martedì, giugno 03, 2008

Pum Mlynedd o Fi! Hwrê!

Bum mlynedd yn ôl i heddiw, yr union ddyddiad, coeliwch a’i pheidio, mi ysgrifennais i fy mlogiad cyntaf. Mae’n bosibl y bydd un neu ddau ohonoch yn cofio sut y bu i mi grybwyll fy mod wedi rhoi fy nhrowsus ar y ffordd anghywir. Nid dyma’r tro olaf i hyn ddigwydd, yn anffodus.

Ta waeth, roedd hwnnw ar yr hen flog, pan oeddwn newydd orffen ysgol, yn eiddgar edrych ymlaen at fywyd prifysgol, heb syniad yn y byd beth yr oeddwn isio allan o fywyd yn gyffredinol. Ro’n i isio gadael fy mro; ro’n i’n gefnogwr tanbaid i Blaid Cymru; ro’n i’n eithaf ansinicaidd ac optimistig a ddim yn licio rygbi yn ormodol. Plys, doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd berfenw.

Yn wir, mae’r newid sy wedi digwydd i mi dros y pum mlynedd ddiwethaf wedi bod yn syfrdanol. Weithiau mi fyddaf yn methu Ogwen hyd teimlo’n gorfforol sâl erbyn hyn, ond eto’n ymhyfrydu yn fy sinigiaeth newydd; mae’r Plaid Cymru newydd yn codi cyfog arnaf hyd casineb, a’m syniad o’r nefoedd yw’r Mochyn Du pan fydd Cymru’n herio’r byd efo’r bêl siâp caill maharen. A dwi’n gwybod beth ydi berfenw (i raddau helaeth).

Erbyn hyn mae’r meddwi mawr a’r sesiwns yn diflannu, a’r straeon gwirion a’r lluniau’n troi’n synfyfyrio, gydag ambell i gymhariaeth wych yn serennu (hunan-hyrwddo sydd dda i’r enaid, cofiwch). Felly dyna pam yr oedd penderfynu a ddylwn barhau â’r blog yn beth mor anodd i mi. Nid blog yn unig ydi’r peth hwn i mi, cofiwch – mae’n gofnod o’r cyfnod gorau yn fy mywyd.

Felly dros y penwythnos diwethaf roeddwn i’n meddwl y byddai’n syniad da dod i ben â’r sioe heddiw, bum mlynedd ar ôl y blogiad cyntaf. Ond fedra’ i ddim. Dwi am barhau, sy’n golygu o leiaf am flwyddyn arall achos dwi’n licio gwneud pethau symbolaidd (e.e. gorffen bum mlynedd ar ôl y blogiad cyntaf). Beth bynnag, lle arall ga’i leisio ‘marn adeg etholiad? Ble arall sydd i mi gwyno? Lle ga’i synfyfyrio a hel syniadau? Lle ga’i gontio a phoeri dicter?

Unlle. O wel. Welai chi eto toc, y diceds.

lunedì, maggio 19, 2008

Brêc

Dwi'm fy hun yn mynd i'r unman ond mae'r flog yn mynd i hibernation am bythefnos bach tan ei phen-blwydd. Mi bicia'i draw i ddweud helo a tha ta bryd hynny, gyfeillion.

venerdì, maggio 16, 2008

Copïo GT: darogan yr etholiad nesaf

Rhaid i mi gyfaddef er fy mod i’n blogio’n aml dwi ddim yn darllen blogiau eraill digon (h.y. dwi yn, ond ddim cymaint ag yr oeddwn) ond un dwi yn ei ddarllen yn rheolaidd yw Blog Menai. Draw, draw, dros don a mynydd pell yn y blog hwnnw, mae ‘na ddarogan etholiadau San Steffan. Gêm beryglus ydyw: dwi’m yn meddwl y cawn etholiad cyffredinol tan 2010, ac mae beth all ddigwydd rhwng rŵan a bryd hynny yn ddiddiwedd, a byddwn yn rhybuddio am ei wneud.

