lunedì, aprile 30, 2007

Edrych ymlaen i ryw lecsiwn a ryw ballu

Dydd Llun. Diwrnod gwaethaf yr wythnos, pan fydd rhywun yn dychwelyd i’r gwaith efo stamp Clwb Ifor Bach dal ar eu llaw, ond gwallt eithaf neis. Ddaru mi fwynhau’r penwythnos a fu yn eithriadol, fel ac y gwnes i’r un flaenorol. Mae Crôl Canton yn newid bach neis o bryd i’w gilydd (er fy mod i’n rhy hen a rhechlyd i fynd ar bob crôl erbyn hyn, wrth gwrs). Dw i heb fod i’r ardal am sesh ers hydoedd.

Clecs? Oes, digon. Ond rhannwn i mohonynt â chwi, canys anghyson a phrin yw fy nghof wedi wyth o’r gloch. Do, chwydais mewn blodau; do, cerddais i’r Mochyn Du gyda Dyfed (a mwynhau ei benmaenmawr ddydd Sul â diléit); do, es i doiledau’r genod yng Nghlwb Ifor (wn i ddim pam).

Yr wythnos hon byddaf yn dda. Nos Iau, mi fyddaf i fyny tan oriau mân y bore yn gweiddi’n groch dros Blaid Cymru (efo paned a chracyrs a chaws) a mynd i mewn i’r gwaith fore dydd Gwener yn sâl isio cwsg ond yn fodlon oherwydd mi fydd hi’n noson dda. Mae unrhyw noson sy’n cynnwys cracyrs a chaws yn noson dda yn fy marn onest i, gan etholiad ai peidio. Ond bydd cracyrs a chaws a chwymp Llafur yn codi gwên ar fy wyneb sarrug, y bydd yn aros yno am sbel go dda…

venerdì, aprile 27, 2007

Calon Uchel

Dydd Gwener ydyw, gyfeillion! Hwrê! Ni fyddaf allan heno, ond dw i’n benderfynol am all dayer ‘fory waeth pa mor sych a chras fy ngwddf. Ac i gael sesh, a gweled Dyfed yn crio yn ei gwrw nad yw Haydn o gwmpas iddo’i gam-drin. Mae Dyfed yn dyheu am fy mywyd dinesig, cosmopolitan, modern yn hytrach na phuteindod sodomaidd Gwalchmai a’r cylch.

Mi es i dŷ’r genod neithiwr am dro, am y tro cyntaf ers hydoedd, a braf weithiau yw cael tŷ heb Dori na Chardi i’w gweld. Er, mi es yn ddig pan glywais fod rhywun yn ystyried pleidleisio i’r Lib Dems, ac os maent yn darllen, mi dorraf bob cysylltiad â thi os gwnei'r ffasiwn beth (oni bai dy fod gwirioneddol eisiau brwsh dannedd am ddim, wedyn mae’n ddealladwy).

Felly mi gymrais frathiad o facwn Llinos (gan honni â chryn argyhoeddiad mai’r gwynt a wnaeth) cyn sgidadlo adref i weld Pawb a’i Farn, a gweld polau piniwn ffafriol iawn i Blaid Cymru neithiwr a bore ‘ma yn y Western Mail (er, roedd gwylio Wales Decides, fel arfer, yn boenus, ond dw i’n licio Gareth achos dydi o ddim yn gwybod dim byd am wleidyddiaeth). Felly mae fy nghalon a’m henaid yn uchel iawn ar y funud. I’r gad!

giovedì, aprile 26, 2007

Tonsiliau

Mae fy nhonsils yn goch a dw i’n poeri’n eurgoch. Mi ofynnaf i’r fferyllydd amser cinio beth y maent yn ei argymell. Dw i isio bod yn well i Crôl Canton ddydd Sadwrn. Tai’m yfed fel hyn.

martedì, aprile 24, 2007

14:05 - Meddyliau

Dw i’n ffycin flin. Mae’r arwerthwyr tai ‘di ffonio i ddweud bod un tŷ o’n i’n fod i mynd i weld heno wedi mynd yn barod! Mae hynny’n ddigalon iawn, iawn.

Dw i dal i dagu ‘fyd, ond hapus o’n i yn gweld dau wylan yn cael rhyw uwchben y siop perlysiau Tsieniaidd ger y Central Bar. Dw i ddim cweit yn dallt sut mae adar yn cael rhyw, a dweud y gwir.

10:24 - meddyliau

Heddiw dw i’n sâl; dw i wedi blino ac mae fy ngwddf yn teimlo fel y Sahara ar ddiwrnod penodol o boeth (o bosib Mehefin 23ain). Mae hyn oherwydd na fu imi fynd i gysgu tan ddau neithiwr, a byddwn i wedi mynd i'r gwaith yn hwyrach ond am y ffaith fy mod yn gweld tai am 5.30 heddiw. Dw i’n mynd â Haydn gyda fi, yn y gobaith y bydd ei bâr o lygaid yntau yn fwy craff na’m rhai i. Mi welaf i beth y mynnaf fel rheol. A dyna’r ffordd iawn i unrhyw un o’r naws call i fod.

