lunedì, aprile 11, 2011

Diwrnod efo'r Anifeiliaid

Mi ges fy ffordd a dydd Sul fe aeth tri ohonom, yr Hogyn, Lowri Dwd a Lowri Llew, i Sŵ Bryste. Gyda phobl amrywiol, y Dwd yn un ohonynt nos Wener, yn llwyddo fy hudo i bob tafarn bosib dros y penwythnos mi gyrhaeddodd bwynt nos Sadwrn lle mi ges banic mawr a rhedag adra yn barod i fynd i’r sŵ.

Ro’n i’n meddwl y buasai Sŵ Bryste yn fwy na Chaer ond ro’n i’n hollol anghywir. ‘Does ‘na ddim eliffant na theigr na chamel na jiráff yn agos at y lle. Wel, welish i mohonynt. Ond dyna ni, mae Sŵ Gaer yn anferthol, ac amwni mae pawb ‘di gweld eliffant a jiráff o’r blaen, ac mae camels yn fasdads blin, a theigrod yn blydi beryg. Dwi ddim yn poeni rhyw lawer os bydd y teigrod yn marw allan yn ystod ein hoes ni, po fwyaf diogel y byd i bobl, po hapusaf y byddwyf i.

Dachisho gwbod be oedd fy hoff bethau i? Oes siŵr, dyma pam eich bod chi’n darllen. Y fruit bats. O’dd nhw’n lyfli, ‘swn i wedi mynd ag un adra yn y fan a’r lle. Doedda nhw ddim yn gwneud rhyw lawer blaw dringo’r rhaffau de. A dweud y gwir roedd lot o’r anifeiliaid i weld yn ddiog iawn. Wnaeth y gorilas ddim byd. Ni edrychodd y panda coch arnom ac mi guddiodd y llewod yng nghefn eu lle nhw felly ni welsom mohonynt fawr ddim.

Ceir yn Sŵ Bryste ddegau o grwbanod o bob maint. Dwi’n licio crwbanod ond wnaethon nhw fawr o ddim ychwaith. Wel, maen nhw fatha rhech dydyn? A ‘dwn i ddim am y twilight zone, fel y’i gelwid, achos i anifeiliaid y nos yr oedd, ac yn anffodus roedd y lle mor dywyll ni fedrasom ni weld fawr ddim. Wnaethon ni syllu ar danc gwag am bum munud yn trio dod o hyd i anifail.

Ni phrofasai’r acwariwm yn llwyddiant mawr chwaith, ac mi ddadleusom pam bod ‘na ffrij llawn ffishffingyrs yno. Er mwyn i’r pysgod eu bwyta, meddaf i, a dwi’n sticio wrth hynny. Dio’m fel petaen nhw yno fel rhybudd i be sy’n digwydd i ffish sy’n ceisio dianc nadi?

Ac felly mi adawsom y sŵ, ar ôl cael diwrnod da, er po fwyaf i ni ddadansoddi’r peth yn Harvester gyda’r nos (achos dani’n classy) y lleiaf llwyddiannus y swniodd, yn enwedig wrth i ni rywsut fethu dinas fwyaf Cymru ar y ffordd nôl a chanfod ein hun 16 milltir i ffwrdd ac nid ymhell o Lantrisant. Ddealltish i ddim sut lwyddon ni wneud hynny a dwi’m callach rŵan.

venerdì, aprile 08, 2011

Proffwydo 2011: Canolbarth Cymru

Y mae’r polau diweddaraf yn awgrymu chwalfa’r Democratiaid Rhyddfrydol, etholiad cymharol lwyddiannus i’r Ceidwadwyr, Llafur yn ennill dros hanner y bleidlais a Phlaid Cymru’n cael ei hetholiad gwaethaf erioed ar y lefel hon. Yn reddfol, mae’n anodd anghytuno â hyn, ac mae’n gwneud ardal y Canolbarth yn un hynod o ddiddorol, gyda goblygiadau mawr i bob plaid.

