Visualizzazione post con etichetta synfyfyrio. Mostra tutti i post
Visualizzazione post con etichetta synfyfyrio. Mostra tutti i post

martedì, settembre 30, 2008

Mae Dydd Mawrth yn oren

Bron bob gair a glywaf, ac yng nghwmni rhai pobl mae hynny grynswth yn fwy na hoffwn, gwelaf liw yn fy mhen. Dwi’n darllen llyfr ‘O Ran’ Mererid Hopwood ar y funud, ac er i fod yn onest dwi’n cael eithaf trafferth ei ddarllen mi gyrhaeddais ddarn ddoe a oedd yn sôn am liwiau dyddiau’r wythnos. Mae rhai Mererid Hopwood yn wahanol i mi. Am ryw reswm:

Dydd Llun sy’n wyrdd
Dydd Mawrth sy’n orenfelyn
Dydd Mercher sy’n wyrdd fel pwll
Dydd Iau sy’n aur
Dydd Gwener sy’n ddu
Dydd Sadwrn sy’n goch
Dydd Sul sy’n felyn golau

Hoffwn wybod a oes rhywbeth seicolojical y tu ôl i feddwl y ffasiwn bethau. Rydyn ni gyd, o’r symlaf i’r cymhlethaf, yn hoff iawn, yn anad dim, o ddadansoddi ein hunain. Rŵan, os un o’r symlaf ydych, sef er enghraifft Kinch neu’n gynghorydd Llais Gwynedd, cyflawnid y dasg ar fyr o dro. I’r cymhlethaf gall fod yn ddiderfyn.

Byddaf i â’r Dwd yn aml yn treulio oriau yn dadansoddi eraill, dros banad neu yn y car ar daith faith, ac yn dod i gasgliadau tra dwfn. Yn wir, er yn gyfuniad afiach a phlentynnaidd sy’n destun casineb darlithwyr a phrinder amynedd gan gyfeillion, rydym hefyd yn gyfuniad sy’n amgyffred llawer ac yn dallt gwreiddiau pob anghydfod a theimlad sy’n hofran o’n cwmpas.

Ond beth sydd gan hynny i wneud â’r ffaith bod Mawrth yn orenfelyn yn fy mhen, wn i ddim, a doedd Wikipedia fawr o help, chwaith.

giovedì, settembre 25, 2008

Stêc dda

Does fawr o bethau dwi’n eu casáu yn fwy na Llafurwyr (sori Rhys a Gwenan a Dad, ond asu maesho ffycin gras efo chi ... ) ond un peth y bydda i’n ei hoffi’n fawr ydi stêc dda. A hithau’n ben-blwydd ar Mam ddoe, aethom i’r Bae am fwyd, a stêc dda a gefais. Pam lai, meddwn i wrth fy hun, a minnau heb gael un ers hydoedd.

Rŵan, mi fydda i’n hoffi fy stêc yn benodol iawn. Canolig. Ddim wedi’i choginio gymaint fel bod y blas yn diflannu, a tai’m i gael gwaed yn nofio o amgylch y plât achos nid hen beth sâl mohonof.

Ydi wir, mae’r teulu i lawr ar y funud, ac er y diffyg llonydd llwyr y dônt â hwy, mae’n braf cael y teulu lawr, ‘nenwedig rŵan fydd gen i gyfle i brynu stôf a rhewgell newydd. Onid oes yn rhaid i ni gyd fanteisio ar y sefyllfaoedd anoddaf?

Y mis diwethaf mi wariais lawer mwy na’m cyflog, rhwng Amsterdam, lle’r wyf isio mynd yn ôl iddo'r funud hon, bil enfawr y Dreth Gyngor, y morgais, y biliau eraill, er bod fy nhreth wedi mynd i lawr am ryw reswm a’r cwmni benthyciadau myfyrwyr wedi penderfynu peidio â’m conio. Y bastads twyllodrus iddynt.

A pham ffwc dwi wastad isio talu mwy o drethi pan dwi wedi meddwi?

martedì, agosto 26, 2008

Pe bai'r cofnod yn llên feicro, llên feicro aflwyddiannus byddai

Mawr ddyfalaf na chaf fawr uniaethu gan ddweud hyn ond dwi wrth fy modd efo blas Ibruprofen. Mae hyn hefyd yn wir am Calpol biws, y bydd nifer ohonoch yn cytuno â mi, sydd gangwaith gwell na’r oren. Os mae o’n ddigon da i blant mi ddylai fod yn ddigon da i oedolion, dyna’r oll uda i.

Hefyd, ar drywydd cwbl wahanol, oes ‘na rhywun arall yn meddwl nad ydi “yn rhad ac am ddim” yn gwneud synnwyr? Nid ffasgydd ieithyddol ym mowld Ellen Angharad neu Ffrainc mohonof, ond mae ‘na rhywbeth anghywir iawn am yr ymadrodd hwn. Ni all rhywbeth fod yn rhad ac am ddim. Yr un neu’r llall ydi o. Dyna ddiwadd arni.


