Visualizzazione post con etichetta Plaid Cymru. Mostra tutti i post
Visualizzazione post con etichetta Plaid Cymru. Mostra tutti i post

lunedì, maggio 09, 2011

Y Cam Nesaf i Blaid Cymru

Os daeth unrhyw gysur o etholiad 2011, hynny oedd o leiaf fod proffwydo pawb arall gynddrwg â’m un i! Mae’n dangos sut y gall ambell bleidlais fan hyn fan draw newid lliwiau gwleidyddol yn sylweddol. Ond yr unig ffon fesur ydi nifer y seddi. Roedd etholiad 2011 yn fethiant gwleidyddol mawr i Blaid Cymru.

Wedi cael amser i feddwl am y peth a rhoi emosiwn i un ochr, hoffwn gynnig ambell sylw a hynny’n fras – ‘sdim pwynt gwastraffu geiriau ar Blaid sy ddim yn gwrando.

Dwi’n gweld eisoes yr un ymateb gan y Blaid i’r hyn a ddigwyddodd – cymysgedd o esgusodion, ceisio edrych ar yr ochr orau pan nad oes un mewn gwirionedd, mynnu mai chwarae’r gêm hir ydyw ac felly nad oes angen poeni. Mae hunanfoddhad yn un o nodweddion gwaethaf Plaid Cymru. Mae’r Blaid yn hoff o feddwl bod ei chanlyniadau diweddar yn ‘blip’ bob tro. Cadarnhaodd 2011 fod dirywiad Plaid Cymru wedi bod yn gyson – dyma’r trydydd etholiad gwael o’r bron iddi. Nid ffliwc mo hynny, mae ‘na resymau pendant drostynt.

Beth oedd y rhesymau? Cwestiwn anodd efo ateb syml, dybiwn i, ac ateb y soniwyd amdano eisoes. Mae gan Blaid Cymru seiliau cadarn – mae’r drefniadaeth yn dda, y cyllid yn dda, mae iddi ddigon o wirfoddolwyr a pheiriant etholiadol trawiadol. Felly pam bod Llafur yn gallu gwneud cystal ag y mae heb y pethau hynny?

John Dixon oedd yn iawn: gwahaniaethau. Mae’r gwahaniaeth rhwng Plaid Cymru a’r pleidiau eraill yn gwbl, gwbl anweledig. Rhydd i bawb ei farn, ond does fawr amheuaeth am hyn; mae gan Blaid Cymru ofn dirfawr o’i phwynt gwerthu unigryw, sef ei chenedlaetholdeb. Nid oes dim yn ei hymgyrchu dros y blynyddoedd wedi awgrymu ei bod yn blaid ddigyfaddawd genedlaetholgar.

Does dim ots pwy ydi’r arweinydd mewn gwirionedd os ydi Plaid Cymru yn parhau i fod mor bathetig yn yr ystyr hwn. Heb ei chenedlaetholdeb, ni all gadw ei phleidlais graidd na sicrhau pleidleisiau newydd. Does ‘na fawr o bwynt manylu ar natur ei chenedlaetholdeb – mae annibynniaeth a’r sylw pathetig a gaiff yn enghraifft amlwg iawn – achos bod y diffyg ohono mor amlwg. Nid dyma blaid Saunders na Gwynfor, ac mae hynny’n gondemniad llwyr.

Mi ellir cymharu hyn â’r SNP. Er bod sefyllfa wleidyddol Cymru a’r Alban yn gwbl wahanol mae gwers amlwg sef bod yr SNP wedi llwyddo drwy fod yn hyderus yn ei chenhadaeth genedlaetholgar. Dydi Plaid Cymru ddim. Plaid o reolwyr ydi hi. Lle mae’r tân yn ei bol?

Ta waeth. Rhaid i’r Blaid rŵan fewnsyllu arni ei hun, ac ystyried y ffordd ymlaen. “Dysgu gwersi o’r etholiad hwn” fu’r gri am dri etholiad bellach. Yn ôl ei hanes diweddar, ‘sgen i ddim ffydd y bydd Plaid Cymru yn gwneud hyn yn y dyfodol agos. Ac, efallai, mai dyna'r broblem fwyaf oll.

lunedì, maggio 02, 2011

Syndrom '99

Fel y dywedais ym mlogiad ddoe, mae argraffiadau yn bethau peryglus, a thybio yn waeth fyth. Mwyaf euog o’r pechod hwn yw Plaid Cymru. Ers degawd mae Plaid Cymru wedi bod yn orhyderus am ei chyfleoedd mewn etholiadau, ac mae hynny yn ei dro wedi arwain at cyfres o ganlyniadau sy’n ymddangos yn drychinebus. Dim ond un etholiad dros y degawd diwethaf, sef rhai cyngor 2008, sydd wedi bod yn wirioneddol lwyddiannus iddi. Y mae rhai o’i gwleidyddion mwyaf profiadol ac amlwg wedi darogan canlyniadau gwych, ac yn y broses wedi llwyddo i argyhoeddi sylwebyddion, boed hwythau’n rhai yn y wasg neu’n rhai anffurfiol fel y blogiau.  Dyn ag ŵyr, mi lwyddodd y Blaid f’argyhoeddi i ymhlith nifer o bobl eraill y byddai 2010 yn etholiad gwych, ond hyd yn oed o safbwynt gwrthrychol roedd yn bell o fod. Darllener sampl o amryw flogiau gwleidyddol o’r llynedd i weld hynny.

