mercoledì, aprile 08, 2009

Hiraeth

Artaith, a dim llai, ydi gweithio mewn swyddfa pan fo hi’n braf, a llai na blwyddyn nôl dywedais yn wir mai ar adegau fel hyn yr wyf yn methu’r Gogledd yn fwy na dim. Wrth gwrs, gall Caerdydd fod yn lle hynod braf yn y tywydd hwn, a ‘does ‘run man yng Nghymru all gystadlu gyda nifer ac amrywiaeth y gerddi cwrw, a heb fod yn ymhongar ar adeg fel hon mae Bae Caerdydd ymhlith y llefydd mwyaf braf a geir yng Nghymru gyfan.

Ond ynof ar y funud, ac ar bob ryw adeg lle y mae’r haul yn gwenu a’r tywydd yn fwyn, y mae awydd cryf am fy mro fy hun; i glywed distawrwydd Cwm Llafar a cherdded traethau Menai. Bryd hynny mae byw yng Nghaerdydd yn agos at frifo.

Melltith cariad, hiraeth. Y broblem fwyaf, mi dybiaf, ydi bod gen i ddelwedd ramantus am Ogledd nad yw'n bodoli. Ffwl dwi.

martedì, aprile 07, 2009

Cystadleuaeth

Gall rhai freuddwydio am roc a rôl ac enwogrwydd byd-eang, ymrwbio’n y mawrion a chyffuriau a rhyw a phrynu pymps sy werth dros £25 (tai’m i wneud ffasiwn beth) ond myfi a fyddwn fodlon pe cawn lwyfan bach a phiano wrth f’ymyl, yn canu i dorf o hen bobl tra bod eu hwyrion a’u hwyresau yn gwneud sŵn yn cefn yn gwneud popeth y gallant i beidio â gwrando arnaf. Ac mi a ganwn drwy’r nos, yn swyno’r gynulleidfa gyda ryw ddau foi arall, â’n harmonïau yn esgyn ar wynt tawel noson o haf.

Fydd hynny ddim yn digwydd achos dwi ddim y person gorau i gael fel rhan o dîm pan ddaw at gystadlu, sy’n gwyro o’r enghraifft uchod yn fwy nag y gobeithiais cyn ysgrifennu. Waeth i mi barhau, byddai peidio ‘mbach o gywilydd.

Mae’n siŵr mai dyna pam fy mod yn licio chwarae badminton a thenis ac yn casáu chwarae pêl-droed a rygbi. Fel rheol dwi’n unigolyn erchyll o anhunanol, ond dwi’n licio’r gogoniant a ddaw o fuddugoliaeth unigol. Mi wnes uno lluoedd gyda Ceren mewn gêm o Fonopoli unwaith – ffurfiem “Y Bartneriaeth” yn wyneb y golled o’n blaen yn erbyn Haydn Blin a’r Lowri Llewelyn (a oedd pen eu hunain) – ac wrth gwrs gwnaethom rogio. Collasom pan ganfu Haydn Blin ein twyllo a lluchio’r bwrdd chwarae. Gorymatebodd, ond cont blin fu hwnnw erioed.

Ond un peth a ddywedaf ydi, mewn amgylchiadau o’r fath, mae’n gas gen i chwarae yn erbyn pobl nad ydynt yn gystadleuol. Enghraifft berffaith o hyn a gododd eto yn Monopoly (gyda llaw dwi ddim yn chwarae Monopoly yn aml, er gwaethaf yr awgrym o hynny a roddir yn y neges hon) pan landiodd y Llewelyn ar eiddo Lowri Dwd a hithau heb fawr o bres, gan achosi’r Dwd i ddatgan nad oedd yn rhaid iddi dalu.

W, mi gochais. Mae’r strîc gystadleuol yn ddwfn ynof p’un ag yw’n Fonopoli neu sboncen yn erbyn Ellen. Mae Ellen, y person a drodd fy meddwl oddi ar drywydd diniweidrwydd, yn ei thro wedi troi’n gystadleuol. Pan fydda i’n colli shot fydda i’n cicio’r wal, tra ei bod hi’n waldio’r bêl tuag ataf (y bitch uffar). Mae’n dangos bod cystadleuaeth yn magu cystadleuaeth.

Yr unig achos fedra i feddwl amdano lle y byddai’n hwyl bod yn erbyn gelyn digystadleuol ydi mewn rhyfel, neu o bosibl drafftiau achos am ryw reswm dwi BYTH yn ennill drafftiau. Dwi’n siŵr o waelod calon mai’r tro diwethaf i mi ennill gêm o’r bastad gêm honno oedd flynyddoedd yn ôl yn erbyn Nain, sydd, er gwaethaf aflwyddiant cyffredinol fy mywyd, yn gyflawniad digon pitw.

lunedì, aprile 06, 2009

Colomennod

Cenhadon budreddi
Ffieiddiaid yr Wybren
Adar Annwn

Uchod mae rhai o’r enwau dwi’n rhoi i golomennod. Nid colmennod y wlad, wrth gwrs, ond colomennod dinesig a threfol. Dyma chi anifeiliaid afiach.

Fel un anaeddfed bydda i’n hoffi taro fy nhroed i lawr neu neindio ar ôl un o bryd i’w gilydd i gael gwared ohonyn nhw, er nad oes gan golomennod fawr o ofn ohono i. Ddaru mi boeri ar golomen unwaith, a oedd yn hwyl achos doedd dim ots ganddi, ond parhaodd i sefyll yno efo saleifa yn hongian o’i hadain.

Wythnos diwethaf mi welais rywbeth arall a drodd arnaf, sef colomen yn bwyta sigaret. Wn i ddim amdanoch chi, ond dydi hynny ddim yn iawn i mi. Nid o ran byd dynion yn tarfu ar drefn naturiol natur eithr pa fath o ffieiddbeth a fyddai isio bwyta sigaret yn y lle cynta?

Yr ateb ydi’r golomen. Hen aderyn budur ydyw.

giovedì, aprile 02, 2009

Arolwg barn bonigrybwyll arall gan Beaufort

Mae Beaufort Research, ar ran Plaid Cymru, wedi cyhoeddi arolwg barn arall ar fwriad pleidleisio’r Cymry.

Mi soniais am hyn beth amser yn ôl pan gyhoeddwyd yr arolwg diwethaf, ac mae eraill wedi gwneud yr un fath. Dydi’r rhain jyst ddim yn ddibynadwy a phan fydd ambell un yn ceisio eu clodfori, rowlio’n llgada wna i. Er enghraifft, mae’n honni pe cynhelid etholiad cyffredinol yng Nghymru heddiw mai +1% y byddai’r Torïaid a Llafur yn –2%; o ystyried yr hinsawdd wleidyddol oes rhywun call yn fodlon credu mai dyna fyddai’n digwydd, hyd yn oed yng Nghymru?

Yn ogystal â hynny mae’n anodd gen i gredu y byddai pleidlais y blaid Lafur yn cynyddu mewn etholiad Cynulliad, er y gellid dadlau nad hawdd yw dyfalu beth fyddai’n digwydd i’r Ceidwadwyr o ystyried eu hanffawd diweddar yn y Bae.

Dwi ddim ychwaith o’r farn bod Plaid Cymru eto wedi ail-gyrraedd lefelau ’99 fel yr awgrymir – dwi’n mwy na bodlon beio IWJ am hynny hefyd. O droi ei hun yn wleidydd trawiadol yn ymgyrch ’07 a’r trafodaethau dilynol mae o wedi syrthio’n ddirfawr yn fy meddwl i erbyn hyn, ac mae’n rhaid i rywun synfyfyrio am ba hyd y gall ddal ati i ddiystyru barn aelodau ei blaid ei hun.

Gall y Blaid o dan arweinyddiaeth IWJ yn 2011 gael siom enfawr, ond mae dwy flynedd tan hynny, dwy flynedd, gobeithio, lle y gellid ymwared ar Ieuan Wyn Jones. Cawn weld. Dwi’n argyhoeddedig na welir ailadrodd o berfformiad 1999 y blaid gyda hwn wrth y llyw.

Yn ôl at y pôl, wn i ddim pa ddull o arolygu a ddefnyddiodd Beaufort ond mae’n anodd gen i gredu ei fod yn fwy cywir na’r dulliau blaenorol a ddefnyddiwyd ganddynt – fyddai’n awgrymu bod yr arolwg yn anghywir. Oni fyddai’n fwy o les i Blaid Cymru, a gwleidyddiaeth yng Nghymru yn gyffredinol, pe mabwysedid dull Cymreig o gynnal arolygon barn? Hoffwn weld pwy a holwyd fesul grwpiau, jyst er diddordeb.

mercoledì, aprile 01, 2009

600fed post y blog newydd - Pasteion

Brwydr fawr y meddwl ydi’r frwydr honno rhwng y cydwybod a’r awydd; y rhyfel parhaus rhwng gwneud yr hyn yr hoffech ei wneud, a’r hyn y dylech ei wneud. Er ei fod yn bosibl mai basdad tew ydw i.

