martedì, ottobre 26, 2010

Noson Gwylwyr, a'r Rali

Wn i ddim p’un ai llwyddiant ai peidio oedd rhaglen y Noson Gwylwyr neithiwr – llwyddais i gael fy sylwadau ar yr awyr felly fedra’ i ddim cwyno gormod am wn i! Ar y cyfan ro’n i’n weddol fodlon ar yr ymatebion gafwyd – gan dri aelod o’r panel sut bynnag. Mi gefais i a’r Dwd a Ceren drafodaeth drylwyr am y rhaglen ar ôl dal i fyny arni yn yr hwyrnos. Efallai na fydd newid, ac efallai pa newid bynnag ddaw ei bod bellach yn rhy hwyr. Fel dywedodd y Dwd, mae S4C wedi clywed pryderon gwylwyr ers blynyddoedd, ond heb â gwrando. Tybed.

Ta waeth mae’r Sianel o hyd yn wynebu toriadau llymion. Cynhelir rali S4C mewn llai na phythefnos a drefnir gan Gymdeithas yr Iaith. Mi fydda’ i yno ... a mynd diân ar ddiwrnod rhyngwladol os medra’ i ohirio fy meddwi mi allwch chi hefyd! Dwi’n meddwl bod o’n wych bod y Gymdeithas wedi trefnu’r brotest, ond ga’i wneud ambell bwynt adeiladol nad ydynt mewn unrhyw ffordd yn feirniadol, yn y gobaith bod rhywun yn darllen y cyfryw eiriau.

Dwi ddim yn meddwl y dylai’r Rali fod yn enw Cymdeithas yr Iaith – ni ddylai fod yn brotest swyddogol ganddi hi. Licio fo neu ddim, mae ‘na berygl go iawn y bydd gwneud hyn yn troi pobl i ffwrdd o’r digwyddiad, ac o bosibl hefyd yr ymgyrch yn fwy cyffredinol. Fydd ‘na bobl sy ddim isho, wel, nid ‘cefnogi’ fel y cyfryw ond nad ydynt isio ymwneud â CyIG am ba reswm bynnag. Mi fyddai mwy o bobl yn debygol o alw heibio i’r Rali os ydyw’n rali niwtral o ran teyrngarwch i unrhyw fudiad neu blaid: pobl sydd am ddangos eu cefnogaeth i’r Sianel ac mai dyna eu hunig nod.

Rhaid i’r ymgyrch sydd ar ddyfod, ac mi gredaf y gall droi’n ymgyrch chwerw a chaled, ennyn y gefnogaeth ehangaf posibl gan bobl o bob lliw a llun. Ac i’r diben hwnnw, er mai’r Gymdeithas sy’n trefnu’r Rali arbennig hon ac y caiff dwi’n siŵr ran allweddol yn y frwydr sy’n ein hwynebu, efallai mai’r ffordd orau o wneud hyn yw trefnu unrhyw ddigwyddiad dan faner ‘Achub S4C’ ac nid unrhyw fudiad, gan gynnwys Cymdeithas yr Iaith.

Mae’n sicr yn haeddu ystyriaeth.

venerdì, ottobre 22, 2010

giovedì, ottobre 21, 2010

Anghywir, Arwel Ellis Owen!

“Mae’r awdurdod wedi rhoi cyfarwyddyd clir i mi eu bod nhw yn rhoi’r flaenoriaeth i safonau yn hytrach na niferoedd”

Dyma eiriau Arwel Ellis Owen, Prif Weithredwr dros dro S4C. Ac mae Arwel Ellis Owen, yn fy marn i, yn anghywir – os nad dim ond am wrando ar John Walter Jones!

Dylai safonau fod yn bwysig i S4C, ond nid safon ydi’r prif broblem. Rhaid bod yn onest fan hyn, y rheswm bod Llywodraeth Lloegr yn gallu pigo ar S4C ydi achos bod nifer y gwylwyr yn rhy isel, nid oherwydd bod y rhaglenni’n crap (a dwi wedi dweud nad ydw i o’r farn eu bod nhw’n ddiweddar gan fwyaf). Beth sydd ei angen ar S4C ydi rhaglenni poblogaidd, dim mwy na llai, ac fel y gwelir o bob sianel arall dydi rhaglen o safon ddim o reidrwydd yn rhaglen boblogaidd ... y gwir plaen ydi mai i’r gwrthwyneb sy’n wir yn aml!

