafaidd ddyfod.

Dyna’r broblem efo Cymru. Mae’r tywydd yn gyffredinol, wel, cachlyd. Cael gwyliau i fynd dramor yr adeg hon o’r flwyddyn y dylem; mae’n od bod pobl yn mynd yn yr haf pan mae’r haul yn penderfynu dod allan.

Soniem yn ddiweddar am fynd i Fflorida am wyliau yn yr haf. Ar ôl fy mrwdfrydedd cychwynnol dw i ‘di penderfynu nad ydw isio. Un rheswm ydi nad oes ‘na ddim yn Fflorida i mi. Mae’n boeth, dw i’n casáu torheulo, a dw i’n casáu nofio, sy’n rhywbeth y mae pawb yn ei wneud.

Y gwyliau yr hoffwn fwyaf byddai amsugno rhywfaint o’r hanes lleol, mynd i gastell neu edrych lawr ar gwm egsotig newydd ffres; bwyta bwyd newydd cyffrous ac yfed yn wirion bost yn y nos. Bob nos. Yn ddieithriad. Dydi partïon wrth y pwll ddim at fy nant, ac mae’n gas gen i draethau. Dw i byth wedi dallt pam ddiawl y byddai rhywun isio mynd i’r traeth am dro a chael tywod yn eu sgidiau. Gwell angau na hynny (celwydd).

Ond penderfynol ydwyf i fynd ar wyliau eleni, a chymryd wythnos gyfan i ffwrdd o’r gwaith. Ond i le a chyda phwy ni wn. Y broblem efo pawb ohonom ni ydi ein bod ni’n iawn i fynd ar sesh, neu sesiwn dramor deirnos, gyda’n gilydd, ond pe deuai at wyliau llawn y gwir ydi y byddai pawb isio gwneud pethau gwahanol a mynd i lefydd gwahanol.


Bodlon y byddwn ar Ynys Enlli am wythnos pe bai yno dafarn, cwmni da a phengwins.

martedì, gennaio 29, 2008

Yr Artaith Flynyddol

Mae’r diwrnod yn dyfod. Dw i’n cyffroi yn araf bach ond yn sicr iawn. Mae pob gronyn o amheuaeth a thywyllwch yn troi’n gobaith llachar a ffydd gadarn.

Ac wedyn mi fydd Lloegr yn ein curo ni ac mi fydda i’n cael noson flin.

Ond wir-yr, cyn i Gymru chwarae gêm o rygbi mae ‘na don o obaith anesboniadwy o gamarweiniol yn dyfod drosof, a’r rhan fwyaf o’r genedl. Ond serch hyn, mae gêm rygbi Cymru v Lloegr, ym mha le bynnag y bo, yn cymharu gyda’r Nadolig, dy ben-blwydd a pha ddigwyddiad bynnag arall sy’n mynd â dy fryd personol, fel un o’r diwrnodau hynny yn y flwyddyn rwyt ti’n ei ofni gan serchu amdano.

Dw i’n gwybod y drefn. Mi fyddaf fel cnonyn am weddill yr wythnos. Nos Wener a bore Sadwrn byddant maith. Bydd y nerfau yn effeithio ar y cyhyrau a’r meddwl ac mi ddaw unrhyw obaith i ben mor gyflym ac y daeth. Bydd y gêm ei hun yn artaith felys nas cilir nes y chwiban olaf. A dyn ag ŵyr beth fydd wedi digwydd erbyn hynny, ond gan ein bod ni’n mynd i Twickenham y tebygolrwydd ydi, waeth bynnag yr hyn y mae’r Western Mule yn ei adrodd, y byddaf yn cael fy siomi.


Ond fel y mae, dw i’n frwd, dw i’n barod, dw i’n serchog ddisgwyl, a dw i methu disgwyl!

venerdì, gennaio 25, 2008

Hiraethu am y Wlad Drachefn

Diwedd yr wythnos. A ninnau’n dyheu amdano onid agosáu at ein tranc ydym?

