Fi ydi fi ydi fi. Un o’m hoff ddileits hunanol ydi peidio ailgylchu. Rwan, dydi ailgylchu ddim yn beth hwyl ond mae’n beth pwysig i’w wneud. Fydda i ddim yn ailgylchu mae arna’ i ofn. Mae hyn oherwydd dau reswm: y cyntaf yw nad oes lle am ddau fin (h.y. bin nid min) yn tŷ acw; yr ail ydi dwi’n licio cythryddu hipis plaid werdd trî-hygars organig angen ‘u sgwrio’n iawn â sebon ecowariars feji-figans ffrî Tibet libral nytars mediteshyn byth-yn-lladd-pryfaid potheds caru windchimes math o bobl.
Ac Y Fi ‘di ffycin diffiniad goddefgar.
3 commenti:
Yn syth i uffern a thi. Dwi'n ailgylchu. Ti'n slai ar hipis budr!
Bron i mi dagu ar fy miwsli'n darllen hwn y basdad bach hunanol!
Oes cysylltiad rhwng Hipîs a Natsiaeth?
Roedd Hitler yn Hipi. Ffaith
(nid yw hon yn ffaith)
Posta un commento