Yr Etholaethau

O holl etholaethau’r rhanbarth, mi dybiaf mai tair yn unig sy’n ddiogel. Bydd Rhodri Glyn Thomas yn parhau’n AC ar Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr heb ddim trafferth, a hynny hefyd fydd hanes Dafydd Elis-Thomas yn Nwyfor-Meirionnydd. Ac er gwaethaf y polau erchyll, mewn difrif mae’n anodd gweld y Ceidwadwyr yn trechu Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol ym Mrycheiniog a Maesyfed. Un peth sydd yn sicr yn y tair sedd hyn: mi fydd y mwyafrifau mawrion yno yn llai nag yn 2007.

Mae dwy sedd sy’n gymharol ddiogel, dwi’n teimlo. Ceredigion yw’r cyntaf. Mae Elin Jones yn AC poblogaidd, yn weinidog medrus, sydd â mwyafrif cadarn, ac mae ei phrif wrthwynebwyr yn gwneud yn waeth na Phlaid Cymru hyd yn oed yn y polau. Serch hynny, alla i ddim rhagweld pleidlais brotest fawr wrth-Lundeinig yng Ngheredigion. Byddai’n well gan drwch poblogaeth ardal fel hon weld y Ceidwadwyr (gyda’r Dems Rhydd) mewn grym yn Llundain na’r blaid Lafur. I’r diben hwnnw, dybiwn i ar lefel San Steffan mai’r Dems Rhydd fydd bia hon am flynyddoedd bellach, ond dylai Elin Jones ennill yma eleni. Byddai ei cholli hi yn waeth ergyd i’r Blaid nag unrhyw un arall o’i ACau, gan gynnwys ei harweinydd.

Yr ail sy’n gymharol ddiogel ydi Preseli Penfro. Dydi mwyafrif Paul Davies ddim yn enfawr ond mae’n un o aelodau amlycaf y Cynulliad erbyn hyn, ac mi fyddai’n golled i’r sefydliad heb amheuaeth. Er ei bod yn ymddangos bod cefnogaeth Llafur dros 15% yn uwch nag yn 2007, a bo’r bwlch rhwng y ddwy blaid ond yn 11% yma, dwi’n amau y bydd gan Paul Davies ddigon o enw i fynd â hi, a chofier bod pleidlais y Ceidwadwyr yn ymddangos yn sefydlog. Agos ond dim sigâr i Lafur yma.

Mae’r tair sedd arall yn ddiddorol, ond af i ddim i fanylder mawr amdanynt, ond cynnig rhai sylwadau.

Fe ddywedais flynyddoedd nôl ar y blog hwn fy mod o’r farn yr âi’r Ceidwadwyr â Threfaldwyn yn 2011, er i mi gael pethau’n hollol anghywir y llynedd. Ta waeth, y Ceidwadwyr sydd â’r momentwm yn y sedd hon bellach, roedd buddugoliaeth Glyn Davies y llynedd yn hwb enfawr i’r blaid yn lleol, a dwi’n darogan y bydd y Ceidwadwyr yn cipio’r sedd hon a hynny â mwyafrif parchus iawn – dim ond 4.5% o ogwydd sydd ei angen arnyn nhw. Mi gânt hynny.