Efallai y dylwn wedi cael mwy nac iogwrt i frecwast. O Lidl, cofiwch. Lidl a Sainsburys y byddaf i’n mynd. Mi es neithiwr, ben fy hun, gydag Ellen yn côr yn canu neu rywbeth, a Haydn yn diogi (mi fedraf ddweud beth y mynnaf am Haydn rŵan achos dydi o ddim yn darllen fy mlog i mwyach achos mae crynswth o’r crap wedi’i anelu yn ei gyfeiriad o). Fe fyddaf innau’n hoff o frecwast go iawn, o wy a bacwn a thost a ffa pob a phwdin gwaed. Yn wir, mi a’i bwytawn bob dydd pe cawn.

Er mwyn i mi deimlo’n well dyma restr fer o bethau dw i’m y licio:

- garddwyr
- rhoi sanau ar yn syth ar ôl cawod
- technoleg stiwpid am yr haul o brifysgol Aberystwyth
- Gateaux


Mmmm, y rhyddhad…

lunedì, aprile 23, 2007

Y Cyri

Iawn bobls? (Mae Haydn yn dweud hynny ar y funud ac yn gwylltio pawb. Nid cŵl mohono yn y lleiaf) Mi fentraf fynd i mewn i hanes fy mhenwythnos ond gan fy mod i’n awr yn 22 fedra’ i ddim cofio llawer. O gwbl. Yn enwedig pan ydwyf mor feddw â hynny. Ond mi es i Clwb ac o gwmpas y City Arms a Model Inn mwy neu lai ben fy hun drwy’r nos, yn dychryn ac yn synnu pawb yn y cyffiniau. A dw i dal efo stamp Clwb Ifor arna’ i bora ‘ma. Cawod amdani heno, mi gredaf.

Ond mi ges ddiwrnod eithaf da ddoe, o ystyried pa mor sâl oeddwn i. Treulio’r diwrnod gyda Haydn Blin ac Ellen Blin a Rhys Ioro (oedd yn flin efo Indian twp) a wnes. Wedi peint neu ddau ar hyd a lled y ddinas fe gawson ni gyri o Albany Road, gyda’r Indiaid yn bendant wedi eu dinistrio achos doedden nhw methu â helpu eu hunain rhag chwerthin pan aethon ni o ‘na.

Felly y bu, ac am y tro cyntaf erioed dyma’r tri ohonom (a Rhys, wrth gwrs, oedd wedi cael gormod o ddiod, fel pa Sul bynnag sydd) yn eistedd o amgylch yr hen fwrdd dderw yn y gegin yn bwyta, ac yn hunanfodlon iawn o weld bod Haydn wedi dewis y bwyd anghywir eto, fel pob tro.

Tipyn o Stâd a gwely. ‘Misho gweithio. Mae gweithio'n crap.

giovedì, aprile 19, 2007

Fy mhen-blwydd a phroffwydo Canol Caerdydd (dyna anodd...)

Penbwl hapus i mi,
Penbwl hapus i mi,
Penbwl hapus i’r Hogyn,
Penbwl hapus i mi.

Rhyfedd, dw i’m yn teimlo’n ddwy ar hugain; dim ond ychydig bach yn llwglyd a bod angen cawod arnaf. Ond allwn i ddim gwneud popeth ar unwaith. A dywedyd y gwir i chi, dw i’m isio sôn am fy mhen-blwydd, dydi pen-blwydd ddim yn rhywbeth y byddaf i’n hoff iawn ohoni. Y peth amdanaf fi ydi, er fy mod i’n hoff hynod o sylw, mae hynny’n gorfod bod ar fy nhelerau i o hyd, ac mae fy mhen-blwydd, ysywaeth, y tu allan i fy rheolaeth.

Derbynnir anrhegion yn amodol.

Eniwe, tri chariad sydd gen i: Cymru, gwleidyddiaeth a Lord of the Rings (dw i ddim yn hollol siŵr sut y mae’r olaf yn ffitio mewn â’r ddau arall). A dw i am fentro fy llaw ar broffwydoliaeth eto; ond un mwy penodol.

Mae’r ddwy etholaeth sy’n rhan o fy mod yn rhai diogel yn y Cynulliad; Arfon i Blaid Cymru (Martin Eaglestone? Mae gen i fwy o siawns orchuddio fy hun mewn mêl a pheidio cael fy nhreisio gan Winnie the Pooh na sydd gan Martin o gael ei ethol yn Arfon), a Chaerdydd Canol, a minnau’n byw yn Y Rhath ar hyn o bryd. Mi fentraf broffwydoliaeth fechan i Ganol Caerdydd.

