Ia wir, nos Sul yn Pesda felly dw i'n mynd allan wedyn am ambell i beint i'r Sior. Anegwyddorol byddai peidio. Mae rhai pethau wedi newid yn Rachub ers fy olaf ymweliad: mae'r cyfrifiadur rwan yn mynnu mai'r 8fed o Awst yw hi (yn hytrach na'r pumed y mae hi wedi mynnu ers misoedd a hanner misoedd maith). Mae'n edrych fel bo Plas Ffrancon yn cael makeover, sydd ddim yn ddiddorol ar y cyfan ond mae'n edrych dim ond ychydig bach yn waeth, a myfi ydwyf ddiolchgar am hyn.
Cynlluniau'r wythnos: mynd i Gaerdydd 'fory. Dim ond ddoe ddois i'n fy ol, ond na mae'n rhaid imi fynd i lawr eto er mwyn edrych ar dai. Mae Haydn ac Ellen a fi am fyw efo'n gilydd flwyddyn nesa', sef, o bosib, y tri person lleiaf emosiynol ers Hitler, Saddam a Genghis Khan. Rydym ni'n gymeriadau gwahanol iawn ar y cyfan: rwyf innau'n rhan unigryw o'r triawd oherwydd dim ond y fi fedar dyfu mwstash, Haydn yw'r unig un efo hairy chest ac Ellen yw'r unig un sy'n hoffi sbigoglys ac yn ei fwyta'n gyson. A dyma ni'n byw efo'n gilydd flwyddyn nesa'. Wn i ddim os i grio neu chwerthin ... neu lladd fy hun.
Newydd edrych ar ddafad yn y cae 'cw a meddwl y byddai lamb chop yn neis rwan. Ma'n braf gweld wyn bychain yn prancio o amgylch y caeau yn y gwanwyn yntydi? Codi awch lofruddig ar rywun sy'n un am gig dan siaced wlanog.
Nessun commento:
Posta un commento