Ond dwi’n licio darogan, felly hoffwn gynnig sylwadau ar y seddau y gwnaeth Blog Menai eu crybwyll – y Gorllewin (ŵŵŵŵ!). A mwy maes o law (mae GT yn licio dweud ‘maes o law’). Efallai heno gan nad wyf yn meddwi.

Ynys Môn ydi’r cyntaf o’r rhain, a’i thuedd ryfedd i gadw ei haelod presennol, ond daw’r her o du Plaid Cymru a’r Torïaid. Byddai popeth yma’n dibynnu ar Peter Rogers. Pe na fyddai wedi sefyll yn 2005 byddai Plaid wedi cipio Môn. Pe byddai wedi sefyll i’r Torïaid yn 2007, mae gen i deimlad y byddai ar ben ar Ieuan. O ddiystyru Peter Rogers, Plaid fydd yn mynd â hon, a’r Torïaid yn ail; gyda Rogers yn cystadlu gallai Albert gadw ei sedd drachefn os gall gadw ei bleidlais. Nid yn sedd hawdd i’w darogan.

Mae Arfon yn hawdd: Plaid yn chwalu Llafur. Pe bai Betty wedi sefyll yma yn hytrach na’r annwyl, ddi-glem Martin, ni fyddwn mor hyderus, hyd yn oed ar ôl canlyniadau mis diwethaf a 2007, ond dydi hi ddim. Mae’r hen wreiddiau Llafur wedi diflannu yn yr ardal hon o’r wlad.

Fel y dywedwyd ym Menai, mae niwed wedi’i wneud yn Nwyfor Meirionnydd i Blaid Cymru. Bydd Plaid yn ennill yma, p’un a fydd Llais Gwynedd yn sefyll ai peidio, ond gallai’r mwyafrif fod yn eithaf digalon i Bleidwyr. Bydd Preseli Penfro yn troi’n stwbwrn o las, a synnwn i ddim pe bai Adam Price yn ennill yn Nwyrain Caerfyrddin gyda mwyafrif o dros ddeng mil. Ond mae’ tair sedd sy’n weddill yn ddiddorol iawn.

Mae’r arwyddion oll yn awgrymu y bydd Plaid Cymru’n adennill Ceredigion, o’r fuddugoliaeth hawdd yn 2007 i berfformiad da 2008. Dwi’n pryderu braidd, fodd bynnag, y collodd Penri James, ymgeisydd y Blaid, ei sedd gyngor. Ni ellir dadlau bod hynny’n bwrw amheuon dros ei ymgeisyddiaeth ac os mai ef yw’r dyn cywir i adennill yr etholaeth. Ymddengys fod Plaid wedi sortio’u hunain allan, ac y ceir buddugoliaeth, ond wn i ddim o ba faint. Un peth ddyweda’ i: yr hiraf y bydd y disgwyl am etholiad, y mwy o fomentwm y bydd Plaid yn colli a’r mwy o amser y caiff Mark Williams i fagu enw da.

Fel GT, ar ôl edrych ar y canlyniadau cyngor a rhai y llynedd, dwi bellach yn argyhoeddedig mai Plaid fydd yn mynd â Llanelli. Rhaid peidio â bod yn orhyderus: roedd Plaid yn hyderus yn 2005 ond gogwydd i Lafur a gafwyd. Serch hynny, nid yw dirywiad Llafur yn y Gorllewin yn amlycach nag yn Llanelli; pwy feiddiai feddwl ym 1999 llai na degawd yn ddiweddarach y byddai Plaid yn ennill dros hanner y bleidlais yn Llanelli? Ond rhaid i Lafurwyr dod at Blaid Cymru neu fod yn apathetig, a rhaid bod gan y Blaid ymgeisydd cryfach na’r tro diwethaf. Gyda chyfuniad o’r fath, gallai Llanelli fod yn “sioc” ar y diawl.

