Mai'n ugain munud i wyth yn y bora. Dw i wedi bod i fyny ers tua chwech er mwyn mynd a Dad a'r chwaer a Mam i'r orsaf drenau ym Mangor achos mae nhw'n mynd i Lundain, felly mae gennai'r hen le 'ma i fi fy hun ac am llawn ddefnyddio'r amser i yfed (dim cweit eto, chwaith).
Fydda i'n cael ysbrydoliaeth weithiau, a fe gefais i rhyw ysbrydoliaeth wrth ddarllen Mynydd Llwydiarth. Dwisho gwybod sut mae pobl yn dod o hyd i fy mlog i a'r pethau mae nhw'n teipio i mewn i peiriannau ymchwil er mwyn dod yma. A bod yn onast, mae 'na gasgliad od iawn. Rachub yw'r gair pwysicaf mewn ymchwil, yn cyfri mewn 38% o'r ymchwiliadau, a Hogyn yn ail gyda tua 30%. Ond mae yno ambell i gyfuniad od wedi bod, yn cynnwys
penmaenmawr (2)
y jiraff
wwwcontiofi
I Fyd Y Faled
lyrics Meic Stevens
lobsgows
sef pump
primark Merthyr
a'r rhyfeddaf oll:
taid Meinir Gwilym
A chyn belled a wyddwn i, dydw i erioed wedi son am daid Meinir Gwilym, heb son am wybod pwy ddiawl ydi o. Penmaenmawr ydi hanner y blog 'ma (sef hangowfyr, dim y dymp o le ar yr arfordir) a mae jiraffs yn cael sylw. Primark Merthyr? Dim syniad, a wn i ddim os oes ganddyn nhw wefan.
Dio'm yn deimlad neis bod mewn ty ar eich pen eich hun. Sneb i olchi fy llestri budron rwan, na chwyno arna i golli pwysau (udodd Nain Eidaleg ddoe: Why you go so fat? You eatin' like a pig?) neu gwneud fy ngwaith. A 'sdim byd i'w wneud am wyth y bora. Trist iawn, ar y cyfan.
Nessun commento:
Posta un commento