giovedì, dicembre 29, 2005

2005

Mae'r amser wedi dod imi edrych dros y flwyddyn a fu. Dw i'm yn cofio'i hanner hi achos oeddwn i'n chwil, felly does 'na ddim pwynt imi fynd ymlaen efo hynny. Ond mi gefais i freuddwyd rhyfedd neithiwr ein bod ni (dw i'm yn siwr pwy 'di 'ni', ond fydda fo'n gallu bod yn unrhywun amwni) wedi mynd i dafarn a thalu £2.50 i mynd i fewn ac roedd y peint gyntaf am un geiniog, a dyma fi'n trafod bod hynny, er ei bod hi'n edrych yn dda, yn con. Wedyn dyma fi'n tollti peint Guinness rhywun ar lawr a galw'r boi'n 'miserable old bugger' cyn iddo rhoi weji imi.

Eniwe, 2005. Blwyddyn gymysg. Dw i'm isho gadael coleg. Amser yma flwyddyn nesa' bydda i'n dysgu rhyw shits bach sut i gyfri i gant yng Nghymraeg, tra'n slei-sipian brandi sydd yn y desg, a conffisgetio ffags (a'u cadw). Os bydda i yma mewn blwyddyn - un peth dw i wedi dysgu flwyddyn yma ydi nad yw dim yn parhau am byth, da neu ddrwg (er bod Patrick Moore yn cael diawl o siot arni).

Na, mi fyddaf i yma. Mae 'na lot o feddyliau yn fy nghadw i fynd at hen oes. Dw i am fyw i weld y Gymru Rydd Gymraeg. Dwisho ymddeol. Mae gen i lot mwy o feddwi i'w wneud. Dw isho cyfieithu Lord of the Rings i'r heniaith. Dwisho dysgu Gwyddeleg, mynd i Batagonia a phrynu tafarn a'i alw'n 'Yr Eryr Wen'. Mae'n rhaid imi, er fy myw, losgi ty haf, ennill gradd, ennill cadair mewn eisteddfod leol, efallai. Dw i isho bod yn daid (er dw i'm isho bod yn dad - sy'n eitha problem - sodia plant, medda fi) ac yn hen ddyn afiach sy'n gornel y pyb yn smygu ac yfad ac yn canu iddo'i hun. Dw i angen colli pwysau 'fyd, ennill gwobr Blog Gorau'r Gymraeg 2030 a torri myn arferiad o flynyddoedd o siarad i mi'n hun, ac i bobl eraill sydd ddim yno ar y pryd. Oes 'na derm feddygol i hynny?

Ac os dw i'n llwyddo gwneud hynny oll yn 2006, dachi gyd angen peint imi.

4 commenti:

Mari ha detto...

Ti hefyd angen dechra edrych chydig bach llai fel fi ;-)

Hogyn o Rachub ha detto...

:( Sori Chwadan

(Mi fyddwn yn oni bach am arafwch y cyfrifiadur 'ma - mi fydd hi'n newid pan fyddai'n ol yng Nghaerdydd ... gaddo paddo!!!!) :-D

Mari ha detto...

Hehehe, o leia ma gen ti armadilo cerddorol yn gneud sylwadau! Dwi'n eitha licio'r ego trip deud gwir...

Gobeithio fod Gwawr di bihafio nos galan, oedd hi'n edrych mlaen at ddod acw i greu twrw :-D

Mari ha detto...

(*O.N. Ww! Nes i newid fy llun am bo fi'n licio hetia cowboi a rwan ma na cwaci-siriys a cwaci-cawgyrl ar y dudalen yma! Magniffisynt!)