‘Syndrom 99’ y buaswn i’n disgrifio’r duedd hon ym Mhlaid Cymru, oherwydd ei bod yn duedd sydd wedi amlygu ei hun ers etholiadau rhagorol 1999, y ‘daeargryn tawel’ honedig nas gwireddwyd mewn difrif. O Leanne Wood yn honni bod ganddi dros hanner pleidlais y Rhondda yn 2001 i Adam Price ac eraill yn gogoneddu arolygon barn di-nod, o saith sedd 2010 i fuddugoliaeth 2009, mae’n sicr yn un o nodweddion gwaethaf y Blaid!

Rŵan, mae’r Blaid yn blaid gymharol ifanc o ran ei hoedran, yn arbennig felly llawer o’i hymgeiswyr, ac efallai bod ieuenctid y Blaid yn yr ystyr hwn wedi arwain at orfrwdfrydedd ar sawl achlysur sy’n deillio o ddiffyg profiad. Gwn nad ydw i mewn sefyllfa i bregethu achos dwi ddim yn ganfasiwr nac ymgyrchydd na dim tebyg, ond efallai bod tuedd i gredu os bydd rhywun yn dweud wrthoch ar stepen y drws eich bod yn sicr o’u pleidlais eu bod yn dweud y gwir. Ac mae’n sicr yn y Blaid barodrwydd i anwybyddu polau piniwn llai ffafriol (fel y rhai diweddar), a rhoi sylw i rai ffafriol (fel rhai tua blwyddyn yn ôl a chynt).

Dwi’n sefyll wrth yr hyn a ddywedais ddoe, sef bod gan Blaid Cymru fomentwm, ac nad oes gan unrhyw un o’r pleidiau eraill mohono, a bod ganddi hwnnw ar yr adeg gywir. Dydi hynny ddim yn golygu bod ganddi ddigon o fomentwm, nac yn tynnu oddi ar y ffaith y gallai’r momentwm hwnnw fod wedi dod yn rhy hwyr i wneud gwahaniaeth mawr. Os o gwbl.

Pam fy mod i’n dweud hyn yn hunanbwysig i gyd felly? Ddyweda’ i pam – mater o amgyffred ydi hynny hefyd, o ddarllen a chlywed. Oes, mae gan Blaid Cymru y gwynt yn ei hwyliau, ond yn debyg i’r degawd diwethaf dwi’n poeni efallai bod y llong yn mynd tua’r creigiau ac nid yr hafan unwaith eto. Dydw i ddim yn cyfeirio at unrhyw sedd yn benodol, gyda llaw, nac yn smalio fy mod i rhywsut yn gwybod yn well na neb arall ... dwi’n gwbl ymwybodol o’r ffaith fy mod i ddim! Ond rhaid bod yn realistig hefyd. Efallai bod y polau piniwn wedi bod yn hael i Lafur (ac efallai ddim), ond mae’n berffaith amlwg y bydd gogwydd sylweddol ati eleni, ac ni all unrhyw sedd, o Fôn i Fynwy, rywsut gael ei heithrio rhag y duedd honno. Mae ffactorau lleol ar waith ymhobman, ond mae’r gogwydd cenedlaethol cyffredinol hefyd.

Teimlaf fod Syndrom '99 yn araf lithro nôl mewn i ymgyrch y Blaid eleni. Ni ddylid gadael iddo wneud.

mercoledì, marzo 30, 2011

Cymru'n Un II

Rhaid i mi gytuno â’r Hen Rech pan mae’n dod i Cymru’n Un II – no, nefar, byth. Fel mae’n digwydd, dwi’n rhannu ei atgasedd pur at y Blaid Lafur – mae hi’n aneffeithiol, yn hunanol ac yn daeog. Os oes unrhyw blaid yn haeddu diflannu o wleidyddiaeth Cymru am byth, y blaid Lafur ydi’r blaid honno. Yn bersonol, alla i ond â chywilyddu ar y ffaith bod y Cymry’n dragwyddol ailethol y criw di-glem hwn i dra-arglwyddiaethu drostynt.

Serch hynny, diolch i Blaid Cymru, mae Cymru’n Un wedi bod yn gymharol lwyddiannus yn fy marn i. Ond dwi’n meddwl mai dyna diwedd ei lwyddiant o ran Plaid Cymru. Y gobaith oedd y byddai rhywsut yn rhoi hygrededd newydd i’r Blaid ymhlith y Cymry, er prin yw’r dystiolaeth mai dyma sydd wedi digwydd waeth beth fo’r sefyllfa wleidyddol. Cyflawnwyd yr hyn a gyflawnwyd ond dwi’n meddwl efallai bod y Blaid fwy neu lai lle’r oedd hi bedair blynedd yn ôl – yn etholiadol dydi hi fawr gryfach os o gwbl. Dyna awgrym y polau, a waeth pa esgusodion a wneir, dyma oedd hanes etholiadau 2009 a 2010.

Gadawodd John Dixon y Blaid ddoe, gan ddweud yn ei farn o bod y gwahaniaeth rhwng Plaid Cymru a’r pleidiau eraill yn lleihau gormod. Gall neb gyflwyno dadl gadarn i anghytuno â hynny, er nad ydw i’n cytuno â phopeth a ddywedodd. Mae dwy ochr i geiniog y consensws a geir yng ngwleidyddiaeth Cymru heddiw, i Blaid Cymru gellir dadlau mae erydu ei chenedlaetholdeb traddodiadol, angerddol yw’r ochr ddu. Nid yw ei harddull lai tanbaid, mwy saff, yn dda i gyd.

