mercoledì, marzo 16, 2016

Yn ôl at Fenis

Mi soniais dros y Nadolig, os gwelsoch chi’r blogiad, am y pum ymerodraeth fwyaf shit erioed. Mae gen i serch hynny ymerodraethau dwi’n eu hoffi’n fawr. Dwi’n eithaf ffan o Bysantiwm ac Ymerodraeth Awstria (goeliwch chi fyth – gen i broblem fawr efo Hwngari mae’n rhaid), a dwi'n cael blas ar Assyria, ond mae fy sylw diweddar wedi’i hoelio ar rywle go wahanol ac anamlwg.

Fenis ydi’r wladwriaeth honno. Mae fy edmygedd i at y Fenis a fu yn fawr. Ni fu o bosibl unrhyw genedl â feistrolai’r grefft o wladweinyddiaeth yn well, nac mewn ffordd fwy doeth a chyfrwys na Fenis, ac mi oroesodd am hirach na chynifer o’i gelynion a’i chystadleuwyr am dros fil o flynyddoedd gan hynny. Drwy hynny troesant forlyn anwadal ac anghroesawgar yn un o wledydd pwysicaf, godidociaf, cyfoethocaf a mwyaf sefydlog Ewrop. Chymerodd hi neb llai na Napoleon – efallai’r cadfridog disgleiriaf yn y Gorllewin ers yr henfyd - i’w trechu yn y pen draw.

Hyd heddiw, mae Fenis yn ddinas y mae’n rhaid i rywun fynd iddi. Mae ‘na rywbeth am y lle sy’n ennyn rhyw ramant a rhyfeddod fel bron unman arall. Fues i yno ddwy flynedd yn ôl fy hun ac mae'r lle'n swynol. Ond dan yr wyneb mae ‘na bethau eraill yn digwydd yno.

Ddwy flynedd yn ôl, mi flogiais am Fenis. Roedd hynny cyn refferendwm yr Alban, a daroganais bryd hynny mai Fenis o bosibl fydd gwladwriaeth annibynnol nesaf Ewrop, neu efallai’n fwy cywir, y genedl nesaf i ddeffro o’i thrwmgwsg. Gyda’r grymoedd o blaid annibyniaeth yn yr Alban wedi’u trechu dros dro, a fawr ddim symud yng Nghatalonia na Gwlad y Basg mewn difrif, heb sôn am Fflandrys, mae’n rhyfeddol imi nad ydi Fenis yn cael yr un sylw.

Y mae’r dudalen Wikipedia ar refferendwm annibyniaeth Fenis yn un ddifyr i’w darllen, er y soniais am hynny yn y blogiad yn 2014. Ers hynny, mae’n ymddangos nad ydi’r awydd dros annibyniaeth yno wedi dirywio fawr ddim, os o gwbl. Y mae polau ers hynny wedi dangos yn gyson bod mwyafrif pobl Fenis yn ffafrio annibyniaeth – yn y pôl diweddaraf y gwn i amdano ym mis Mawrth 2015, roedd y ffigur yn 57%. Fedra i ddim meddwl am unrhyw le yn Ewrop benbaladr lle mae'r awydd dros dorri'r rhydd o'r wladwriaeth ganolog yn gryfach.

Ond mae’r sefyllfa yn un ddigon rhyfedd. Mae o bosibl fwy o bleidiau o blaid annibyniaeth yn Fenis nag yn unrhyw ‘ranbarth’ tebyg yn Ewrop gyfan – mae o leiaf bump. Yn wir, yn y Cyngor Rhanbarthol (eu cynulliad nhw) mae pleidiau cenedlaetholgar, i raddau gwahanol i’w gilydd, yn dal 32 o’r 51 sedd, gydag arlywyddion o naws genedlaetholgar yn dal arlywyddiaeth y rhanbarth yn nhri o’r pedwar etholiad diweddaraf, gyda Luca Zaia, yr arlywydd cyfredol, yn datgan ei gefnogaeth i annibyniaeth ar sawl achlysur. Mae hynny’n sefyllfa gryfach na chenedlaetholwyr Catalwnia neu Wlad y Basg.

Mae yno hyd yn oed hanes o bobl yn defnyddio dulliau terfysgol i ddod ag annibyniaeth gam yn nes – carcharwyd y rhai diweddaraf a gyhuddwyd o hyn yn 2014.

Dydi Llywodraeth yr Eidal ddim yn ddall i’r hyn sy’n digwydd yno, ac wedi datgan bod cynnal refferendwm swyddogol ar annibyniaeth yn mynd yn groes i gyfansoddiad yr Eidal. Ond eto, all rhywun ddim gweld llywodraeth flêr yr Eidal wir yn mynd i’r afael â’r peth yn yr un modd â Sbaen neu hyd yn oed y Deyrnas Unedig petai’r ymgyrch, neu ymdeimlad efallai sy'n air mwy priodol, dros annibyniaeth yn cryfhau ymhellach. Dydi’r syniad o genedl Eidalaidd byth wedi ymsefydlu’n gryf iawn ar y pentir esgidiog; hawdd byddai ei datgymalu.
 
Problem Fenis, hyd y gwelaf i, ydi un o’r nodweddion hynny sy’n diffinio holl drigolion yr Eidal, er na fu hi erioed yn nodwedd gan Fenis yn hanesyddol – er eu bod nhw’n coelio mewn rhywbeth, maen nhw’n eithaf diymdrech wrth geisio cyflawni unrhyw beth. A does erioed wedi bod un ymgyrch benodol, unedig dros annibyniaeth, am ba reswm bynnag. Yn wahanol i genedlaetholdeb yn yr Alban neu Gatalwnia, sydd wedi ffrwydro dros y blynyddoedd diwethaf, ffrwtian y mae cenedlaetholdeb Fenetaidd ers iddi golli ei hannibyniaeth ddwy ganrif yn ôl. Ond bosib bod hynny’n rhoi iddi seiliau mwy gwydn yn yr hirdymor. Mater o amser ydi hi, mae’n siŵr, nes i’r grymoedd uno a bod cenedlaetholdeb yn Fenis yn cael sylw dyledus.
 
Ddywedais i ddwy flynedd yn ôl mai Fenis fydd gwladwriaeth annibynnol nesaf Ewrop. Ddyweda i fawr fwy na hynny oherwydd dwi ddim isio ailadrodd. Ond os ydi’r Fenetiaid yn cael eu shit at ei gilydd – yn adalw rywsut ronyn o gyfrwyster a chrebwyll anhygoel eu cyndeidiau – Fenis fydd o hyd gwladwriaeth nesaf Ewrop, ac mae hynny’n ddiamheuaeth.

Nessun commento: