lunedì, aprile 27, 2009

Tair cynhadledd

Fydda i’n licio’r tymor cynadleddau gwleidyddol. Trist, mi wn, ond gwir. Fydda i’n licio clywed be sy gan y gwleidyddion i’w ddweud, er fy mod i’n ddigon sinicaidd o wleidyddiaeth erbyn hyn fel y gwyddoch.

Roedd un y Blaid ychydig wythnosau’n ôl, ac mae’n rhaid i mi ddweud roedd o’n uffernol o drawiadol os gwnaethoch ei gweld ar y teledu. Slic, proffesiynol – gweddol ddi-sylwedd ar y cyfan, er hyd y gwn i dydi trafod polisïau bellach ddim yn ffordd dda o ennill pleidleisiau – newid byd o’r Blaid cyn datganoli. Yn fwy na hynny fe ddaeth yn amlwg dros y teledu yr hyder sy’n treiddio drwy’r Blaid ar hyn o bryd, ac er gwaetha’r siomedigau yn ystod llywodraeth, ymdeimlad ei bod ar y trywydd cywir. Wn i ddim a ydw innau’n cytuno’n llwyr â hynny, wrth gwrs, ond er mwyn bod yn beiriant gwleidyddol effeithlon mae’n rhaid i blaid fod yn gyfforddus â’i hun ac yn hyderus yn ei pholisïau.

Pwy fyddai wedi darogan, mewn difrif, ddeng mlynedd yn ôl, mai Plaid Cymru o gryn ffordd fyddai’r cyfathrebwr gorau, y cyflwynydd mwyaf effeithlon? Mai’n dro byd ers hynny erbyn hyn, ond gellir gweld yn amlwg mai dyma blaid sydd heb eto gyrraedd ei hanterth.

Daeth yn amlwg iawn dros y penwythnos bod anterth Llafur wedi diflannu i niwl amser erbyn hyn. Ar y teledu edrychai’n gynhadledd wael. Dwi’n meddwl y dywedodd Vaughan Roderick ei bod yn amlwg mai dyma blaid sydd mewn trafferthion ariannol (o ystyried y set amaturaidd) ac sy’n heneiddio. Prin a welid wyneb di-rych yn y gynulleidfa. Mae’r blaid Lafur ar drai yng Nghymru – o ran cyllid, ei gallu i gyfathrebu, ei haelodaeth, ei chanlyniadau etholiadol – ac o’i safbwynt hi, mae’n ffaith sy’n boenus o amlwg.

Roedd yr areithiau a welais yn rhai ystrydebol ofnadwy, heb ganolbwyntio ar y sefyllfa sydd ohoni. Pwysleisio gwerthoedd traddodiadol, digon teg, ond am gynhadledd gyfan? Roedd araith Rhodri yn ofnadwy o fflat; gellid teimlo anniddigrwydd rhai aelodau Llafur pan ddywedodd fod Llafur o blaid datganoli, cyn mynd ati i enwi Torïaid gwrth-ddatganoli, wrth gwrs heb roi hysbys i’r diddiwedd niferoedd yn ei blaid ei hun sy’n ei gasáu.

Y peth tristaf, mae’n siŵr, o gynhadledd y blaid Lafur ydi mai felly y disgwyliodd pawb iddi fod. Ni siomodd neb yn hynny o beth – roedd yn flinedig, yn ddi-egni, yn ddiwedd taith.

Rŵan, wnes i ddim cymryd fawr o sylw o gynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol, ond gafodd hi fawr o sylw p’un bynnag. Roedd y set yn erchyll a phob araith a welais yn ddi-fflach. O safbwynt niwtral mi ellir gweld yn hawdd tra bod y Dems Rhydd yn rhyw fath o rym yn Lloegr maen nhw’n gwbl amherthnasol yng Nghymru. Yn gwbl, di-amheuaeth o amherthnasol. Y broblem ydi bod y blaid honno’n fwy Seisnigaidd na hyd yn oed y Ceidwadwyr yng Nghymru yn fy marn i, er mae’n siŵr na fyddan nhw’n cytuno â hynny.

