venerdì, marzo 07, 2008

Pêl-droed a Rygbi

Y ddadl dragwyddol: ai pêl-droed neu rygbi ydi gêm genedlaethol y Cymry? Dw i’n siŵr fy mod wedi dweud eisoes a sawl gwaith bod yn well gen i bêl-droed fel gêm, ond yn ystod cyfnod y Chwe Gwlad dim ond rygbi sydd ar fy meddwl (y rhan fwyaf helaeth o’r tymor pêl-droed byddaf yn ymwybodol iawn o’r holl dransffers a phwyntiau a gwahaniaeth goliau, ond o gêm gyntaf y Chwe Gwlad i’r olaf ‘sgen i ddim syniad beth sy’n digwydd be sy’n digwydd).

Ond mae’n rhaid i mi ddweud, efo cryn siom, mai rygbi ydi gêm genedlaethol y Cymry. Iawn, mae ‘na fwy o bobl yn chwarae pêl-droed, a hyd yn oed yng Nghaerdydd ‘sdim ond angen cymharu torfeydd y Gleision â’r rhai ym Mharc Ninian i weld bod pêl-droed yn gryfach yn y brifddinas (yn fy marn i) hyd yn oed. Ond dydi’r Gogledd ddim yn bêl-droed i gyd, chwaith. Mae ochrau Rhuthun ffor’ acw i rygbi i gyd – hyd yn oed yn Nyffryn Ogwen hyd Dyffryn Nantlle mae rygbi yn eithriadol boblogaidd (a dweud y gwir, byddwn i’n fodlon dweud mai Pesda ydi cadarnle rygbi mwyaf gogleddol Cymru).

Cymysg ydi’r darlun yn y pen draw, ond pan ddaw hi at angerdd y gêm genedlaethol, yn anffodus dydi pêl-droed methu â chymharu â rygbi. Mae’n drist ond rhaid cyfaddef ei bod yn wir - mae’r holl awyrgylch a’r canu Cymraeg, a’r ‘banter’ rygbi (heblaw yn erbyn y Saeson pan ddaw i lawr at gasineb craidd yn aml) yn atyniadol iawn i mi. Ond dyna ni, fy marn i ydi hyn i gyd.

A chas gen i bobl sy’n dweud “na, dw i’m yn gwylio’r rygbi, ddim diddordeb” neu “mae ffwtbol yn crap”. Ond efallai bod hynny’n dod lawr i’r ffaith bod gen i wir angerdd at y ddwy gamp, a dw i’n licio pobl sy fel fi. A beth bynnag mae rhywbeth yn well na ffwcin criced (pwy FFWC sy’n GALL ac yn mwynhau CRICED?)

Y pwynt dw i’n ceisio’i wneud, yn gwbl, gwbl aflwyddiannus, ydi fy mod yn edrych ymlaen at ddydd Sadwrn yn ofnadwy. Ond pêl-droed neu rygbi, ennill sy’n bwysig, a phan fydd Cymru yn curo bydd yn rhoi gwên ar y wyneb am weddill yr wythnos, sydd bob amser yn neis.

Iesu, nes i ddim cyflwyno'r pwynt bwriadedig o gwbl naddo?

mercoledì, marzo 05, 2008

Nodweddion Pennaf y Cymry

Nid yn anaml yr hoffwyf ddweud pethau mawrion, ac nid yn anaml i’r iaith Saesneg y cyfeirir y llid hwnnw ati. Yn wir, mor drahaus ydwyf ar y mater fel y byddaf yn datgan yn groch a phendant mai hen iaith gomon a hyll ydi’r Saesneg: hyll oherwydd ei seiniau di-nod a diflas a chomon oherwydd bod pawb yn ei medru. Does math o goethder na chelf yn perthyn iddi, yn fy marn onest i. Adroddir cyfrolau am y Saesneg y medr bron pob gwlad arall ei siarad yn well na’i wlad a roes enedigaeth iddi.

Ond gwell i mi beidio â dweud mwy, neu bydd rhywun yn sicr am fy ngwaed.

Ar ôl darllen Morfablog a gweld dolen i raglen Rob Brydon’s Identity Crisis fe’m synnwyd sut yr oedd ei ddirnadaeth o’r Cymry yn wahanol i ddirnadaeth y Cymry am eu hunain. Wyddwn i fy hun fyth y cawsom ein hystyried yn bobl brudd a diflas.