Y broblem ydi ymhlith arweinyddiaeth Plaid Cymru ydi na all amgyffred nad yw pobl yn pleidleisio dros y Blaid oherwydd polisïau, er mor ganmoladwy ydynt, ar addysg neu iechyd neu hyd yn oed yr economi. Rhoddir pleidlais i Blaid Cymru fel mynegiant gwleidyddol o hunaniaeth genedlaethol. Dybiwn i y gallai mwyafrif y Cymry wneud hynny dan yr amgylchiadau cywir. Dydi Plaid Cymru ddim yn ceisio creu’r amgylchiadau cywir. Cenedlaetholdeb yw unig arf unigryw’r Blaid – mae ei gelu yn dacteg dwp a dweud y lleiaf.

Ond yn ôl at Cymru’n Un II. Mae’r fersiwn cyntaf wedi bod o fudd i Blaid Cymru boed hynny dim ond o gael profiad o fod yn rhan o lywodraeth. Ond digon ydi digon. Dwi heb siarad â NEB sydd fel arfer yn pleidleisio Plaid Cymru sydd am weld ail-ddyfodiad y glymblaid bresennol, a hynny oherwydd eu bod am gael llais annibynnol, cryf a chenedlaetholgar yn y Senedd. Gyda’r SNP yn mwy na brwydro’n ôl yn yr Alban, a hynny drwy arddel cenedlaetholdeb, fe fyddech chi’n meddwl y byddai’r Blaid yn gwneud yr un peth. Dim byd tebyg. I aralleirio Kim Howell, dros y misoedd diwethaf, mae Llafur wedi rhagori ar genedlaetholdeb y cenedlaetholwyr. Os gall Llafur wneud hynny, gall unrhyw un.

I raddau, gallai llwyddiant neu aflwyddiant y Blaid eleni ddibynnu ar ddal ei thir. Wnaiff hi mo hynny drwy fflyrtio â Llafur na’r pleidliau eraill. Wnaiff hi mo hynny drwy ddewis pwyll dros dân yn y bol. A wnaiff hi mo hynny drwy gyfaddawdu. Roedd Cymru’n Un yn arbrawf llwyddiannus – profodd y gallai’r Blaid fod yn blaid lywodraethol. Yr her rŵan ydi dod yn brif blaid. A wnaiff hi mo hynny drwy wneud yr hyn sy’n edrych yn bryderus a chynyddol bosibl – clymbleidio’n gyson â’r blaid Lafur.

Yn gryno, dydi’r Blaid ddim yn manteisio o gwbl ar ei sefyllfa unigryw o fod yr unig blaid genedlaetholgar yng Nghymru. Os rhywbeth, mae’n ymddangos fel petai’n mynd i gyfeiriad gwahanol (‘ymddangos’ ydi’r gair pwysig yn fanno, wrth gwrs). Mae John Dixon yn poeni am gyfeiriad Plaid Cymru. Gyda’r bwlch rhwng y pleidiau’n llai, dwi’n poeni y gallai gael blwyddyn etholiadol ddu uffernol.

lunedì, marzo 07, 2011

Bod yn glyfar: strategaeth Plaid Cymru dros y ddeufis nesa'

Pwt bach am y refferendwm a enillwydd ddydd Gwener. Champion aye! Gafodd neb sioc o ennill ond roedd y canlyniadau o’r gogledd-ddwyrain, a Sir y Fflint yn arbennig, yn gwbl, gwbl annisgwyl. Do’n i ddim cweit yn credu’r canlyniad o’r fan honno. Braf iawn oedd bod yn gwbl anghywir, neu’n or-bryderus i fod yn onast, am yr hyn a allai ddigwydd yn y Gogledd. Ac fel Gwyneddigyn roedd gweld Gwynedd yn cipio’r goron am y bleidlais gryfaf o blaid yn destun balchder enfawr. Yn amlwg mae cadernid Gwynedd yn parhau!

Mi wyliais lawer o raglen refferendwm S4C fore Sadwrn yn fy ngwely yn dal llawn annwyd, a rhwng nôl dŵr, mynd i’r toiled a phesychu digon i godi cyfog ar rywun iach, dechreuodd Vaughan Roderick a Dicw siarad am y goblygiadau i etholiad y cynulliad, sydd bellach lai na deufis i ffwrdd.

Roedd un peth a ddywedodd Vaughan yn ddiddorol am ragolygon y Blaid. Yn ei ôl ef, dywedodd un o hen bennau’r Blaid wrtho bod y Blaid yn cael ei chysylltu â newid cyfansoddiadol. Nis cafwyd yn ’79, ac er mai bai Llafur oedd hynny, Plaid Cymru ddioddefodd (er i Lafur wneud yn ddrwg yn nechrau 80au hyd yn oed yng Nghymru sydd efallai’n tanseilio’r ddamcaniaeth). Ond wele 1999 – sefydlwyd y Cynulliad a Phlaid Cymru gafodd fudd etholiadol o hynny yn ’99 ac i raddau llawer llai yn ’01 – cyn i bethau fynd yn draed moch yn 2003.

