Dwi ddim am roi fy marn ar oblygiadau posibl ethol Carwyn Jones ddoe, na chwaith sôn am y dasg enfawr sy’n ei wynebu i adfer Llafur yng Nghymru. Yr oll a fynegwn yw yn fy marn i na fydd yn llwyddo yn y pen draw – er na fyddai un o’r ddau arall wedi ychwaith. Mae cymaint o broblemau gan y blaid mae’n anodd dychmygu Barack Obama a llond basged o blwtoniwm yn llwyddo ei hadfywio.
Ond daeth un meddwl i’m rhan. O’r pedwar arweinydd plaid yn y Cynulliad, dim ond un y gallech chi ei ddweud yn gwbl sicr y caiff ei ethol yn 2011, sef Kirsty Williams. Dydi o ddim y tu hwnt i’r dychymyg y gallai’r tri arall golli eu seddau.
Yn etholiad arweinydd Llafur, dim ond Huw Lewis y gellir dweud â sicrwydd a gaiff ei ethol – fydd neb yn disodli Llafur ym Merthyr yn o handi. Mae mwyafrif Edwina yn llai na 1200 a mwyafrif Carwyn tua 2500, gyda’r Ceidwadwyr yn bygwth yn y ddau. Yn wir, petai Llafur drwy ryw wyrth yn ennill etholiad y flwyddyn nesaf, drwy glymbleidio fwy na thebyg, yna byddwn i’n fwy na pharod i roi bet y bydd y ddau yn colli eu seddau yn 2011. Buddugoliaeth Geidwadol fydd, o bosibl, yn eu cadw rhag y dôl.
Serch hynny, gyda Llafur wedi bod mewn grym yng Nghymru am 12 mlynedd sdrêt yn 2011, dydi hi ddim yn amhosibl y gallai cyfuniad o ymgeisydd cryf a ymgyrch gref gan Geidwadwyr Pen-y-bont lwyddo i ddisodli Carwyn. Mae’n annhebygol, i fod yn onest, ond ymhell o deyrnas amhosibilrwydd.
Plaid Cymru, mae’n debyg, fyddai achubiaeth Nick Bourne, wrth iddi geisio cipio Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, sydd wedi bod yn dalcen caled iddi ers ’99. Gydag Angela Burns yn aelod pur anweladwy a Llafur, mae’n debyg, o hyd ar drai bryd hynny, caiff Plaid Cymru gyfle euraidd arall o gipio’r sedd.
Ond os na wnaiff, beth wedyn? Bydd Preseli Penfro yn aros yn las yn ’11, ‘sgen i fawr o amheuaeth am hynny, ond dydi hi ddim yn amhosibl y bydd y Ceidwadwyr yn cipio Maldwyn wrth y Rhyddfrydwyr. Yn wir, eto, gydag ymgeisydd cryf, ymgyrch dda ac ymddeoliad Mick Bates, byddwn i’n fodlon rhoi bet ar Faldwyn las yn 2011. Cawn weld beth ddigwyddiff y flwyddyn nesaf yn yr etholiad cyffredinol i gael awgrym o’r posibiliadau. Wedi’r cyfan, mae’r mwyafrif Rhyddfrydol yn y sedd Cynulliad yn bell o fod yn un gadarn.
Ta waeth, tasa hynny’n dod i ddigwydd, byddai sefyllfa Nick Bourne ar y rhestr yn fregus iawn. Gyda Jonathan Morgan yn ddarpar frenin Ceidwadwyr Cymru, yn yr hirdymor byddai o fudd iddynt ymwared â Bourne mewn etholiad yn hytrach na coup difrodol mewnol. Ef, bosib, yw’r lleiaf diogel o’r tri.
A beth am Ieuan Wyn ar Ynys Môn? Er gwnaethaf tueddiadau od Môn, y gwir amdani ydi, ac eithrio yn etholiad ’99, dydi Ynys Môn byth wedi bod yn gadarnle i Blaid Cymru. Os na lwyddiff Wylfa 2, a chyda chau Alwminwm Môn, gallai Ieuan Wyn fod mewn perygl – yn yr un modd ag y mae Albert Owen – ond yn arbennig felly os na fydd Peter Rogers yn sefyll.
Mae Ceidwadwyr Môn wedi bod ar chwâl ers blynyddoedd, ond mae hynny’n bennaf oherwydd Peter Rogers. Heb yntau’n rhwystr, a Môn yn Seisnigeiddio yn aruthrol o sydyn (credwch chi fi), mater o amser o bosibl yw hi i Fôn ddychwelyd aelod Ceidwadol ar ryw lefel eto. Gallai 2011 fod yn gyfle gwych – efallai bod gan Ieuan Wyn barch ar yr Ynys, ond mae’r parch hwnnw ymhell iawn o ymestyn at bawb.
Yn wir, pe na bai Adam Price yn y Cynulliad yn 2011 (dwi ddim o’r farn y bydd, yn anffodus), gallai’r cwestiwn o arweinyddiaeth y blaid yn y Cynulliad fod yn faich enfawr ar Blaid Cymru am sawl blynedd. Ni fyddai Ieuan Wyn yn goroesi etholiad gwael yn 2011, chwaith, a heb Adam Price yno ‘does ‘na fawr o neb arall i gymryd yr awennau.
Mewn sefyllfa o’r fath, dwi’n gwybod yn union pa un o aelodau cyfredol y Cynulliad hoffwn innau weld wrth y llyw.
Ta waeth, jyst rhyw feddwl oeddwn i am Gymru wleidyddol 2011 braidd yn fuan. Efallai bod y sefyllfaoedd uwch yn annhebyg, ond amhosib? Ddim yn y lleiaf!
Nessun commento:
Posta un commento