Y mae rhai pobl yn
ysgrifennu fel math o gatharsis. Dydw i ddim yn meddwl imi erioed â gwneud
hynny, heblaw pan fydda i’n flin, fel arfer ar Blaid Cymru neu’n ddiweddarach,
efallai i chi sylwi, ar Awstria-ffycffês-Hwngari.
Ac, am ba reswm bynnag, dwi’n rhywun sy’n cadw ei feddyliau a’i wendidau mor
gudd ag y gall rhag pawb eithr ei ddetholedigion. Mae’n gas gen i bobl yn ‘siarad
yn agored’ am bob blydi dim; mae angen i bobl ddallt bod hynny weithiau’n
wrthgynhyrchiol – heb sôn am droëdig. Swni’n dadlau bod dyfalbarhad yn well na
hunan-dosturi a chwyno wrth bawb am ba mor galed ydi popeth i chi.
Ac eto, mae’n
anodd gen i esbonio pam arall y byddwn i yma’n ysgrifennu hyn. Dydw i ddim yn siŵr
fy hun.
Digwyddasai gwraidd
y peth rai misoedd yn ôl pan ges i adwaith alergol difrifol un noson. Mae gen i
alergedd i bysgod cregyn – mae’n ddatblygiad go newydd dros y ddwy flynedd
ddiwethaf, os hynny, ac yn achosi cryn loes imi oherwydd fy mod i wir yn caru
pysgod cregyn. Roeddwn i wedi f’argyhoeddi fy hun y noson honno mai yn fy mhen
oedd y cyfan ac fy mod i yn fy meddwod y noson gynt wedi bwyta corgimwch ac fy
mod i’n iawn.
Ugain munud ar ôl
trio cimwch fy chwaer (mae hwnna’n swnio’n rong) roeddwn i ar gadair masáj yng
Nghanolfan Red Dragon, yn methu â symud na siarad ac yn crynu’n drybeilig. Ddaeth
neb i fy helpu, o bosib yn meddwl fy mod i’n crynu achos fy mod i ar gadair
masáj, a lwcus bod y chwaer yno a bod ganddi brofiad o ddelio â sefyllfaoedd tebyg.
Doeddwn i methu symud fy mreichiau a oedd y gwbl stiff wrth f’ochr – yn eironig
ddigon yn siâp cimwch. Hyd yn oed o ran anaphylactic
shock, roedd hwn yn un go ysblennydd. Ond goroesais hen brofiad cwbl
annifyr nad ydw i eisiau ei gael byth eto, er bod Alan Llwyd bellach yn gwybod
fy ngwendid ac mae’n siŵr ei fod rŵan yn benderfynol o ddial (tasai o’n fyw).
Nid ers y noson
honno y bûm yr un fath cweit. Mi sbardunodd ynof rywbeth. Mi ddatblygais yn ei
sgîl rywbeth dwi’n amharod i’w alw’n anhwylder, ond yn sicr mae’n chwinc, a
hynny o bryder. Dros y misoedd diwethaf dwi wedi cael pyliau lu ohono, yn para
weithiau ryw 20 munud i ddyddiau o anesmwythder llai ond cyson.
Nid rhywbeth yn y meddwl
ydi o’n gyfan gwbl, yn wahanol i’r gred, er pan mae o’n cael ei effaith
ddieflig mae’n chwarae efo hwnnw hefyd, yn bennaf yn f’argyhoeddi fod fy
nghorff i am fynd yn gwbl stiff ac, yn rhyfeddaf oll, fod fy safn am gloi. Bydd
rhywun yn teimlo’n llewyg, isio denig, yn cael trafferth ynganu ac yn anadlu’n wael;
bydda i hefyd yn teimlo fy mraich chwith yn mynd yn ddideimlad a rhannau o’m
corff, fy ngwddw, fy safn a’m cefn gan mwya yn sbazio (fedra i’m meddwl am air
callach i’w ddisgrifio). Weithiau fydda i jyst yn crynu’n wirion fel deilen
betrus olaf coeden, heb deimlo’n erchyll o wael ac yn gallu ymdopi.
Yn gryno, dwi’n
cau lawr yn systematig am gyfnod.