Felly ai dyma fydd yr achos eleni? Bydd Llafur a Phlaid Cymru (a hefyd y Ceidwadwyr a’r Dems Rhydd cofiwch) yn brwydro dros bleidleisiau’n rheini a ddywedodd Ie ddydd Iau, sy’n dacteg anochel a hanfodol, ac mae i’r Blaid fantais fawr oherwydd gall ddweud wrth yr etholwyr yn ddi-flewyn ar dafod “Ni sicrhaodd y refferendwm a hebom ni yn y glymblaid ni fyddai refferendwm wedi cael ei gynnal, ac yn fwy na hynny roedd y canlyniad yn dyst i’r ffaith ein bod yn iawn i fynnu arno pryd y gwaethom”. Mae iddi hunan-gyfiawnhad ar ei hochr yn hyn o beth ac mi all ddweud mai hi oedd yn iawn, ac yn fwy na hynny fod rhai o amlygion y blaid Lafur yn anghywir.

Y cwestiwn ydi faint o’r hanner miliwn a ddywedodd ‘ie’ y gall ddenu? A all gael mwy na’r 220,000 o bleidleisiau a gafodd yn 2007? A all nid yn unig ddal ei thir, ond atgyfnerthu yn y Senedd?

Er gwaetha geiriau ffynhonnell Vaughan mae’n anodd gweld cynnydd mawr i Blaid Cymru ymhen deufis. Llwyddodd Llafur mewn nifer o ardaloedd droi’r refferendwm yn bleidlais yn erbyn y glymblaid Lundeinig, a dyma pam gwelwyd canlyniadau hynod yn rhai o’r Cymoedd mi dybiaf, p’un a wnaeth Plaid Cymru’r gwaith caib a rhaw i gyd fel y mae’n ei honni. Wn i ddim sut y gall y Blaid oresgyn hynny, ond dwi’n ffyddiog bod gan ei strategwyr syniad o leiaf.

Ac wrth gwrs mae’r ffaith bod y Ceidwadwyr mewn grym yn San Steffan o fudd i Lafur heb amheuaeth, drwy dystiolaeth polau neu fel arall. Mae gan Blaid Cymru hanes o wneud yn llai cystal pan fo’r Ceidwadwyr mewn grym. Mi dybiaf y bydd etholiadau’r Cynulliad yn cynnwys elfen gref o bleidlais brotest yn erbyn llywodraeth Llundain, sy’n drueni mawr, achos barn y bobl ar lywodraeth Caerdydd y dylai fod.

Serch hynny, mae’n amlwg iawn bod trefnidiaeth Plaid Cymru bellach yn drawiadol, ac efallai’r gorau o’r pleidiau yng Nghymru. ‘Does angen fawr o waith ymchwil i brofi hyn – wele ganlyniadau’r pedair sir Gymraeg, sef cadarnleoedd Plaid Cymru i bob pwrpas, yn y refferendwm. Gyda’i gilydd, pleidleisiodd dros 70% yn y siroedd Cymraeg o blaid, ond yn fwy na hynny yn y pedair sir hynny y cafwyd y niferoedd uchaf yn pleidleisio. Dylai fod yn hyderus o gadw y seddau sydd ganddi, er bod Aberconwy’n destun pryder dwi’n siŵr.

Os gall y Blaid hawlio perchnogaeth ar lwyddiant y refferendwm, ac mae iddi seiliau cadarn i honni hynny, a defnyddio i’r eithaf ei threfniadaeth rymus nid yn gyffredinol ond wedi’i thargedu, mi allwn weld ambell ganlyniad mawr. Etholiad Llafur fydd 2011, heb amheuaeth, ond er gwaethaf y polau mae Llafur Cymru o hyd yn ymdebygu’n fwyfwy i gragen etholiadol.

Dwi’n meddwl mai’r ffordd orau o ragweld beth fydd hanes y Blaid yn 2011 fydd y pôl nesaf a gawn. Iawn, mi wn fod polau Cymreig o hyd yn datblygu a bod efallai wendidau sylfaenol ynddynt, ond dydyn nhw heb fod yn uffernol o anghywir ers amser, ac roedd rhai’r refferendwm yn gyffredinol agos i’r canlyniad. Mae’r amser pan y’u diystyrwyd yn haeddiannol wedi mynd.

Un ar hugain y cant gafodd Plaid Cymru yn yr etholaethau yn yr un diwethaf a gynhaliwyd. Os gwelwn newid o 3% yn ei darpar bleidlais yn y nesaf, mi dybiaf y bydd yn arwydd o fomentwm a newid tebyg i hyn a welwyd ym 1999, er i raddau llawer llai. Y broblem i’r Blaid o ran hynny ydi nad ymdeimlad hawdd ei greu mohono – fel yn ’99 roedd yn rhywbeth sylfaenol a deimlai pobl ar lawr gwlad, ymchwydd cenedlaetholgar (er dros dro) cyfan gwbl amhleidiol, ond na all fod o fudd i neb ond am Blaid Cymru.

Gan hynny, dydi hi ddim yn amhosibl na chaiff buddugoliaeth y refferendwm, boed o ran maint neu’n ddaearyddol, fawr effaith ar etholiadau’r Cynulliad. Ond drwy fod yn glyfar, mi all; ac os ydi Plaid Cymru isio cael etholiad llwyddiannus, rhaid i hithau hefyd fod yn glyfar iawn dros y ddeufis nesa’.

domenica, febbraio 20, 2011

Kick Plaid Out

Wel, dyna neges ddiweddaraf Peter Hain, beth bynnag.