Dw i ers erioed wedi meddwl bod y Cymry fel rheol yn gyfeillgar, yn ffraeth ac yn fodlon iawn ar fynd drwy fywyd heb wneud dim o fawredd ond am fodloni’n hapus. Dydi ein cyfraniad i’r byd yn ei fawredd ddim yn llawer, a dw i’n meddwl ei bod ni’n eitha’ bodlon efo hynny. Nid gor-ddweud yw ein bod yn gantorion o fri, naturiol chwaith - mae ‘llais ffantastig’ dros y ffin fel arfer yn cael ei ystyried yn ‘llais da’ fan hyn.

Iawn, oce, dw i’n swnio’n drahaus iawn, ond problem fawr y Cymry ydi nad ydyn nhw’n gwneud digon o sŵn am eu rhinweddau. Oherwydd, fel y gwyddoch, o bosibl, os cymeroch sylw, dw i’n hoffi rhestri, a dyma yn fy marn i Ddeg o Nodweddion Pennaf y Cymry:


  1. Bodlonrwydd dwys
  2. Ffraethineb
  3. Canu yn y gwaed (diolch i’r capeli, rŵan pawb, “diolch, capeli...”)
  4. Ymdeimlad cymunedol cryf
  5. Rhyw rinwedd ‘oes a fu’ - rydym yn rhan fyw o’r hen fyd nad ydyw mwyach, a byddwn tra byddwn yn parhau
  6. Gwerthfawrogiad o'r pethau mân
  7. Mwy na’r un genedl arall ni ellir ein gwahanu o’n tir
  8. Ysbryd gwrthryfelgar (er ein bod yn gyndyn i weithredu)
  9. Smygrwydd. Mae’r Cymry yn ddwys o smyg am y ffaith nad ydynt yn Saeson
  10. Edwina Hart

(iawn, oce, dydi Edwina Hart ddim yn un o rinweddau’r Cymry, ond y gwir ydi fedrai’m meddwl cymaint â 10 ... roedd pump yn ffwcin straen...)

giovedì, febbraio 28, 2008

Tafarn leol

Wrth i Lowri Dwd ddod am ei gwyliau i Stryd Machen draw mae’n noson cwis dafarn yn y Cornwall. Bydd ambell un ohonoch yn gyfarwydd â thafarn y Cornwall, sef fy nhafarn leol, lle y byddwn yn mynd, ambell i waith, i chwarae’r cwis. A meddwi.

Rŵan, dw i’n berson cwynfanllyd a phenodol pan ddaw at dafarndai. Ers i’r Siôr gael ei chymryd drosodd gan Saeson (a rhai dw i’m yn ffond iawn ohonyn nhw o ran hynny - nid fy mod i’n ffond iawn o Saeson fel arfer, chwaith) mae’r Tavistock yn hawlio’i lle dyledus felly fel fy hoff dafarn. Dw i heb fod yno ers blwyddyn a mwy bellach, ond mae’r ddelwedd berffaith ohoni’n parhau, a dw i’n ddigon bodlon aros â’r ddelwedd o’r lle. Roedd y Tavistock yn dafarn leol heb ei hail, ac yn aml iawn bydd fy nghalon yn canfod ei ffordd yn ôl i’m trydedd flwyddyn yn y brifysgol a’r dyddiau a’r nosweithiau gwych a gafwyd yno: does fawr o amheuaeth gen i ddweud y treuliwyd rhai o ddyddiau gorau fy mywyd yn y dafarn fechan honno’n Y Rhath draw.

Erbyn i ni adael roedd y Tavistock wedi troi yn eithaf cyrchfan i Gymry Cymraeg yr ardal. Nid yn anaml mai’r Gymraeg a deyrnasai yno. Gwir iawn ydi hyn am y Cornwall - dw i’m eto wedi bod yno heb glywed Cymraeg. Ond er gwaethaf y ffaith hyfryd honno, dydi’r Cornwall ddim cymaint i’m hoffter. Gwir, mae’n gyfforddus, ond i mi’n bersonol mae’n ddiffygiol o ran rhywbeth a wn i ddim beth. Nid ydyw wedi llenwi’r blwch a adawodd y Tavistock - bosib oherwydd nad ydw i’n yfed cweit cymaint â phan fues fyfyriwr. O bosib oherwydd bod fy ffrindiau, agosaf a pellach, yn ddaearyddol bellach na fuont.

