Wn i ddim pryd y bu i’m meddwl newid o Saesneg i Gymraeg – rhywbryd yn fy arddegau mae’n siŵr. Dwi’n gwybod yn iawn pan yn iau, a hyd yn hyn ers dros hanner fy myw, mai yn Saesneg yr oeddwn i’n meddwl.
Mae pa iaith rydych chi’n meddwl ynddi yn rhan annatod iawn ohonoch. Drwy feddwl mewn iaith, rydych chi’n byw yn yr iaith honno. Fel un a fagwyd mewn cymuned Gymraeg ro’n i bob amser yn siarad Cymraeg ond prin iawn a feddyliwn ynddi, ac felly roedd ei phwysigrwydd yn goll arnaf a’m teimladau tuag ati’n ddigon ddi-hid. Gan ddweud hynny, un o’m hatgofion cyntaf a minnau’n ddigon iau o hyd i gydio’n ffedogau’r Fam, oedd amddiffyn golwg Chwarel y Penrhyn rhagddi hi, gan honni mai dyna un o’r unig resymau yr oedd y Gymraeg yn fyw.
Ro’n i’n gorddweud, sy’n rhywbeth dwi byth yn ei wneud, ond yn amlwg roedd ‘na rywfaint o dân ynof bryd hynny. Ond pryd newidiais at feddwl yn Gymraeg, dydw i ddim yn gwybod.
Ro’n i’n arfer siarad yn Saesneg gyda Nain, ac Anti Blodwen hefyd, ond yn fy arddegau ac am ba reswm bynnag dechreuais gyfathrebu’n Gymraeg â hwy, a hwythau’n ddau o gewri Buchedd Iason, fel yr enwir y ddrama anochel amdanaf wedi’m tranc. Tua phryd hynny ro’n i’n wirioneddol mwynhau astudio Cymraeg yn yr ysgol, ond hyd yn oed ar ddechrau’r brifysgol dwi’n rhyw hanner cofio lithro i Saesneg meddyliol ambell waith.
Erbyn hyn fydda i’n meddwl yn Gymraeg drwy’r amser i’r fath raddau na fyddaf bron byth yn siarad Saesneg yng Nghaerdydd nac ychwaith yn bwriadu gwneud, a phan fydd yn rhaid gwneud, gwneud hynny’n wael. Ers ychydig flynyddoedd, o drafferthu meddwl am y gair Cymraeg, bydda i’n cael trafferth meddwl am y gair Saesneg bellach.
Dim ond ychydig funudau nôl ‘doeddwn i methu’n glir â chofio beth oedd ‘afresymol’ yn Saesneg. Tra nad ydi hynny ynddo’i hun yn afresymol am wn i, mi wnaeth i mi feddwl y bu’r daith ynof o feddwl yn Saesneg i beidio â chofio gair sylfaenol yn yr iaith honno yn un ddigon hir – ond dwi’n eitha balch fy mod i wedi’i gwneud hi.
2 commenti:
Yn y Gymraeg y byddaf yn meddwl yn naturiol - ond mi fedraf wneud yn y Saesneg os wyf angen gwneud hynny.
Yn Saesneg y byddaf innau'n meddwl, ond dw i'n medru mynd rhwng y Saesneg a'r Wyddeleg.
Posta un commento