Beth am Orllewin Caerfyrddin a De Penfro? Dim ond 250 o bleidleisiau oedd ynddi y tro diwethaf rhwng y Ceidwadwyr yn gyntaf a Phlaid Cymru’n drydydd, gyda Llafur yn y canol. Mae pleidlais Plaid Cymru a Llafur wedi syrthio’n gyson yma ers 1999, gyda’r Ceidwadwyr ar eu fyny bob tro. Fydd hi ddim yn dibynnu ar wasgu’r bleidlais Ryddfrydol chwaith, cafodd y blaid lai na dwy fil o bleidleisiau yn 2007, er o ystyried pa mor agos yr oedd hi y flwyddyn honno gallai fod yn ffactor. Dydi Angela Burns heb greu enw iddi ei hun yn y Bae, er bod Nerys Evans wedi – un o sêr y Cynulliad a’r Blaid heb os – ond mae’r polau cenedlaethol yn gadarn yn erbyn y Blaid, a byddai cipio’r sedd hon yn gamp a hanner ar ei rhan hi. Ond yn gamp yn ormod mi deimlaf. Fe deimlir ei cholled yn y Cynulliad yn fawr. Yn ei lle, credwn y gwelwn ddychwelyd Christine Gwyther a hynny’n gymharol gyfforddus, gyda’r Ceidwadwyr yn ail. Ni cheidw’r Democratiaid Rhyddfrydol eu hernes.

Yn olaf, Llanelli. Ar bapur, mae hwn yn hawdd i Blaid Cymru – mwyafrif cadarn, ymgeisydd amlwg a chryf, a hynny yn erbyn cyn-gynghorydd ffwndrus, os hoffus, sy’n 70 oed. Ond cofiwch 2010. Roedd perfformiad Plaid Cymru yn y sedd benodol hon yn siomedig. Yn ôl y pôl diweddaraf mae Llafur tua 18% i fyny ar 2007 a Phlaid Cymru i lawr 6%. Yn Llanelli, os pleidleisia’r un nifer â’r tro diwethaf, mae hynny’n gyfystyr â buddugoliaeth o nid ymhell o 3,000 i Lafur. Mae hynny’n annhebygol iawn yma, ond yn bersonol, ar y pwynt cynnar hwn o’r ymgyrch o leiaf, synnwn i ddim petai Llafur yn ysgubo popeth o’i blaen eleni, a rhaid dweud bod y Blaid yn arbennig yn ymddangos yn gwbl ddi-glem ynghylch sut i atal hynny rhag digwydd (a bod yr hyn y mae’n ei wneud ar drywydd cwbl anghywir, yn fy marn i). Gall pethau newid yn ystod yr ymgyrch, wrth gwrs, ond petawn i’n betio heddiw, â chalon drom, dwi’n amau mai Llafur aiff â Llanelli eleni.

Proffwydoliaeth:

Plaid Cymru 3 (-1)
Llafur 2 (+2)
Ceidwadwyr 2 (-)
Dems Rhydd 1 (-1)



Y Rhestr

Dyma yn hawdd ranbarth gwannaf Llafur, a dwi ddim yn rhagweld y bydd hi’n dod i’r brig yma. Unwaith eto, dwi’n teimlo mai Plaid Cymru fydd gyntaf, gyda’r Ceidwadwyr yn ail a Llafur yn drydydd. Teimlaf y bydd y Blaid yn colli pleidleisiau yma, ond nid i’r un graddau ag ardaloedd eraill, a bod y gwrthwyneb yn wir am Lafur – ennill ychydig, ond nid cymaint â’r unman arall. O reddf dwi’n teimlo y bydd pleidleisiau gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn mynd at gyfeiriad Llafur a’r Ceidwadwyr yma, yn gymharol gyfartal. Felly pa oblygiadau sydd i’r rhestr?

O amrywio’r ffigurau fymryn, cynnydd eithaf mawr i’r Blaid Lafur, y Ceidwadwyr ar eu hennill ac ar y blaen i Lafur o fymryn, a gostyngiad ym mhleidlais Plaid Cymru, gyda’r Dems Rhydd yn cael llai na 10% o bleidleisiau’r rhestr, âi’r sedd gyntaf i’r Ceidwadwyr, yr ail i Lafur, a’r drydedd i Blaid Cymru. Y peth diddorol ydi, petai Llafur yn ennill yn Llanelli a Gorllewin Caerfyrddin, ar yr amrywiadau bach hynny mi fyddant yn debygol o golli sedd rhestr, a honno i’r Ceidwadwyr – oni threcha’r Ceidwadwyr yn y bleidlais ranbarthol. Serch hynny, mi fyddai’r gystadleuaeth am y bedwaredd sedd yn hynod, hynod agos rhwng y tair plaid hynny. Hyd yn oed gyda dim ond un etholaeth i’w henw, ni fyddai gan y Democratiaid Rhyddfrydol unrhyw gyfle o ennill sedd ranbarthol yma.

Fodd bynnag, ni ddylid diystyru’r Blaid Werdd yma. Os enilla’r blaid honno dim ond tua 6% o’r bleidlais ranbarthol, bydd ganddi gyfle o ennill sedd – er nad ydw i’n rhagweld hynny’n digwydd y tro hwn. Mae hyn hefyd yn wir am UKIP i raddau llai.

Ac am rŵan, dwi am gadw at hynny. O ran y rhestrau, mi fydd y Ceidwadwyr yn cipio sedd gan y Blaid Lafur, o drwch blewyn – er ei bod yn hawdd gweld Llafur yn ei chadw, neu o bosibl Plaid Cymru yn ei chipio; mae’r cyfan yn dibynnu ar y pedair sedd sydd, yn fy marn i, ar hyn o bryd yn edrych fel petaent am newid dwylo.

Proffwydoliaeth:

Ceidwadwyr 2 (+1)
Llafur 1 (-1)
Plaid Cymru 1 (-)

mercoledì, aprile 06, 2011

Proffwydo 2011: De-ddwyrain Cymru

Mae’r amser wedi dod i edrych ymlaen at etholiadau’r Cynulliad, lai na mis i ffwrdd erbyn hyn. A minnau byth am wneud dim tebyg i gyfres Proffwydo 2010 eto (seriws rŵan de), dwi dal methu â helpu fy hun ond am geisio proffwydo canlyniadau eleni. A pha ffordd haws o wneud hynny na fesul rhanbarth?Ychydig o hwyl ydi’r peth yn fwy na dim, er bod ‘na gonsensws cyffredinol ymhlith sylwebwyr ynghylch beth fydd yn digwydd, a dwi’n digwyddiad cytuno efo.

Yr Etholaethau

Ta waeth, i’r diawl â’r darlun mawr am funud. Dechreuodd Syniadau gyda De-orllewin Cymru a dwi hefyd am wneud hynny. Y rheswm syml ydi, yn etholiadol, dyma ardal leiaf diddorol Cymru o gryn bellter eleni. Saith sedd Lafur a geir yma yn yr etholaethau, a dyma fydd y sefyllfa wedi hynny.

Petai Llafur wedi rhywsut dal grym yn Llundain yn 2010, fe fyddai’r sefyllfa yn wahanol iawn, ac fe geid dadansoddiadau manwl o ambell sedd yma. Gallai’r Ceidwadwyr gipio Gŵyr a a Phen-y-bont, bydden ni’n disgwyl i’r Democratiaid Rhyddfrydol ennill yng Ngorllewin Abertawe ac fe âi Plaid Cymru â Chastell-nedd am y tro cyntaf yn ei hanes. Er mai Castell-nedd sydd fwyaf tebygol o roi sioc i ni yma eleni, gyda’r polau yn awgrymu twf enfawr i Lafur oddi ar etholiad diwethaf y Cynulliad, mae’n anodd iawn gweld hynny’n digwydd, i’r fath raddau fy mod yn anghytuno â Syniadau am gyfle hyd yn oed Adam Price o ennill yma petai wedi dewis sefyll. Serch hynny, gydag ymdrech dda gallai pethau fod yn agos yno, a dwi’n rhyw deimlo gall y Ceidwadwyr wneud yn well na’r disgwyl yng Ngŵyr.

