Un o wychaf bethau ein hannwylaf iaith ydi’r gallu i alw enwau ar bobl sy’n gwbl ddiniwed ac eto’n cyfleu cymaint. Mae’r Saesneg yn wych am hyn hefyd i raddau helaeth ond mae ‘na rhywbeth mwy gwirion am y Gymraeg, sy’n gwneud iddi ragori.
Faint o fath o fwydydd y gellir sarhau rhywun yn Saesneg gyda hwy? Lemon, wrth gwrs, ond gallwn ni alw rhywun yn lemon yn Gymraeg. Ac yn nionyn. Ac yn dorth. Ac yn sgonsan (ffefryn Nain a’m ffefryn diweddar). Ac, wrth gwrs, yn ben rwdan. Allwch chi ddim mynd rownd Lloegr yn galw rhywun yn onion, loaf na’n scone (dwi byth yn cofio be ‘di rwdan yn Saesneg).
A beth am dwmffat? “Beth ti’n gwneud y twmffat?” / “What are you doing you funnel?” – penderfynwch chi p’un sydd orau.
Gallwch chi alw rhywun yn unrhyw beth dal haul yn y Gymraeg ac fe’i cyflëir mewn ffordd ddoniol, lled-sarhaus ond eto cyfeillgar – dychmygwch alw rhywun yn “hen gwpan wirion” neu’n “be sy dy haru di’r draenog?” – fe fyddent yn codi gwên yn hytrach na dwrn.
Ond yn ôl y draenog, mae anifeiliaid yn gallu bod yn faes cyfoethog a diddorol i alw enwau yn Gymraeg: colomen/sguthan, cranc, mul, cranci mul (cyfuniad!), brân, iâr, mochyn, hwch, ci, ast, deryn – ond onid ydi hi’n rhyfadd, yn Gymraeg, bod galw rhywun yn fath o anifail bron yn ddi-eithriad sarhaus iawn, ond eto chymerech mohono â’r sarhad a fyddai’n briodol gyfatebol yn Saesneg?
Gallwn wrth gwrs barablau ‘mlaen am hyn, ond dyna un o gryfderau’r Gymraeg i mi. Mae hi’n iaith fach gyfeillgar a hyblyg, y mae ei geiriau’n gwneud fawr o synnwyr ond yn golygu cymaint.
4 commenti:
Gwych.
A buwch a llo. A hen hwrdd twp. A cheiliog a chadno ac yn y blaen!
Yr ieithoedd sy'n deillio o'r Lladin sydd ora fel Ffrangeg, Sbaeneg ayb. Mae bron pob un vegetable yn yr ieithoedd 'na yn gallu cyfeirio at yr organau rhywiol :)
Yr un gore yw 'clust'. e.e. Be ti'n neud y Clust Uffarn. Gwych!
Y Wiwer Hud
===========
Wiw - er - huuuuuu
Duw - yw - wiwwwww
Er - hyn yw - SATAN
copyright Y Wiwer Hud.
Posta un commento