Mae gan y Sianel ei henghraifft ei hun o hyn ar ffurf Pobol y Cwm – opera sebon canol-y-ffordd ydyw, does ‘na ddim byd sbeshal amdani yn y lleiaf, ond hi ydi’r unig raglen (heblaw am chwaraeon) a all ddenu dros 100,000 o wylwyr yn ddigon cyson. Prin fod gweddill rhaglenni S4C yn denu hanner hynny – a phrin fod y gair ‘safon’ yn cael ei gysylltu’n aml â Phobol y Cwm!

Rhaglenni poblogaidd, nid rhaglenni o safon, sydd eu hangen fwyaf ar y Sianel. Bydd rhai yn anghytuno â hynny, ond o ystyried y peth, mae’n bosibl bod S4C wedi bod yn canolbwyntio ar ‘safon’ ar draul ‘poblogrwydd’ ers rhy hir bellach – yn ceisio efelychu sianel megis BBC4 yn ormod yn hytrach na BBC2, ddywedwn ni – ac efallai bod hynny’n arwydd o’r gor-barchusrwydd dosbarth canol sydd wedi dadrithio pobl gyffredin dros y ddegawd ddiwethaf.

Dwi ddim isio bod yn anadeiladol o feirniadol fan hyn, dim ond taflu syniadau – dwi ddim isio ildio i’r garfan o bobl sy’n meddwl ei fod o’n ‘cŵl’ i beidio â gwylio S4C a hynny jyst er mwyn ymddangos yn wrthsefydliadol (tyfwch fyny!) na’r garfan fechan sydd fel petaent yn ymhyfrydu yn nirywiad y Sianel. Ond mae geiriau Arwel Ellis Owen yn fy marn i wrth wraidd yr hyn sydd o’i le efo’r Sianel ac wrth wraidd yr hyn sydd angen ei newid.

martedì, ottobre 19, 2010

Y Teulu Anifeilaidd

Yn gyffredinol, ‘sgen i ddim mynadd â phobl nad ydynt yn hoffi anifeiliaid. Pe bawn yn cyfarfod rhywun am y tro cyntaf ac yn cael gwybod nad ydynt yn licio anifeiliaid byddai’r argraff gyntaf a grëwyd arnaf yn un wael. Gwell hyd yn oed pobl cathod na phobl sy’n casáu’r cyfan ohonynt – yn wir, mi fedraf i, sy ddim yn licio cathod, wneud yn iawn efo nhw, y rhai sy’n dangos parch, de. Er, mi fynnaf hyd f’angau bod y ddynas cath-yn-bin y peth doniolaf i mi ei weld er cyn co’.

Lleiafrif ydi’r bobl hyn, wrth gwrs – dwi’n meddwl o bawb dwi’n eu hadnabod mai dim ond Rhys a Ceren sy’n casáu anifeiliaid, er mi fytant rai. Yn gyffredinol, mae fy nheulu i yn bobl anifeiliaid. Mae gen i a Mam yn benodol hoffter mawr at y rhan fwyaf o greaduriaid Duw, a chŵn yn arbennig. Mae hyd yn oed y chwaer, rhwng ymbincio a sôn am faint mai’n mwynhau bwyta llysiau, yn hoffi anifeiliaid ar y cyfan. Er mi gwynodd pan fu ganddi gwningen ei bod yn caru ei brawd yn fwy na hi.

Y prif rwystr i ni gael anifeiliaid oedd Dad. Gwrthwynebai Betty a Blodwen (ac yn ddiweddarach Sioned) y chwïaid, a fawr hoffter ganddo at y gwningen ychwaith, ac er y cwyno gan bawb, Mam grochaf, i gael ci, gwrthwynebiad Dad rwystrodd aelod newydd rhag dyfod i’r cartref. I’r fath raddau y bu iddo ddatgan ‘fi neu gi’ untro – gwn pa un fyddai’n well gan Mam rŵan.

Ond, fel gyda phawb nad ydynt yn licio creaduriaid, dydi anifeiliaid ddim yn rhyw gymryd at Dad chwaith. Mae ‘na reddf ryfedd gan anifeiliaid efo’r fath bethau. Dwi’n meddwl eu bod nhw’n meddwl bod Dad ‘mbach o wancar. Dechreuodd y cyfan mi dybiaf pan ganlynasai Mam a Dad gyntaf a Mam yn berchen ar gi Alsatian mawr o’r enw Amber a chwyrnai ar Dad bob tro y ceisiai ddod yn agos at Mam.