Dros y misoedd
diwethaf dwi wedi gorfod gadael bwytai ynghanol pryd (boed am awyr iach, distawrwydd neu
jyst gadael yn llwyr) yn llwyr feddwl fy mod i wedi bwyta rhywbeth sydd am fy
lladd, gadael y dafarn neu eistedd yno efo fy hwd drosof, gofyn am lecyn distaw
mewn parti tŷ, wedi gadael y gwaith mewn blydi ambiwlans yn meddwl bod rhywbeth
mawr yn bod, cael cyfnodau byr i ffwrdd o'r gwaith, a’r gwaethaf o bosibl cael pyliau adref ben fy hun sydd wedi
arwain at yr ysbyty un neu ddau o weithiau hefyd (er ddim bob tro’n ddi-sail). Weithiau
maen nhw’n digwydd pan dwi’n hungover, yn aml pan dwi’n flinedig, weithiau pan
dwi’n ddigon sionc ac yn mwynhau bywyd.
Yn wir, roedd yna
adeg ddiwedd y llynedd lle’r o’n i wedi laru’n ofnadwy ar yr holl beth, ac yn
cerdded bobman yn ofalus ac amwni’n amheus, fel rhyw gath sy’n cael ei
hambygio. Ac er imi gael diagnosis o bethau gwahanol – hyperventilation ac, yn ddigon rhyfedd, bod yna grydcymalau yn fy
ngwddf i (dwi’n ffycin thyrti) leddfodd
yr un ddim ar y pyliau o bryder a phanig. Mae pyliau o bryder a phyliau o banig
yn eithaf tebyg i’w gilydd yn y bôn, ond yn wahanol i’m natur dwi’m yn
gwahaniaethu rhyngddynt ac wedi cael y ddau. Profiad bywyd de?
Ta waeth. Y mae
pryder yn beth annifyr tu hwnt, ac efallai’n gwbl amhosibl i gael rhywun nad sy’n
dioddef ohono i’w ddallt, ond yn aml nid yw’n fwy na chyfnod mewn bywyd, ac er
fy mod i’n cael pwl gwirion bob hyn a hyn – yr un gwaethaf diweddaraf yn Yr Hen
Lyfrgell lle bu’n rhaid i’m cydweithiwr fwy na heb fy nghario i allan – dwi’n well
nag yr oeddwn i rai misoedd yn ôl, lle o’n i’n meddwl ar adegau bod y byd ar
ben ac yn mynd ddyddiau’n gwbl anesmwyth ac yn argyhoeddedig mai fel ’na fyddwn
i am byth bythoedd. A ddim yn siŵr at bwy i droi ychwaith.
Hwnna oedd y peth
anoddaf – nid ddim gwybod at bwy i droi ond y newid dros nos deimlais i. O fynd
o fod yn hogyn (Hogyn o Rachub de
latsh?) hynod o fodlon, yn wir eithriadol o hapus efo bywyd a’i bethau ar y
cyfan a jyst yn mwynhau’n gyffredinol, i fod yn rhywun yr oedd mynd i’r pyb neu
am fwyd, am gyfnod o ddeufis eniwe, fel petai o’r peth anoddaf, mwyaf argoelus
yn y byd. Am wn i dwi’n ffodus fy mod i’n styfnig ar y diawl, achos ar y cyfan
mi orfodais fy hun i fynd a dal gwneud pethau a dwi’n meddwl, rywsut, fod hynny
wedi fy helpu i ddod dros y gwaethaf. Dwi’n eithaf ffodus hefyd fod gen i
synnwyr digrifwch (swreal) – mae adrodd wrth fy hun ac eraill fy mod i’n mynd yn mental neu’n boncyrs wedi ysgafnhau’r cyfan yn fawr; mae’n rhoi rhyw fath o
gydnabyddiaeth i’r cont peth heb roi iddo sylw gormodol, gan ei gadw ar yr
ymylon.
Wn i ddim a ydw i
cweit fy hun eto, neu a ydw i’n ymddangos i eraill yn cweit fy hun. Ond dwi ond
drwch blewyn o fod erbyn hyn.
Flynyddoedd yn ôl,
dywedodd fy ffrind Lowri Llew wrtha i tasa gen i enw Cymraeg mae’n siŵr na ‘Pryderi’
fyddai o. Ar ôl y misoedd diwethaf dwi’n eithaf hapus nad dyna fy enw, achos mi wn i
y byddai pawb yn galw Pryderi Pryderus arnaf, ac erbyn hyn byddwn i’n gaeth i’r
tŷ. Fel lwmp o gachu mewn toiled.
1 commento:
Ai dyma neges fach i ystyried byw'n fwy iach? Bosib gwneith leddfu unrhyw adweithiad i bysgod cregyn.
Posta un commento