Mae arwyddion yn arwydd (ha!) dda o weld sut y mae pethau’n mynd. Hyd yn hyn, y Democratiaid Rhyddfrydol sy’n ennill, ond dydyn nhw ddim o llwyth; mae 'na lawer iawn o arwyddion Llafur o gwmpas (ac un Plaid Cymru ar Albany Road; dim byd i’r Ceidwadwyr hyd yn hyn). Fe’m synnwyd gan hynny; mae hwn yn un o’r seddau y byddwn i’n ei ddisgwyl i Lafur ildio - ond dw i wedi cael ambell i bamffled ganddyn nhw a’r hen Liberals (pob un yn uniaith Saesneg, afraid dweud). Ond dydyn nhw ddim i weld fel eu bod. Maen nhw’n edrych fel bod nhw’n cael yr arwyddion i fyny ac yn cael pobl i ddosbarthu eu llythyrau.

Mae’r Rhyddfrydwyr yn amhoblogaidd yn y cyngor, ac er bod Llafur yn amhoblogaidd beth bynnag peidiwch byth â diystyru eu pleidleiswyr craidd; y rheiny na fyddant yn troi allan i bleidleisio yn y Cymoedd, ond oherwydd eu bod mewn sedd nad yw bellach yn Llafur, fe ânt nhw i bleidleisio. Mi fetia’ i rywbeth. A’r gwir amdani ydi, bydd y myfyrwyr ddim yn boddran pleidleisio mewn rhifau mawrion.

Peidiwch byth â diystyru'r bleidlais Lafur craidd. Y nhw a rhoddod gic-owt i'r Blaid yn Rhondda ac Islwyn yn 2003, a hynny heb fawr o reswm oni bai mai o frîd Llafur Craidd oedd y rhan fwyaf o'r pleidleiswyr. Ddaw hi ddim at hynny yng Nghanol Caerdydd, ond nodwch ar y bleidlais hon.

Does gan Plaid ddim cyfle. Mae ‘na lawer iawn o fyfyrwyr Cymraeg yn yr ardal, ond yn fy mhrofiad i pleidleisio drwy’r post yn y gogledd a’r gorllewin y maen nhw. Ond mae’r Gymraeg yma; yn ôl rhywun dw i’n ei adnabod sy’n gweithio i’r cyngor mae llawer mwy o ffurflenni wedi eu cwblhau’n Gymraeg yn dod o’r rhan yma o’r ddinas na fyddai rhywun yn disgwyl.

Trahaus, a ffôl, yw dweud y bydd siaradwyr Cymraeg yn pleidleisio Plaid; ond maen nhw’n debycach o wneud hynny na phleidleisio dros neb arall. Mae ‘na gymuned Fwslimaidd amlwg yma hefyd, a hyd y deallwn i mae’r Blaid â chefnogaeth yn eu mysg.

Felly dyma fy mhroffwydoliaeth ar gyfer Caerdydd Canol: 34.7% yw mwyafrif y Democratiaid Rhyddfrydol ond byddwn ni’n gweld gogwydd i Lafur fan hyn, yn crafu eu hunain yn ôl yn araf bach. Nid wyf o’r farn y bydd y Rhyddfrydwyr yn hawlio dros hanner y bleidlais y tro hwn.

Bydd y Ceidwadwyr yn statig, a Phlaid yn cynyddu mymryn, ac os mae UKIP yn cadw eu deposit mae’r Wyddfa yn gaws.

mercoledì, aprile 18, 2007

2 + 2 = 22

Felly dyna ni, blwyddyn gron. Yfory mae ieuenctid â’i holl ryfeddodau go wir yn dirwyn i ben. Fe fydda’ i’n ddwy ar hugain.

Mae 21 yn flwyddyn fawr, yn ôl y sôn. Fe fu i mi, rhwng graddio, methu’n llwyr yn hyfforddi fel athro a datblygu hoffter gwirioneddol o gaws. Mae’n flwyddyn a mwy ers Prâg, tair blynedd ers y pen-blwydd bythgofiadwy yn Senghennydd (rhywle y byddaf i’n mynd heibio bob dydd, yn gwneud dim ond yn fy atgoffa o’r hen ddyddiau da). Ond mae 22 yn drothwy i rywbeth arall, yn fy marn i; mae rhywun (myfyrwyr yn benodol) yn dechrau gweithio, yn meddwl sut beth fyddai cael lle nhw’u hun. Mae ysgol wedi hen fynd, a phrifysgol ond yn gof, a beth sydd i edrych ymlaen at ond dros ddeugain mlynedd o waith (ac, er gwaetha’r honiadau, dydych chi fawr gwell o fedru Cymraeg a byw yng Nghaerdydd).

Ie, deugain mlynedd o wgu ar bobl Metro, a gwylio fy ngwallt yn teneuo’n fwy fyth (mai’n ddigon ffycin denau fel mai) a 'ngolwg yn pallu mwy. A dydw i’m yn berson iach, cofiwch, rhwng fy mhen glin, fy ysgwydd a’m problemau cysgu.