Ond sioc ddisgwyliodd yr Hogyn ar ei ymweliad diweddaraf adref. Ffrind ar ffurf cath fechan sydd gan Dad. Mi ddaw o rywle yn Nhyddyn Canol a welsoch chi rioed ffasiwn beth. Nid yn unig y bydd Dad, gan grwmach a llusgo’i draed fel yr hen ŵr nad ydyw eto, yn rhoi sylw mawr i’r gath (a’i galw yn ‘kitty’ ... kitty myn uffarn!), mae’r gath hithau wedi cymryd at Dad. Big time. Pan fydd nyni garwyr anifeiliaid i gyd yn yr ardd, gan amlaf yn bwydo Guto a Wil y merlod gwyllt, Dad aiff â sylw’r gath, a’r gath sylw Dad. I rywun a fagwyd yng nghwmni’r dyn, mae’r peth yn rhyfeddod.

A chan hynny mae’n dal i rwgnach wrth Mam, “you’re not getting a dog yeah”.

domenica, ottobre 17, 2010

Ddim y peth gorau i glywed ar ddiwrnod eich priodas

Cinio Sul sydd ar y ffordd felly bu’n rhaid nôl fy nhaid, neu Grandad, o dŷ Nain i ddod i Rachub draw. Soniodd fymryn am Nain, wastad yn un gwyllt. Yn ei ôl o, ar ddiwrnod ei briodas â Nain, mi drodd ei dad yng nghyfraith newydd ato, a dweud heb fymryn o goeg:

Thank God Ken, that’s the worst of the lot out of the way!”

sabato, ottobre 16, 2010

Barn agored ar S4C

Cynhelir noson gwylwyr gan S4C nos Lun, a ddarlledir yn fyw am 20:25. Buaswn yn awgrymu i bawb â barn ei mynegi, a gallwch wneud hynny yma. Newydd fy nharo y mae'n bersonol y gallwn i bob pwrpas golli'r sianel genedlaethol. Er gwaethaf ei ffaeleddau lu, pe deuai'r awr honno bydd yn ergyd drom ac o bosibl ddinistriol i'r Gymraeg.

Dwi wedi cyflwyno sylwadau, a hoffwn eu rhannu â chwi.

Hoffwn fynegi fy mod o’r farn bod arlwy S4C ar hyn o bryd yn gryf iawn ac fy mod yn ei mwynhau’n arw. Mae rhaglenni fel Pen Talar, Byw yn Ôl y Llyfr, Gwlad Beirdd a ‘Sgota wedi bod yn rhaglenni rwy’n eu gwylio’n rheolaidd yn ddiweddar; rhaglenni da o safon a ddylai fod yn destun balchder i’r sianel.

Ond y tu hwnt i ambell raglen gall arlwy’r sianel fod yn ailadroddus. Deallaf fod hyd yn oed yn awr gyfyngiadau ariannol ond mae cael Pobol y Cwm, er enghraifft, bum gwaith yr wythnos yn ddiflas ac yn gwneud i’r mwyafrif osgoi gwylio, ac mae tueddiad anffodus i ddefnyddio’r un hen wynebau ar gyfer yr un hen math o raglenni. Hefyd, problem ddiweddar yw bod enwau rhaglenni yn anatyniadol iawn, nid yw e.e. ‘Cyngerdd’ neu ‘Sioe’r Tŷ’ wir yn enwau gafaelgar nac ysbrydoledig.

Mae’n destun tristwch bod nifer o bobl heb godi llais dros y Sianel, ond mae rheswm penodol dros hyn. Y canfyddiad cyffredinol yw bod S4C bellach wedi’i rheoli gan glîc Caerdydd-ganolog hunanfodlon a hunanbwysig nad yw byth yn gwrando ar bryderon y gwylwyr cyffredin, ac sy’n diystyru unrhyw feirniadaeth hyd dirmyg. Mae arnaf ofn fy mod yn cytuno â’r farn hon – a phe câi fy marn ei chyfleu i’r bobl hyn mai anghytuno’n ddiystyriol y gwnânt; a pha syndod? Yr un hen stori ers blynyddoedd. Hyn, yn fwy na safon rhaglenni, sydd wedi dadrithio cymaint o’n sianel.

Erfyniaf arnynt i newid hyn, er lles y Gymraeg ac nid eu gyrfaoedd, ac am unwaith wrando ar feirniadaeth.

Newyddion teuluol

Fydd gennych chi fawr ddiddordeb yn hyn ond roedd cyrraedd adra neithiwr a chlywed newyddion y teulu yn torri 'nghalon. Mae nhw'n dwpsod.

Disgynnodd y chwaer dros fwrdd gan anafu ei hun
Disgynnodd Mam dros hwfer a thynnu'i chlun
Roedd Dad yn tocio coedan a chan dorri brigyn mawr tew uwch ei ben disgynnodd arno ac mae ganddo graith ar ei dalcen

Dylwn i 'di aros yn Grangetown.