Dwi’n casáu Take That. Cofiaf yn ysgol fach eu bod nhw wedi sblitio, a daeth Llais Ogwan i’n dosbarth ni yn ysgol i gael gwybod ein barn. Yn bur ryfedd, ‘doedd Take That ddim yn boblogaidd iawn yn Ysgol Llanllechid, oni fo ‘nghof yn ddiffygiol. Dwi’n dweud hynny achos yn ystod y cyfweliadau gyda Llais Ogwan dywedodd bron pawb nad oeddent yn edifar tranc y band, a phan gyhoeddwyd y rhifyn roedd barn Jarrod efo llun ryw hogan uwch ei ben, yn dweud JARROD ROBERTS oddi danodd. Chwarddasom.
Ar ôl hynny mi aeth y drygi tew i wneud gyrfa lwyddiannus iddo’i hun ac ni chlywsom am y gweddill tan, wel, echddoe, yn fy achos i. Roedd ‘na gig Take That yn Stadiwm y Mileniwm nos Fawrth. Ro’n i wedi anghofio am hyn.
Dwi’n gyrru i’r gwaith drwy’r wythnos, ac ar y gorau o adegau dwi’n yrrwr blin, oni fo Hogiau’r Wyddfa’n lleddfu ‘nhymer. Ni leddfasant yr Hogyn wrth iddo gymryd tri chwarter awr i gyrraedd Grangetown yn ei gar, gan yngan ‘ffycin Take That’ iddo’i hun a diffodd y radio, gafael yn dynn am yr olwyn lywio a gwgu. Byddai wedi cymryd llai petawn wedi cerdded, a byddwn wedi gwneud pe bawn hysbys o’r sefyllfa.
Wrth drafod amser cinio ddoe cefais glywed bod Take That yn chwarae eto’n y stadiwm neithiwr. Meddwn i ddim ar y wybodaeth hon ac felly wedi gyrru i’r gwaith eto, ac felly’n cael pnawn cyfan i gorddi am y daith o’m blaen ar ôl gwaith. Mi es ffordd wahanol, yn hunanfodlon fy smygrwydd am fod mor ddoeth ag arallgyfeirio.
Ni weithiodd, ond o leiaf y cefais gyfle i wylltio ar drywydd gwahanol, a fu fawr o gysur ar y pryd, ond mae ‘ngwên yn llai chwerw wrth i’r ail daith honno lithro’n araf bach i’r gorffennol gwyll.
1 commento:
Dwi'n eilio dy teimladau am Take That.
Roedd gas gen i nhw pan oeddwn i'n yr ysgol ag nawr mae nhw'n dynion canol oed yn ceisio adfyw ei llwyddiant dwi'n casau nhw yn fwy nag erioed.
Dylsa bob CD Take That (ag Celine Dion) cael ei atafaelu ag dylsa pawb gyda un cael ei addysgu am beth yw cerddoriaeth da!!
Posta un commento