Proffwydoliaeth:

Llafur 7 (-)


Y Rhestr

Yr unig frwydr go iawn yn Ne-orllewin Cymru fydd ar y rhestr. Unwaith eto, dwi’n dueddol o gytuno â barn Syniadau am yr hyn a fydd yn digwydd. Gyda chefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol ar chwâl, dydi hi ddim yn amhosibl y byddant yn colli eu hunig sedd, sef un Peter Black, gan lwyddo i gael llai na hanner y pleidleisiau a gaiff Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr. Yn wir, o dan yr amgylchiadau cywir, gallai’r blaid ennill llai o bleidleisiau na’r BNP neu’r Gwyrddion, neu hyd yn oed y ddwy. Dwi ddim yn meddwl y bydd pethau cynddrwg â hynny arnyn nhw.

Gyda’r polau Cymreig yn awgrymu amrywiadau mawr iawn yng nghefnogaeth y Blaid rhwng dechrau mis Mawrth a diwedd mis Mawrth yn y rhanbarth, a’r samplau yn fach, ond dim newid i’r Ceidwadwyr, mae’n anodd defnyddio tystiolaeth arolygon i lunio barn gadarn ar yr hyn a fydd yn digwydd. Mae hi’n agos rhwng y ddwy blaid yma – disgynnodd pleidlais Plaid Cymru 0.1% rhwng 2003 a 2007 (i 17.7%) a chynyddu fu hanes y Ceidwadwyr 1.1% (i 16.1%). Synnwn i ddim a welwn batrwm tebyg a dwi’n rhyw amau mai’r Ceidwadwyr ddaw yn ail ar y rhestr yma ymhen mis o drwch blewyn.

O ran seddi felly, yr unig newid alla i ei ragweld yma ydi’r Ceidwadwyr yn cipio sedd ar y rhestr, fwy na thebyg gan y Democratiaid Rhyddfrydol. Ond dydi hynny ddim yn sicr o gwbl. Heb fynd i fanylion y system etholiadol sydd ohoni (sy ddim actiwli mor gymhleth â hynny), yn syml, yn y De-orllewin, rhaid i’r blaid ddaw yn drydydd yma ennill ddwywaith pleidleisiau’r blaid ddaw yn bedwerydd +1.

Caiff y blaid a ddaw yn ail ar y rhestr ddwy sedd yma, heb amheuaeth – ac yn fy marn i y Ceidwadwyr aiff â hi. Felly, rhaid i Blaid Cymru gael dwbl y pleidleisiau a gaiff y Dems Rhydd yma er mwyn ennill yr ail sedd. Y tro diwethaf, cafodd y blaid 28,819 o bleidleisiau a’r Dems Rhydd 20,226. Awgrym y polau ydi cwymp fechan ym mhleidlais y Blaid – dyweder i 26,000 - 27,000, ond bod pleidlais y Dems Rhydd nid ymhell o haneru – yn yr achos hwn mae hynny’n gyfystyr ag 11,000 o bleidleisiau. Dwi’n dueddol o feddwl bod yn rhaid iddyn nhw ennill o leiaf 14,000 o bleidleisiau i fod yn sicr o gael sedd. Dibynna hynny ar y niferoedd sy’n pleidleisio, ac nid oes hyd yn hyn awgrym o’r hyn allai fod o ran hynny. Serch hynny, mi fydd y frwydr am y bedwaredd sedd yn un agos.

O ystyried y polau, gallai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn hawdd gael llai na 14,000 ar y rhestr yma, sy’n ei gwneud yn debygol ar hyn o bryd y caiff Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr ddwy sedd yr un, oni fydd pleidlais y naill neu’r llall yn chwalu.

Proffwydoliaeth:

Ceidwadwyr 2 (+1)
Plaid Cymru 2 (-)
Dems Rhydd 0 (-1)

lunedì, aprile 04, 2011

Pen-y-fan a'r lle

I’r rhai hyddysg yn eich plith, fe wyddoch i Rachub fod ryw hanner ffordd i fyny Moel Faban, sydd fawr fwy na bryn yng nghyd-destun y Carneddau. Ac felly mi dreuliais ddeunaw mlynedd o’m magwraeth hanner ffordd i fyny mynydd. Gall rhai pobl ganu eu bod yn feibion y mynydd. Gesi fy magu ar un – yn ddigon llythrennol.

Pam dwi’n malu cachu am hyn? Wel, achos dwi’n licio mynyddoedd. Mae ‘na ddynas mae Nain yn llnau iddi hi, Mrs Owen, sy’n byw ar lannau’r Fenai yn wynebu ardal Dyffryn Ogwen a chanddi olygfa hyfryd o’r Carneddau a’r Glyderau yn eu holl ogoniant – heblaw bod y sgonsan wirion yn casáu mynyddoedd. Alla i ddim dallt neb sy’n dweud y ffasiwn bethau, mae mynyddoedd ymhlith pethau gorau’r ddaear naturiol. Ond dyna ni, ma pobol Sir Fôn yn meddwl bod Mynydd Parys yn fynydd, er nad ydio fawr fwy na phentwr o gopor yn y bôn.

Does ‘na ‘run mynydd yng Nghaerdydd wrth gwrs; yr uchaf yr ewch ydi drwy wyrthiau mwg drwg neu ddringo i ben Stadiwm y Mileniwm, er na alla i’n swyddogol roi sêl bendith ar yr un o’r ddau beth. Mae’n rhaid dianc o’r ddinas i ddod o hyd i fynydd.

Felly aethasom ddydd Sadwrn tua’r gogledd, gan heibio’r Cymoedd, fel sy’n gall, at ardal Pen-y-fan, mynydd uchaf y De. Ac yntau’n sefyll 886m uwch y môr dydi o fawr fwy na’r hyn y gallai’r Wyddfa ei gachu, ond dyna ni, ei ddringo a wnaethom.

Am fasdad tew sy’n ‘mestyn am smôc bob tro dwi’n clywed y gair ‘heini’, dwi’n hoff o ddringo mynyddoedd. Efallai’r atgofion o losgi eithin ar Foel Faban yn fach ydi sail y peth, nôl yn nyddiau Ysgol Llanllechid, a Meical Hughes yn nôl leitar o Siop Bob yn tua naw oed. Chewch chi’m neud hynny rŵan os dachi’n naw oed; gwirion, yn de?

Neu efallai mai sail y peth ydi fy nghariad llwyr at Foel Faban (er i mi ei llosgi hi...). I fod yn sad a phersonol am eiliad, ben Foel ydi fy lle gorau yn y byd i gyd ac mae bod ar ei phen yn edrych lawr dros Ddyffryn Ogwen hyd Gastell Caernarfon ac ymylon Môn ar y gorwel bob tro’n codi fy nghalon, ac yn gwneud i mi gofio’n ddiamheuaeth pam fy mod i’n genedlaetholwr, hyd yn oed ar dduaf ddyddiau anobeithiol hanes diweddar cenedlaetholdeb y Cymry.

Ta waeth, ‘rôl cerdded am ryw awr a hanner, gan ddisgwyl hanner awr arall yn y broses i adael Ceren i ddal i fyny, mi gyraeddasom.

So, ia, aethon ni i Ben-y-fan a nôl lawr. Iep, dyna’r stori.

mercoledì, marzo 30, 2011

Cymru'n Un II

Rhaid i mi gytuno â’r Hen Rech pan mae’n dod i Cymru’n Un II – no, nefar, byth. Fel mae’n digwydd, dwi’n rhannu ei atgasedd pur at y Blaid Lafur – mae hi’n aneffeithiol, yn hunanol ac yn daeog. Os oes unrhyw blaid yn haeddu diflannu o wleidyddiaeth Cymru am byth, y blaid Lafur ydi’r blaid honno. Yn bersonol, alla i ond â chywilyddu ar y ffaith bod y Cymry’n dragwyddol ailethol y criw di-glem hwn i dra-arglwyddiaethu drostynt.