Gorffennaf ar nodyn trist. Cefais freuddwyd dros y penwythnos, mi gredaf, fod gennyf wallt hir unwaith eto drachefn, a’i fod eto’n tyfu’n drwchus fel y buodd cyn y ddamwain berocseid ar ddechrau 2005. Diwrnod trist i ni gyd ydoedd, yn wir.

martedì, agosto 12, 2008

Llawysgrifen

Dydw i ddim yn rhywun mor ddiflas â fy mod yn trafod hyn yn aml â neb ond un o’r pethau sydd gennyf i a’m ffrind dwyfol a rhyfedd Lowri Llewelyn yn gyffredin ydyw’r ffaith nad ydym yn hoff o Comic Sans. Dyma’r ffont i bobl drist sy’n meddwl eu bod yn crazy wrth ysgrifennu adroddiadau a thraethodau. Windings. Dyna ‘di ffwcin crazy; ceisiwch chi feiddio cyfieithu gan ei ddefnyddio, ond Comics Sans? Tai’m i glywed y lol ‘ma fwyach.

Microsoft Sans Serif ydi fy hoff ffont i, wedi’i ddilyn gan Arial, er wrth ysgrifennu â’m llaw mae fy g a’m a yn union ‘run fath â Times New Roman.

Sôn am ysgrifennu â llaw, ydach chi’n cofio yn ‘rysgol fach mai peth pwysicaf, yn ôl yr athrawon, y câi ei ddysgu i chi oedd sut i wneud llawysgrifen gysylltiedig? Fi ydi’r unig un dwi’n ei nabod, yn fater o ffaith, sy’n dal i ysgrifennu llythrennau cyswllt - mae pawb arall yn eu gwneud ar wahân erbyn hyn. Ond hen lawysgrifen flêr ferchetaidd sydd gennyf erbyn hyn sy’n edrych fel trywydd malwen feddw ar ei ffordd adref o’r dafarn. Fedra i ddim helpu gwneud y ffasiwn beth, wrth gwrs; felly ŷm addysgwyd, a dwi’m yn un am newid.

P’un bynnag, llai o’r malu cachu ‘ma, gen i bethau gwaeth i’w gwneud.

mercoledì, agosto 06, 2008

.cym

Ai fi ydi'r unig un yng Nghymru gyfan sy'n meddwl bod .cym yn swnio'n erchyll ac y byddai rhywbeth fel .cmr yn fwy addas?

giovedì, luglio 31, 2008

Afiachrwydd a'r Blewyn Dirgel

Mae haenau o afiach yn yr hwn fyd. Gall rhywun fod yn afiach oherwydd eu bod yn drewi, fel Haydn Blin. Gall rhywun feddu ar bersonoliaeth afiach, fel Dyfed Flewfran. Gall rhywun fod yn gwbl afiach eu naws, fel Lowri Dwd. Gallwch fod yn afiach o hiliol, sydd ryw haen yn uwch o hiliol nag wyf i, neu’n afiach o gas a thywyll eich gwedd. Gallwch fod yn afiach ddigon eich arferion, fel pan gafodd Ceren biso yn bin y golchdy yn Senghennydd. Na, nid wyf wedi anghofio.

Mae’r afiach a wyf innau yn wahanol, ond fe’i cyrhaeddais neithiwr. Ers rhyw dridiau dwi wedi bod yn tagu llawer (sef pesychu i rai pobl ond tagu y bydda i’n ddeud, fel rhywun o Rachub a’i dafodiaith gref, gyfoethog) a heb ddeall pam. Mi gefais ryw ffisig ar ei gyfer ond ni wnaeth wahaniaeth, ac ni chysgais yn ddigonol oherwydd y tagu hirfaith tan y bore bach.

Ond wedi bod yn tagu yn y gwely am dros awr, ac yn syrffedu braidd, mi ddyweda i hynny wrthoch, mi deimlais rywbeth yn dyfod o’m gwddw ac i mewn i’m ceg. Wrth estyn i mewn sylwais mai darn o wallt ydoedd, ac mi beidiais â thagu ar f’union (er bod y gwddw dal yn bur boenus). Do, yn wir, bu’r tagu yn deillio o wallt. Wn i ddim gwallt pwy ydoedd, mawr obeithiaf f’un i, ond nid wyf wedi bod yn cnoi fy ngwallt yn ddiweddar, na gwallt neb arall o ran hynny. A, na, ni piwb mohono chwaith (a naddo, dwi heb â gwneud yn ystod y tridiau felly dim sylwadau ‘ffraeth’).

A dyna fy haen o afiachrwydd ar y raddfa, gwalltbesychwr; sy’n eithaf uchel i fyny, mifawrdybiaf.

mercoledì, luglio 23, 2008

'Steddfod yn nesáu

Smai? Ydw, iawn diolch yn fawr, ‘rhen fol yn chwarae fyny ond dyna ni. Chithau? Wela i. Ffyc off, felly.

Ta waeth. Mae’r ‘Steddfod, wyddoch chi, yma ymhen tuag wythnos. Rŵan, fel y dywedais y llynedd, nid steddfodwr mawr mohonof, ond pan fydd y ‘Steddfod yn agos, fel y bu i mi yng Nghasnewydd, Bangor ac eleni yng Nghaerdydd, mi fydda i’n galw heibio i ddweud helo a chwilio am ffrîbis yn stondin Cymdeithas yr Iaith a gwneud pethau felly. I fod yn onest efo chi, fedra i ddim disgwyl eleni, achos dwi’n benderfynol o weld y cadeirio, sydd yn rhywbeth dwi byth wedi’i weld o’r blaen, ac eistedd ar y maes efo peint a byrger. Na phoener, ‘rhen Selwyn, feddwa i ddim ar y maes. Nid bardd mohonof.