Ie, dwy ar hugain. A oes nodwedd benodol i’r oed hwnnw, neu ai fi sy’n mynnu cwyno?
Duw, mae ‘na bob amser 23…

martedì, aprile 17, 2007

Yr Argyfwng Tai ... a fi

Chi’n gwybod be? Dw i YN sdresd. Yn ofnadwy. Dim ond heddiw y mae hi wedi taro mai tri mis sydd gen i ar ôl yn y tŷ a bod angen un newydd arnaf. Mi ranna’ i fy meddwl efo chi, mae’n helpu fi i setlo.

Pan welais i’r tŷ ddydd Sadwrn dim ond un afiach oedd o, gyda thenantiaid un tŷ cae rhoi mynediad i ni a’r llall, oedd fy nghalon arni yn Grangetown, wedi ei werthu. Ni ffoniodd yr arwerthwr tai neithiwr fel yr addawodd, felly dw i mewn penbleth. Mae pethau fel hyn yn cymryd amser i’w gwneud, a ‘does gen i fawr o hynny erbyn hyn.

Prin y gallaf i fynd dros £130,000, a hynny gyda deposit etifeddiaeth gan Mam a Nain. Ac, yn dweud hynny, hyfforddi ydw i ar y funud felly dydi fy swydd i ddim ymysg y sicrhaf, mae’n siŵr. Mae pethau fel hynna’n fy mhoeni i’n arw; dw i bob amser yn meddwl bod ‘na saciad neu fil ar y ffordd (ac mae meddwl felly yn fy nghadw i ar flaenau ‘nhraed, sef yn union le ydw i’n hoffi bod). Dim peth cefn gwlad ydi methu â phrynu lle i fyw, mae'n ddigon cyffredin yn y ddinas 'fyd.

A lle i fyw, yn de? Fedra i ddim symud yn rhy bell o ganol Caerdydd, felly dw i wedi pennu Grangetown, Riverside, y Rhath a Sblot fel llefydd i fynd i (a Threganna, sy’n rhy ddrud o lawer gwaetha’r modd).

Dydi’r sefyllfa dai ddim yn deg. Dw i’n ifanc a dw i isio dechrau bywyd gyda thŷ digonol a swydd iawn. Ydi hynny’n gofyn gormod?

(gan ddweud hynny mae wastad rhywbeth yn dod fyny i mi; dw i’n argyhoeddedig bod rhywun, neu rywbeth, fel banana mewn ffoil angylaidd, yn edrych ar fy ôl yn sicrhau nad af i ar ormod o gyfeilion … hyd yn hyn)

lunedì, aprile 16, 2007

Nid blog gwleidyddol mo hwn. Cofier.

Â’r etholiad yn dyfod, dw i’n brysur yn chwilio’r we o hyd am y newyddion diweddaraf, er mae’n debyg bod ambell i berson yn rhestru'r blog hwn fel un gwleidyddol. Dydi o ddim, wchi. Bydda i’n dweud rhyw ambell i beth gwleidyddol (e.e. mae Lib Dems i gyd yn bwyta Muesli, Toris yn dirfeddianwyr cas sy’n saethu pobl dlawd a Llafur ... wel, doniol ydynt yn y bôn) o bryd i’w gilydd.

Ond trown o faterion y dydd at bethau pwysicach fel fy mywyd i, a bod yn onest i chi. Roeddwn i yn y Bae ddydd Sadwrn, gyda Rhys y dyn moel a Sioned yr hogan foel (mae hi’n gwisgo wig, medda’ nhw), a does gwell na pheint wrth ddŵr yn yr haf (er gwaetha’r ffaith nad ydyw’n haf a hefyd bod y dŵr wrth ymyl tafarn Y Lanfa yn farwaidd, gyda dim i’w gweld ond am hen long fudur a chraen budur, a gwylanod) ac mi ges liw haul o ryw fath.

Serch hyn, prin fod haul a’r Hogyn yn gyfeillion. Dros y blynyddoedd diwethaf, ers symud i Gaerdydd a dywedyd y gwir i chi, mae clwy’r gwair wedi fy meddiannu rhywfaint. Ond mae hi’n waeth flwyddyn yma, ac mae’n llygaid i’n goch ac yn fawr ac ar y funud dw i’n edrych yn eithaf tebyg i hyn:

Heb y gwallt sinsir. Diolch i Dduw. Ro’n i’n trio darllen llyfr neithiwr, yn sbectols i gyd, a phrin yr oeddwn yn gallu gweld. Dwy dabled cysgu yn ddiweddarach ac mi gysgais cyn ddyfned ac y byddwn i fwy na thebyg yn ei wneud mewn gig Genod Droog, am unwaith.

Mi es hefyd i chwilio am dŷ ar y wicend heb fath o lwc, felly mae hynny’n pwyso’n drwm arna’ i, gyda llai na thri mis ar ôl ar Newport Road. Digartref byddwyf â chlwy’r gwair. Casáu bywyd; mae o’n dwat.

venerdì, aprile 13, 2007

Prudd-der byw

Rydych chi o’r farn fy mod i’n berson cwynfanllyd, yn dydych chi (er nad yw eich barn o’r mymryn lleiaf o ddiddordeb i mi)? Dw i am gwyno rŵan, a chwyn hir a thrist bydd hwn, a hynny oherwydd nad ydw i’n hapus o gwbl heddiw a dweud y gwir yn onest i chi.

Do, mi es i dorri fy ngwallt neithiwr. Dw i’n ei gasáu â chas perffaith. Mae’n rhy fyr; ac er fy mod i, yn ôl rhai, yn dueddol o edrych ychydig yn well gyda gwallt byr (yn y modd y mae cachu efallai’n edrych ychydig yn neisiach na chwŷd) dydi o jyst ddim yn fi a dydi hi byth wedi bod pan fy mod i un ai wedi cael fy ngorfodi, neu drwy eiliad wallgof wedi ei dorri. A dw i’n drist, a dydw i ddim yn teimlo fel fi fy hun.

Pan dorrwyd gwallt Samson gollodd yntau ei gryfder, ac yn raddol mae fy hyder innau’n diflannu heb wallt. Ac wrth gerdded o’r siop trin gwallt ddoe byth erioed a deimlais y math baranoia ‘mae pawb yn edrych arnaf’. Bu’n syndod i mi mai bron â thagu dagrau a wnes yr holl ffordd adref, a, nadw, dydw i ddim am fynd allan y wicend ‘ma chwaith o’r herwydd fy mod i’n teimlo mor wirion.

Ychwaneger i hynny'r ffaith bod cael teulu i lawr yn sdresio fi allan ac nad ydw i’n cysgu ar y funud, a bod miloedd o eiriau yn syllu arnaf - lle trist a sâl ydyw’r byd i mi ar y funud. Trist, sâl, di-wallt. Newyn Ethiopia a thaith yr Iddewon drwy’r anialwch dyfod drosof cyn hyn. Betia’ i fod ganddyn nhw fwy o wallt. Ond debyg nad ydi rhywun ei angen yn y rhan honno o’r byd, chwaith.

giovedì, aprile 12, 2007

Twat gwallt

Dw i’n teimlo dros y boi RAC ar Heol y Frenhines (Queens Street i chi a mi). Fe fu’r lle yn lloches iddo, ond daeth yr AA yno yn llu a bellach ni welir mohono. Ond does ots gen i, AA ydw i efo.

Medaf i ddim cyfleu fy niflastod llwyr heddiw. Mae’r gwaith yn erchyll. Chefais i mo fy ngeni i gyfieithu. Dw i’m yn siŵr o ddiben fy modolaeth, chwaith, ond mi ddyfalaf ei bod yn cylchdroi o amgylch hufen iâ.

Dw i’n nerfus hefyd. Dw i’n cael fy ngwallt wedi ei dorri wedyn. Ac ni o farbwr. Gyda’r chwaer i lawr mi benderfynodd hithau bod angen makeover arnaf i. Mae hi ‘di dewis steil gwallt newydd i mi. Mae hi ‘di bwcio lle yn Tony & Guy’s p’nawn ‘ma i mi. Edrych fel twat fydda i erbyn diwedd y dydd, mi fetiaf fy holl eiddo arno (sydd yn cynnwys fy CDs Dafydd Iwan a het lwyd o Awstria).

Penderfyniad. Ewyllys. Aberth. Nôl at y gwaith.

mercoledì, aprile 11, 2007

"I'm a Naughty Boy in the World"

Dw i byth yn peidio â rhyfeddu ar sut y mae bywyd yn lluchio rhyfeddodau fel hyn ataf o hyd er mwyn eu hadrodd i bawb; ond dydw i ddim yn ddiolchgar amdani.

Fel rheol mae’n well gen i gerdded na chymryd tacsi. Er hyn, wedi mynd am fwyd efo’r teulu neithiwr, a hwythau i lawr yng Nghaerdydd am sbel, mi gefais dacsi i’r Bae er mwyn gwneud y cwis, fel pob nos Fawrth (aflwyddiant arall y bu er y gwelwyd gwella yn ein safle a’n gwybyddiaeth cyffredinol). Ond tacsi a gefais.

Dyn Arabaidd oedd y gyrrwr. Dim byd annaturiol am hynny, meddyliais. Roedd hynny tan iddo ddechrau taro’i fol a gweiddi “Fat! Fat” – a chymryd dim diddordeb fy ymatebion i (ysywaeth, nid peth angyffredin o mo hynny). Wedyn, dyma fo’n dechrau canu rhyw gân byrfyfyr (mi dybiaf) a gynhwysodd tôn gron o “I’m a Naughty Boy in the World”. Mi fentraf mai cân byrfyfyr ydoedd; wn i ddim pwy ddiawl byddai’n canu y math beth, wrth i mi edrych drwy’r tacsi i’r awyr yn gweddio am achubiaeth rhag y dyn.