All rhywun ddim ond â helpu â meddwl os mae yntau ac eraill yn y Blaid Lafur yn parhau i gyhoeddi'r fath negeseuon ynghylch y Blaid, a nid lleiaf y negeseuon digon sinigaidd am Ieuan Wyn Jones yn ddiweddar, a fyddai'n well gan Lafur yn y bôn ffurfio llywodraeth leiafrifol na chydweithio eto â'r cenedlaetholwyr?

Neu, yn bwysicach efallai, er gwaethaf y bwriadau da, ydi Plaid Cymru wir isio cydweithio â phlaid fel hon, y byddai'n well ganddi danseilio PC na chydweithio er budd pobl Cymru? Cyn penderfynu bod Cymru'n Un II yn anochel, buaswn i'n erfyn ar y Blaid i ateb y cwestiwn hwnnw yn gyntaf.

venerdì, novembre 19, 2010

Yr Arglwydd Wigley

Felly dyma ni dair blynedd yn ddiweddarach ac mae Dafydd Wigley ar fin mynd i Dŷ’r Arglwyddi. Dafydd Wigley, yn bosib iawn, ydi fy hoff wleidydd i erioed yn y byd mawr crwn. Ond testun siom, nid dathlu, ydi i mi ei weld yn dychwelyd i Lundain. Dwi byth wedi bod o blaid anfon cynrychiolwyr cenedlaetholgar i Dŷ’r Arglwyddi ac ni fyddf fyth.

O ran hynny dwi’n ‘snob ideolegol’ (chwedl Blogmenai, nid fi!), dwi ddim yn licio a phrin y gwnaf gyfaddawdu ar sail egwyddorol. Mae fy ngwrthwynebiad at Dŷ’r Arglwyddi ar sawl ffrynt, nid yn annhebyg i fawr neb arall dybiwn i, ond pan fydd rhywun yn dweud bod yn rhaid bod yn ‘ymarferol’ a ‘chyfaddawdu’, wel, dim ond hyn a hyn y gellir ei wneud, ac o ran egwyddorion dim ond ychydig iawn y dylai rhywun gyfaddawdu.

Nôl yn 2007 pan ffurfiwyd y glymblaid i ddechrau ro’n i’n un mor gyffrous â neb arall a phryd hynny mi feddyliais ei fod yn gyfaddawd teg, ac angenrheidiol. Roedd angen llais cenedlaetholgar mewn llywodraeth. Gellir dadlau mai’r blaid Lafur, yn sicr yn draddodiadol, yw gelyn mwyaf, a mwyaf effeithiol, y Gymraeg yn holl hanes bodolaeth cenedl y Cymry. Cyfaddawd anodd. Erbyn hyn mi allwn ddechrau trafod a oedd yn werth hynny. Dwi dal ddim yn gwybod.

Ond ta waeth roedd yn benderfyniad angenrheidiol ac fe’i gwnaed ar delerau gweddol – roedd ymarferoldeb yn drech nag egwyddorion a hynny fu. Ond dydi anfon cynrychiolwyr i Dŷ’r Arglwyddi ddim yn benderfyniad angenrheidiol i’w wneud. Un llais bach ymhlith cannoedd fydd hyd yn oed Dafydd Wigley, llais bach Cymreigaidd ym mwyaf Prydeinllyd y sefydliadau. Bydd rhai yn dweud bod angen llais arnom yno. Ni chawn, er ymdrechu gangwaith fwy, hynny fyth.

Y gwir plaen ydi, fe brofir na fydd ymdrech y Blaid i gael Dafydd Wigley yno o unrhyw werth yn y pen draw. Roedd hwn yn achos lle y dylai egwyddorion fod drechaf ac nid hynny a fu. A’r daith annibynniaeth eisoes wedi dechrau, nid oes angen i genedlaetholwyr bellach ymwneud â’r lle annemocrataidd hwn. Does ‘na ddim cyfiawnhawd drosto. Ac, yn anffodus, mae’n rheswm arall fyth i fod yn siomedig â Phlaid Cymru.

Nid diben y Blaid i mi erioed fu newid y system oddi mewn. Ei diben ydi diwedd Prydain, nid cyfrannu at, na cyfranogi yn, o bosibl yr annhecaf o’i sefydliadau.

Ond ta waeth, hynny fydd rwan. Ac mae’n bechod garw y bydd unig wir wladweinydd y Cymry yn gorffen ei yrfa yn Ail Siambr Senedd Lloegr heb na llais na dylanwad.

venerdì, ottobre 01, 2010

Newyddion da o Wynedd

Ro'n i mewn tymer digon drwg bora 'ma rhwng y gwynt a'r glaw, ond mi gododd yr ysbryd yn o handi o weld bod Plaid Cymru wedi trechu Llais Gwynedd yn ward Bowydd a Rhiw ym Meirionnydd draw.

Llongyfarchiadau mawr i Paul Thomas, a gobeithio bod terfyn ffycin Llais Gwynedd gam yn nes!

lunedì, settembre 27, 2010

Cipolwg ar 2011

Noda’r Western Mule heddiw fod Ed Milliband am ail-ymgysylltu â ‘Middle Wales’ - sef ein fersiwn ni o ‘Middle England’ am wn i. Mae hyn yn newyddion gwych, ond nid i’r Blaid Lafur. Tra ei bod yn wir bod angen yn Lloegr ennill cefnogaeth y dosbarth canol, ac mai colli pleidleisiau o blith y dosbarth hwnnw gollodd yr etholiad diwethaf i Lafur, nid dyma’r achos yng Nghymru o gwbl. Yng Nghymru, rhaid i Lafur adennill cefnogaeth nid y dosbarth canol, ond y dosbarth gweithiol.