Yn olaf, ar nodyn wahanol, ond ydi hi’n gwylltio rhywun arall bod straeon fel hyn yn ymddangos ar frig ffrwd newyddion hafan BBC Cymru ond ddim hyd yn oed yn cael lle yn unman ar BBC Wales? Bydd rhai’n dadlau nad ydi stori o’r fath o ddiddordeb i’r di-Gymraeg ond o ystyried y stori ei hun, yn yr achos hwn o leiaf, mae’n anodd gen i goelio hynny.

venerdì, aprile 24, 2009

A wnewch ateb y cwestiynau canlynol?

Peidiwch â phoeni, ‘does gen i ddim byd o sylweddol i’w ddweud heddiw a hithau’n ddydd Gwener. Er y rhyddid agos dwi ddim wedi mwynhau fy hun yr wythnos hon. Gellir yn aml gweld pa fath o dymer sydd arnaf drwy faint o flogiau y byddaf yn eu cynhyrchu. Os wyf fywiog a hapus, mi wna i un bob dydd. Os wyf ddifynadd a chrintachlyd, mi wnaf un gan fy mod yn teimlo ryw ffug ddyletswydd i wneud hynny.

Gellir felly dadansoddi fy mod wedi bod yn fasdad blin yr wythnos hon. Wrth gwrs, mi dreuliais y rhan fwyaf o’r blynyddoedd a fu yn flin, yn benodol yn ‘rysgol. Cofiaf un tro mewn ffug arholiad amhwysig nodwyd arno “A wnewch ateb y cwestiynau canlynol...” ac mi a ysgrifennais ‘na’ wrtho a symud ymlaen i’r dudalen nesaf.

Doedden ni ddim yn hapus iawn gwneud rhai yn Saesneg chwaith, yn dewis ysgrifennu ‘Ffwc Inglish’ ar y dudalen flaen a gwneud dim am weddill y wers. Mi ges rywfaint o ddileit gan un o’r athrawon fodd bynnag wrth iddo gyhoeddi, yn dra ddig, bod y cwricwlwm yn nodi bod yn rhaid i ni gael o leiaf un wers yn Saesneg y flwyddyn honno. “Gwrandewch yn astud,” meddai, “wan, tŵ, thri, ffôr, ffaif ... iawn, dyna lol ‘na drosodd”. Da ‘di Cofis.

Mi es i dŷ’r genod neithiwr am dro ac mi fytodd Lowri Llewelyn lond paced o grŵtons. Dyna pam ei bod hi’n gwrthod dod am rôl borc efo fi heddiw. Medda hi.

mercoledì, aprile 22, 2009

Dadansoddiad o effeithiau'r Gyllideb

As if bo gen i blydi clem!

Nefoedd yr adar, sôn am ddilyn y ddolen waetha' bosib...

The Fast Show ... a lol arall

Ydach chi’n cofio The Fast Show? Ro’n i wrth fy modd efo fo, a heb gyrraedd dau ddigid pan darodd y gyfres gyntaf y sgrîn tua ’94. Mi brynais y cyfresi ar DVD ychydig fisoedd nôl ond wnes i mo’u gwylio’n iawn tan i Rhys ddod i fyw ataf am fis (dros fis yn ôl erbyn hyn).

Dwi’n cofio ei gwylio yn nhŷ Nain – y math o raglen, er nad oedd o’n ‘ddrwg’, roeddech chi pan yn blentyn yn meddwl eich bod chi ychydig yn ddrwg yn ei gwylio. Doeddwn i heb chwerthin cymaint ers sbel cyn ailwylio’r cyfresi, mae nhw’n ffantastig (do, mi wnes orchfygu’r awydd i ddweud Brilliant! fanno). Dim ots gen i be ddywedith neb, dydi comedi’r 00au (sy bron â mynd, waaa!) methu cymharu â’r 90au o gwbl.

