giovedì, gennaio 29, 2015

Pwt ar y Blaid a'r Gwyrddion

Ro’n i wedi bwriadu blogio ar y gynghrair wirioneddol od y mae Plaid Cymru wedi penderfynu ei ffurfio â’r blaid Werdd ers cryn tro. Y broblem ydi, ddoe cefais fy nghuro i hynny nid unwaith, eithr dwywaith.

Postiodd Ifan Morgan Jones erthygl ar Golwg360, a gwnaeth Syniadau flogiad ro’n i’n ei feddwl oedd yn hynod, hynod o ddiddorol. Ac allwch chi ddim trafod y Gwyrddion yng nghyd-destun Cymru heb gyfeirio at flogiadau arbennig Jac o’ the North amdanynt (Plaid Cymru and the Green Party of Englandandwales / More on the Green Party of Englandandwales). Dydw i heb gyfeirio at flog Jac o’ the North o’r blaen yma, sy’n biti achos er ei fod o’n flog diawledig o bigog ma’n adrodd gwirioneddau di-ri am wleidyddiaeth yng Nghymru, ac am y mudiad cenedlaethol gystal â neb arall.

Un peth sydd wedi dod i’r amlwg – o leiaf ar y we, sydd ddim o reidrwydd yn ffynhonnell gwbl ddibynadwy wrth gwrs – ydi fod yna feirniadaeth gynyddol o dacteg Plaid Cymru yn hyn o beth. Y peth sydd wedi cael ei amlygu fwyaf ydi nad oes neb i’w weld yn gwybod pa fudd yn union a gaiff Plaid Cymru o’r fath gytundeb.

Does gen i fawr o amheuaeth nad ydi Plaid Cymru yn gwybod beth mae hi’n ei wneud chwaith. Mae hi fel petai’n ffwndro.

Does neb yn amau y gallai Plaid Cymru wneud rhyw fath o ddêl gyffredinol â’r Gwyrddion ar ôl yr etholiad, ond mae galwadau’r Blaid, a wnaed yr wythnos hon gan Dafydd Wigley, i Gymry yn Lloegr bleidleisio dros y Gwyrddion yn dangos pa mor unochrog ydi’r berthynas ‘ma. Roedd Ifan Morgan Jones yn hollol iawn i ddweud yn ei erthygl Golwg360 does neb yn y blaid Werdd yn dangos mymryn o gefnogaeth i Blaid Cymru.

‘Rhy neis’ ydi Plaid Cymru yn ei ôl o. Gen i ddamcaniaeth wahanol; os ydach chi’n gallu cael eich chwarae gan y Gwyrddion mewn ffordd mor uffernol o amlwg heb sylweddoli ar y peth, mi ydach chi’n hollol ffycin dwp. Dwi wedi dweud ambell waith y blog hwn pa mor wirioneddol dwp dwi’n meddwl ydi arweinyddiaeth bresennol Plaid Cymru – alla i ond ag ailadrodd hynny. Er gwaetha’i gamgymeriad ddoe wrth grybwyll Auschwitz (er iddo wneud sylwadau teg sy ddim yn haeddu unrhyw feirniadaeth o gwbl) dydi Dafydd Wigley ddim yn dwp, a synnwn i pe na bai dan ryw fath o gyfarwyddyd gan uwch ynfytod y Blaid i roi sylw i’r Gwyrddion.

Gan fod eraill wedi mynd i fanylder, (byddwn i wir yn awgrymu i chi gael cip ar y dolenni uchod os oes gennych amser) gadewch i mi jyst gwneud ambell bwynt: 

1)     Y rheswm nad ydi’r Gwyrddion yn rhoi sylw o’r fath i Blaid Cymru achos nad oes ganddynt reswm i wneud hynny. Tasa ganddyn nhw obaith o ennill sedd yng Nghymru fysa nhw’m yn mynd yn agos at Blaid Cymru.

2)     Bydd y Gwyrddion yn sefyll yng Nghymru. Mae dweud wrth bobl bleidleisio dros y Gwyrddion yn Lloegr ond nid yng Nghymru felly’n dwp. Os wyt ti isio bwrw pleidlais dros y Gwyrddion, ac yn byw yng Nghymru, gwna hynny – ‘sdim angen i chdi rhoi fôt i’r Blaid o gwbl. Fel y noda Syniadau yn y blogiad y cyfeiriais ato uchod, mewn llawer o lefydd yng Nghymru fysa ti’n well yn rhoi dy bleidlais i’r Gwyrddion na’r Blaid (os wyt mewn dau feddwl). Drwy annog pleidlais dros y Gwyrddion yn Lloegr, mae’r Blaid yn llwyddo tanseilio, er efallai’n anuniongyrchol, ei chefnogaeth yng Nghymru. Twp.

3)     Dydi pleidleiswyr Plaid Cymru ddim o reidrwydd yn mynd i feddwl bod unrhyw gytundeb efo’r Gwyrddion yn grêt eniwe; dydi bod yn genedlaetholwr, neu hyd yn oed yn rhywun sy’n digwydd pleidleisio dros Blaid Cymru am ba reswm bynnag, ddim yn dy wneud sy’n rhywun sy’n frwd dros amgylcheddiaeth. Cawsom awgrym o hyn ym mholau Ashcroft – byddai’n well gan ganran nid ansylweddol o Bleidwyr lywodraeth Geidwadol i un Llafur. Efallai bod arweinwyr y Blaid yn gweld cynghrair syniadaethol rhyngddyn nhw a’r Blaid Werdd. Dydi hynny ddim o reidrwydd yn treiddio i’w chefnogwyr.

4)     Dydi Plaid Cymru ddim angen y Gwyrddion – mae Ceredigion, rhywle sy’n cael ei grybwyll yn aml wrth drafod hyn, yn enghraifft dda o hyn. Do, enillwyd y sedd ym 1992 ar ‘docyn’ Plaid-Gwyrdd. Chwalodd y gynghrair honno cyn yr etholiad nesaf ac aeth Cynog Dafis ymlaen i ennill mwyafrif mawr ym 1997. Dydi hynny heb sôn am smonach isetholiad 1991 ym Mynwy, pan enillodd y ‘tocyn’ 0.6% o’r bleidlais, sy’n waeth nag y gallai hyd yn oed Plaid Cymru fod wedi disgwyl ei wneud hyd yn oed ym Mynwy mewn isetholiad. Y gwir ydi, mae cydweithio rhwng y ddwy blaid yn y gorffennol wedi bod yn bur aflwyddiannus.

5)     Mae gan y blaid Werdd yng Nghymru hen hanes o gynnwys aelodau gwrth-Gymraeg, sydd ar adegau yn gwneud i’r ffieiddiaf Lafurwyr edrych o blaid yr iaith; maen nhw’n gwneud i UKIP edrych yn Gymreigaidd (byddwn i’n fodlon gwneud bet hegar fod canran yr aelodau sy’n Gymry yng nghangen UKIP Cymru yn uwch o lawer nag ym mhlaid Werdd ‘Cymru’) ac, os ydi eu harweinyddes ryfedd i’w choelio, maen nhw’n llai brwd dros ddatganoli na’r Torïaid. Plaid o Saeson ffroenuchel ydi’r Gwyrddion yng Nghymru ac mae’n warth gwirioneddol fod y Blaid yn eu gweld fel eu ffrindiau. Gwarth.

Ta waeth, rhag i hyn fynd yn rant go iawn y mae yma un gwirionedd sy’n sefyll allan: does gan Blaid Cymru ddim i’w ennill o’r gynghrair/cytundeb/lyf bomio hyn. Wir-yr ddim byd yn y byd. Hyd yn oed ar ôl yr etholiad mae’n bur debyg fydd gan y Blaid o hyd fwy o aelodau na nhw, sy’n gwneud yr holl beth hyd yn oed yn fwy od.

I rywun sydd isio pleidleisio dros y Blaid – yn bennaf i atal Llafur – maen nhw’n ei gwneud yn blydi anodd drwy fod mor blydi stiwpid mor blydi gyson. 

2 commenti:

Anonimo ha detto...

drwg ydy bod criw fawr yn y Blaid yn torri ei boliau eisiau 'o bach' gan Monboit, Owen Jones a'i ffrindiau asgell chwith.

mae nhw yn naif ar y diawl. Does dim yn cynghorydd gan y Blaid Werth yng Nghymru. Does dim gobaith ganddynt o ennill sedd - pam roi unrhyw sylw iddyn nhw o gwbl.

Mae nhw'n cynnwys elfennau wrth Gymraeg. Mae'n siwr fod 'na rai digon pleidiol i'r iaith ond wnawn nhw byth ei flaenoriaethu. Maent yn gweld Cymru fel rhan mwy wledig o Loegr.

Stopiwch pandero i'r Gwyrddion wir dduw.

Does dim naratif na dadl genedlaetholaidd wedi ei roi gan y Blaid ers 20 mlynedd.

A pam fod Wigley wedi mynd i guddio ar ol ei sylwadau ddoe. Petai ar y radio a theledu heddiw byddai'n cael cyfle gwych i hyrwyddo polisiau'r Blaid.

Wir dduw. Pam trafferthu!

Anonimo ha detto...

https://www.youtube.com/watch?v=eI-T55k7KIw