mercoledì, marzo 23, 2016

Mynd am dro

Mynd am dro. Fydda i’n hoff o fynd am dro pan fydda i adref. Ddim yng Nghaerdydd – os y’ch magwyd chi ar lethrau Moel Faban does gan unrhyw ddinas rywbeth call i’w gynnig wrth fynd am dro. Waeth pa mor ddistaw y llecyn gwyddoch nad ydi o ond yn ynys fach dawel ynghanol môr o brysurdeb. Gwell gen i’r llecynnau prysur yn ildio’u lle i’r tawelwch mawr.

Fedra i ddim esbonio ag unrhyw eiriau digonol y newid ynof pan fydda i’n llusgo ‘nhraed ar hyd lannau’r afonydd neu ar y llwybrau defaid, boed yn gwrando ar chwyrlïo cyson y dŵr neu weryru pell y merlod gwylltion gwydn ar y gorwel. Theimla i ddim rhyfeddod – dydi hynny ddim yn fy natur. Fi ydi’r unig berson y gwn amdano nad yw’n teimlo rhyfeddod; fydda i’n meddwl weithiau sut deimlad ydi o. Fedra i syllu ar y sêr am oriau – yn wir, nid oes yn y ddinas unrhyw beth sy’n fy nhristau mwy na’r diffyg sêr na all unrhyw olau stryd ei lenwi – a gwenu gyda nhw, ond mae rhyfeddod y tu hwnt imi. Efallai fi sy’n ddyn hurt. Dyna’r ateb symlaf, callaf.

Ond yng nghwmni’r eithin dwi’n ddyn gwahanol. Wn i ddim p’un ai ydi’r caerau bychain pigog hynny’n fy ngwaredu rhag fy nghythreuliaid a’m gofidion, neu a ydi sglein yr haul dros y môr mawr yn fy llonni mwy nag yr ydw i erioed wedi ei ddeall. Y mae mudandod y llwybrau tan y coed ac ar lethrau’r foel rywsut y tawelu pob llais ac yn tawelu fy meddwl; nid oes ynddynt edifarhau am unrhyw beth a wnaed nac arswydo am yr hyn a ddaw. Nid oes ynddynt ond yr hyn sydd ac mae'n llon ac yn hyfryd. Y mae’n fudandod cyfeillgar, anwesog ac yn un y bydda i’n ysu amdano, ac yn ei angen, i wella fy hun rhagof fy hun. I ymdoddi’n ddim gyda’r llechi sbâr a’r waliau cerrig i gefndir bywyd, lle mae plethwaith y dyffryn rywsut yn cynnig ateb heb iddo ymholiad.

Dwi am fynd am dro.

Nessun commento: