Mae heddiw'n ddiwrnod olaf i mi mewn sawl ffordd imi. Byddai yng Nghaerdydd eto yfory, a wedi cael fy ngwyliau olaf 'adra' fel myfyriwr. Sgeri, de? Mewn tua mis bydda i wedi gwneud fy arholiadau i gyd am y tro olaf erioed. Sy'n sgeri. Erbyn hynny bydda i hefyd wedi cael fy narlith olaf (wel, heblaw am rhai cwrs dysgu flwyddyn nesa', lle bydda i'n gorfod bod yn eitha ofalus am be sy'n mynd ar y blog 'ma yn lle cael fy hun neu eraill i mewn i draffarth fel yn ddiweddar!). O leiaf bydda i byth yn gorfod mynd i mewn i lyfrgell eto, mae'n siwr.
Ond dyna ni mae'n rheswm imi gwyno a digalonni. Mae'n rhaid imi gyfaddef fy mod i'n un o'r pobl yma sydd byth yn hapus oni bai bod rhywbeth yn bod neu bod rhywbeth o drafferth neu darcalon imi. Wythnos yma dw i wedi bod ar y cyfrifiadur cyn gymaint fel bo fy mhen yn brifo lot lot o hyd a bu bron imi chwydu bora 'ma (er bod hwnnw lawr i'r ffaith fy mod i'n gwylio Saturday Kitchen a chlywed Anthony Worral Thompson yn dweud ei fod yn chwysu chwartia, ac yn dal i goginio'r cont jinjyr tew).
A dyma fi yma'n awr yn go iawn yn teimlo fod fy nhaith brifysgol yn dirwyn i ben. Mi ddechreuais i flogio yr haf cyn imi fynd i Brifysgol. Tybed os fydd gennai rwbath i'w ddweud flwyddyn nesa??
Nessun commento:
Posta un commento