Dydw i ddim am smalio i chi, cefais y profiad gwaethaf bosib yn y sinema neithiwr. Gwelais Saw III.
Anghofiwch y cyntaf a’r ail; mae’r rheiny’n pink bunny and pony material o’u cymharu â Saw III. Mae’n ddibwynt o waedlyd, ac mi fyddaf onest, bu bron imi chwydu yn ystod y chwarter awr agoriadol. Nid yw perfeddion a gwaed at fy nant yn y lleiaf, fel yr eglurais wythnos ddiwethaf. Bu imi fwynhau’r gyntaf yn y gyfres; yr ail nid cymaint ond yn falch fy mod wedi ei weld. Mi fedraf ddywedyd â’m llaw ar galon yr edifaraf weld y drydedd ffilm. Roeddwn i’n ypset iawn yn gadael, ac fe ges i noson annymunol iawn o gwsg neithiwr, wedi breuddwydio fy mod wedi cerdded i Langefni i brynu tŷ.
Er mwyn Duw, nad ewch i weled yr hwn ffilm.
2 commenti:
Dwi isio ei gweld hi, garantîd. Ffan mawr o'r ddwy ffilm gyntaf - yn enwedig y gyntaf un. Class o ffilm, efo un o'r diwedds gorau erioed ar y sgrin.
Mins a sos coch plis!
nage ti yw'r unig un boi!
Posta un commento