Wedi nifer iawn o’r bennill, a phwyntio at butain yn y stryd a gofyn i mi “Do you like these girls?” (ac na oedd fy ateb, a gaf i gadarnhau) dyma fo’n fy ngollwg yn nhafarn Y Wharf. “£500. Not a penny less. Hah! £5. Get out of my taxi. See you next year”.

Ar fy myw na wnei, meddyliais, wrth fynd i brynu peint.

martedì, aprile 10, 2007

Tywynna'r haul drwy'r swyddfa

Amser cinio caf faguette, ac wedi hynny Lucozade a Boost i’m cadw i fynd drwy’r p’nawn. Anghenfil glwcos wyf y prynhawn, yn dyheu am awyr las a gweirydd gwyrddion.

lunedì, aprile 09, 2007

Arogl yr Afon

Fe fu’n benwythnos da. Bu imi ei fwynhau. Does gwell nag ymweliad â Gogledd Cymru, anheddle angylion.

Dw i’n mynd nôl am Gaerdydd heno. Wedi penwythnos mor hir a hapus prin iawn fy mod i isio mynd i’r gwaith yfory, ond ysywaeth 24 awr i rŵan fe fyddaf yn cyfieithu drachefn. Dw i wedi cadw fy hun yn brysur cofiwch. Mi es i Gaernarfon fore Sadwrn i brynu Diwrnod Efo’r Anifeiliaid, yn ogystal â CD Wil Tân i Nain. Fe soniem am y peth ddydd Gwener, wrth iddi fynnu yr hoffai glywed “CD newydd Sam Tân”.

“Dwyt ti’m yn rhy hen i hynny, Nain?” gofynnais
“Nadw i, mae o’n 40,” atebodd hithau, cyn inni ddatrys y pos.

Y prynhawn hwnnw mi es i bysgota gyda’r Dyn a Elwir yn Dyfed (DED). Yn anffodus bu i’r DED ddewis pysgotfan eithriadol o wael, a’r mwyaf a ddaeth i’m rhan oedd sefyll ar granc. O leiaf bu i’r DED ddal cranc - cyn sefyll arno. Eironig ydoedd. Ac nid pleserus oedd gosod y blow-worms ar y bachyn; cânt yr enw oherwydd eu tueddiad i ffrwydro'r munud y cyffyrddant unrhyw beth siarp.

Diog o ddiwrnod y caf cyn dychwelyd i’r ddinas. Bu imi atal yn nhoiledau Ganllwyd nos Iau ar y ffordd i fyny, wrth yr afon a chanfod fy mod yn cofio sut mae afon yn arogli. Dw i’m yn dweud celwydd. Ydych chi bobl y ddinas yn cofio sut arogl sydd ar afon? Anghofiais i.

Casgliad o bethau bychain yw bywyd. Dydi arogl afon fawr o beth, ond pan mae’n rhan annatod o’ch bod sydd yn amlwg wedi’i cholli mae yn dy daro yn dra chaled.

giovedì, aprile 05, 2007

Diwrnod Hira' 'Mywyd

Dw i’m am smalio y medra’ i wneud gwaith heddiw. Mae’n heulog a dw i’n gyrru i’r Gogledd heno yn syth ar ôl gwaith (sbïwch fi’n blogio’n gwaith yn ddrwg i gyd - ond mae diwygiadau i lwybrau troed Ceredigion yn troi ar rywun yn rhyfeddol o sydyn), ac mi fyddaf yno erbyn 11 er mwyn cael gweld pôl piniwn HTV. Mae hyn yn drist.

Mae pobl Metro yn dal i fy hambygio ar y ffordd i’r gwaith. Hyd yn oed pan dw i’n cerdded tu ôl i’r rhywun (côc yn din o agos) maen nhw dal yn llwyddo i stwffio papur o fy mlaen i a datgan “Metro?”. “Dim diolch” bydda i’n ei ddweud bob tro. Fel arfer, wrth ddweud “diolch” yng Nghaerdydd fe fydd ar hyd y llinellau “Thank you diolch yn fawr”, oherwydd mae’n bwysig dweud ‘diolch’, jyst er mwyn dangos bod ‘na Gymry Cymraeg o gwmpas y lle, yn ogystal â Phwyliaid a Somalis. Ond pan fyddaf mewn tymer drwg, rhyw dim diolch hunanfodlon a swta a ddaw o’r genau i ganlyn targed fy llid. Prin iawn fy mod i isio siarad Saesneg pan fo tymer drwg drosof; rhywsut mae naws y Gymraeg yn addasach o lawer o ran llid a dirmyg.