Pobl ryfedd ydi beirdd. Dydyn nhw ddim mor clîci â phobl y sîn roc Gymraeg (yr amgens yn benodol) nac yn meddwl eu bod nhw’n well na neb (yr amgens eto - sori, ond mae’n wir - fe ddylen nhw ‘di dallt bod cerddoriaeth amgen yn amgen am reswm...), ond maen nhw’n cael eu dal mewn dyledus barch. Ac mi ddylent hefyd. Hoffwn i wybod yn union beth sy’n mynd drwy feddwl bardd - dwi’n dychmygu lliwiau a siapiau amhenodol. Wn i ddim beth sy’n mynd drwy feddwl blogwyr - dychmygaf fyd unig di-liw, ond dwi’n gwyro oddi ar y pwynt honedig.

Ia wir, y Steddfod. Ro’n i’n edrych ar y gigiau i feddwl beth sy’n dwyn fy ffansi, a’r gwir ydi does ‘na ddim byd sy’n gwneud i mi wlychu’n hun. Beryg fydd yn rhaid i mi ddewis rhywbeth, fodd bynnag - Meic Stevens nos Sadwrn Clwb Ifor sy’n apelio fwyaf, ond mae’n siŵr na chai docyn a p’un bynnag mae ‘na rhywbeth od iawn efo fo’n chwarae gyda Lleuwen Steffan a hwythau’n gwpwl (sydd yn mynd ag ias lawr y cefn).

Dyna ni, ddigon o sarhau am heddiw, mi gredaf. Ddim isio ypsetio’r pwysigion gormod.

giovedì, luglio 10, 2008

Pynciau'r Ysgol

Tua’r adeg hon ddeng mlynedd yn ôl roeddwn yn gorffen fy ail flwyddyn yn Ysgol Dyffryn Ogwen. Roedd yn weddol amlwg i mi hyd yn oed bryd hynny nad oedd dawn gen i, ond am ysgrifennu, a’r ddawn honno nid mawreddog ydyw. Ta waeth, roedd hefyd yn amlwg erbyn hynny pa bynciau yr oeddwn yn dda arnynt a’r rhaid nad oeddwn cystal.

Mae’n mynd heb ddweud mai fy nghas bwnc oedd chwaraeon. Dydi bod yn hogyn a chasáu gwneud chwaraeon yn yr ysgol achos eich bod chi mor ddiawledig o wael ar bob camp a chwaraeir ddim yn gyfuniad delfrydol a dweud y lleiaf. Pob gwers mi deimlais yn ofnadwy a gwneud unrhyw beth y gallwn i gael allan ohoni, ond yn amlach na pheidio gwneud cywilydd o’m hun efo pêl-droed neu griced fu’r hanes. Yn pwyso llai na naw stôn bryd hynny, gallwn ddychmygu nad oedd rygbi, ychwaith, yn rhinwedd.

Un peth na fues yn dda ynddo chwaith oedd Technoleg. Y cyrhaeddiad mwyaf i’m rhan fu gwneud peg cotiau allan o acrylic y bu iddo dorri ar ôl rhoi côt arno. Wn i ddim amdanoch chi, ond yn bersonol ni ystyriais hyn yn llwyddiant o faint sylweddol iawn, ac mi barodd fy anallu i dorri darn o bren yn syth i mi ddiystyru gyrfa ym maes saernïaeth.

Ar y cyfan roeddwn i’n weddol ofnadwy mewn mathemateg a gwyddoniaeth – dwi byth wedi dallt cemeg na ffiseg, er y bu i mi fwynhau’r gwersi oherwydd na wnes i ddim byd ynddynt. Un o wyrthiau bach y byd yw’r ffaith i mi barhau’n Set 1 drwy fy nghyfnod o’u hastudio.

Hanes a daearyddiaeth mi hoffais, a byddwn i wedi mwynhau celf heblaw i’r athrawes fy nghasáu yn llwyr, a’m symud i ochr arall y dosbarth ben fy hun am siarad gormod.

Iaith, wastad, oedd yn ennyn fy niddordeb. Yn ddiweddar dwi wedi cael cyfres ryfedd o freuddwydion ynghylch cael gwersi Ffrangeg yn yr ysgol drachefn, ond roeddwn i wrth fy modd yn siarad Ffrangeg ac mae’n gywilydd gen i na ddaliais i’w siarad, ond yn hytrach mae’n adfeilio’n araf bach gen i. Yn yr ysgol uwchradd y bu i mi fagu fy nghariad at y Gymraeg a phopeth yn ei chylch, a choeliwch ai peidio, er y bu imi roi’r gorau iddi bythefnos i mewn i’m Lefel A, roeddwn hefyd yn hoff o Saesneg, a’r elfen greadigol ohoni.

Sydd, actiwli, yn fy ngwneud i’n bach o bons.

mercoledì, luglio 09, 2008

Y Byd Mawr Crwn

Wel helo ffrindiau. Heddiw, cawn dair wythnos werth o law mewn diwrnod, yn ôl y sôn. Am ryw reswm, nid yw hyn at fy nant. Wedi’r cyfan, mae’n fis Gorffennaf, ac mi ddylai fod heulwen. Dwi’n draddodiadwr rhonc a ddim yn hoffi pan nad ydi pethau fel y dylent fod.

