giovedì, ottobre 21, 2010

Anghywir, Arwel Ellis Owen!

“Mae’r awdurdod wedi rhoi cyfarwyddyd clir i mi eu bod nhw yn rhoi’r flaenoriaeth i safonau yn hytrach na niferoedd”

Dyma eiriau Arwel Ellis Owen, Prif Weithredwr dros dro S4C. Ac mae Arwel Ellis Owen, yn fy marn i, yn anghywir – os nad dim ond am wrando ar John Walter Jones!

Dylai safonau fod yn bwysig i S4C, ond nid safon ydi’r prif broblem. Rhaid bod yn onest fan hyn, y rheswm bod Llywodraeth Lloegr yn gallu pigo ar S4C ydi achos bod nifer y gwylwyr yn rhy isel, nid oherwydd bod y rhaglenni’n crap (a dwi wedi dweud nad ydw i o’r farn eu bod nhw’n ddiweddar gan fwyaf). Beth sydd ei angen ar S4C ydi rhaglenni poblogaidd, dim mwy na llai, ac fel y gwelir o bob sianel arall dydi rhaglen o safon ddim o reidrwydd yn rhaglen boblogaidd ... y gwir plaen ydi mai i’r gwrthwyneb sy’n wir yn aml!

Mae gan y Sianel ei henghraifft ei hun o hyn ar ffurf Pobol y Cwm – opera sebon canol-y-ffordd ydyw, does ‘na ddim byd sbeshal amdani yn y lleiaf, ond hi ydi’r unig raglen (heblaw am chwaraeon) a all ddenu dros 100,000 o wylwyr yn ddigon cyson. Prin fod gweddill rhaglenni S4C yn denu hanner hynny – a phrin fod y gair ‘safon’ yn cael ei gysylltu’n aml â Phobol y Cwm!

Rhaglenni poblogaidd, nid rhaglenni o safon, sydd eu hangen fwyaf ar y Sianel. Bydd rhai yn anghytuno â hynny, ond o ystyried y peth, mae’n bosibl bod S4C wedi bod yn canolbwyntio ar ‘safon’ ar draul ‘poblogrwydd’ ers rhy hir bellach – yn ceisio efelychu sianel megis BBC4 yn ormod yn hytrach na BBC2, ddywedwn ni – ac efallai bod hynny’n arwydd o’r gor-barchusrwydd dosbarth canol sydd wedi dadrithio pobl gyffredin dros y ddegawd ddiwethaf.

Dwi ddim isio bod yn anadeiladol o feirniadol fan hyn, dim ond taflu syniadau – dwi ddim isio ildio i’r garfan o bobl sy’n meddwl ei fod o’n ‘cŵl’ i beidio â gwylio S4C a hynny jyst er mwyn ymddangos yn wrthsefydliadol (tyfwch fyny!) na’r garfan fechan sydd fel petaent yn ymhyfrydu yn nirywiad y Sianel. Ond mae geiriau Arwel Ellis Owen yn fy marn i wrth wraidd yr hyn sydd o’i le efo’r Sianel ac wrth wraidd yr hyn sydd angen ei newid.

3 commenti:

Anonimo ha detto...

Dwi'n credu dy fod yn gwneud cam enfawr a Phobol y Cwm. Dwi'n credu ei bod hi'n gynnes a chyffrous - er bod yna dueddiad i rygnu mlaen ar rai themau.

Bob tro dwi'n cael fy ngorfodi i wylio Eastenders, dwi'n synnu a rhyfeddu at safon Pobol y Cwm - y cymeriadau, y sgwennu, yr actio a'r cynhyrchu. Dwi o'r farn fod PyC yn well nag operau sebon eraill y gwledydd hyn.

Hogyn o Rachub ha detto...

Mae'n well gen i Pobol y Cwm na'r un opera sebon Saesneg hefyd, ond ar ddiwadd y gân dyna ydi hi, jyst opera sebon arall. Dw i ddim yn gweld dim byd arbennig amdani o gwbl ... mae'r sgwennu ar cynhyrchu yn dda, wn i ddim a ydw i'n cytuno am rai o'r actorion de!

Ta waeth y pwynt ydi hwn: mae 'na raglenni 'gwell' ar S4C na PyC, ond dydyn nhw ddim yn taro'r sbot efo'r rhan fwyaf o bobl, a dyma sy'n rhaid newid.

Dafydd Tomos ha detto...

Mae yna snobyddiaeth wedi datblygu yn S4C sy'n edrych lawr ar unrhyw raglenni 'isel-ael' fel cwisys, adloniant ysgafn a chomedi.

Mae'r rhaglenni o'r math yma (nid Noson Lawen) wedi bodoli yn y gorffennol ond wnaeth S4C benderfynu peidio cystadlu gyda sianeli eraill ar nos Sadwrn.

Mae hynny yn gwneud synnwyr ond be sydd o'i le yn canfod diwrnod arall ar gyfer y rhaglenni o'r math yma?

Yr un broblem sydd wedi bod gyda Radio Cymru.. un sianel yn trio gwneud popeth i bawb. Mi fyddai'n well petai S4C wedi gwneud llawer mwy o ddefnydd o'r gofod wnaethon nhw gael am ddim a lansio mwy nag un sianel ddigidol.. un yn fwy ifanc/poblogaidd ei naws a'r un arall ar gyfer y gynulleidfa 'draddodiadol' (sy'n marw allan beth bynnag).

Fydde dim angen trio llenwi oriau maith ac ail-ddarlledu popeth bedwar gwaith - fyddai wedi bod yn bosib gwneud hyn o fewn y cyllid hael oedd ganddyn nhw.

Os oedden nhw wedi dechrau ar y gwaith hynny yn 2000 pan oedd teledu digidol yn cael eu gyflwyno efallai fydden nhw wedi gallu cario'r gynulleidfa ifanc gyda nhw.

Ond mae penaethiaid S4C wedi ei chwarae hi'n saff ers degawd a nawr mae'n rhy hwyr.