Gas gen i fod yn y gwaith pan fo rhywbeth gennych chi i wneud ar ôl gwaith a ti bron â marw isio’i gwneud hi. Fe fydd yn ddiwrnod hir. Safwch gyda mi yn y bwlch, gyfeillion; deuwch ataf i’r adwy.

mercoledì, aprile 04, 2007

Y Fi Fawr Wleidyddol

Wel, dyna ni. Rhois fy mhen ar y bloc a darogan beth fydd yn digwydd yn 2007, er yn anffodus dydw i ddim yn gweld Plaid Cymru yn curo hyd at 16 sedd. Dw i yn, fodd bynnag, yn gobeithio’n arw na fydd Llafur yn cadw ei mwyafrifoedd enfawr, dall; na fydd y Ceidwadwyr yn torri tir newydd ac y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn chwalu. Pa ddiffygion bynnag sydd i’r Torïaid a Llafur (ac mae cyfrolau bethau yn hyn o beth, a chrynswth i Blaid Cymru hefyd), o leiaf bod gronyn o egwyddor a choelio yn eu credoau. Dw i’n gwrthwynebu Llafur oherwydd eu hagwedd dirmygus tuag at y Gymraeg; y Toriaid, oherwydd eu bod nhw ar ochr dra gwahanol i’r sbectrwm gwleidyddol imi, ond mae fy ngwrthwynebiad i’r Democratiaid Rhyddfrydol yn seiliedig ar eu dimbydrwydd llwyr fel mudiad gwleidyddol.

Serch hynny, dw i’n amau mai anghywir oedd y datganiad isod wrth edrych eto bore ‘ma. Ond mi sticia’ i iddo. Mae fy ngwleidyddiaeth i, sydd wastad wedi bod yn rhan o fy mywyd, wedi ei seilio ar ffydd ddall.

1997 oedd pan ddaru mi dechrau cymryd diddordeb mewn gwleidyddiaeth, a buddugoliaeth Llafur. Dw i’n cofio, yn 12 mlwydd oedd, gobeithio o waelod f’enaid mai’r Ceidwadwyr fyddai’n ennill. Tori bach oeddwn i, yn hoff o’r teulu brenhinol a Phrydeindod. Diolch i Dduw y daeth fy nglasoed yn ddigon sydyn.

Mi fflyrtiais gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol am sbel hir (mae ‘fflyrtio gyda Democrat Rhyddfrydol’ yn swnio’n ddiflas iawn, ond yn ddoniol pes gwelir rhywun arall yn gwneud a methu dianc o’r sefyllfa) cyn ymsefydlu’n Bleidiwr wedi imi fynd am brofiad gwaith i swyddfa Dafydd Wigley yn ’99, cyn ymuno efo’r Blaid y flwyddyn wedyn. Dw i’n cofio bryd hynny doeddwn i ddim yn or-hoff o’r syniad o annibyniaeth, ond rŵan dw i gyda’r mwyaf brwd drosti, er y gwreiddiodd fy nghariad yn y Gymraeg yn fuan yn fy mywyd, wrth i mi fynnu i Mam fy mod i’n falch o Chwarel y Penrhyn oherwydd “dyna’r unig reswm fod yr iaith Gymraeg yn fyw”. Ffeithiau anghywir, calon dda (hanes fy mywyd ymhob maes).


Ddim yn ddrwg am hanner Sais efo sblash o Eidalwr, nac ydi?

martedì, aprile 03, 2007

Mis i fynd...!

Dw i ddim am smalio fod yn pyndit gwleidyddol da iawn. A dywedyd y gwir, bob tro dw i’n proffwydo mae’n troi allan yn anghywir. Serch hyn, fel efallai y gwyddoch, mae diddordeb gennyf mewn gwleidyddiaeth, a chan fod etholiadau’r Cynulliad fis i ffwrdd, dw i am rhoi fy mhen ar y bloc a phroffwydo popeth.