Ar brydiau felly caf ryw fân awydd i ddenig i rywle pell, ond prin y bydd hynny’n parhau. Dydw i ddim yn un am deithio na gwyliau. ‘Does yr un man yn y byd dwi isio mynd, dim dwisho gweld, a ‘does uffar o ddim y gall y byd mawr gynnig i mi na fedraf ei gael yng Nghymru. Heblaw am haf yn ystod yr haf.

Wel, celwydd braidd ydi’r uchod. Mae’n wir nad ydw i’n licio teithio a ‘does fawr o ddim dwisho’i weld ond mae ambell i beth. Dwi wastad wedi bod isio gweld y Sffincs yn yr Aifft. Y broblem ydi dwi’n casáu tywod ac ar ôl ei weld byddwn i ddim am dreulio wythnos arall yn yr Aifft, achos mae’r gweddill ohono’n edrych yn weddol shit i fod yn gwbl onest, yn enwedig gyda’r teimladau negyddol am dywod sydd gennyf.

A p’un bynnag, mae’r Aifft yn rhy boeth a chas gen i dywydd poeth, ac o’r herwydd dwi wedi hen ddallt nad welaf fyth mo’r Sffincs.

Hoffwn, efallai, fynd i’r Tŵr Eiffel. Ond ddaw neb efo fi achos does neb yn licio Ffrancwyr ac mae pawb arall ‘di bod eniwe. Wn i ddim pam ddiawl mae pawb yn mynd ymlaen am yr UDA i fod yn onest, chwaith, na ffycin Awstralia, sydd eto llawn tywod a thŷ opera hyll a dwi’m yn licio ffycin opera.

Efallai yr hoffwn weld Wal Fawr Tsieina, ond byddwn i isio’i gweld hi i gyd, a ‘sgen i’m pres na mynadd gwneud ffasiwn beth. Mae’r un peth a rhywle fel Machu Pichu – byddwn wrth fy modd ond dwi’m yn fodlon gwario ar fynd yno a byddwn i ddim isio cerdded – a ‘does bws i fynd â chi yno am wn i.


Y broblem ydi dwi’n diflasu’n syth bin. Fe wn yn iawn y byddwn wrth fy modd yn mynd ar wyliau sgïo – am tua dwyawr cyn penderfynu fy mod i dda i ddim a meddwl ‘ffwcia hyn, dwi’n mynd nôl i Gymru’. Ond uffar ots gen i. Bodlon dwi yma’n gulfeddwl i gyd; dwi’m isio gweld na gwneud dim o bwys, felly pam gwneud, yn de?

venerdì, giugno 27, 2008

Ffyc off Wimblingdon

Ha ha ha. Dwi newydd cael chwarddiad bach plentynaidd i mi’n hun o ddarllen rhai o’r amrywiol ffyrdd y daw pobl at y flog drwy peiriannau chwilio. Wele’r canlynol a deipiwyd i mewn i Gwgl yn bennaf:

fampir sex
any mackrel at Moelfre
Helen Sbeit
enwau babi
Dai Llanilar caneuon
La mamma di smalio
bryn fôn carchar
king prons

P’un bynnag, a hithau’n ddiwrnod erchyll o ddiflas yng Nghaerdydd, mi obeithiaf yn llawn bod yr un peth yn digwydd yn Wimbledon draw wrth i’r gachwanciaeth llygru’r sianeli teledu. Mae’n gwbl iawn a chyfiawn i Ewro 2008 wneud hyn, wrth gwrs, gan fod pêl-droed cymaint gwell na thenis.

Yn y gorffennol niwrol, pell, roeddwn i’n wych ar tenis. Dyna’r unig gamp, erioed, a oedd gennyf unrhyw ddawn ynddi. Er, cefais gerdyn cymeradwyaeth mewn rygbi unwaith. Am “wneud ymdrech”. ‘Sdim gwaeth na chael cydnabyddiaeth gadarnhaol am rywbeth dachi’n crap am wneud, mynnaf.

giovedì, giugno 26, 2008

Clwyfedig Fraich Ddirgel

Wn i yn ddiweddar dwi bron â bod yn mynd allan o’m ffordd i sarhau pawb mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, o lysieuwyr i Doris i bobl ddigartref i bobl sy’n ailgylchu. Dyma neges i chi (ond am y bobl ddigartref, nad oes mynediad i’r rhyngrwyd ganddynt, mi dybiaf):

Ymlawenhewch. Dw i mewn poen.

Am ryw reswm sy’n gwbl anhysbys i mi dw i ‘di tynnu rhywbeth yn fy mraich chwith ac mae’n wirioneddol, wirioneddol brifo heddiw. Dwi’n ei grymu ac yn rhoi mwythau iddo ond yn dal i gerdded o gwmpas megis fersiwn hynod ddel o Jeremy Beadle.

Rŵan, wn i ddim sut ddaru hyn ddigwydd. Neithiwr, mi es gyda’m ffrind diserch, Ellen Angharad, i chwarae sboncen, ond defnyddio fy mraich dde ydw i wrth chwarae sboncen, neu chwarae unrhyw beth a dweud y gwir (moch). Hitia befo. Mi ddaeth i’r amlwg wedi i mi ddeffro, felly dyn ag ŵyr beth y buom yn gwneud yn nheyrnas breuddwydion neithiwr, ond pa beth bynnag yr oedd dwi’m yn rhy hapus iawn am y peth ar hyn o bryd.