Serch hynny, diolch i Blaid Cymru, mae Cymru’n Un wedi bod yn gymharol lwyddiannus yn fy marn i. Ond dwi’n meddwl mai dyna diwedd ei lwyddiant o ran Plaid Cymru. Y gobaith oedd y byddai rhywsut yn rhoi hygrededd newydd i’r Blaid ymhlith y Cymry, er prin yw’r dystiolaeth mai dyma sydd wedi digwydd waeth beth fo’r sefyllfa wleidyddol. Cyflawnwyd yr hyn a gyflawnwyd ond dwi’n meddwl efallai bod y Blaid fwy neu lai lle’r oedd hi bedair blynedd yn ôl – yn etholiadol dydi hi fawr gryfach os o gwbl. Dyna awgrym y polau, a waeth pa esgusodion a wneir, dyma oedd hanes etholiadau 2009 a 2010.

Gadawodd John Dixon y Blaid ddoe, gan ddweud yn ei farn o bod y gwahaniaeth rhwng Plaid Cymru a’r pleidiau eraill yn lleihau gormod. Gall neb gyflwyno dadl gadarn i anghytuno â hynny, er nad ydw i’n cytuno â phopeth a ddywedodd. Mae dwy ochr i geiniog y consensws a geir yng ngwleidyddiaeth Cymru heddiw, i Blaid Cymru gellir dadlau mae erydu ei chenedlaetholdeb traddodiadol, angerddol yw’r ochr ddu. Nid yw ei harddull lai tanbaid, mwy saff, yn dda i gyd.

Y broblem ydi ymhlith arweinyddiaeth Plaid Cymru ydi na all amgyffred nad yw pobl yn pleidleisio dros y Blaid oherwydd polisïau, er mor ganmoladwy ydynt, ar addysg neu iechyd neu hyd yn oed yr economi. Rhoddir pleidlais i Blaid Cymru fel mynegiant gwleidyddol o hunaniaeth genedlaethol. Dybiwn i y gallai mwyafrif y Cymry wneud hynny dan yr amgylchiadau cywir. Dydi Plaid Cymru ddim yn ceisio creu’r amgylchiadau cywir. Cenedlaetholdeb yw unig arf unigryw’r Blaid – mae ei gelu yn dacteg dwp a dweud y lleiaf.

Ond yn ôl at Cymru’n Un II. Mae’r fersiwn cyntaf wedi bod o fudd i Blaid Cymru boed hynny dim ond o gael profiad o fod yn rhan o lywodraeth. Ond digon ydi digon. Dwi heb siarad â NEB sydd fel arfer yn pleidleisio Plaid Cymru sydd am weld ail-ddyfodiad y glymblaid bresennol, a hynny oherwydd eu bod am gael llais annibynnol, cryf a chenedlaetholgar yn y Senedd. Gyda’r SNP yn mwy na brwydro’n ôl yn yr Alban, a hynny drwy arddel cenedlaetholdeb, fe fyddech chi’n meddwl y byddai’r Blaid yn gwneud yr un peth. Dim byd tebyg. I aralleirio Kim Howell, dros y misoedd diwethaf, mae Llafur wedi rhagori ar genedlaetholdeb y cenedlaetholwyr. Os gall Llafur wneud hynny, gall unrhyw un.

I raddau, gallai llwyddiant neu aflwyddiant y Blaid eleni ddibynnu ar ddal ei thir. Wnaiff hi mo hynny drwy fflyrtio â Llafur na’r pleidliau eraill. Wnaiff hi mo hynny drwy ddewis pwyll dros dân yn y bol. A wnaiff hi mo hynny drwy gyfaddawdu. Roedd Cymru’n Un yn arbrawf llwyddiannus – profodd y gallai’r Blaid fod yn blaid lywodraethol. Yr her rŵan ydi dod yn brif blaid. A wnaiff hi mo hynny drwy wneud yr hyn sy’n edrych yn bryderus a chynyddol bosibl – clymbleidio’n gyson â’r blaid Lafur.

