Helo, gariadon annwyl. Nefoedd, dw i’n unigolyn bach annibynnol y dyddiau hyn. Mi es neithiwr yn syth ar ôl gwaith i siopa, gan floeddio Gwibdaith Hen Frân ar hyd a lled y byd (nhw sy’n mynd â’m bryd cerddorol ar hyn o bryd). Ond nid hapus mohonof yn fy ngorchwylion achos does gen i neb i gwyno am y ffaith nad yw’r gril acw yn gweithio. Siomedig iawn. Sylwais i ddim tan yr hwn fore.
Yno’r oeddwn, wedi deffro’n fuan am unwaith, a chael brecwast da, sef adu wy wedi’u potsian a thost. Dydi toster da i ddim canys mai bara go iawn rydwyf i’n ei brynu, nid bara sleis, ac felly dydi o’m yn ffitio i mewn i’r toster, felly beth roeddwn am ei wneud oedd ei roi o dan y gril i’w dostio. Ond ni wnaeth a bu bron i mi losgi hanner fy wyneb i ffwrdd yn ceisio gwneud (yr hanner deliaf).
Felly dw i am ddygyfor y llu a mynnu peint heno. Alla‘ i ddim coelio pa mor araf ydi’r wythnos waith hon, a hithau’n bedwar diwrnod yn unig.
1 commento:
Toes run ochr ddel i'th wyneb dirinwedd a phlaen di! Mae dy wyneb megis papur heb na thwll na llinell arno!
Posta un commento