giovedì, giugno 14, 2007

Yr un hen stori

Dw i’n siŵr fy mod i’n drewi o nwy. Mae’n tŷ ni’n oglau ohono felly dw i’n amau mai dyna ydyw. Byddai’n egluro pam fod ein biliau nwy mor uchel o hyd, a phaham fy mod yn drewi o nwy (fel yr eglurais). A byddai’n egluro pam fy mod i wastad yn flinedig ar y funud? Yn wir, alla’ i ddim coginio dim byd pan dw i’n cyrraedd adref, er bod tymer coginio rhywbeth gwahanol arnaf yn ddiweddar.

Ond pythefnos sydd ar ôl yn y tŷ. Fi di’r unig berson heb sicrwydd o le ar y funud. Gobeithio cael yr arolwg o’r tŷ erbyn diwedd yr wythnos. Os ddim mi fyddaf yn y lwmp mwyaf o gachu ers cynhadledd ddiwethaf y Blaid Lafur, a hoffwn i ddim mo hynny (er ei bod, heb amheuaeth, fymryn yn well na chynhadledd y Blaid Lafur).

Serch hyn dw i’n cadw fy hun yn brysur drwy wylio Big Brother a ffraeo efo Ellen a synfyfyrio y dylwn i fynd i Sainsburys i brynu bwyd i mi’n hun am y penwythnos ond y gwn yn iawn nad af oherwydd fy mod i’n ddiog a dwi’m isio mynd ben fy hun a beth bynnag choginiwn i ddim dros y penwythnos achos dydw i byth yn er bod y cyfle yno.


Mae’n ofnadwy cyrraedd penwythnos a meddwl na hoffech chi wneud rhywbeth. Ar ôl prifysgol dyna feddyliais i a meddyliaf yn eithaf aml. Serch hyn mae dal gwin coch (eitha’ minging) yn y tŷ, a gwell ei gwmni yntau gen i na dim na neb arall yr hon benwythnos. Yr un hen stori; dim pres, dim mynadd.


Er, mi fynegaf fy niléit o glywed y cafodd Lowri Dwd ffrae am wneud dim gwaith yn gwaith. Mi ddylai pawb fod yn falch nad aeth i nyrsio, wedi'r cwbl.

2 commenti:

Anonimo ha detto...

dwi'n mynd i sainsbury's rol gwaith heno loser

Hogyn o Rachub ha detto...

Gyfeillion, Ellen yw'r uchod. Nid yn hapus gyda fy stalkio drwy e-bost a Bebo, dyma hi ar fy mlog yn ceisio fy nenu i Sainsburys!

Braf poblogrwydd ydyw.