Gwna i’m smalio fod gen i ryw lawer i ddweud wrthoch chi, oni bai fod y gwaith yn eitha’ da a dw i wedi synnu cymaint faint fy mod i wedi colli trefn diwrnod gwaith. Smaliwn i ddim ychwaith nad oes gronyn o hiraeth gennyf am addysgu. Mae ‘na gornel fechan o ‘nghalon wedi edifar ac yn galaru, ac mae’n boenus. Ond amhara hwnnw ddim ar fy mhenderfyniad bellach, na wnaiff? Casáu'r holl gynllunio a dod adref a gorfod gweithio oeddwn i, wedi’r cwbl.
Nid hynny mohoni, chwaith. Cwrs oedd hwnnw. Hwn ydi’r byd go iawn; ac er holl bwysau addysg (yn enwedig cwrs TAR) mae ‘na rhywbeth cyfyng dyma-dechrau-fywyd math o beth am hwn. Dydi hynny ddim yn deimlad braf yn y lleiaf.
A dyweda’ i wrthoch chi be wnaeth imi sylweddoli hynny; dw i’n gallu sbotio myfyrwyr. Fydda i’n dueddol o gael fy nghinio yn Cathays, ac mae myfyrwyr, er mawr loes a phrudd-der imi, yn edrych yn ieuengach na mi (er eu bod nhw’n dalach), ac yn fudur. A dydw i ddim yn jocian. Wn i paham y mae pobl yn casáu myfyrwyr: cenfigen wenwynig sy’n llosgi yn eu boliau i gael bod fatha nhw. Dyna sut dw i’n teimlo, yn bendant.
Yn dydi hi’n drist ofnadwy mai dim ond chwe mis yn ôl ddaru mi beidio â bod yn fyfyriwr (go iawn), a dw i’n dyheu’n ofnadwy am y tair blynedd a fu ddyfod eto a’m sgubo ffwrdd?
8 commenti:
Dyheu mewn bythol obaith yr ydwyf innau y daws swnami a'th sgubo i ffwrdd!
ma fe'n beth diflas y jawl, hogyn... cunts.
cunts!
damo nhw!
damo nhw'n lân
reit. pub.
dwi wedi cael bon bons i ti
Aaaaaaa! Dwi di cal yr union yr un teimlad ers i mi adael y brifysgol. Y sylweddoliad mod i'n heneiddio. Fyddai byth yn ifanc eto. Fel hyn fydd hi am weddill f'oes?
Posta un commento