Byddaf, mi fyddaf yn licio bwyd da ond chewch chi’m gwell na chlamp o drawiad calon mewn pastai a elwir yn Greggs. Na, does dim ots gen i fod y cynnyrch yn rhad, sydd yn debygol iawn yn deillio o anifeiliaid y’u camdriniwyd a bwyd wedi’i brosesu (ffwc ots gen i am ffwcin iâr) – mae rhywbeth blasus am lai na phunt yn beth digon anodd ei ganfod ac mi fanteisiaf arno bob cyfle a gawn.

Er mi wnes arbrofi ddoe. Nid yn anaml yr af i Greggs, AR ÔL cael fy nghinio, am rywbeth bach i’w fyta. Tai’m i gyffwrdd ar y cacennau, er bryd hynny yr hoffwn fod yn ‘berson cacan’, sef rhywun sy’n hoffi cacennau ac nid clamp o sbwnjbeth waeth i mi egluro. Angelcake fyddwn i, debyg, tawn i’n ‘berson cacan’ yn llythrennol, ond ta waeth am y bolycs ‘na. Mi fydda i’n hoff o bastai, a bob tro bron yn mynd am y chicken bake.

Rŵan, fel gwybodusyn o’r radd flaenaf gwn nad yr iachaf o fwyd y byd mohono, ond dydi bwyd iach fel rheol ddim yn flasus, ac mae pobl sy’n treulio’u bywydau’n ddi-gig gan lyncu hadau ac afocados yn bur aml yn bethau bach tila, gwelw eu gwedd sy’n mynd i gaffis masnach deg, ond dwi’n mwydro fy rhagfarn rŵan. Ta waeth, abrofais, gan archebu bake gwahanol efo caws, selsig a bîns.

Peth blasus ydoedd, fedr neb ddadlau, ond weithiau mi gaiff rhywun rywbeth sy’n BLASU yn afiachus, er ei fod yn taro’r sbot, ac neno’r tad petawn wedi cael strôc yn y fan a’r lle nid a synnwn.

Dwi’m yn ymddiried mewn unrhyw un sy’n dweud bod hyn a’r llall yn dda neu’n ddrwg i chdi, beth bynnag. Dwi’n siŵr i mi ddarllen mewn papur newydd yn ystod yr un wythnos o yfed gwin coch bod fy nghyfle o gael cancr yn uwch, ac wedyn ei fod yn lleihau ar clefyd y galon. Yn ddisymwth braidd hefyd mae wy bod diwrnod yn dda i chdi ar ôl bod yn ‘ormodedd’ am hanner canrif. Byd bach gwirion ydyn ni’n byw ynddo de.

martedì, marzo 31, 2009

Hanes gwrthffeithiol a Chymru

Mae’r hyn a allasai wedi bod yn fy swyno. Hanes gwrthffeithiol ydi’r enw a roddir ar yr astudiaeth, lle bydd rhywun yn damcaniaethu’r hyn a allai fod wedi digwydd pe bai rhai pethau wedi bod yn wahanol.

Prynais ddwy gyfrol ddoe ar y pwnc, sef llyfrau o’r enw What If? Maent yn gyfres o draethodau gan haneswyr academaidd yn synfyfyrio ar hanes gwrthffeithiol. Nid y pethau amlwg a ystyrir o naws Beth fyddai wedi digwydd petai’r Almaen wedi ennill yr Ail Ryfel Byd? ond yn hytrach Beth fyddai wedi digwydd petai’r Almaen wedi ymosod ar y Dwyrain Canol yn hytrach na Rwsia? Yn yr achos hwnnw gallai Hitler fod wedi meddu ar olew gwerthfawr y rhanbarth ar draul Prydain.

Neu beth pe na ddifawyd byddin yr Assyriaid 700 CC o flaen muriau Jerwsalem, sef cadarnle olaf y bobl Iddewig ar yr adeg, gan haint ddisymwth? Roedd Ymerodraeth yr Assyriaid wedi hen ddinistrio dros ddau ddwsin o ddinasoedd caerog terynas Judah bryd hynny, a byddai Jerwsalem wedi syrthio. Y canlyniad? Diwedd Iddewiaeth, fwy na thebyg. Dim Cristnogaeth. Dim Islam. Dim byd a ddeilliodd o’r byd Ambrahamig. Mae’n amhosibl meddwl pa fyd y byddai ohono erbyn hyn pe concwerid Jerwsalem 2700 o flynyddoedd yn ôl.

Beth pe cymhwysid hanes gwrthffeithiol i Gymru? Wn i nad oes gwerth difrifol mewn ystyried y ffasiwn bethau, ond mae’n ddifyr, a dweud y lleiaf! Ystyriwch pa Gymru fyddai ohoni, os byddai Cymru o gwbl, os digwyddodd y canlynol:

  • Enillodd Cymry Powys Frwydr Caer yn 616 OC
  • Mabwysiadodd Tywysogion Cymru ddull etifeddu’r Saeson (h.y. y mab hynaf i etifeddu’r tir cyfan, nid rhannu’r tir rhwng meibion) – beth pe bai Hywel Dda neu Rhodri Fawr wedi gwneud hynny?
  • Cilmeri – er gwaethaf canlyniad y frwydr, ni laddwyd Llywelyn
  • Ni fu heddwch rhwng Ffrainc a Lloegr yn ystod gwrthryfel Glyndŵr
  • Ni chyfieithwyd y Beibl i’r Gymraeg
  • Llwyddodd y Ffrancwyr gipio Abergwaun ym 1797
  • Sefydlwyd Plaid Cymru ym 1925 ar egwyddorion cenedlaetholgar a sosialaidd
  • Ni foddwyd Tryweryn
  • Collwyd refferendwm ‘97

lunedì, marzo 30, 2009

Gêm gachlyd

Distaw fu’r penwythnos. Es i’r stadiwm i weld Cymru a’r Ffindir yn chwarae. Mi ddywedish yn ddigon plaen wrth Rhys mai’r callaf yno oedd y 50,000 a allai wedi bod yn y seddi gwag. Sôn am gêm gachu, dwi heb weld Cymru’n chwarae cynddrwg ers, wel, wn i ddim faint a dweud y gwir, ond flynyddoedd mae’n siŵr. Diffyg ymdrech y chwaraewyr â’m gwylltiodd yn fwy na dim arall; ar wahân i Bellamy does fawr neb ohonynt isio chwarae dros Gymru hyd y gwela i. ‘Sdim rhyfedd mai rygbi ydi’r gêm genedlaethol.

Bron fy mod yn ailystyried mynd i gêm yr Almaen, ond mi af yn y pen draw mi wn.

Ond ta waeth, fel rheol profiad poenus ydi cefnogi chwaraeon yng Nghymru, pa gamp bynnag fo dan sylw. Glywish i ein bod ni’n dda yn ‘sgota, er o’m profiadau diffrwyth i ar greigiau Sir Fôn efo’r blewfran wn i ddim a ydi hynny’n wir chwaith.

Pum Casineb Ddechrau’r Wythnos

1. Yr arfer o ysgrifennu ydi fel ‘ydy’
2. Y blondan tew ar Come Dine With Me neithiwr
3. Y ffaith bod têc-awê Pizza Hut cymaint yn waeth na’r bwyd ista mewn
4. Fy obsesiwn efo dillad rhad, chavaidd

5. Y ffaith nad yw ‘Lloegr’ yn ymddangos yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru

venerdì, marzo 27, 2009

Doniol ydi'r Blaid Lafur II

DIWEDDARDIAD: Dwi'n cael diwrnod grêt. Edrychwch UNRHYW LE ar y we Gymreig heddiw, ac erbyn hyn y we Brydeinig wleidyddol, ac fe welir faint o smonach mae Llafur wedi gwneud efo'r wefan Aneurin Glyndwr. Wn i ddim a fu erioed yn hanes gwleidyddiaeth Cymru fach gam gwacach na hwn, mae'r blaid yn cael ei lladd arni ymhob man.

Wn i ddim chwaith a fu'r fath gamddehongliad o hiwmor. Gan ddweud hynny dwi'n gwenu fel giât.

Gobeithio yn wir y bydd hyn yn cyrraedd sylw ar lefel genedlaethol, neu hyd yn oed Brydeinig. O, mi chwarddwn pe bai!

Awgrymaf yn gryf i holl elynion y Blaid Lafur ledaenu'r wefan hon at bedwar ban! Mor brydferth plaid wleidyddol ar ei thrai.