Yn olaf, Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro. Ysgrifennwn i mo hynny eto, mae’n rhy hir. Yn y Cynulliad mae hon yn eithaf talcen caled i Blaid Cymru – dylai fod wedi ennill yn 2003 a 2007 ond ni wnaeth. Rhaid i mi gyfaddef dwi’m yn gwbl gyfarwydd gyda chanlyniadau’r etholiad cyngor yma, ond mae trosi hynny’n bleidleisiau cenedlaethol yn gynsail peryglus beth bynnag. Prin y gwna’r Blaid argraff yma mae etholiad cyffredinol mae arna’ i ofn – mae eu perfformiad San Steffan yma’n dila, a dweud y lleiaf, ond mae mwyafrif Llafur yma’n dila hefyd. Dwi’n dychmygu mai glas y bydd y rhan hon o’r byd yn troi, ond gall fod yn agosach na’r disgwyl.

Felly cytuno gyda GT hyd yn hyn o ran pwy fydd yn ennill, ond mae Ynys Môn a Cheredigion yn bell o fod yn sicr.

giovedì, maggio 15, 2008

Cynllunio fy nghosb

Oherwydd colled y ffôn dwi’n cosbi fy hun drwy beidio â mynd allan y penwythnos hwn. I fod yn onest dwi’m wedi fy argyhoeddi mai dyma’r peth teg i wneud – wedi’r cyfan, gall unrhyw ynfytyn golli ffôn, er bod mynd drwy ddeg ffôn ers symud i Gaerdydd yn warthus a, na, nid cyfeirio at Ellen Angharad na Haydn ydwyf. Go wir.

Serch hyn, a minnau’n mynd adref am benwythnos hir yr wythnos wedyn, efallai yr af allan y penwythnos hwn am sawl rheswm. Wel un, sef cystadleuaeth yr Eurovision (er bod Dogfael i’w weld yn ffan). Rhaid i mi gyfaddef, byddaf yn ei gwylio o bryd i’w gilydd, ond gan gasáu’r ffaith fy mod. Erchylltra o’r radd flaenaf ydyw ac ni wnaiff na dyn na Duw fy argyhoeddi fel arall.

Gan ddweud hynny fydda’ i ddim isio bod allan yn gwylio Cwpan yr FA yng Nghaerdydd a minnau’n eithaf dyheu i’w gweld yn colli. Peidiwn â mynd i mewn i’r rhesymau dros hynny, ond dwi’m yn licio CPD Caerdydd a fydda’ i fyth.

A beth bynnag, mi ga’i wylio Doctor Who ar yr iPlayer. Mi gollais fy ffôn, dwi’n haeddu sesiwn i godi f’ysbryd, yn siŵr?

mercoledì, maggio 14, 2008

Hunansynfyfyrio

Mae’r Gogledd diawledig wedi llwyddo cydio ynof drachefn, ond fel ers cryn amser dydi’r grafanc hon ddim am ddiflannu’n hawdd: mae’n aros gyda mi ac yn gwneud i mi deimlo’n isel. Dydi’r amser ddim yn iawn i mi ddychwelyd, fi ydi’r un cyntaf i ddallt hyn, ond mae’r teimlad yn parhau ac yn fy llesgau’n ofnadwy.

Ta waeth, mewn tua thair wythnos fydd Hogyn o Rachub (y flog, nid y fi) yn dathlu ei ben-blwydd yn 5 oed. Rŵan, mae ‘na sawl peth sy’n peri dryswch i mi. Dwi isio mynd allan efo BANG mawr bryd hynny a chael parti ond dydi hynny ddim yn hawdd. A p’un bynnag, byddai mynd allan ar ôl pum mlynedd yn eithaf camp - dwi’n falch, mewn ffordd wyrdroëdig, mai dyma un o’r blogiau Cymraeg hynaf sy’n bodoli ar y we: dim ond Morfablog a Nwdls sy’n hŷn, dwi’n siŵr!