Felly dyma fi’n glwyfedig resynus, ond dal yn goeth a gwych fy mynegiant. Ond i fyd technoleg, ac mae’r hen deledu acw’n mynd o od i odiach. Fel yr wyf wedi nodi ‘stalwm, er mai analog sydd gen i, mi fedraf wylio Animal Planet a BBC News 24. Mi gymrodd pethau tro am y rhyfeddach wrth i mi brynu chwaraewr fideo/DVD dros y penwythnos am grocbris yn ASDA. O’i ddefnyddio, mi fedraf hefyd wylio E4, CNN ac UKTV Gold.

Mae hyn i gyd, wrth gwrs, yn ychwanegu at y ffaith pan brynais Freeview, nid oedd yn pigo fyny uffarn o ddim. Mae rhywbeth od yn y gwynt yn Grangetown. Er enghraifft, pan fydd yn glawio yn Grangetown mae o i’w weld yn eithaf braf yn Nhreganna wrth i mi fynd yn y car. Hefyd, mae un o’r planhigion yn yr ardd/slabiau concrid yng nghefn yr eiddo wedi disgyn drosodd heb eglurhad.


Mae ‘na anfadrwydd ar waith, hogia.

lunedì, giugno 16, 2008

Y Gân Gylchdroi

Cân y funud ydi ‘O ble gest ti’r ddawn?’. Mae gan bawb wastad cân y funud y mae ganddynt obsesiwn â hi. Mae pawb yn hoff o’u cân y funud; mae’n ysbrydoli ac yn rhoi gwên i rywun, ‘blaw os rhyw Emo ydych chi a’ch bod chi’n gwrando am ryw lwmp o gân am hunanladdiad neu’i thebyg. Nid fy mod i’n gwybod beth ydi Emo, ond dwi’n gwybod taswn i yn un, mi fyddwn yn un hen.

Rhywbeth arall, fodd bynnag, ydi’r Gân sy’n Cylchdroi yn eich Pen. Mi all hon fod yn unrhyw beth ac mae’n mynd ar nerfau rhywun fatha Sais cofiwch. Yr un diweddaraf i wneud ei thaith o amgylch fy mhen am ryw bythefnos oedd anthem genedlaethol Ffrainc.

Y dacteg, yr unig dacteg, i gael y Gân Gylchdroi allan o’ch pen ydi ei chlywed yn ddidrugaredd o aml a dysgu’r geiriau. Go iawn. Ac ydi, mae hynny’n golygu fy mod wedi dysgu anthem genedlaethol Ffrainc, sydd, os nad yw’n unrhyw beth arall, yn ddiawledig o randym, hyd yn oed o’m safonau i. Nid dyma’r unig dro i hyn ddigwydd, wrth gwrs.

Y Gân Gylchdroi waethaf a mwyaf cywilyddus aeth drwy fy mhen i, a hynny am ddeufis da, oedd I Know Him So Well gan yr erchyll Barbara Streisand a’r un arall ‘sneb yn gwybod ei henw. Wel, dwi ddim, ac at ddiben y flog hon, fi ‘di pawb. Waeth bynnag. Ar ôl noson feddw yn y Model Inn mi ganodd Ellen a Llinos, y cyd-erchyllterau ac ydynt, y gân hon ar y carioci. Wel, dyna ddiwedd arni i mi; yn y gwely gyda’r nos, wrth gyfrifiadur y gwaith, mi gylchdrôdd, mi ailadroddodd, nes bron â dwyn fy mhwyll yn llwyr - nad yw’n beth anodd o ystyried cyn lleied gennyf sydd.

Yn ffodus, mae gen i Limewire, ac mae Youtube wastad yna i mi pan fydd y sefyllfa erchyll yn codi. Mae’r rhai o’r caneuon ar fy nghyfrifiadur yn warthus o randym a chrap erbyn hyn, ac nid o reidrwydd oherwydd fy mod yn hoff o gân ond oherwydd, weithiau, fy mod yn ei chasáu. Dyna ni. Wn i ddim pa gân ddaw nesaf i’m hunllefu, ond mi ddaw ac mi fydda i’n flin am fis go dda.

mercoledì, giugno 11, 2008

Diwrnod ym Mywyd yr Enwog Syr Ian

Yn wahanol i sawl person dwi’n eu hadnabod, a hwythau gwyddant pwy ydynt, nid yw fy mywyd yn cylchdroi o amgylch teledu, er fy mod i’n ddiog ac yn treulio’r nosweithiau o flaen y cyfrifiadur a’r teledu a dim arall yn lle gwneud pethau fel ymarfer corff ac ysgrifennu’r Stori Fer dragwyddol anorffenedig ond ffwc o ddoniol serch hyn.

Sôn am ddoniol dwi’n licio gweld pa fath o hiwmor sydd gan bawb, a sut fath o hiwmor y bydd rhywun yn ei gyfleu. Fydda i’n hoff o feddwl (yn gwbl gelwyddog) fod gen i hiwmor eangfrydig, ond a dweud y gwir hiwmor sy’n gyfuniad o fod yn swrreal, sarhaus a stiwpid-blentynnaidd sy gen i, sy’n cylchdroi o amgylch cymariaethau. Mae’n od mai Blackadder a Bottom yw fy hoff gomedïau, sy’n gwbl wahanol i’w gilydd, ond dwi methu er fy myw mynd i mewn i Family Guy na The Office. Dwi ddim yn ‘cael’ Family Guy, a dwi ddim yn chwerthin ar The Office.

