Cân y funud ydi ‘O ble gest ti’r ddawn?’. Mae gan bawb wastad cân y funud y mae ganddynt obsesiwn â hi. Mae pawb yn hoff o’u cân y funud; mae’n ysbrydoli ac yn rhoi gwên i rywun, ‘blaw os rhyw Emo ydych chi a’ch bod chi’n gwrando am ryw lwmp o gân am hunanladdiad neu’i thebyg. Nid fy mod i’n gwybod beth ydi Emo, ond dwi’n gwybod taswn i yn un, mi fyddwn yn un hen.
Rhywbeth arall, fodd bynnag, ydi’r Gân sy’n Cylchdroi yn eich Pen. Mi all hon fod yn unrhyw beth ac mae’n mynd ar nerfau rhywun fatha Sais cofiwch. Yr un diweddaraf i wneud ei thaith o amgylch fy mhen am ryw bythefnos oedd anthem genedlaethol Ffrainc.
Y dacteg, yr unig dacteg, i gael y Gân Gylchdroi allan o’ch pen ydi ei chlywed yn ddidrugaredd o aml a dysgu’r geiriau. Go iawn. Ac ydi, mae hynny’n golygu fy mod wedi dysgu anthem genedlaethol Ffrainc, sydd, os nad yw’n unrhyw beth arall, yn ddiawledig o randym, hyd yn oed o’m safonau i. Nid dyma’r unig dro i hyn ddigwydd, wrth gwrs.
Y Gân Gylchdroi waethaf a mwyaf cywilyddus aeth drwy fy mhen i, a hynny am ddeufis da, oedd I Know Him So Well gan yr erchyll Barbara Streisand a’r un arall ‘sneb yn gwybod ei henw. Wel, dwi ddim, ac at ddiben y flog hon, fi ‘di pawb. Waeth bynnag. Ar ôl noson feddw yn y Model Inn mi ganodd Ellen a Llinos, y cyd-erchyllterau ac ydynt, y gân hon ar y carioci. Wel, dyna ddiwedd arni i mi; yn y gwely gyda’r nos, wrth gyfrifiadur y gwaith, mi gylchdrôdd, mi ailadroddodd, nes bron â dwyn fy mhwyll yn llwyr - nad yw’n beth anodd o ystyried cyn lleied gennyf sydd.
Yn ffodus, mae gen i Limewire, ac mae Youtube wastad yna i mi pan fydd y sefyllfa erchyll yn codi. Mae’r rhai o’r caneuon ar fy nghyfrifiadur yn warthus o randym a chrap erbyn hyn, ac nid o reidrwydd oherwydd fy mod yn hoff o gân ond oherwydd, weithiau, fy mod yn ei chasáu. Dyna ni. Wn i ddim pa gân ddaw nesaf i’m hunllefu, ond mi ddaw ac mi fydda i’n flin am fis go dda.
2 commenti:
Am gelwydd noeth! I Know Him So Well oedd yr un o ychydig o ganeuon oedd gen ti ar dy ffon ymhell cyn ei chlywed hi yn y Modle Inn! Nid cwl yr ydwyt!!
Celwydd noeth dy hun! Aeth ar y ffôn wedi'r perfformiad, heb os nac oni bai!!
Posta un commento