Mae’n parhau’n anoddach dod o hyd i straeon difyr neu ddoniol pan fo rhywun yn gweithio 5 diwrnod yr wythnos, pan fo ganddynt hiraeth a’u bod yn synfyfyrio sy’n gwneud i’r flog hon barhau yn hytrach na byw ers ychydig (dwi’n teimlo, beth bynnag). Gan ddweud hynny, wn i ddim beth y byddwn i’n ei wneud heb flog ond am ffrwydro. Wedi’r cyfan, yn fwy na dim mae’n ffordd i mi ymwared â’m rhwystredigaethau, chwydu fy siom yn ysgrifenedig, a mynegi fy nicter at bopeth, a chael pleser o wybod bod ambell i un yn darllen am y fath beth er fy mod i'n gwybod cystal â neb nad oes hwyl i'w gael mewn darllen pethau felly.

A hefyd smalio fy mod i’n arbenigwr yn ystod etholiadau. Ffwcin dyfalu y mae arbenigwyr beth bynnag.

Ta waeth - mae gen i dair wythnos i ddod i benderfyniad ynglŷn â’r peth. Gydag Ewro 2008 yn dyfod mae’n siŵr y bydd angen galw draw i fynegi fy siom nad yw’r Eidal wedi ennill rhyw ben. Neu fynegi fy hiraeth a sôn am ryw dwat sy ‘di chwydu dros fy ‘sgidiau ac ati.

Cawn weld.

martedì, maggio 13, 2008

Yr Haf Hiraf yn Dyfod

Asu dwi’n oriog ar y funud, yn enwedig ers colli fy ffôn hyfryd iawn efo’i gerddoriaeth a’i luniau a phob math. Yn wahanol i bawb arall un oriog dwi yn y tywydd hwn beth bynnag, achos mae’n llygaid i’n cosi a’m gwddf yn gallu brifo’n eithriadol waeth bynnag faint a yfaf.

Felly mi fues i’n gollwr a chreu grŵp Facebook. Wyddoch chi, un o’r rhai sy’n dweud COLLI RHIFAU ANGEN RHIFAU PAWB. Dim ond deg o bobl sy wedi ymuno. Mae o leiaf tri o’r rheiny eisoes efo fy rhif ddydd Sul newydd. O diar. Doeddwn i’m yn gwybod bod fy amhoblogrwydd wedi diosg a phydru i’r fath raddau (er, mi oedd gen i syniad go dda).

Fyddai’m yn teimlo fel blogio yn ystod yr haf. Dwi’m yn teimlo y dylwn, a dwi’m efo’r un egni i fynd ar rants a, hyd yn oed, weithiau, dweud ambell i ffraethineb slei. Fe fyddaf, fel y chi, yn hoff o fanteisio ar y gerddi cwrw (sydd ddim yn bodoli yn Grangetown hyd y gwelaf i) a gwneud fawr o ddim arall; wn i ddim beth arall i’w wneud.

Ond fydd ‘na lai o yfed yr haf hwn na’r arfer. Ydi, mae hyd yn oed yr Hogyn yn teimlo’r tyndra ariannol y dyddiau hyn rhwng morgais a phetrol a bwyd a chael hwyl: mae’r siopa wythnosol yn costio mwy, y daith i’r gogledd yn dwyn mwy o geiniogau, popeth yn mynd yn waeth. Dwi’n ei ffendio’n eitha digalon na fyddaf allan cymaint ag yr hoffwn yr haf hwn. Bydd rhaid i mi ffendio rhywbeth rhad i wneud, debyg.

venerdì, maggio 09, 2008

Dydd Gwener

Dydd Gwener. Beth all rhywun ddweud am y dydd hwn? Byddaf bob tro yn disgwyl gwyrthiau o ddydd Gwener, ac mae’n fy siomi’n ddi-ben-draw. Byddaf yn disgwyl i rywbeth anhygoel ddigwydd, a hwyl a sbri’r byd a’i manion bethau ddod i’m canlyn i ddathlu diwedd yr wythnos waith. Disgwyliaf adar yn dawnsio canu yn y coed a’r gwair yn sglein a chlywed chwerthin plant a geiriau mwyn cariadon, cofleidio cyfeillion a chanu a cherddi’n llu.

Nid y fi ydi’r person mwyaf realistig, ni fedraf wadu hyn.

