Dw i yn Rachub ar y funud, ond nid fy Rachub i mohoni. Mae’r plant i gyd yn siarad Saesneg, a’r dyfodol sydd eiddynt hwy. Mae ‘na fwy o Saeson yma. Saesneg a glywaf gan amlaf wrth clywed pobl yn cerdded yn ôl ar nos Sadwrn. Yn wir, dw i’m yn meddwl fod y Rachub a garaf bellach yn bodoli. Mae’r galon Gymraeg wedi cael ei rhwygo allan, dydi’r hen anian ddim yno. Hwyrach na fy mai i ydyw - yng Nghaerdydd ydw i bellach, dydw i ddim yn cyfrannu dim. Gwnaf, mi ddof yn ôl, ond dylai bodolaeth y Gymraeg yma ddim dibynnu arnaf i a fy nhebyg ddod yn ôl. Dyma’i haelwyd, ei chynefin. Dyma eiddo Cymru.
Mae holl helynt y Cymry yn fy atgoffa o fy hoff lyfr, The Lord of the Rings; efallai dyma pam fy mod yn ei hoffi cymaint. Rydym ni fel yr Elfiaid, i fras-ddyfynnu: “fighting the long defeat ... seeing many defeats and many fruitless victories”. Efallai mai trechiad hirhoedlog yw ffawd y Cymry, wn i ddim. Mae’n teimlo felly weithiau. Cilio yw sail ein holl hanes, a bellach rym ni wedi ei hymwasgu rhwng y llif Eingl-Americanaidd a’r Môr. Mae’r buddugoliaethau i gyd wedi bod yn ddiffrwyth. Addysg Gymraeg? Ni chreodd yr un gymuned Gymraeg ei hiaith. Deddf Iaith? Ni achubodd yr un.
Mi fyddaf yn aml yn poeni’n arw am y Gymraeg: mae’n rhaid mor annatod ohonof fel na fedrwn beidio. Mi fyddaf yn teimlo yn ar wahân weithiau yn hyn o beth, hyd yn oed ymysg fy hil fy hun. Mae llai na hanner y Cymry Cymraeg sy’n bodoli yn poeni am yr iaith o ddifri. Mae llai na hanner y rheini yn codi llais. Mae llai na hanner y rheini yn gweithredu.
Ydw, dw i’n anobeithiol weithiau. Ond dim ond y rheini sy’n anobeithio a all weld gwir obaith, debyg.
6 commenti:
Rwyf inna’n deall dy feddwl ac yn rhannu dy boen ac efallai taw am hwnna, mae’n well gen i fyw yn Llundain ‘ma a chredu bod pob dim yn iawn.
Mae byw mewn ardal Gymraeg a gweld ei dirywiad yn torri calon dyn. Mae clywed pobl fatha Dafydd El wedyn yn gweid bod pob dim yn iawn ac yn well nag y buodd yn hwpo’r gyllell i mewn yn fwy.
Hawdd bod yn obeithiol yn y De-ddwyrain a Chaerdydd ond i weld yr anal yn cael ei sugno mas ohoni lle mae hi'n dal yn iaith fyw yn codi ofn arno i, fel taswn i’n tagu a magu creithiau.
Ond simo’r gêm drosodd eto – ryn ni’n bobl reit gwydn a gobeithio y daw haul ar fryn.
S'mudwch adra ta os di petha mor ddrwg a hynny yn lle jest cwyno o bell a disgwyl i'r sefyllfa wella ei hun. Blydi typical o'r Cymry - digon parod i gwyno on yn gwneud affliw o ddim am y peth.
Dyna dw i newydd ddeud de'r llo?
Tybed?? "...yng Nghaerdydd ydw i bellach...."
Cer o 'ma Dyfed!
Dwin amau bod Efydd wir angen cwmni dynes dda er mwyn cael 'rhyw' fath o ryddhad. Pen Pidyn!!!
Posta un commento