Yn gyntaf, dydw i heb ddadansoddi Llanelli mae arna i ofn. Mae dau reswm am hyn - y cyntaf ydi nad ydw i'n ddigon cyfarwydd â ffiniau Llanelli i wneud hynny'n iawn (roedd data parod gennyf am 2001), ond yn ail, o edrych yn fras ar rai o'r canlyniadau, ymddengys bod y dirywiad yno ar y cyfan yn debyg i ddirywiad cyffredinol gweddill y sir, gan amrywio o ward i ward fel yr amrywia sefyllfa Sir Gâr o ardal i ardal.
Serch hynny, mae 'na ambell gasgliad diddorol o'r tair sir arall. Yn gyntaf, Ynys Môn.
|
Poblogaeth
|
Siarad Cymraeg
|
Canran
|
Newid ers 2001
|
Ynys Cybi
|
13,138
|
5,449
|
41.5%
|
-4.2%
|
Gweddill y sir
|
54,265
|
33,119
|
61.0%
|
-2.3%
|
Ynys Môn
|
67,403
|
38,568
|
57.2%
|
-2.9%
|
Fel y gwelwn, roedd 'na ddirywiad mwy ar Ynys Cybi nag ar weddill Môn, sydd fawr o syndod, er bod y dirywiad yn llai na'r hyn a welwyd yn 2001 mi gredaf. Serch hynny - yn wahanol i ddamcaniaeth a gafwyd yn sylwadau y blogiad blaenorol am hyn - ni welwyd cryfhau ar yr iaith ar weddill yr ynys. Yn wir, dirywiad digon cyson a welwyd - heblaw, yn ddigon diddorol, yn rhai o'r ardaloedd mwy Seisnig fel Benllech, y Fali a Biwmares. Y gwir amdani ydi, ni ellir priodoli dirywiad yr iaith ar Fôn i ardal Caergybi yn unig - mae'n digwydd ym mhob cwr o'r Ynys. Yn groes i'r ddamcaniaeth, ni chryfhaodd y Fro yng nghanol Sir Fôn.
|
Poblogaeth
|
Siarad Cymraeg
|
Canran
|
Newid ers 2001
|
Aberystwyth
|
12,797
|
3,950
|
30.9%
|
-5.5%
|
Gweddill y sir
|
61,050
|
31,014
|
50.8%
|
-3.8%
|
Ceredigion
|
73,847
|
34,964
|
47.3%
|
-4.7%
|
Sefyllfa debyg oedd hi yng Ngheredigion mewn ffordd. Roedd y dirywiad yn Aber yn fawr, ond yng ngweddill y sir yn llai. Yn wir, yng Ngheredigion fwyaf mae'r Cymry Cymraeg yn parhau'n fwyafrif ystadegol, er o drwch blewyn. Yr hyn a ddangosir yma (er bod ffactorau fel myfyrwyr ar waith) ydi bod dirywiad iaith yn aml iawn yn beth cronnol yn hytrach nag yn beth cyson. Dydi hi ddim yn gyd-ddigwyddiad bod yr iaith yn dal ei thir yn well yn y gogledd-orllewin na'r de-orllewin oherwydd ei bod eisoes yn gryfach yno.
|
Poblogaeth
|
Siarad Cymraeg
|
Canran
|
Newid ers 2001
|
Bangor
|
15,928
|
5,801
|
36.4%
|
-9.9%
|
Gweddill y sir
|
101,861
|
71,199
|
69.9%
|
-1.8%
|
Gwynedd
|
117,789
|
77,000
|
65.4%
|
-3.6%
|
Efallai mai Gwynedd ydi'r mwyaf diddorol. Roedd 'na ddirywiad yng Ngwynedd fwyaf ar y cyfan - gwelodd rhai ardaloedd ddirywiad, ac mi lwyddodd eraill i dal eu tir, ac mewn ambell eithriad cymharol brin cryfhaodd y Gymraeg. Ond cynyddu wnaeth y bwlch rhwng Bangor a gweddill Gwynedd. Roedd y dirywiad ym Mangor y tro hwn yn cymharu'n hawdd ag unrhyw ddirywiad a welwyd yn Sir Gâr. Mae ffactorau penodol am hyn - trosglwyddo iaith, myfyrwyr a chynnydd mawr yn y boblogaeth yn cyfuno i greu sefyllfa argyfyngus i'r iaith yn y ddinas.
Y peth sydd angen ei ddadansoddi ar fyrder, dwi'n teimlo, ydi sut y llwyddodd rhai ardaloedd yng Ngwynedd i ddal eu tir ieithyddol - yn Arfon gan mwyaf - yn groes i bron pobman arall yng Nghymru, a sut y gellir efelychu hyn.