Ta waeth, bod yn fwy cynhyrchiol y gwnaf. Dyna bwynt y blogiad hwn. Rhaid i ‘Diwrnod ym Mywyd yr Enwog Syr Ian’ gael ei gorffen. Beth i wneud efo peth o’r fath wn i ddim. Ond mi ffendia i rywbeth cos dwi’n grêt.

martedì, giugno 10, 2008

Y Siom a'r Caledi

Celwydd ni chewch. Gas gen i’r Iseldiroedd heddiw. Beth ydynt ond am Saeson acen wirion sy’n byw hanner milltir o dan y môr, wn i ddim. Dynesed cynhesu byd eang a distrywio’r melinau gwynt a’r tiwlips. Chwaled eu cawsiau a’u canals.

Iawn, efallai bod dyheu am dranc cenedl braidd yn or-ymateb, ond p’un bynnag dwi’n ddig ar y diawl heddiw. Ym maes chwaraeon, dwi’n gollwr drwg a chwerw. Yr unig beth sydd o gysur i mi oedd, er gwaethaf colli 3-0, chwaraeodd Yr Eidal yn well na Ffrainc na Rwmania. Tra bo pizza, bo gobaith.

O leiaf ei bod hi’n braf. Dwi’n tisian fel mong ond ta waeth, mae’r tywydd braf yn codi hwyliau’n ddi-ffael, fel y mae’r gaeaf, ond am y Nadolig, yn ddigon i dduo’r enaid i’r iselfannau, wel, isaf. Fodd bynnag, dwi’n byw ar gabaets a thatws ar y funud achos y Credit Crunch. Wn i ddim beth ydi’r ffasiwn beth yn Gymraeg, nac, yn wir, beth ydyw mewn difri, ond dwi ‘di ei chael i mewn i’m mhen fy mod yn ei deimlo. P’un ac wyf ai peidio, wn i ddim. Ond dwi wedi penderfynu fy mod ac felly’n gwario llai. Mi es cyn belled â phrynu bîff corn ddoe. Tebyg mae licio’r ddelwedd o gael “pethau’n anodd” dwi yn hytrach na dim arall, ac wedyn mynd allan wedi meddwi gan ddweud pethau megis “mai mor galed acw dwi’n bwyta corned beef”.

Tasa rhywun isio ‘sgwennu stori fer amdanaf byddan nhw’n cael ffycin field day go iawn.
Yn bur ffodus, prin iawn y byddaf yn gyrru, felly dydw i ddim yn gwario rhyw lawer ar betrol a diolch i Dduw am hynny neu mi fyddwn yn y cach go iawn. Ches i fyth mo’r gliniadur na’r stôf newydd. Mae fy holl obeithion ar grŵp o fytwrs sbageti o Fôr y Canoldir. Go wir. Enillaf £40 os enillant, ac mi gaiff bîff corn fynd i ffwcio’i hun wedi hynny.

mercoledì, giugno 04, 2008

Split Ends. Stori wir.

Roedd heddiw yn garreg filltir i mi. Am y tro cyntaf yn fy mywyd fe es i dorri fy ngwallt ben fy hun. Tair blynedd ar hugain ar y blaned drist a chrap hon a dyma’r tro cyntaf i mi gamu i mewn i siop drin gwallt a chael cneifiad. Anhygoel, a dweud y gwir.

Wel lwcus i mi fynd, hefyd. Fel tua thri chwarter swyddogaethau’r byd, ‘sgen i ddim amser i bobl trin gwallt. Mae gen i lai o fynadd efo nhw pan maen nhw’n dechrau siarad am wallt, oherwydd ‘does gen i fawr o ddiddordeb mewn gwallt. Mi ddechreuodd siarad am wallt, fel y gallwch ddychmygu.

“Lwcus,” dywedodd yn ei Saesneg hyllaf (sydd yn fawr o gamp efo Saesneg) “eich bod wedi dod yma. Split ends ydi 70% o’r gwallt hwn. Mis arall a fyddwn i methu â gwneud dim i chi. Ond mi allaf eich achub.”

Ffug-chwarddais, oherwydd dwi’n dda ar ffug-chwerthin a bod yn or-boleit, yn enwedig pan fo dyn camp efo pâr o sisyrnau yn sefyll y tu ôl i mi. Roedd o’n foel, fel y mae’n digwydd, a wn i ddim sut y gall rhywun moel wybod cymaint am wallt a dweud y gwir yn onest. Dywedais i mo hynny oherwydd fe fyddai’n anghwrtais a beth bynnag dwi’n arbenigwr ar ffugio. Chwinc chwinc. O ydw.

Ond daeth un canlyniad allan o’r gorchwyl: dwi’n edrych yn ifancach. I’r rhai ohonoch nad ydych yn f’adnabod (a gwyn eich byd a bendith arnoch am hynny) dwi’n edrych fel banana y mae mwnci wedi sugno’r ffrwyth allan ohoni gan adael y croen i bydru: llesg, blinedig, diflas, gofidus.

Iawn, dw i dal i edrych felly ond efo gwallt byr. A dim split ends. Dywedodd y gŵr trin gwallt mae’n rhyfedd cymaint o hogiau sydd na wyddant pa beth yw’r splint ends ‘ma. Syndod yn wir.

mercoledì, maggio 14, 2008

Hunansynfyfyrio

Mae’r Gogledd diawledig wedi llwyddo cydio ynof drachefn, ond fel ers cryn amser dydi’r grafanc hon ddim am ddiflannu’n hawdd: mae’n aros gyda mi ac yn gwneud i mi deimlo’n isel. Dydi’r amser ddim yn iawn i mi ddychwelyd, fi ydi’r un cyntaf i ddallt hyn, ond mae’r teimlad yn parhau ac yn fy llesgau’n ofnadwy.

