Heddiw, bydd yr antur (h.y. gwyriad) ym Mae Caerdydd yn dod i derfyn. Bydd yr hen fywyd ‘ma yn cymryd tro difyr wrth i mi anelu am Grangetown. Dydd Llun bydda i’n berchen ar dŷ. Am y Gogledd â mi heno, cyn dychwelyd ddydd Llun gydag wythnos haeddiannol i ffwrdd o’r gwaith, gyda Mam a Nain yn dyfod i Gaerdydd i’m helpu gyda gwneud y lle edrych yn iawn.
Dw i’m ‘di cael dim ond problemau yn y Bae, sy’n ychwanegu i’r ffaith fy mod i wirioneddol ddim yn gweddu’r lle. Dw i ‘di llwyddo troi y timer dŵr poeth i ffwrdd felly dw i’n gorfod gwneud hynny cyn fy mod isio cawod, ac mae’r popty’n gymhlethach na chroesair Japaneaidd. Dw i ‘di llwyddo toddi handlen y gril, a ddoe mi a’i defnyddiais ar gyfer coginio rhyw fân bryd o fwyd, cyn troi rownd pum munud wedyn a sylwi fod y popty wedi meddalu’r plastic oedd yn ei dal hefyd felly roedd rhaid i mi fynd am sglods yn lle.
Dydi sglods, neu têc-awês am hynny, o unrhyw safon ddim yn hawdd dod ar eu traws yng Nghaerdydd. Roedd un siop sglods da wrth ymyl Newport Road, a dw i ‘di dod o hyd i un yn Grangetown sydd efo naws Eidalaidd i’r lle. Hen le budur ydyw. Dw i’n licio siop sglods budur, mae’n arwydd, rhywsut, o sglodion da.
Dw i dal, dros gyfnod o bedair blynedd, heb ddod o hyd i Tsieinîs da, na Indian (têc-awê) o safon uchel iawn. Pe gwyddoch, rhowch wybod.
Megis y gwynt, mae têc-awê y Gogledd yn well na thêc-awê y De.
2 commenti:
Cheinîs gora ydi Golden House ar Clifton Street - bach, basic, ond hollol wyndyrffwl.
Cyri gora (eto, têc awê yn unig) - Spice Box ar Woodville Road.
Chippy gora - Albany Fish Bar neu Clifton Fish Bar. Oedd XL ar Crwys yn arfar bod yn OK.
Mae'n rhaid i mi gyfaddef nad ydw i'n ffan mawr o'r Albany Fish Bar ond mi fydd yn rhaid i mi drio'r llefydd eraill 'ma i gyd allan!
Posta un commento