Roeddwn i’n cerdded i’r gwaith heddiw a gwelais Haydn ar ochr arall y ffordd yn cerdded i’w ddarlithoedd. Osgo gwael sydd ganddo, mae top ei gorff yn hongian oddi-ar y gweddill ohono. Ac mae Ellen yn cerdded fel pengwin parhaol pissed off am gael ei watwar gan gwmni fisgedi, ac yn ôl y sôn mae gen i dinc o’r hoyw ynof wrth gerdded lawr y stryd; os, yn wir, y cymerir bod Brad Pitt yn hoyw, wrth gwrs.
Fedra’ i ddim disgwyl tan y penwythnos ac rwy’n anelu am y Sadwrn fel llofrudd am dir sanctaidd. Does gan Gymru fawr o gyfle o guro, wrth gwrs, gŵyr pawb hynny, ond mae gwyrthiau’n bosib, wedi’r cyfan, mae gan Blaid Cymru tair sedd yn San Steffan o hyd, er gwaethaf cael Ieuan Wyn Jones yn arweinydd, ac mi gurodd y Tramp y Lady yn y diwedd yn do? Gas gen i ffilmiau efo anifeiliaid yn siarad, fel Babe. Unig bwynt anifeiliaid yw cael eu bwyta a gorau po gyntaf y’i bwyteir i gyd.
2 commenti:
Ti newydd brofi wrth dy gynulleidfa cyfyngedig dy fod yn dilyn Haydn ac yn pyrfio arno yn edrych yn fanwl arno'n cerdded! Ti'n berfyn ac yn waeth tin ffansio Haydn!
'tinc' o'r hoyw - un da wan - HOLLOL hoyw - ti'n cerddad fel merch yn hollol camp yn ysgwd dy ben ol o un ochr i'r llall tra'n chwifio dy freichia, an cerddad yr un mor araf a phensiynwr i fod yn hollol onast efo chdi.
Posta un commento