Aberafan (LLAF)
Aberconwy (PC) – dw i’n mentro bydd proffil Gareth Jones yn ennill hwn i’r Blaid gyda’r Ceidwadwyr yn ail agos; er, ‘sdim cyfle i PC yma mewn etholiad San Steffan
Alyn a Glannau Merswy (LLAF) – cynulliad isaf Cymru
Arfon (PC) – mwyafrif i’r Blaid yn etholiadau’r Bae; agosach o lawer yn San Steffan
Blaenau Gwent (ANN) – iawn, dydi Trish Law ddim byd arbennig, ond fe fydd hi’n cadw’r sedd ar Fai 3ydd
Bro Morgannwg (LLAF) – Ceidwadwyr yn agosáu
Brycheiniog a Maesyfed (DEM RHYDD)
Caerffili (PC) – hwn bydd sioc y nos, gyda Llafurwyr yn mynd at Ron mewn digon o rifau i’r Blaid fynd drwy’r canol
Canol Caerdydd (DEM RHYDD) – gyda mwyafrif cryn dipyn yn llai
Castell-nedd (LLAF) – bydd Plaid yn lleihau mwyafrif Llafur yma a bydd hi’n gymharol agos
Ceredigion (PC) – a bod yn onest, dw i’n gweld Elin Jones yn cadw’r sedd yn gymharol hawdd
Cwm Cynon (LLAF) – Plaid yn crafu’n ôl, ond ddim digon o bellffordd
De Caerdydd a Penarth (LLAF)
De Clwyd (LLAF)
Delyn (LLAF)
Dwyfor Meirionnydd (PC) – nid yn unig yn ddiogel i’r Blaid ond hwn bydd sedd mwyaf diogel Cymru
Dwyrain Abertawe (LLAF) – cynnydd yn y bleidlais Dem Rhydd
D. C’fyrddin a De Penfro (LLAF) – Llafur drachefn, ond mwyafrif llai fyth iddynt dros Blaid Cymru
Dwyrain Casnewydd (LLAF)
Dyffryn Clwyd (LLAF)
Gogledd Caerdydd (CEID) – un gweddol hawdd i’r Ceidwadwyr
Gorllewin Abertawe (LLAF) – ond agosach rhwng Llafur a Plaid
Gorllewin Caerdydd (LLAF) – Plaid yn ail yn bell tu ôl i Rhodri
Gorll. C’fyrddin a Dinefwr (PC)
Gorllewin Casnewydd (LLAF)
Gorllewin Clwyd (LLAF) – dw i am fentro yma y bydd hi’n agos iawn rhwng Llafur, y Ceidwadwyr a’r Blaid, ond bod Llafur yn mynd â hi o drwch blewyn
Gwyr (LLAF)
Islwyn (LLAF) – mae rhai yn dweud bydd Plaid yn adennill hwn. Dim cyfle, yn fy marn onest i.
Llanelli (PC) – bydd Plaid yn cipio hwn o tua mil o bleidleisiau
Maldwyn (DEM RHYDD) – bydd y mwyafrif Rhyddfrydol yma’n llai o lawer
Merthyr Tudful (LLAF)
Mynwy (CEID) – lleiafrif llawer llai i’r Ceidwadwyr ar ôl ymadawiad David Davies
Ogwr (LLAF)
Pen-y-bont (LLAF) – diogel i Carwyn Jones
Pontypridd (LLAF)
Preseli Penfro (CEID) – agos iawn rhwng PC, Llafur a’r Ceidwadwyr, ond ar noson dda mi eith hwn yn Geidwadol
Rhondda (LLAF)
Torfaen (LLAF)
Wrecsam (Cymru Ymlaen) – John Marek yn dal y sedd o fwyafrif llai byth mewn cynulliad isel
Ynys Môn (PC) – Ieuan i gadw hwn OND bydd Rogers yn ei wthio yr holl ffordd; mater o gannoedd o bleidleisiau

Canolbarth Cymru – PC 1, Llaf 1, Ceid 2
Gogledd Cymru – PC 1, Ceid 2, DRh 1
Canol De Cymru – PC 2, Ceid 2
Dwyrain De Cymru – PC 2, Ceid 2
Gorllewin De Cymru – PC 2, Ceid 1, DRh 1

Llafur 25 -4
Plaid Cymru 16 +4
Ceidwadwyr 12 +1
Dem Rhydd 5 -1
Eraill 2 0

A rhywsut, dydw i ddim yn cytuno gyda’r uchod. Ond fe gawn ni weld!!

lunedì, aprile 02, 2007

Castell uwch Mynydd Parys

Felly, dyna ni. Mae’r Haydn wedi mynd adref, a fi ac Ellen sydd ar ôl yn yr hen dŷ annwyl ar Newport Road. Ond ddoe mi ges i’r diwrnod mwyaf unig yn hanes fy mywyd. Roedd Ellen yn Aberystwyth, efo côr neu ryw beth felly, a minnau yn gorfod ymddiddori fy hun drwy fwyta. Roedd yn fewnwelediad eithaf trist o sut y gallasai bywyd ben fy hun fod; hynny yw, a minnau’n ceisio prynu tŷ erbyn mis Mehefin. Er, mae ambell i fonws, megis cadw drws y lle chwech ar agor wrth biso, a chanu i mi fy hun.

Y nos a ddaeth, a gwylio A Nightmare on Elm Street a wnes. Tila ydwyf yn y bôn; tu ôl i’r cadernid gwryw, gadarn hwn mae creadur meddal Dairylea-aidd yn trigo, sydd ddim yn licio pethau sy’n mynd bymp yn y nos na sbwnjys. Mentraf ddweud bod y coedydd y tu allan i’r tŷ yn gwneud eu gwaethaf i ddod i mewn neithiwr.


Serch hynny, dw i’n edrych ymlaen at y penwythnos hir sy’n dyfod a chael mynd i’r Gogledd am sbel. Dw i angen ychydig o awyr iach, mynyddoedd a pizza call; a dywedyd y gwir dw i’n byw ar gyfer teithio i’r Gogledd ar y funud. Hynny a phan fyddwyf yn byw ar gastell uwch Fynydd Parys.