Fodd bynnag, dwi’n disgwyl cynnwrf yn yr awel ar ddydd Gwener ond byth yn ei gael. Prin iawn ar ôl dechrau gweithio mae rhywun yn sylwi mai diwrnod arall ydi dydd Gwener a bod yn rhaid i rywun gweithio, er gyda chryn lai o frwdfrydedd ac ymdrech nac unrhyw ddiwrnod arall. Rhaid i rywun weithio ar ddydd Gwener a dyna ddiwedd arni.

Gall nos Wener fod yn wag iawn heb fynd allan. Byddaf, mi fyddaf yn iawn efo botel o win coch mwyn yn y tŷ, ond nid yr un peth mohono ag ymryson ffraeth ffrindiau (neu, yn fy achos i, mwydro gwag a blinderog Lowri Dwd) dros beint mewn tafarndy.

Mae problem fawr yn hyn o beth. Dwi’n ffan o’r ‘peint distaw’, yr ambell beint a geir gyda’r nos cyn mynd adref. Yn Nyffryn Ogwen draw mae’n hanfod, ond rhaid dweud yng Nghaerdydd mae’n lled amhosib. Bai Caerdydd am fod yn fach ydyw. Ar ôl y peintiau distaw, mae’n ormod o demtasiwn, ac yn rhy hawdd o lawer, mynd i mewn i dre a meddwi’n jibidêrs tan yr oriau mân. Dydi hyn ddim yn arwain at gymdeithasu yn y modd arferol, chwaith, ond malu cachu o radd arallfydol (ac mi fynnaf fan hyn bod hyn yn benodol wir am y Cymry Cymraeg, sy’n hil o falwrs cachu didrugaredd, cythryblus) ac eithaf pen mawr y bore wedyn.

giovedì, maggio 08, 2008

Dwisho Facebook ac yn chwerw o'i herwydd, fel y gwelwch

Fel arfer dwi’n chwerwach na lemon y mae ei wraig wedi rhedeg i ffwrdd gyda banana gan ddwyn y siwgr ‘run pryd. Nid gwahanol mo heddiw.

Dwi’n ôl yn y ddinas ac yn ddig. Nid anaml y byddaf yn ddig, ac yn aml iawn pan fyddaf naill ai o amgylch Lowri Llewelyn (sy’n fy nigio) neu’n gwylio twat dosbarth canol yn sôn am fwyd organig (sy’n fy nigio) neu’n clywed rhywun yn mynegi barn dwi’n cytuno â hi ond ddim yn licio’r person (sy’n fy nigio), ond dig roeddwn neithiwr. Dwi ‘di malu’r rhyngrwyd acw. Fedrai’m mynd ar Facebook. Sydd, rhaid dweud, wedi fy nigio.

Un peth bach arall sy’n fy nigio ydi’r haul fastad ‘ma. Mae pawb yn licio haul, ond dwi’m yn licio haul. Ar y funud mae’n llygid i’n teimlo fel pe bai llwch ynddynt ac yn brifo. Hynny fydd yn digwydd i mi yn yr haf, wrth geisio manteisio ar y gerddi cwrw neu beint ar lannau’r dŵr, dwi’n mynd yn ddall ac yn teimlo eithaf trueni dros fy hun (sy’n ddigon teg achos ‘does neb arall yn teimlo trueni drosof – taswn i’n colli fy nghoesau mewn damwain erchyll â bwyell, neu fadfall, bosib, chwerthin y byddai pawb, cewch weled os daw’r dydd hwnnw).

Fyddai’m fel y bobl ofnadwy hynny sy’n dioddef yn erchyll o glefyd gwair. Maen nhw’n bobl ofnadwy canys eu bod yn tisian yn uchel ac yn snotian yn helaeth, a’u llygid yn troi’n goch ac yn siarad yn gwynfanllyd (fel Haydn yn hungover, braidd), w, hen bobl annifyr ydynt bob un.
Ond dyna ddigon o chwerwder am rŵan, rhaid i mi ei gronni hyd fy sgwrs nesaf.