Yn anffodus, wn i ddim a ydi hynny'n bosibl. Fel y dywedais uchod, mae dirywiad ieithyddol yn beth cronnol yn hytrach na chyson. Fydd achub yr iaith yn Sir Gâr a Cheredigion yn anoddach o beth wmbrath na'i chynnal yng Ngwynedd. Serch hynny, ei chynnal sy'n rhaid yno, achos oni wneir hynny, mi fydd Gwynedd yn dilyn trywydd ieithyddol Sir Gâr.
Ta waeth, mi adawaf y dadansoddi dwys i eraill!
7 commenti:
"..Serch hynny - yn wahanol i ddamcaniaeth a gafwyd yn sylwadau y blogiad blaenorol am hyn - ni welwyd cryfhau ar yr iaith ar weddill yr ynys"
Dwi'm yn siwr os oedd hwna wedi ei anelu ataf fi, ond be 'nes i ddeud oedd:
"Bron yn sicr bydd y nifer sy'n siarad cymraeg ym mro Gymraeg Ynys Mon wedi mynd fynu yn 2011."
ac mi wnaeth o:
2001: 32,939
2011: 33,119
Dwi ddim yn dweud bod hyn yn gret, ond mae'n well peidio peintio bethau hyd yn oed yn dywyllach nac ydio.
p.s. Dyffryn Ogwen ar i fynu?
Mi grensiais y ffigyrau am Llanelli (y dref + Llanelli Wledig):
Llanelli:
Poblogaeth 46058, Siaradwyr 12816, Canran 27.8%, Newid ers 2001 -5.5%
Gweddill y sir:
Poblogaeth 131584, Siaradwyr 65232, Canran 49.6%, Newid ers 2001 -6.2%
Sir Gaerfyrddin:
Poblogaeth 177642, Siaradwyr 78048, Canran 43.9%, Newid ers 2001 -6.1%
Felly, mi roeddet ti'n iawn, Hogyn: nid dim ond Llanelli sy'n gyfrifol am y cwymp yn Sir Gâr. Mae ardaloedd eraill ar draws y Sir wedi disgyn llawer fwy, ysywaeth. Ar ben hynny, mae'r Cymry Cymraeg yn leiafrif hyd yn oed tu fas i Lanelli erbyn hyn.
Do, roedd wedi'i anelu atat Ioan, ond chdi sy'n iawn - mae arna i ofn mai fi sy'n or-hoff o ganrannau ac wedi cymryd yn ganiatol mai dyna oeddet ti'n gyfeirio ato.
Mae 'na rywbeth i fod yn gadarnhaol yn ei gylch o ran niferoedd gweddill Gwynedd a Môn felly. Ddim yn grêt, ddim yn ddiwedd y byd eto.
Dydw i'm yn siŵr o niferoedd Dyffryn Ogwen - roedd Rachub/Gerlan a Thregarth a Mynydd Llandegai i lawr fymryn yn ganrannol, ac Ogwen ac Arllechwedd i fyny mymryn, felly sefydlogi wnaeth yr iaith fanno.
Wrth gwrs, 'dan ni gyd yn gwybod hefyd fod 'na stori tu ôl i'r ystadegau.
Emlyn,
Ymddengys mae dilyn tuedd Llanelli y mae gweddill Sir Gâr. Y peth mwyaf trist dw i'n meddwl oedd mai nid dim ond rhai ardaloedd a ddilynodd y duedd honno. Roedden ni efallai wedi disgwyl i'r cwymp mwyaf fod yn Nyffryn Aman a'r cyffiniau (sy'n wir i raddau), ond roedd llefydd fel Cenarth yn profi fod 'na broblem sir gyfan. Problemau gwahanol, efallai, ond problemau dwys serch hynny.
Ond fel y dywedais yn yr ymateb i Ioan - mae stori tu ôl i'r ystadegau. Mae'r gwahaniaeth rhwng y nifer sy'n dweud eu bod nhw'n siarad Cymraeg, a'r nifer sydd â sgiliau yn Gymraeg yn y sir honno yn rhyfeddol.
Yn Nyffryn Ogwen
Nifer: 5817 (+169)
Canran: 72.6% (+0.20%)
Dim bradwr yn y dyffryn hwn...!!
Diolch Ioan!
Wrth gwrs rhaid ychwanegu nad ydi bob rhan o ward Arllechwedd, sef Abergwyngregyn, actiwli yn Nyffryn Ogwen felly maen nhw'n ein dragio ni lawr 'fyd ;)
Y post nesa: "Dyffryn Owen heb Abergwyngregyn"..!
Posta un commento