O safbwynt personol dwi’n siomedig mai Ed gipiodd yr arweinyddiaeth, achos dwi’n meddwl y byddai David Milliband yn apelio llai at bleidleiswyr Cymru, yn enwedig y rhai dosbarth gweithiol. Ond dydw i ddim yn rhy siŵr y caiff yr arweinydd ‘cenedlaethol’ effaith enfawr ar etholiad 2011.

Mae gan Lafur o hyd broblemau dwys yng Nghymru. Hyd yn oed, fel y mae’r polau’n awgrymu, pe bai’n gwneud yn dda iawn y flwyddyn nesa, erys y problemau hyn. Mae ei threfniadaeth yn wael. Mae nifer yr aelodau yn llawer llai nag y bu – gwelir ar flogmenai mai tua 11,000 o aelodau sydd yng Nghymru. Mae hynny’n fwy na Phlaid Cymru neu’r Torïaid, ond serch hynny mae’n syndod o isel yng nghyd-destun hanes gwleidyddol Cymru. Ac, yn ariannol, mae’r blaid yn llanast.

Nid fy mod i’n diystyru Llafur yn 2011 - dwi ymhell o wneud hynny - ond er bod canlyniad eleni yn arwynebol dda rhaid cofio mai 36% gafodd Llafur eleni yng Nghymru - y lefel isaf o gefnogaeth mewn cenedlaethau, a gwaeth na chafodd yn etholiadau’r Cynulliad ym 1999. Canlyniad cymharol dda a gafwyd, ond cragen o ganlyniad ydoedd serch hynny.

Yr hyn dwi’n ei ddweud ydi hyn. Er gwaethaf popeth, ac er gwaetha’r ffaith fy mod wedi ailadrodd ei bod ar ei pheryglaf pan fo’n glwyfedig, mae Llafur Cymru yn parhau’n wannach nag y bu ers talwm. Dwi’n cytuno â barn Vaughan Roderick, o dargedu’n effeithiol yn yr etholaethau, y gallai Plaid Cymru gael etholiad syfrdanol o lwyddiannus yn 2011. Y broblem fawr ydi, yn bersonol, dwi ddim o’r farn y bydd Plaid Cymru yn llwyddo gwneud hyn. Mae un perygl mawr iddi hithau.

Yn ddiweddar mae Llafur Cymru wedi bod yn defnyddio iaith gref iawn am lywodraeth Lloegr – un o’r prif honiadau yw ei bod yn ‘wrth-Gymreig’. I bob pwrpas, mae’r blaid yn defnyddio iaith sydd yn ei hanfod yn genedlaetholgar, a dyma dir Plaid Cymru – neu o leiaf dyma ddylai fod yn dir iddi. A dyma’r iaith y dylai Plaid Cymru nid yn unig ei defnyddio fwy, a pheidio â bod ofn ei defnyddio, ond ei bloeddio’n llawer uwch na Llafur. Dydi hi ddim yn llwyddo gwneud ar y funud; ac oni wneir hynny yn 2011 Llafur, nid Plaid Cymru, a welir fel amddiffynwyr Cymru. Ni ddylai’r Blaid, ar unrhyw gyfrif, adael i Lafur ddwyn wneud hynny, oherwydd bydd canlyniadau gwneud hynny yn ddinistriol iddi.

Polisïau arloesol ar yr amgylchedd neu ddarlledu? Da iawn. Ond Llafur, nid Plaid Cymru, sy’n bod yn glyfar ar hyn o bryd. ‘Sgen i ddim amheuaeth bod cenedlaetholdeb yn apelio mwy na pholisïau bachog. Ond mae angen i’r Blaid fod yn fwy ymosodol o lawer, tua phob cyfeiriad, neu mi fydd yn edifar. Dwi’n gweld cyfle i wneud yn dda yn 2011. Dwi ddim yn gweld Plaid Cymru yn gwneud popeth y gall i fanteisio arno.

venerdì, agosto 20, 2010

Plaid Cymru ac annibyniaeth

Un o fy mhrif broblemau â Phlaid Cymru ydi ei safbwynt ar annibyniaeth i Gymru. Rŵan, fe wyddoch bid siŵr fy mod i’n gefnogwr di-sigl mewn annibyniaeth. Gallem drafod rhinweddau a phroblemau posibl y nod hwnnw drwy’r dydd, yn economaidd, yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol. Un o wreiddiau fy nghred ynddi ydi os nad ydi cenedl y Cymry yn fodlon cymryd cyfrifoldeb arni ei hun yna ‘does hawl ganddi gyfeirio at ei hun fel cenedl o gwbl, ac waeth iddi ymuno ag eraill genhedloedd diflanedig y byd yn y llyfrau hanes a safio lot o ofid ac ymdrech i ni gyd.

Prin fydd y rhai sy’n cytuno â hynny mae’n siŵr. Wrth gwrs, un peth dwi’n rhannu’n gryf â’r Blaid (er nad ydi hi’n gred gref gan bob elfen yn y Blaid) ydi y dylai Cymru fod yn annibynnol. Y broblem sy gen i ydi’r agwedd ‘annibyniaeth yn yr hirdymor’ y mae’r Blaid yn ei dilyn. Sut y mae diffinio ‘hirdymor’? Mae Cymru eisoes wedi’i rheoli o’r tu allan i’w ffiniau ers dros 700 o flynyddoedd - dwi’n sicr ddim yn gallu disgwyl 700 mlynedd arall!

