lunedì, settembre 14, 2009

Hanes Sinistr Moel Faban

Dwi ddim yn meddwl i mi erioed ysgrifennu blogiad heb wirioneddol fod isio, ond dwi am wneud hyn, ac yn ôl pob tebyg fe fyddwch yn meddwl fy mod i yn, wel, nytar. Wn i ddim a ydw i’n gall i ysgrifennu hyn, chwaith. Dwi ddim yn gwybod sut i ddweud yr hyn dwi isio’i gyfleu, a beryg mai neges flêr fydd hon, ond ers ei glywed mae o’n fy hambygio a fedra i ddim peidio â dweud.

Mae’n wybodaeth gyffredin, yn ôl fy neall, ar hyn o bryd yn Nyffryn Ogwen bod ‘na bethau rhyfedd a sinistr yn mynd ymlaen ar lethrau Moel Faban y dyddiau hyn. Nid fanno’n unig, ychwaith, ond at ganol y Carneddau eu hunain. Adroddaf yn ôl yr hyn a glywais.

Dechreua’r hanes a glywais gyda fy chwaer a’i chariad. Ddydd Mercher diwethaf, y 9efd o Fedi, roedd ‘na sŵn pibgod (bagpipe) yn canu ar Foel Faban. Mae gan gariad fy chwaer fwy o gelloedd retina na phobl eraill, sydd i bob pwrpas yn golygu y gall weld yn llawer gwell a manylach na’r rhan fwyaf ohonom, ac nad eryr mohono, a hefyd yn dda iawn yn y nos. Gŵr mewn cilt ganai’r bibgod ac roedd ‘na sawl cân i’w clywed, o Amazing Grace i Galon Lân. Gwelsant bobl yn mynd i mewn i Dwll Beryl ar Foel Faban, ac o amgylch y mynydd.

Felly aeth fy chwaer a’i chariad at y mynydd i chwilio.

Yn dilyn y pibgodiwr roedd pobl, nifer o bobl, llawer gyda chlogynau, yn dilyn y bibgord gan nodio’u pennau, gan fwy neu lai anwybyddu’r chwaer a’i chariad. Yn ôl y chwaer roedd ar ambell un fathodyn, sef yn ei hôl hi fathodyn y Seiri Rhyddion. Wn i ddim a ydi hynny’n wir mewn difri ac a ydi hi’n andabod y nod, ond dyna ddywedodd.

A hithau’n nosi roedd nifer ohonynt wedi croesi Cwm Llafar a thua Gyrn Wigau, a hynny ar gryn gyflymder, yn mynd at grombil mynyddoedd y Carneddau, rhai gyda chlogynau, rhai gyda llusernau. At ba ddiben, wn i ddim. Pwy ddiawl fyddai am dreulio noson yno, heb offer na dim, wn i ddim, ond alla’ i ddim smalio i hynny fy anesmwytho’n eithriadol ben ei hun. A dyn ag ŵyr, dydi hyd yn oed y rhai sy’n adnabod pob deilien wair arnynt ddim yn gwybod hanes calon y Carneddau yn nyfnder y nos.

Yn ôl Dad mae o’n credu iddo glywed y bibgodau yn canu o’r blaen ar y mynydd. Wn i ddim faint yn ôl oedd hynny chwaith. Yn sicr, er na fedraf yn bersonol gadarnhau hyn ar hyn o bryd er y gwnaf os gallaf, mae cerrig ac esgyrn defaid wedi’u gosod mewn ffurfiau mewn rhai mannau penodol.

Ond nid dyna’r diwedd. Mae Mam yn ffrind i un o’r dynion sy’n edrych ar ôl merlod gwyllt y Carneddau o’i wirfodd, un o’r ychydig rai, ynghyd ag ambell i ffermwr wrth gwrs, sy’n treulio cryn amser ar y Carneddau. Rŵan, nid fy mwriad ydi bod yn or-ddramatig fel petae hyn yn rhywbeth o ffilm, ond yn ei eiriau ef nid yw’r mynyddoedd mwyach yn lle i fynd ar eich pen eich hun – mae o’n dweud bod pethau rhyfedd ar waith yno.

Dywedodd stori wrthi, sydd rai blynyddoedd nôl bellach am wn i, am rywbeth y bu iddo ef a’i dad weld yno un nos, rhywbeth a fyddai fel rheol yn rhagfarnllyd yn erbyn ‘pobl od’ er diffyg disgrifiad gwell – pobl noethlymun yn dawnsio o amgylch coelcerth, i gyd off eu pennau. Nis gwelwyd ef na’i dad ganddyn nhw, ond mae meddwl bod rhwybeth felly actiwli yn digwydd, ac nid yn anwiriad, yn, eto, amesmwythol.