Ta waeth, mewn tua thair wythnos fydd Hogyn o Rachub (y flog, nid y fi) yn dathlu ei ben-blwydd yn 5 oed. Rŵan, mae ‘na sawl peth sy’n peri dryswch i mi. Dwi isio mynd allan efo BANG mawr bryd hynny a chael parti ond dydi hynny ddim yn hawdd. A p’un bynnag, byddai mynd allan ar ôl pum mlynedd yn eithaf camp - dwi’n falch, mewn ffordd wyrdroëdig, mai dyma un o’r blogiau Cymraeg hynaf sy’n bodoli ar y we: dim ond Morfablog a Nwdls sy’n hŷn, dwi’n siŵr!

Mae’n parhau’n anoddach dod o hyd i straeon difyr neu ddoniol pan fo rhywun yn gweithio 5 diwrnod yr wythnos, pan fo ganddynt hiraeth a’u bod yn synfyfyrio sy’n gwneud i’r flog hon barhau yn hytrach na byw ers ychydig (dwi’n teimlo, beth bynnag). Gan ddweud hynny, wn i ddim beth y byddwn i’n ei wneud heb flog ond am ffrwydro. Wedi’r cyfan, yn fwy na dim mae’n ffordd i mi ymwared â’m rhwystredigaethau, chwydu fy siom yn ysgrifenedig, a mynegi fy nicter at bopeth, a chael pleser o wybod bod ambell i un yn darllen am y fath beth er fy mod i'n gwybod cystal â neb nad oes hwyl i'w gael mewn darllen pethau felly.

A hefyd smalio fy mod i’n arbenigwr yn ystod etholiadau. Ffwcin dyfalu y mae arbenigwyr beth bynnag.

Ta waeth - mae gen i dair wythnos i ddod i benderfyniad ynglŷn â’r peth. Gydag Ewro 2008 yn dyfod mae’n siŵr y bydd angen galw draw i fynegi fy siom nad yw’r Eidal wedi ennill rhyw ben. Neu fynegi fy hiraeth a sôn am ryw dwat sy ‘di chwydu dros fy ‘sgidiau ac ati.

Cawn weld.

martedì, maggio 13, 2008

Yr Haf Hiraf yn Dyfod

Asu dwi’n oriog ar y funud, yn enwedig ers colli fy ffôn hyfryd iawn efo’i gerddoriaeth a’i luniau a phob math. Yn wahanol i bawb arall un oriog dwi yn y tywydd hwn beth bynnag, achos mae’n llygaid i’n cosi a’m gwddf yn gallu brifo’n eithriadol waeth bynnag faint a yfaf.

Felly mi fues i’n gollwr a chreu grŵp Facebook. Wyddoch chi, un o’r rhai sy’n dweud COLLI RHIFAU ANGEN RHIFAU PAWB. Dim ond deg o bobl sy wedi ymuno. Mae o leiaf tri o’r rheiny eisoes efo fy rhif ddydd Sul newydd. O diar. Doeddwn i’m yn gwybod bod fy amhoblogrwydd wedi diosg a phydru i’r fath raddau (er, mi oedd gen i syniad go dda).

Fyddai’m yn teimlo fel blogio yn ystod yr haf. Dwi’m yn teimlo y dylwn, a dwi’m efo’r un egni i fynd ar rants a, hyd yn oed, weithiau, dweud ambell i ffraethineb slei. Fe fyddaf, fel y chi, yn hoff o fanteisio ar y gerddi cwrw (sydd ddim yn bodoli yn Grangetown hyd y gwelaf i) a gwneud fawr o ddim arall; wn i ddim beth arall i’w wneud.

Ond fydd ‘na lai o yfed yr haf hwn na’r arfer. Ydi, mae hyd yn oed yr Hogyn yn teimlo’r tyndra ariannol y dyddiau hyn rhwng morgais a phetrol a bwyd a chael hwyl: mae’r siopa wythnosol yn costio mwy, y daith i’r gogledd yn dwyn mwy o geiniogau, popeth yn mynd yn waeth. Dwi’n ei ffendio’n eitha digalon na fyddaf allan cymaint ag yr hoffwn yr haf hwn. Bydd rhaid i mi ffendio rhywbeth rhad i wneud, debyg.

venerdì, maggio 09, 2008

Dydd Gwener

Dydd Gwener. Beth all rhywun ddweud am y dydd hwn? Byddaf bob tro yn disgwyl gwyrthiau o ddydd Gwener, ac mae’n fy siomi’n ddi-ben-draw. Byddaf yn disgwyl i rywbeth anhygoel ddigwydd, a hwyl a sbri’r byd a’i manion bethau ddod i’m canlyn i ddathlu diwedd yr wythnos waith. Disgwyliaf adar yn dawnsio canu yn y coed a’r gwair yn sglein a chlywed chwerthin plant a geiriau mwyn cariadon, cofleidio cyfeillion a chanu a cherddi’n llu.

Nid y fi ydi’r person mwyaf realistig, ni fedraf wadu hyn.

Fodd bynnag, dwi’n disgwyl cynnwrf yn yr awel ar ddydd Gwener ond byth yn ei gael. Prin iawn ar ôl dechrau gweithio mae rhywun yn sylwi mai diwrnod arall ydi dydd Gwener a bod yn rhaid i rywun gweithio, er gyda chryn lai o frwdfrydedd ac ymdrech nac unrhyw ddiwrnod arall. Rhaid i rywun weithio ar ddydd Gwener a dyna ddiwedd arni.

Gall nos Wener fod yn wag iawn heb fynd allan. Byddaf, mi fyddaf yn iawn efo botel o win coch mwyn yn y tŷ, ond nid yr un peth mohono ag ymryson ffraeth ffrindiau (neu, yn fy achos i, mwydro gwag a blinderog Lowri Dwd) dros beint mewn tafarndy.

Mae problem fawr yn hyn o beth. Dwi’n ffan o’r ‘peint distaw’, yr ambell beint a geir gyda’r nos cyn mynd adref. Yn Nyffryn Ogwen draw mae’n hanfod, ond rhaid dweud yng Nghaerdydd mae’n lled amhosib. Bai Caerdydd am fod yn fach ydyw. Ar ôl y peintiau distaw, mae’n ormod o demtasiwn, ac yn rhy hawdd o lawer, mynd i mewn i dre a meddwi’n jibidêrs tan yr oriau mân. Dydi hyn ddim yn arwain at gymdeithasu yn y modd arferol, chwaith, ond malu cachu o radd arallfydol (ac mi fynnaf fan hyn bod hyn yn benodol wir am y Cymry Cymraeg, sy’n hil o falwrs cachu didrugaredd, cythryblus) ac eithaf pen mawr y bore wedyn.

martedì, maggio 06, 2008

Ben Foel

Ew, dwi’m wedi bod atoch chi ers sbel, naddo? Roeddwn yn bwriadu rhoi dadansoddiad manwl o’r etholiadau cyngor cyn penderfynu nad oeddwn i wirioneddol isio gwneud hynny. Wel, roeddwn i isio, ond wnes i ddim, felly dyna ddiwedd ar hynny.

Mi es ddoe i ben Foel. Mae’n bosib iawn mai ben Moel Faban ydi fy hoff le yn y byd i gyd; ‘doeddwn i heb fod am flynyddoedd felly mi es. Yr ochr draw i Foel ceir cwm diffaith, ond dwi wrth fy modd yno. Yr unig beth a glywch yno ydi brain a defaid, gweld y ceffylau gwyllt yn mynd ar eu busnes rhwng y carnau. Mae rhywbeth dwfn am heddwch y fan honno sy’n rhoi rhyw flas tangnefeddus i mi.

Serch hynny, dim ond Saesneg sydd i’w chlywed ar uchaf gyrion Rachub erbyn hyn. Fedra’ i ddim disgrifio’r teimlad yn llawn i chi o glywed Saesneg yn y pentref. Wn i ddim os mai casineb ydyw, neu dristwch, neu ddicter, neu anobaith, hyd yn oed, ond mae’n deimlad pwerus iawn nad ydw i’n cweit gallu delio efo fo, nac yn gallu ei anwybyddu. Mae’n waeth na chrafu ar fwrdd du neu sgrechian elyrch (sy’n sŵn afiach, cofiwch). Ond dyna ni, mae ‘na ddiwedd i bob cân, waeth pa mor gofiadwy ydyw.

martedì, aprile 29, 2008

Pensiwn

Hoffech chi glywed ystadegyn trist? Fydda’ i ddim yn ymddeol nes y flwyddyn 2052, sef pan fyddaf yn 68, sydd mewn 45 o flynyddoedd (mae gen i ddwbl beth yw fy oedran rŵan, i bob pwrpas, i ddal i weithio). Dwi’n meddwl bod hynny’n erchyll, fy hun. Heb sôn am feddwl am fyw mewn byd y bydd yn hollol estron i chi, pwy ddiawl sydd isio gweithio nes eu bod nhw’n 68 oed?

Mae rhan ohonof yn rhywle sydd wastad yn meddwl nad lle dyn yw swyddfa neu floc neu rhwng muriau yn gweithio’n gaeth i drefn sydd ohoni. Mae rhan sy’n gweiddi’n groch am fod yn yr awyr iach ac wrth y môr a’r coed yn rhydd o ddesgiau a chyfrifiaduron. Gan ddweud hynny, mi wn yn iawn mi fi fyddai’r cyntaf i gwyno ar yr arwydd gyntaf o law mân neu pan y mae’n ddiawl o oer. Dydi hi byth yn peidio â’m rhyfeddu pa mor gaeth ydi’r byd rhydd, a chreulon fyddai rhyddid pur. Bob dim yn baradocs, mae’n rhaid.

Yn ddiweddar iawn mi ‘sgwennais ddarn ofnadwy am fethu’r Gogledd, yn fras, ac ar fy myw dwi’n edifar ei ysgrifennu. Os ydi rhywun yn ysgrifennu rhywbeth, mae’n ei wneud o’n go iawn, rhywsut. Fydda i’n mynd yn ôl ddydd Gwener tan y Mercher nesaf. Fedrai’m disgwyl arogli’r awyr unwaith eto, na gweld gwyrddni. Mae dallt y mynyddoedd yn dangnefedd ac yn gancr, yn eich arbed chi ac yn eich difa’n araf deg. Ydw, dw i angen brêc.