Yn gryno, dydi’r Blaid ddim yn manteisio o gwbl ar ei sefyllfa unigryw o fod yr unig blaid genedlaetholgar yng Nghymru. Os rhywbeth, mae’n ymddangos fel petai’n mynd i gyfeiriad gwahanol (‘ymddangos’ ydi’r gair pwysig yn fanno, wrth gwrs). Mae John Dixon yn poeni am gyfeiriad Plaid Cymru. Gyda’r bwlch rhwng y pleidiau’n llai, dwi’n poeni y gallai gael blwyddyn etholiadol ddu uffernol.

lunedì, marzo 28, 2011

Y Fwyaren Ddu

Yn ôl pob tebyg mi ddewisais y penwythnos anghywir i fynd adra, ond hynny wnes. Bu’n fwriad gwylio’r gêm yn Pesda efo Sion Bryn Eithin, ac mi aethon ni lawr i’r Bwl, dim ond i brynu peint a sylwi bod y gêm ddim yn cael ei dangos yno. Nac yn unman arall yn stryd, dim ond yn Royal Oak yn Rachub. Erbyn i mi yfed fy mheint a cherad i fyny dim ond tua chwarter awr oedd ar ôl, ac a minnau’n ymwybodol o’r sgôr mynd adra wnes i bwdu, cyn ailfentro i lawr i stryd gyda’r nos. Da ‘di Pesda, ond yn amlwg mae Rachub yn lle llawer mwy cyfoes gan ddarparu Sky Sports 1.

Ta waeth, ar ôl clywed Nain yn absoliwtli malu cachu llwyr fora Sadwrn, mi benderfynais wrth geisio rhoi fy meddwl i arall le ei bod yn amser cael contract efo’r ffôn lôn. Rŵan, dwi byth wedi cael hyn, pay-as-you-go fu gen i erioed, a hynny oherwydd cymysgfa o “dwi’m isho” a “dwi’m angen” ond mae ‘di bod yn ddrud yn ddiweddar felly ffwrdd â mi i Fangor fora Sul yn byrpio cwrw nos Sadwrn i siop Orange i gael contract.

Os oes angen cyngor arnoch i fod yn brynwr cyfrwys, peidiwch â chysylltu â mi. ‘Sgen i fawr o glem efo prisiau giamocs fel gliniaduron, ffonau na dim, achos dydw i ddim yn ymddiddori ynddynt llawer – nes fy mod i’n cael un fy hun, afraid dweud, dwi fel hogyn bach efo tegan tractor newydd wedyn. Beth brynish yn y diwadd oedd Blackberry.

Wel myn ffwc am beth cymhleth – dwi’n styc efo fo am ddwy flynadd rŵan ‘fyd. Ta waeth de, mi gymrodd bron hanner awr i mi gael gwared o predictive text, a dydi’r rhif dal heb newid i’m hen rif.

Y bonws mawr wrth gwrs ydi bod yswiriant colli arno. Felly rŵan ga’i feddwi cymaint dwisho, pryd dwisho, a gwbod y bydd ‘na ffôn arall yn dod ar ei union drwy’r post am ddim. Bydd hynny’n siŵr o safio ffortiwn bach i’r hogyn cyfrwys o Rachub, bydd wir.

sabato, marzo 26, 2011

Geiriau doeth Nain

"Dwi'n licio bwyd blasus, mae o'n tasti iawn. Wyt ti'n licio bwyd tasti?"

"Mae hi 'di bod yn braf felltigedig de"

"Wnes i gyfarfod rhyw hogan o Sir Fôn ddoe Nain"
"O le oedd hi?"
"O Lanrywle, mae 'na lot o llans yn Sir Fôn does?"
"Oes, llan hwn a llan llall, mae o'n sickening"