Un o isafbwyntiau fy mywyd, yn ôl Lowri Dwd (fy ffrind trwyniog a chyffredinol amhwysig), oedd pan iddi fy nghanfod ryw nos Iau yn Senghennydd yn f’ystafell ben fy hun, efo botel o fodca hanner llawn yn fy llaw a ‘Pawb a’i Farn’ ar y teledu. Os gofynnwch i mi, ac ni wnewch, mae hwnnw’n gyfuniad bendigedig, ac â chithau’n slyrio ac yn annealladwy rydych chi’n teimlo mewn cwmni da gyda gwleidyddion. Anaml y byddaf yn cwrdd â gwleidyddion, cofiwch, er y gwnes ddydd Gwener ddiwethaf yn Shorepebbles (lle y byddaf yn treulio llawer gormod o amser erbyn hyn). Mi ges drafodaeth ddiddorol gyda gŵr sy’n aelod amlwg iawn o Blaid Cymru yng Nghaerdydd, nad ydw i am ei enwi oherwydd nad ydi hynny’n bwysig.
Wrth gwrs, roeddwn i’n feddw a wn i ddim sut y deuthum i drafod gwleidyddiaeth (sy’n beth trist i’w drafod yn sobor heb sôn am yn feddw). Mi siaradodd lawer o synnwyr, er na chytunais â phopeth a ddywedai, a dweud yn ddiffuant ei fod yn gwbl gefnogol i’r Gymraeg a Chymru annibynnol. Ond mi barodd un peth a ddywedodd bryder mawr i mi. Soniais fy mod yn pryderu am gyfeiriad cenedlaetholgar y Blaid, a’r ateb a gefais oedd, ‘I am not a nationalist’.
Mi darodd hwnnw fi fel y byddai Orig Williams yn ei wneud petawn i’w alw’n “bwff” (neu, o bosibl, “nansi bwoi”). Er popeth a ddywedwyd, a’r synnwyr a gefais, i fi mae rhywun ym Mhlaid Cymru yn dweud hynny yn dangos popeth sy’n gwbl, gwbl anghywir am y mudiad yn y lle cyntaf, er mae’n rhaid i mi ddweud, yn fy marn i, os ydych chi’n credu mewn Cymru rydd ac yn gefnogol i’r Gymraeg (dwi’m yn cofio i ba raddau y datblygodd y drafodaeth honno, ond dwi’n cofio anghytundeb ynghylch i ba raddau y dylid ystyried y ddeddf iaith – yn gyfan gwbl, ddywedais i, beth bynnag), rydych chi’n genedlaetholwr.
Ond mae rhywbeth mawr o’i le pan ddywed rhywun sy’n amlwg yn rhengoedd prif blaid genedlaetholgar Cymru yn dweud ‘I am not a nationalist’. Wn i ddim beth y byddai Gwynfor neu Saunders neu helaeth aelodau’r Blaid yn y gogledd a’r gorllewin yn ei wneud o glywed un o’u cyd-aelodau’n dweud hynny, ond mi roddaf fet i lawr y gallai fod yn destun trafod, a dweud y lleiaf.
1 commento:
Dwi'm yn meddwl bod y gwleidydd ma'n dallt be yw cenedlaetholdeb na beth yw fod yn genedlaethwr.
Siŵr bod yr unigolyn yma'n cael ei ddylanwadu gan gyhoeddiadau Trinity Mirror, ac yn gweld cenedlaetholdeb fel facade i dorcyfraith a phethau annifyr erill.
Os mae'r person yma'n ymladd dros fwy o hawliau i Gymru a'r Gymraeg, ene mae'n genedlaethwr. Os na byse'r gwleidydd ma'n aelod o Blaid Cymru, ene mae'n bosib ei alw'n wladgarwr gan nad yw'n ymladd i roi plaid penodol mewn pwer.
Posta un commento