Prin yw’r pethau yn yr hwn fyd sydd wirioneddol yn rhoi gwên ar fy wyneb neu yn codi’r chwerwder dwfn sydd yn fy nghalon. Coeliwch ai peidio, nid dim ond cyfres o gwynion er mwyn y darllenydd yw’r hwn flog eithr wyneb hadau melltithiol fy mod yn dod i’r amlwg nawr ac yn y man. Chwerw ydwyf, a felly y byddaf hyd fy oes, ond mae gen i ambell i soft spot.
Wel, un, o bosib. Cŵn. Na, dydw i ddim yn hoff o fwnis ac nid fy mhaned mo babanod, ond pan fy mod efo ci dw i’n troi’n wirion ac yn blentynnaidd ac isio gwneud popeth a fedraf er mwyn ei blesio. Mi wnes hynny ddoe cyn mynd allan i’r Rhyng-gol yn Fangor, a brofodd yn fethiant llwyr oherwydd bu imi golli’r tocyn a dalais ddegpunt amdani, a dyfod adref yn fuan, a heb fawr o ots fy mod i wedi. Serch hynny, cyn hynny roeddwn i yn yr ardd efo ci mae Mam yn edrych ar ei ôl ar y funud ac wrth redeg o gwmpas gyda phêl cyn rhoi fy nhroed mewn twll a throi fy ffêr.
Ac mae hi’n brifo heddiw, gyda minnau’n gyrru lawr i Gaerdydd drachefn rhyw ben heddiw, er nad ydw i isio ac y byddwn i’n hapus iawn aros yn y Gogledd am wythnos arall. Yn enwedig oherwydd bod ‘Nhad a Mam a fi wedi cael trafodaeth am dŷ imi flwyddyn nesaf. Rydym ni am geisio safio arian gyda’n gilydd imi fedru ei fforddio, ond y gwir ydi nad allwn ni wneud mewn difri. Dw i’n drist ac yn ddigartref.
2 commenti:
ti BYTH BYTH yn cael dod ar gyful fy nghwn i eto os tin benderfynnol o wneud popeth yn dya allu iw plesio. Ti'n droseddwr rhywiol di-derfyn!
Diolch am gyhoeddi i'r rhyng-gol fod yn fethiant Jas...
Posta un commento