Y peth gorau am y Fast Show i mi ydi na fedra i ddewis fy hoff gymeriad. Yn y rhan fwyaf o sioeau tebyg mae o’n ddigon hawdd gwneud hynny, hyd yn oed Little Britain (er bod hwnnw’n shait ar ôl y gyfres gyntaf i fod yn onast), ond fedrwch chi ddim gwneud efo’r Fast Show, er (efallai yn apelio at fy ochr blentynnaidd – pan fûm blentyn a hyd at heddiw) roedd Chanel 9 wastad yn un o’n i’n licio’n fawr iawn iawn. P’un a oedd y sgets orau ai peidio, mae’n rhaid i chi fod yn athrylith gomedïol i gael pobl i biso chwerthin dim ond o ddweud Sminki Pinki hethethetheth pethethetheth pssssssssshit, yn does!

Ond ta waeth, o atgofion plentyndod, cofiaf nad plentyn mohonof mwyaf (er fy mod i’n fyr a thic a bod yn dal yn well gen i wylio cartŵns na Top Gear).

Clywais y diwrnod o’r blaen ddarn o gyngor a wnaeth i mi deimlo’n fodlon fy myd, rhaid i mi ddweud, sef “ti’n mynd yn hen pan fyddi’n cofio dy benblwyddi”. Do, mi gyrhaeddais y pedair ar hugain ddydd Sul, ond gan nad wyf yn cofio nos Sadwrn (yn llythrennol rŵan, bu i mi gael cic owt o’r Model Inn medda’ nhw, ond dwi ddim yn cofio bod yno – efallai mai celwydd ydi’r peth) mae’n rhaid bod hynny’n golygu y galla i estyn fy ieuenctid yn artiffisial am flwyddyn yn rhagor.

Mi ddywedon nhw ar newyddion bora ‘ma bod ‘na filiwn o eiriau yn Saesneg erbyn hyn. Miliwn yn ormod, uda i.

Hefyd, at ddibenion hunan-hysbysebu gwyliwch Byw yn yr Ardd ar S4C am 8.25yh nos Iau. Wel, os hoffech weld fy nghardd....

giovedì, aprile 16, 2009

Fy nghynhebrwng

Roedd edefyn ar Faes E yn ddiweddar iawn am ba fath o gynhebrwng yr hoffech ei gael. Dwi gyda fy ffrindiau wedi trafod y pwnc hwn ers cyn cof erbyn hyn, i’r fath raddau ei fod yn bwnc sgyrsio tra-phoblogaidd rhyngom. Roeddwn yn hapus mai nid y ni oedd yr unig rai a ystyriodd y peth, ond fel y bydd June Whitfield yn ein hatgoffa, mae’n beth pwysig i’w ystyried, a phwy all ddadlau â honno? Gellir hefyd dadlau’n llwyddiannus, fel unigolyn sy heb drefnu cynllun pensiwn hyd yn hyn oherwydd ei gred gref na fydd yn byw cyn hired â manteisio ar ei ffrwyth, dwi’n rhywun perffaith i ddwfn ystyried Y Cynhebrwng.

Mae’n siŵr, er fy swnian, nad Pabydd y byddwyf fyth yn y pen draw, felly hen gynhebrwng Anglicanaidd diflas y bydd. O, Fy Iesu Bendigedig fyddai’r emyn cyntaf a genid, gyda geiriau hynod canmoliaethus (ac, felly, celwyddgar) parthed fy mywyd yn y canol wedi’u dilyn gan Bantyfedwen. Pantyfedwen ydi’n hoff emyn, fel mae’n digwydd, wrth i mi ei ddewis i gynhebrwng Anti Blodwen flynyddoedd nôl, sy’n fan cychwyn rhyfedd i gael eich cyflwyno i’ch hoff emyn. Dwi’n siŵr nad oes gan Blodwen ots am hynny.

