martedì, aprile 03, 2007

Mis i fynd...!

Dw i ddim am smalio fod yn pyndit gwleidyddol da iawn. A dywedyd y gwir, bob tro dw i’n proffwydo mae’n troi allan yn anghywir. Serch hyn, fel efallai y gwyddoch, mae diddordeb gennyf mewn gwleidyddiaeth, a chan fod etholiadau’r Cynulliad fis i ffwrdd, dw i am rhoi fy mhen ar y bloc a phroffwydo popeth.

Aberafan (LLAF)
Aberconwy (PC) – dw i’n mentro bydd proffil Gareth Jones yn ennill hwn i’r Blaid gyda’r Ceidwadwyr yn ail agos; er, ‘sdim cyfle i PC yma mewn etholiad San Steffan
Alyn a Glannau Merswy (LLAF) – cynulliad isaf Cymru
Arfon (PC) – mwyafrif i’r Blaid yn etholiadau’r Bae; agosach o lawer yn San Steffan
Blaenau Gwent (ANN) – iawn, dydi Trish Law ddim byd arbennig, ond fe fydd hi’n cadw’r sedd ar Fai 3ydd
Bro Morgannwg (LLAF) – Ceidwadwyr yn agosáu
Brycheiniog a Maesyfed (DEM RHYDD)
Caerffili (PC) – hwn bydd sioc y nos, gyda Llafurwyr yn mynd at Ron mewn digon o rifau i’r Blaid fynd drwy’r canol
Canol Caerdydd (DEM RHYDD) – gyda mwyafrif cryn dipyn yn llai
Castell-nedd (LLAF) – bydd Plaid yn lleihau mwyafrif Llafur yma a bydd hi’n gymharol agos
Ceredigion (PC) – a bod yn onest, dw i’n gweld Elin Jones yn cadw’r sedd yn gymharol hawdd
Cwm Cynon (LLAF) – Plaid yn crafu’n ôl, ond ddim digon o bellffordd
De Caerdydd a Penarth (LLAF)
De Clwyd (LLAF)
Delyn (LLAF)
Dwyfor Meirionnydd (PC) – nid yn unig yn ddiogel i’r Blaid ond hwn bydd sedd mwyaf diogel Cymru
Dwyrain Abertawe (LLAF) – cynnydd yn y bleidlais Dem Rhydd
D. C’fyrddin a De Penfro (LLAF) – Llafur drachefn, ond mwyafrif llai fyth iddynt dros Blaid Cymru
Dwyrain Casnewydd (LLAF)
Dyffryn Clwyd (LLAF)
Gogledd Caerdydd (CEID) – un gweddol hawdd i’r Ceidwadwyr
Gorllewin Abertawe (LLAF) – ond agosach rhwng Llafur a Plaid
Gorllewin Caerdydd (LLAF) – Plaid yn ail yn bell tu ôl i Rhodri
Gorll. C’fyrddin a Dinefwr (PC)
Gorllewin Casnewydd (LLAF)
Gorllewin Clwyd (LLAF) – dw i am fentro yma y bydd hi’n agos iawn rhwng Llafur, y Ceidwadwyr a’r Blaid, ond bod Llafur yn mynd â hi o drwch blewyn
Gwyr (LLAF)
Islwyn (LLAF) – mae rhai yn dweud bydd Plaid yn adennill hwn. Dim cyfle, yn fy marn onest i.
Llanelli (PC) – bydd Plaid yn cipio hwn o tua mil o bleidleisiau
Maldwyn (DEM RHYDD) – bydd y mwyafrif Rhyddfrydol yma’n llai o lawer
Merthyr Tudful (LLAF)
Mynwy (CEID) – lleiafrif llawer llai i’r Ceidwadwyr ar ôl ymadawiad David Davies
Ogwr (LLAF)
Pen-y-bont (LLAF) – diogel i Carwyn Jones
Pontypridd (LLAF)
Preseli Penfro (CEID) – agos iawn rhwng PC, Llafur a’r Ceidwadwyr, ond ar noson dda mi eith hwn yn Geidwadol
Rhondda (LLAF)
Torfaen (LLAF)
Wrecsam (Cymru Ymlaen) – John Marek yn dal y sedd o fwyafrif llai byth mewn cynulliad isel
Ynys Môn (PC) – Ieuan i gadw hwn OND bydd Rogers yn ei wthio yr holl ffordd; mater o gannoedd o bleidleisiau

Canolbarth Cymru – PC 1, Llaf 1, Ceid 2
Gogledd Cymru – PC 1, Ceid 2, DRh 1
Canol De Cymru – PC 2, Ceid 2
Dwyrain De Cymru – PC 2, Ceid 2
Gorllewin De Cymru – PC 2, Ceid 1, DRh 1

Llafur 25 -4
Plaid Cymru 16 +4
Ceidwadwyr 12 +1
Dem Rhydd 5 -1
Eraill 2 0

A rhywsut, dydw i ddim yn cytuno gyda’r uchod. Ond fe gawn ni weld!!

3 commenti:

Bonheddwr ha detto...

"Llafur 25 -4
Plaid Cymru 16 +4
Ceidwadwyr 12 +1
Dem Rhydd 5 -1
Eraill 2 0"

Ddim yn bell o'r marc, ond ar hyn o bryd fyswn i'n mynd am -

Llafur 25 -4
Plaid Cymru 15 +3
Ceidwadwyr 12 +1
Dem Rhydd 6 0
Eraill 2 0

Felly mwyafrif i Lafur a'r Lib Dems!

Y broblem yw fi'n newid fy meddwl yn ddyddiol! :-s

Bonheddwr ha detto...

ON. Dyw dy flog ddim yn ymddangos yn iawn ar Firefox. Mae'r cefndir glas golau ond yn mynd lawr tamed bach, ac wedyn mae'r gweddill yn las tywyll - yr un lliw a'r dolenni - felly nid oes modd gweld lle mae dolen?!?

Hogyn o Rachub ha detto...

Wn i ddim sut i ymateb, Hedd ... dw i'm yn gwybod beth ydi Firefox mae arna' i ofn ...