Mae’n rhaid i mi ysgrifennu pwt heddiw. Heno fydd y noson olaf yn 437 Newport Road. Heno daw blwyddyn o gweryla, sbigoglys a gwylio rhaglenni ditectif/llofruddiaeth i ben. Mi gyfaddefaf yn syth nad ydw i erioed wedi ffraeo cymaint mewn blwyddyn, er y bu i mi hoffi byw yno, a hynny er gwaetha’r ffaith nad oes neb wedi hwfro ers blwyddyn.
Rydym ni’n mynd allan heno, fel tŷ, i fowlio ac yfed. Ia, dim ond y tri ohonom, megis ménage â trois dig, ar Newport Road. Bydd hynny’n ddiddorol. Byddem yn eithaf aml yn diweddu i fyny gyda’n gilydd ar noson allan ond prin iawn y byddem ni’n mynd allan efo’n gilydd. Ond am Sainsburys. Mi fydda’ i’n methu mynd i Sainsburys ar ddydd Llun neu i brynu sothach. Mae’n ffordd hynod o ymwared ag unrhyw bwysau drwy weiddi ar bawb arall a gwneud sioe.
Ond dyna ni, ar ôl heno dw i’n gorfod aros yn y Bae am ychydig o ddiwrnodau cyn symud i mewn i’r tŷ. Fy nhŷ. Ystyriaf bryd hynny, a phryd hynny’n unig, bod myfyrdod yng Nghaerdydd wedi dod i ben. Finito. Kaput. Sy’n eithaf anaeddfed, a dweud y gwir.
3 commenti:
Dwi wedi mwynhau fy mlwyddyn hefyd - dwi'n meddwl bo ffraeo yn therapeutic iawn ac wedi nghadw i'n sane yno - efallai bydd hyd yn oed deigryn neu ddau ar ol cwpwl o wydreidiau o wîn yn y lle bwolio deg heno! Falle ddim ddo.
* bOWlio deg
Petasai ti'n aderyn buaset yn Bibydd y Mawn
Posta un commento