Mae cariad fy chwaer, efo’i olwg ragorol, yn dweud iddo weld pobl yn y nos yn crwydro ar Foel Faban. Y mae’n wir i hofrennydd yr heddlu sawl gwaith erbyn hyn lanio ar y mynydd, yn agos at Dwll Beryl, a chwilio yno, cyn ymadael eto.

Seiri Rhyddion, gorymdeithiau gyda’r hwyr a llusernau yn y mynddoedd, dawnsio noeth o amgylch y tân, pibgodau – mae’n swnio fel un rhagfarn fawr neu ffilm arswyd. Ond dyna hanes y Carneddau ein dyddiau ni. A thro nesa’ y byddaf i yn Rachub, y peth cynta dwi am ei wneud ydi mynd i fusnesu (wrth gwrs!). Mae’r mynyddoedd hynny i mi yn rhywbeth sanctaidd, ac mae gweld unrhyw amhuro arnynt yn fy mrawychu yn ddirfawr.

8 commenti:

y prysgodyn ha detto...

Onibai dy fod yn crybwyll i'r pethau hyn ddigwydd yn y gorffennol hefyd, mi fyddwn i'n dweud fod gen i syniad be sy'n digwydd yno.

y prysgodyn ha detto...

gyda llaw, onibai am y 'Seiri Rhyddion', be sy'n od, neu'n anghywir yn y gweithgareddau eraill (pibgodau, dawnsio rownd tan etc)?

(Blogiad difyr iawn, iawn, gyda llaw)

Hogyn o Rachub ha detto...

"Anghywir" - wn i ddim. Fi sydd efo tueddiad stwbwrn i beidio ag ymddiried mewn pethau nad ydw i'n eu dallt. Fydd na'm newid arna' i fel hynna sti, ond o'm rhan i o'n i'n ffendio'r holl beth yn sinistr, mae'n anodd iawn gen i drio egluro drwy ysgrifennu mae arna'i ofn.

O ran od, dwi'n meddwl y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn ei ystyried yn od, dyna'r farn fel dwi'n ei dallt hi, beth bynnag. Dwi heb syniad be sy'n digwydd, dyna pam y bu i mi ysgrifennu.

Fedra i ddim crybwyll i rywbeth tebyg digwydd yn y gorffennol, bydd rhaid i mi holi am hynny. Hefyd, fel ddywedais i, dwi methu cadarnhau'r seiri rhyddion, fy chwaer ddywedodd hynny - ffendia i am hynny heno a rhoi gwybod 'fory os ga'i gyfle.

Hogyn o Rachub ha detto...

Gyda llaw mi fedrai gadarnhau'r sôn am nodau'r Seiri Rhyddion ar ddillad rhai o'r bobl

Anonimo ha detto...

Swnio i fi bod y Lib Dems yn twymo lan ar gyfer eu cynhadledd nesa!

y prysgodyn ha detto...

be yn union ydi nod y Seiri Rhyddion? Ai'r peth compass 'na? Sut mae'r llygad dystion yn gwybod? Ydyn nw wedi bod ddigon agos at y bobol i weld y nod yma yn iawn?

Siwr na ddim nod derwyddol ydi o, yr hwn mae derwyddon cyfoes yn ei alw yn Awen, sydd yn fwy cyfarwydd i lawer o Gymry fel nod cyfrin yr eisteddfod? Digon hawdd cymysgu'r ddau nod o bell.

Ers faint mae hyn wedi cychwyn? Ti'n awgrymu yn dy bost fod dy dad ac eraill wedi gweld pethau yno yn y gorffennol, ond ti'n rhyw groes-ddweud hynny yn dy sylwadau.

(chei di ddim jysd gollwng dirgelwch fel hyn fel yna, siwr! ;-) )

Hogyn o Rachub ha detto...

Argol un busneslyd wyt ti!

Mi fedra i gadarnhau nod y Seiri Rhyddion (y peth compass) gan fod fy chwaer a'i chariad yn ddigon agos at y bobl i'w weld. Er, mi fyddai'n syniad i mi gadarnhau hynny hefyd rhag ofn - fyddai fy chwaer na'i chariad yn gyfarwydd â nod Awen.

O ran 'y gorffennol' dwi'n amau bod y dawnsio o amgylch y tân yn ar wahân a flynyddoedd nôl - o ran y pibgodau peth eithaf diweddar ydi hynny mae'n debyg.

Dwi ddim yn meddwl bod y syniad eisteddfodol yn dal dwr o ystyried y caneuon a ganwyd ar y pibau, na'r heddlu'n busnesu. Fydda i yn Rachub mewn llai na phythefnos felly fyddai'n busnesau fwy bryd hynny - it ain't over!

y prysgodyn ha detto...

Dwi ar y Carneddau fory, digwydd bod.