Wythnos i fynd tan y bleidlais fawr, dyma rai sïon dwi wedi’u darllen a’u clywed dros y dyddiau diwethaf. Mae hwyl i’w gael efo sïon.
· Ron Davies yn ennill y frwydr posteri yng Nghaerffili ... ac o bosibl y bleidlais bost
· Mae’r Ceidwadwyr yn dawel hyderus yng Ngorllewin Clwyd
· Mae Plaid Cymru ar y llaw arall yn hyderus o gadw Aberconwy
· Ymgyrch dda hyd yn hyn i’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghanol Caerdydd
· Pethau’n agos yng ngogledd y ddinas, ond Llafur sy’n mynd â hi ar hyn o bryd
· Sïon nad yw Rhodri Glyn Thomas yn ddiogel yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
5 commenti:
Byddai'n ddigwyddiad hynod pe bai'r Blaid yn colli sedd yn y cynulliad eu bod nhw'n dal yn San Steffan. Rhodri Glyn Thomas yw'r un mwya anhebyg fanna 'swn i'n 'i ddweud.
'Wy di clywed bod rywbeth ar droed yng Ne Clwyd hefyd. Be yn union, pwy a wyr?
http://www.bbc.co.uk/blogs/thereporters/vaughanroderick/2011/04/maen_wythnos_yn_amser_hir.html
http://britainvotes.blogspot.com/2011/04/not-another-revised-welsh-forecast.html
Mae'r Rhyddfrydwyr hefyd yn 'bangan 'mlaen ynglyn a sut maen nhw'n mynd i gipio Ceredigion. Ond sy'n i'n dweud bod hynny'n lai tebygol hyd yn oed na cholli Dwyrain Caerfyrddin.
A sôn am Gaerfyrddin, oes 'na newyddion o'r Gorllewin?
Gyda llaw dwi'n cytuno, dwi'm yn meddwl bod perygl o gwbl i Rhodri Glyn Thomas golli ei sedd. A fedra i ddim credu y bydd y Dems Rhydd yn ennill yng Ngheredigion eleni.
Os mae rhywun i gredu yn ffrwd Twitter Mabon ap Gwynfor, efallai'n wir bod rhywbeth ar droed yn Ne Clwyd ... mae'n ymddangos ei fod yn cael ymgyrch dda beth bynnag.
Dwi heb glywed *dim byd o gwbl* am Orllewin Caerfyrddin a De Penfro. Yn bersonol, dwi'n rhyw amau bod hyn yn arwydd bod y canlyniad tebygol, sef Llafur yn cipio'r sedd, fel petai am gael ei wireddu.
O dwi'n amau'n fawr y canfyddiad dros Dwyrain Caerfyrdidn a Dinefwr, os unrhywbeth dwi o'r farn y bydd pleidlais Plaid Cymru yn cynyddu fan hyn. Nifer o bobl a bleidleisiodd Llafur yn 2007 nawr wedi troi at Blaid Cymru hefyd.
Elin Jones yn saff yng Ngheredigion.
Dwi'n mynd am beint.
Seithenyn
Posta un commento