Dw i’n teimlo’n hen ŵr (ifanc) yn hiraethu am bethau bach felly. Ond ni wnaeth hiraethu ddrwg i neb.

mercoledì, febbraio 27, 2008

Cyflawnder Amser

Y peth gwaethaf y gall rywun ei ystyried a meddwl amdano yn ei wely yn ceisio cysgu ydyw’r bydysawd. Dw i’n gwybod bod hynny’n swnio braidd yn rhyfedd, ond mi grwydrodd fy meddwl i’r hwnnw gyfeiriad neithiwr. Mae’r peth i gyd mor gymhleth fel ei bod yn amhosib dweud dim amdano, yn dydi? O’r gwyddonydd enwocaf i’r uchaf esgob, mae gan bawb eu damcaniaeth am sut y’i crëwyd, a’r gwir plaen am y mater ydi bod pob eglurhad yr un mor debygol â’i gilydd.

Wrth i hynny fy nharo, penderfynais na fyddwn yn cysgu pe bawn yn meddwl am hynny, felly daeth y meddwl i lawr at y ddaear hon. Amser; y gelyn cyffredin. Anhygoel ydyw meddwl na fydd yr Wyddfa yn bodoli rhyw ddydd. Prin iawn y byddwn ni’r Cymry yno bryd hynny: dyn ag ŵyr pwy fydd.

A minnau wastad yn ddilornus o’r Saeson hynny sy’n symud i Gymru i fod yn agos at dir na fedrant ei ddallt byth, a bod “yn rhan o natur” drwy bethau gwirion fel mediteiddio, pan ein bod ninnau’n rhan annatod o’r tir hwn ers cof: mae’r tir hwn yn fam i ni, mewn gwirionedd, yn perthyn i ni, a fedr neb ddod yn perthyn i ddim drwy geisio. Rydych chi yn, neu dydych chi ddim.

Ond rhyfedd hefyd: rydym ni wastad yn ystyried mai eiddo’r Cymry ydyw Cymru, ac mai Cymru sy’n ein llunio, ond efallai nad ydym ni’n gywir wedi’r cwbl. Bu, mewn oes bell, bobl ar y tir a elwir yn Gymru heddiw nad Cymry’r oeddent – trigai eraill yma cynom ni, a thrig eraill arni ar ein hôl. Efallai mai’r Saeson a’u hiaith nhw fydd y nesaf, mae’n ddigon posibl, ond yn sicr nid y nhw ychwaith fydd yr olaf o gryn ffordd.

Rhyfedd hefyd ydyw meddwl bod Cymru’r genedl ond yn eiliad fechan yn hanes Cymru’r tir. Bu’r Carneddau’n sefyll yn wyliadwrus a’r tonnau’n herio’r clogwyni cyn y clywid cân dyn na chri’r eryrod. Nid oedd y Gymraeg, y’i ffurfiwyd gan y tir ym mhle y trigasai, yno o’r dechrau un, a daw dydd lle y bydd hithau’n angof - ynghyd â Chymru a’r Cymry, ond hefyd ynghyd â’r hen elyn o dros y ffin: ni chofir cerddi heddiw ym mha iaith bynnag y’u hyngenir, yn yfory amser. Tybed faint o wareiddiadau’r bydd sydd eisoes wedi diflannu’n gyfan gwbl, a faint o’r rheini yr oeddent yn credu’n gryf y byddent “yma hyd ddiwedd amser”? Pwy feiddiai dau fileniwm yn ôl ddarogan na fyddai Lladin i’w chlywed; pwy ond pedair ugain o flynyddoedd yn ôl byddai’n darogan fod Ymerodraeth Lloegr yn dod o derfyn?

Rydym ninnau’r Cymry rhywfaint i’r gwrthwyneb, bu gelynion yn proffwydo ein machlud yn ystod ein gwawrddydd, ond megis traeth sy’n gwrthod ildio i’r trai daw ein diwedd ninnau hefyd yn y pen draw. Yng nghyflawnder popeth, dydyn ni, na’r holl bethau rydym ni’n sefyll drostynt yn ddim. Daw’r dydd na fydd neb yn cofio dim ohonom.

Y tric mawr ydi mwynhau popeth tra eu bod yn para, ymhyfrydu ac ymdrybaeddu yn y pethau bychain a’r pethau mawrion, o bob cwrdd â chyfeillion i bob cerdd sy’n llonni; pob cinio Sul gyda’r teulu, a meddu ar bob chwarddiad nad atseinir ‘fory. Os gwnawn ni hynny, prin y byddai’r un ohonom yn edifar rhyw lawer.