Ffwcia hynny. Ond mae gwaith yn crap fel rheol. Ni fedraf ond teimlo yr hoffwn yn fy ngwaith weithio ar gae yn yr elfennau, gyda gwynt a môr a gwyrdd o’m cwmpas. Mae ‘na elfen yn nwfn fy enaid (ac oes, mae gen i un, er pan y’i pigwyd ar fy nghyfer roedd o’n fwy o Aldis job na Marks a Sparks) sy’n credu’n gryf nad o fewn muriau y dylai dyn fod, ond yn yr awyr agored.

Methu’r wlad ydw i ar y funud mae’n siŵr. Y broblem ydi, mae rhywle fel Pesda yn ofnadwy o hyll a digalon yn y glaw, ond phan ddaw’r haul a’r tes i’r amlwg ni cheir gwell o gwbl. Does yr unlle sy’n denu fy nghalon mwy na Dyffryn Ogwen yn yr haul. Ond wedi mynd mae’r dyddiau lle y cafwyd wythnosau i ffwrdd yn yr haf, i grwydro ac i yfed peint slei yn Ogwen Bank. Dw i’n hiraethu am y wlad yn yr haul.

Mae’r haul yn gwneud i mi gofio adref. Ac ar y funud mai’n heulog yng Nghaerdydd.

Y ddinas, ylwch chi, ydi’r ddinas. Mae’n grêt, fedra’ i ddim am eiliad guddio’r ffaith fy mod yn caru Caerdydd, ond i mi does fawr o wahaniaeth rhwng y ddinas haf a’r ddinas aeafol, er mae’n rhaid i mi gyfaddef yn bonslyd reit bod peint ym Mae Caerdydd yn yr haul yn ofnadwy o braf.

Ond dyna ni. Am rŵan, hiraeth fydd rhaid.

giovedì, gennaio 24, 2008

Y Dyn sy'n Bwyta Moch Daear

Prin iawn iawn dw i’n blogio am raglenni teledu ond fedra’ i ddim helpu fy hun y tro hwn. Gyda Torchwood wedi dod i ben roeddwn i’n hanner-ystyried mai gwely fyddai’r lle gorau i mi, a minnau wedi bod yn effro yn fuan. Ond wrth i mi ddechrau styrio o’r soffa dyma’r rhaglen nesaf yn dechrau, o’r enw The Man Who Eats Badgers. Ac na, nid cwmpasu arferion rhywiol Haydn Blin ydoedd.

Dilyn ambell i unigolyn o amgylch Gwaun Bodmin yng Nghernyw draw oedd y rhaglen ddogfen hon, a’u bywydau, wel, od. Roedd Clifford yn hoffi crwydro’r gweunydd yn chwilio am banther a oedd yn bwyta da byw ffermwyr yr ardal, ac wedi dewis ar fyw ar ei ben ei hun. Sydd ychydig fel y fi ond dw i’n ormod o gachwr i grwydro gweunydd min nos.

Ac yna’r ficer a oedd yn canu ‘Oh Happy Days’ ar ei feic cwad o amgylch y lonydd gefn efo llais erchyll. O, mi chwarddais ar y darn hwn, wrth i Dyfed fy ffonio a’r ddau ohonom yn wir pistyllu chwerthin am funud dda cyn gallu ynganu gair i’n gilydd.

Ond seren y sioe oedd y dyn ei hun a oedd yn bwyta moch daear; Arthur, dw i’n credu oded ei enw. A chwningod. A gwylanod - a dweud y gwir unrhyw beth a laddwyd ar y ffyrdd. Mi yrrodd o amgylch yn chwilio amdanynt, yn mynd â hwy adref a’u torri a’u coginio a’u bwyta. Dw i’n fentrus iawn fy mwyta ac yn rhoi cynnig ar bopeth, ond rhywsut roedd gweld yr hen wallgofddyn yn cnoi ar asgwrn a chymalau mochyn daear a ganfuwyd ar y ffordd yn wir wneud i mi deimlo’n ofnadwy o sâl.

Ni’m hargyhoeddwyd wrth iddo ddatgan fod y mochyn daear yn well na “chig mewn archfarchnadoedd nad ydych chi’n gwybod beth sydd ynddyn nhw mewn difri”. Er fe ddywedodd â balchder nad oedd wedi bwyta cath deircoes gelain ei wraig. Â phob parch, Arthur bach, nid rheswm dros ymfalchïo mo hyn.