giovedì, agosto 26, 2010

Arolwg barn ITV YouGov

Fydd rhywun yn licio ei bolau piniwn, ac mae’r un diweddaraf sydd wedi dod i’r amlwg yn ddigon diddorol. Ces olwg fanwl arno yn hwyr neithiwr, wedi digwydd gweld bod Heledd Fychan yn ei drydar fel ‘gwych’ i Blaid Cymru. Yn ôl y pôl ITV-YouGov yn yr etholaethau câi Llafur 39% (+7% o etholiad 2007) o’r bleidlais, Plaid Cymru 23% (+1%), y Ceidwadwyr 22% (d/n) a’r Democratiaid Rhyddfrydol 10% (-5%).

Mae sawl goblygiad i hyn, y gallwch ddarllen amdanynt yn y Western Mail, papur gorau’r byd (haha, jôc, ma’n shait). Dwi ddim yn rhagweld Llafur yn adennill Gorllewin Clwyd, ond gallai Gorllewin Caerfyrddin/De Penfro bod yn bosibilrwydd – bid siŵr mai ras deirffordd fydd honno eto. Byddwn i fy hun yn dueddol o edrych at seddau Canol a Gogledd Caerdydd. Wn i fy mod wedi darogan Blaenau Gwent yn hollol anghywir eleni, ond yng ngyd-destun y Cynulliad a hefyd gan mai Trish Law sy’n sefyll, swni’n gyndyn o ddweud aiff yn bendant i ddwylo Llafur.

Serch hynny, mae’n anodd ar hyn o bryd weld llu newidiadau yn yr etholaethau. Dwi’n amau bod pob un o seddau’r Blaid yn ddiogel, hyd yn oed Môn, Ceredigion ac Aberconwy. Fydd Maldwyn yn ddiddorol iawn (mi grybwyllais y sedd honno fel sedd ddiddorol yn 2011 y llynedd – er eto cael slap yn fy wynab am 2010!), a bydd Ron Davies yn sicr yn gwneud Caerffili yn ddiddorol. Fentra i ddim mwy bron i flwyddyn cyn yr etholiad ei hun!

Yr hyn sy’n ddiddorol ydi’r ffigurau ar gyfer y rhestr. Mae Llafur ar 39% (+9%), Plaid Cymru 23% (+2%), y Ceidwadwyr ar 21% (d/n) a’r Dems Rhydd ar 9% (-3%). Oherwydd natur y system, yn ôl canlyniadau, gallai’r Dems Rhydd yn hawdd fod efo mwy na 6 sedd y tro nesaf, eu diystyru ni ddylid. Ac er y byddai’r Blaid ar ei fyny, colli seddau y byddai oherwydd perfformiad gwan yn y De-ddwyrain. Mae hyn yn dangos pwysigrwydd targedu seddau – rhywbeth yn hanesyddol y mae’r Dems Rhydd yn dda iawn arno.

Ym mêr fy esgyrn, dwi’n teimlo mai’r rhestrau fydd yn allweddol i lwyddiant y pedair plaid yn 2011. Pôl piniwn ‘gwych’ i Blaid Cymru, nid yw (ac mi fyddai’r 13 sedd arfaethedig yn berfformiad digon pitw). Ac mae o galondid i’r Dems Rhydd wybod y gallant golli pleidleisiau ac ennill seddau. Dwi am fod mor hy â dyfynnu fy hun o’r post hwn wnaed ddwy flynedd nôl ar ôl etholiadau Ewrop, pan ddaeth y Blaid yn drydydd a’r Ceidwadwyr yn gyntaf. Yn lle ailadrodd, dyma hi - dwi'n meddwl efallai  bod i mi ddweud y gwir am unwaith:

Tybed, tybed a fydd hynny yn ei hun yn ysgogiad i’r Llafurwyr nad aethent i bleidleisio i bleidleisio mewn etholiad cyffredinol mewn pleidlais wrth-Dorïaidd? Gyda Phlaid Cymru yn drydydd, er yn drydydd agos, dydy hi ddim wedi ymsefydlu fel opsiwn posibl amgen i Lafurwyr oherwydd hynny, sy’n awgrymu i mi na fydd pleidleiswyr Llafur yn troi ati naill ai i brotestio, neu o ran newid sylfaenol yng ngwleidyddiaeth Cymru, fel y gwelir yn yr Alban.

Petai Plaid Cymru wedi dod yn ail, yna’r canfyddiad fyddai mai brwydr fawr y dyfodol fyddai Plaid a’r Ceidwadwyr. Y canlyniad?

Gallai colli i’r Ceidwadwyr, yn y pen draw, fod yn hwb i Lafur, a thrwy hynny o bosibl arwain at gyfnod di-dwf i Blaid Cymru

3 commenti:

Cai Larsen ha detto...

Mae dadansoddiad y Wail yn ddiffygiol - mi fyddai'r Lib Dems yn colli seddau ar y ffigyrau yma - o bosibl dwy.

Hogyn o Rachub ha detto...

Fedra i bendant eu gweld nhw'n colli etholaethau ond oni fyddant yn cael eu digolledu ar y rhestri, er gwaethaf eu perfformiad sal?

Cai Larsen ha detto...

Mae'r sedd rhestr yn y Gogledd mewn perygl. Felly hefyd Maldwyn a Chanol Caerdydd (er gwaethaf y mwyafrif anferth). Mae'n debyg y byddai yna sedd restr yn eu digolledu yn y Canolbarth.

'dwi'n credu y bydd y blaid 666 yn blaid 6665 neu 6664 yr amser yma'r flwyddyn nesaf.