I’r graddau hynny, dwi’n credu y dylai Cymru fod yn annibynnol rŵan, y funud hon. Dydw i ddim yn rhannu gofidiau eraill am yr economi, chwaith. Pan gawn blaid o Gymru yn rheoli Cymru fydd hi fawr o amser ar y sefyllfa’n gwella, dwi’m yn amau hynny ronyn – dydi pethau heb wella mewn difrif ers oes datganoli oherwydd mai un o’r pleidiau sy’n wasaidd i Loegr sydd wastad wrth y llyw. Pa well ffordd o gadw hunanhyder y Cymry’n isel na’u cadw’n dlawd dragwyddol a thrwy hynny sicrhau eu teyrngarwch? Ysywaeth, nid rhydd mohoni. Rhaid i mi dderbyn hynny.

Mae sôn mawr yn ddiweddar am USP Plaid Cymru, ond fawr ddim am ei USP mwyaf sef ei chred mewn Cymru rydd. Y broblem ydi, drwy fythol ddatgan annibyniaeth fel nod hirdymor mi all y Blaid ddistewi ofnau’r rhai sydd yn erbyn annibyniaeth, gan dwyllo pleidleisiau ganddynt, tra hefyd dwyllo ei phleidlais graidd i feddwl ‘sticiwch gyda ni, fe gyrhaeddwn y nod yn y pen draw’ heb wneud hynny. Mae angen ar y Blaid, er mwyn bod yn gwbl agored ar y pwynt hwn, ‘fap’ i annibyniaeth. Nid o ran amser, fel y cyfryw, dwi’n cyfaddawdu ar hynny, ond yn sicr o ran y broses ddatganoli. Er enghraifft, gallwn ddweud bod sefydlu’r Cynulliad yn cyflawni Cam 1. Ennill y refferendwm - os cawn ni un, a dwi ddim yn siŵr y cawn - ydi Cam 2. Gallai datganoli Darlledu fod yn Gam 3, pwerau dros drethi ac ynni fod yn Gam 4, datganoli’r System Gyfiawnder a’r Heddlu yn Gam 5, Senedd lawn ar fodel yr Alban yn Gam 6, Senedd â phwerau tebyg i ranbarthau’r Almaen yn Gam 7 ac annibyniaeth lawn yn Gam 8.

Awgrym ydi’r uchod o’r drefn, wrth gwrs, ond dwi’n credu’n gryf bod angen hyn ar y Blaid, oherwydd os na chaiff hynny dwi’n rhagweld hyd yn oed mewn ugain mlynedd mai ‘annibyniaeth yn yr hirdymor’ fydd ei hamcan, ac na welwn mohoni fyth. Twyllo ydi hynny, nid mwy na llai.

Wrth gwrs, mae un peth wedi’i gyflawni ers datganoli eisoes. Ddeng mlynedd yn ôl roedd gan bobl Cymru ofn o annibyniaeth - roedd hi’n eithafol, yn afrealistig. Bellach mae’r lliaws yn anghytuno â’r syniad ond eto’n derbyn ei fod yn gred wleidyddol deilwng. Newid sylfaenol o fewn degawd. Wrth i ni raddol ennill pwerau mi fydd y farn yn parhau ar duedd ffafriol, ond rhaid i’r Blaid sicrhau bod y cyfansoddiad o hyd ar yr agenda - hi yn unig all wneud hynny. A rhaid iddi wthio’n galed ac yn ddi-baid dros ennill pwerau i Gymru.

Weithiau, dwi’n meddwl mai’r rhai sydd fwyaf ofn annibyniaeth ydi Plaid Cymru ei hun. Di-sail ydi’r pryder hwnnw, dwi’n siŵr, ond credaf yn gryf bod yn rhaid ymrwymo i’r syniad, llunio camau tuag at annibyniaeth, a glynu atynt doed â ddêl. Nerys Evans ddywedodd yn ddiweddar bod yn rhaid gweddnewid Cymru, wel, dyma ffordd o roi’r gweddnewidiad hwnnw ar bapur, a thrawsnewid Cymru am y gorau. Os gall ond wneud hynny os ydi hi’n gwbl ymrwymedig i annibyniaeth, ac weithiau mae rhywun yn teimlo nad yw.

martedì, agosto 10, 2010

Arweinydd nesaf Plaid Cymru - fy marn i

Mae’n drist na fydd Adam Price yn y Cynulliad flwyddyn nesaf. Dwi’m yn meddwl mai fi fyddai’r unig un i ryw amau hynny ers ychydig. Ond mae’n broblem fawr o ran hynny ydi pwy fyddai arweinydd nesaf Plaid Cymru (fel y blogiodd Guto Dafydd amdano’n ddiweddar). Waeth beth ddywediff neb, mae’n annhebygol iawn y bydd Ieuan Wyn Jones dal yn arweinydd erbyn 2015 (neu’r tu hwnt) ac Adam Price oedd yr olynydd naturiol. Er i IWJ greu argraff dda arna i yn ystod ymgyrch 2007, ers hynny mae o wedi mynd nôl i’r mowld ‘cyfreithiwr cefn gwlad da’, chwedl Price, ac er bod i hynny rinweddau, nid un ohonynt yw fel gwladweinydd nac arweinydd plaid.

Nid fy mod innau’n 100% yn siŵr o bleidleisio dros y Blaid yn 2011 fy hun – ymhell ohoni i fod yn onast, os mai diben y bleidlais honno fyddai cadw Llafur mewn grym am bedair mlynedd arall. Ta waeth.