Y gân olaf, wrth fy hebrwng i’r bedd (ac i’r bedd y byddai, dwi ddim isio cael fy llosgi a’m lluchio i’r pedwar gwynt), wn i ddim. Byddai’r Brawd Hwdini’n amhriodol, ac Yma o Hyd yn gas (heb sôn am gael pawb yn swnian “dio’m isio clwad hwn eto myn uffarn!”), a Ble Ges Ti’r Ddawn? jyst yn cymryd y piss go iawn o ystyried mai y fi fyddai’n gelain. Mi adawa i rywun arall ddewis y gân ddelfrydol, fel Lowri Dwd – bydd yn dda ei chael i fod o iws i mi yn fy nghynhebrwng a hithau’n ddim o help yn ystod fy myw.

Maen nhw’n (ia, ‘y nhw’ ddirgel eto) dweud wrth i rywun fynd yn hŷn eu bod yn mynychu mwy o angladdau na phriodasau. Dydi hyn ddim yn wir i mi. Dwy briodas fues iddynt erioed, ac yn y ddwy priododd fy nghefnder. Dwi ‘di colli cownt ar angladdau erbyn hyn ond mae o deirgwaith gymaint ag o briodasau dwi’n sicr.

Ond ta waeth tai’m i fwydro gormod am farwolaeth heddiw a minnau’n edrych ymlaen i fynd i Wetherspoons heno, er mai un cyri doji ydym oll o gwrdd â’n creawdwr, ebe hwy.

mercoledì, aprile 15, 2009

Wiwer Cajun

Fues yn y Gogledd ar y penwythnos ac o ganlyniad ni chododd yr awydd i flogio, er i Nain ddweud ambell i beth dwl fel arfer, megis nad ydi hi’n licio John Hardy, sy’n ddigon teg. ‘Sgen i ddim barn ar John Hardy, ond mi a chwarddais arno’n fflyrtian â thrawswisgwr nos Iau ddiwethaf.

Hidia befo am hynny, wn i ddim a ddywedais i mi roi’r gorau i greision dros y Grawys, ac mi lwyddias, felly neithiwr penderfynais (gyda chymorth y Llew a Ceren) flasu’r rhai newydd y mae Walkers yn eu cynnig. Siomedig oeddent ar y cyfan.

Y gorau, ac mae’n rhaid i mi ddweud ro’n i’n fodlon iawn ar hyn, oedd y Wiwer Cajun. Dwi’n amau dim nad ydi o’n debyg i Wiwer o gwbl, ond roedd ben ac ysgwydd uwch y gweddill, ac yn bersonol mi wnes eithaf mwynhau. Yn ail felly ddaeth yr Nionyn Baji. Dydw i ddim yn licio’r rhain fel rheol ond mi wnaeth yn iawn fel creision, ond ddim yn ddigon nionllyd, fel onion rings efo llai o flas.

Yn drydydd oedd y siom fwyaf sef y Pysgod a Slogion, yr oeddem ein tri yn disgwyl pethau mawr ganddo. Roedd yn gas gen i’r rhain ond doedd Ceren a Llew ddim yn meindio. Maen nhw’n debyg i Scampi Fries a dwi’m yn licio’r rheini. Yn bedwerydd, ac rydyn ni’n cyrraedd lefelau ffieidd-dra fan hyn, roedd y Builders Breakfast a oedd yn blasu fel smokey bacon y mae rhywun wedi rhechu arno – na, dwi’m yn jocian, maen nhw.

Yn bumed daethai’r Chwadan a Hoisin, y cytunais â’r Llew ei fod yn blasu fel pot pourri. Blas cas ar y diawl, a siom arall i ni.

Ond yn olaf o bell ffordd ydi’r Siocled a Chilli. Peidiwch â phrynu hwn er mwyn dyn. Y peth ydi mae hwn YN blasu fel siocled a chilli, am wn i, a dydi o ddim yn neis. Dydi pobl gall ddim yn byta’r ffasiwn bethau p’un bynnag (nac wiwerod mae’n siŵr, ond dim ots am hynny).

Rhowch wybod i mi os ydych chi wedi trio un, mae gen i ddiddordeb mewn creision. Gobeithio mai’r wiwer aiff â hi.

giovedì, aprile 09, 2009

Pam blogio'n Gymraeg?

Galwais heibio blog Dyfrig, sy’n un o’r blogiau y bydda i yn ei ddilyn, a darllen y post diddorol hwn am pam y mae’n blogio yn Gymraeg yn unig. Does ‘na ddim llawer o’n haelodau etholedig yng Nghymru, hyd yn oed ymhlith rhengoedd Plaid Cymru, yn blogio yn Gymraeg yn rheolaidd, heb sôn am yn Gymraeg yn unig (Y Tŷ Mawr o’r Tu Mewn ydi un ohonynt gan Hywel Williams AS, ond dydi hwnnw heb ei ddiweddaru ers mis a hanner).

Mi wnes i feddwl yn sydyn pam fy mod innau’n blogio yn Gymraeg, achos dwi ddim yr unigolyn tebycaf i wneud mewn rhai agweddau. Yn dechnegol, Saesneg ydi’n iaith gyntaf i a dim ond ers Prifysgol y galla i ddweud yn onest bod fy Nghymraeg ysgrifenedig yn well na’m Saesneg ysgrifenedig; ac mi ddechreuais flogio cyn mynd i’r Brifysgol. A Saesneg ydi prif iaith fy nghartref yn Rachub, credwch ai peidio, er na chlywch air ohoni yn Stryd Machen.

Pe bawn isio cyfleu fy neges {ryfedd} i’r byd mi a flogiwn yn Saesneg, ond dydw i ddim isio gwneud hynny. Pe bawn isio ceisio cael cynulleidfa fawr, mi a flogiwn yn Saesneg, ond dwi’n fwy na bodlon ar y gynulleidfa gyfyngedig sydd gen i. Ac yn bersonol, dwi jyst ddim yn licio Saesneg fel iaith, mae hi’n ddiflas, a ph’un bynnag pan fydda i’n ei defnyddio mae hi’n gwbl aflafar.

I mi, yn hytrach na chyfleu rhywbeth i gynulleidfa a fedrai fod yn enfawr, ond yn amhersonol, gwell ceisio ei gyfleu i’r hyn o beth a garaf, sef y Cymry Cymraeg. Wedi’r cwbl, dyma fy mhobl i, y rhai dwi’n uniaethu â hwy, yn siarad ac yn chwerthin â hwy, yn treulio fy mywyd o’u cwmpas. Wn i ddim a ydi hynny’n gul, ond os mae o dwi’n ddigon bodlon bod yn gul ac ymdrybaeddu yn y Cymreictod hwnnw sy’n gwneud i mi feddwl bod y byd yn iawn ei le, ac sy’n gwneud i mi deimlo’n gynnes y tu fewn. Boed hynny drwy gymdeithasu’n Gymraeg, gweithio mewn gweithle Cymraeg neu drwy flogio’n Gymraeg.

Ond hefyd fyddwn i ddim am i neb gyfieithu’r blog ‘ma (gwn na fydd hynny’n digwydd wrth gwrs, ond wyddoch chi fyth...). Mae angen gwneud rhai pethau yn gwbl Gymraeg, fel y dywed Dyfrig. Gwn nad ydi’r blog hwn yn gyfraniad i’r Gymraeg ac nad oes gwerth iddo, ond mae o dal yn rhywbeth Cymraeg a byddai dim byd yn gallu fy argyhoeddi i’w wneud fel arall. Mae’n un cornel fechan iawn o’r byd lle nad yw Saesneg yn gallu treiddio a bo’r Gymraeg yn oruchaf.

Hefyd wrth gwrs, er nad ydyn ni Gymry Cymraeg yn dweud yn agored, ‘dan ni’n ofnadwy am siarad am bobl nad ydynt yn siarad Cymraeg reit o’u blaenau, ac wedyn gweiddi’n groch nad ydyn ni byth yn gwneud ffasiwn beth.


Ond ein cyfrinach fach ni ydi honno, wrth gwrs!