Felly, mae hi’n 2013 arnom ac Ieuan Wyn yn camu i’r ymylon. Yn bersonol wela i mohono’n gwneud ynghynt. Yn wahanol i rai, mae’n anodd gen i weld y Blaid yn colli seddau, er o bosibl dir, yn 2011 – yn wir, mae’r etholaethau, mi gredaf, i gyd yn ddigon ddiogel o ran nad oes pryderon mawr gen i, er bod ambell un yn gwneud i mi deimlo’n bur anesmwyth. Edrychwn ar yr etholaethau am arweinydd nesaf y Blaid – does un ar y rhestrau eto.

Ddaw’r arweinydd nesaf ddim o’r Gogledd. Mae Gareth Jones a, diolch i Dduw ac Allah a phawb arall, Dafydd Êl, yn rhy hen. Gadawa hynny Alun Ffred, gweinidog gweddol ond arweinydd plaid? Na. Os rhywbeth, byddai’n ffitio i’r mowld IWJ o arweinyddiaeth, ac mae’n annhebygol yn fy marn i y byddai am gael go ar y joban.

Rhaid felly mynd i Ddyfed i chwilio am arweinydd, ac efallai hen bryd hefyd. Yn gyntaf, Rhodri Glyn. Er i Guto Dafydd ei grybwyll, rhaid i mi ei ddiystyrru. Dwi’n hoff iawn o Rhodri Glyn ers iddo ymddeol fel gweinidog, ac mae o’n codi pwyntiau dilys a phwysig o hyd (yn sicr yn ddiweddar), ond ac yntau’n fethiant fel gweinidog prin y gallai fod yn arweinydd. Gadawa hynny ddau – neu ddwy: Helen Mary ac Elin Jones.

Arferai Helen Mary greu argraff hynod arna i. Bûm yn aelod o’r Blaid y ddau dro i Ieuan Wyn gael ei ethol, a dwywaith mi bleidleisiais dros Helen Mary Jones yn hytrach nag Ieuan. Erbyn hyn, dwi ddim mor siŵr. Mae HMJ wedi dod i gynrychioli agwedd ar y Blaid na alla i mo’i stumogi, sef ceisio ei chynghreirio o hyd â’r blaid Lafur, fel petai’r ddwy blaid yn gynghreiriaid naturiol; yr elfen honno o’r Blaid sy’n obsesiynu braidd â gwerthoedd sosialaidd a hynny’n aml ar draul cenedlaetholdeb traddodiadol. Dwi dal yn licio Helen Mary, ond allwn i fyth ei chefnogi fel arweinydd mwyach, a dwi’n meddwl y gallai o bosibl fod yn niweidiol ymhlith y bleidlais graidd.

Na, o dan y fath amgylchiadau un person yn unig y galla i ei gweld yn sefyll yn y bwlch, sef Elin Jones – yn fy marn i, heb amheuaeth, gwleidydd mwyaf rhagorol Plaid Cymru yn y Cynulliad. Mae hi’n weinidog gwych, yn sefyll ei thir, yn areithiwr da (os nad gwych), yn ymarferol yn hytrach na dogmataidd, yn berfformiwr cyson yn y Cynulliad a hefyd yn genedlaetholwr mawr sydd yn fwy i’r canol na’r chwith. Dwi’n meddwl bod hyn yn bwysig – dieithrio cenedlaetholwyr y dde ydi’r peth mwyaf dwl y gall y Blaid ei wneud, ac mae hi wedi graddol wneud hynny dros y blynyddoedd diwethaf.

Ac mae ‘na rywbeth arall – mae ganddi fwy o ‘deimlad’ gwladweinyddol na’r un arall o aelodau cynulliad cyfredol Plaid Cymru, y cydbwysedd iawn o sylwedd, ymarferoldeb, egwyddorion a charisma.

Y pryder ydi sedd Ceredigion ei hun. Dylai fod yn ddiogel, o ystyried y glymblaid Lundeinig, ei henw da a’i gwaith rhagorol fel gweinidog materion gwledig mewn etholaeth cefn gwlad. Ond roedd maint buddugoliaeth y Rhyddfrydwyr eleni yn gonsyrn – mae’r newidiadau ar droed yno’n rhewi’r gwaed i fod yn onest – a phan soniais yn y proffwydoliaethau am y bleidlais wrth-genedlaetholgar, seddau fel Ceredigion roedd gen i mewn golwg. Os ydych chi’n wrth-genedlaetholwr, mi bleidleisiwch yn dactegol i atal Plaid Cymru.

Gan ddweud hynny byddwn yn disgwyl iddo gael ei dychwelyd yn haeddiannol i Fae Caerdydd.

‘Does gen i ameheuaeth y gwnâi Elin Jones arweinydd penigamp ar Blaid Cymru, yng ngwir draddodiad y Blaid hefyd. Gydag Adam Price yn swnio’n ddigon llugoer am ei uchelgais i fod yn arweinydd (er nid yn rhan o wleidyddiaeth Cymru a’r Blaid, mawr obeithiaf), fedra i’n bersonol ddim gweld neb arall a allai camu i’r adwy lawn cystal ag Elin Jones.

Ond dwi'n crafu pen am un peth - pam bod y ddadl yma wedi dod i'r wyneb? A phan dwi'n dweud 'pam' dwi ddim yn golygu 'pam ddiawl' ond yn hytrach 'tybed'...