Wn i ddim sut i orffen y blogiad hwn – felly mi adawn ni pethau’n fanno!

venerdì, febbraio 22, 2008

Mae gan Lowri Dwd gorff fel chicken and mushroom slice

Y tro diwethaf y bu gêm Chwe Gwlad, mi aeth yr Hogyn allan am unarddeg, a bu’n ei wely yn cysgu’n braf cyn chwech, fynta’n cerdded adref yn chwil gaib efo beiro ar ei wyneb a staens seidr blac o amgylch ei geg fel y Joker o Batman, wrth i hanner Caerdydd dechrau am allan. Dydi hyn ddim am ddigwydd yr hwn benwythnos. Mae gen i bwynt i’w brofi. Mi a’i profaf. Neu mi fydd Rhys yn fy lluchio i mewn i Afon Taf, dywed ef.

Un o’r pethau doniolaf a welodd ganolfan chwaraeon Talybont erioed oedd y Fi yn mynd efo Lowri Dwd i chwarae badminton yno’r wythnos hon. Yn ddiau mae gennyf gorff fel cwstard wy efo coesau sosej a Fruit Pastille yn ben iddo (a’r Dwd hithau chicken and mushroom slice tamp o gorffyn cnawdol â thrwyn banana estynedig) ond dw i’n dda ar fadminton ac yn dda ar denis. Ond mae problem. Bu blynyddoedd o gam-drin fy nghorff mewn amryw ffyrdd yn ddigon erbyn hyn i wneud i mi golli fy anadl yn ddifrifol wrth ddringo grisiau, heb sôn am chwarae badminton am awr.

Yn ffodus reit, penderfynodd y Dwd daro’r wennol yn ôl ataf yn syth bron bob tro. Wedyn mi fyddaf yn beryg. Mae gen i shot fel bwled – mi fedraf daro’n galed neu osod yn goeth. Ond mae’r fantais o daro cain yn cael ei gydbwyso gyda’m hanalluogrwydd i redeg, a thalcen caled ydyw: i’m curo i mewn gêm, pa gêm bynnag y bo, y dacteg y dylid ei mabwysiadu yw gwneud i mi redeg (dydi hyn, wrth gwrs, ddim yn cynnwys pŵl).

Felly, dyna’r dystiolaeth nad un iachus mohonof, pe byddid angen y fath dystiolaeth yn y lle cyntaf. Ond daeth ôl-effaith cas yn ei sgil. Stiffdod. Ia wir, ers nos Fercher mae fy mraich dde yn hollol stiff, yn brifo megis cryg cymalau, a chyda minnau’n ei ddal yn glwyfedig reit dw i wedi cael ambell i olwg amheus, ddyweda’ wrthych chi.

Yn ogystal â hyn cefais quiche i de nos Fercher a nos Iau, sy’n ffordd ddigon bodlon o orffen blogio’r wythnos hon.

mercoledì, febbraio 20, 2008

Nodyn Bodyn y Diwrnod

Hoho! Nid PC yn y lleiaf mo’r nodyn bodyn hwn a dderbyniais gan unigolyn a fydd yn aros yn anhysbys, ond mi wnaeth i mi wenu fel giât…!

"Dwi mewn lle doctor yn Bute town a dwi’n timlo fel dwi’n India dim Cymru! Fi di’r unig berson gwyn yma heblaw am y receptionist!"

martedì, febbraio 19, 2008

Y Tywydd (nas bwriadwyd)

Twyllodrus ydyw’r heulwen. Mi ddaw honno i ddywedyd helo yn llawn addo cynhesrwydd ac mai dal yn ffwcin oer. Serch hyn, dw i ddim am drafod y tywydd efo chi. Petawn gyda chi’n bersonol, mae cyfle sylweddol y byddwn yn gwneud hyn, oherwydd ar lafar mi fyddaf yn trafod y tywydd, gan hoffi dywedyd pethau megis:

“’Rargian mai’n oer”
“Mae’r cythraul gwynt ma’n chwthu, ‘chan”
“Uw, mi o’n glos echoddoe, ‘ndoedd?”

ond, fel y gwelwch, yn ysgrifenedig felly nid yw’r tywydd yr un mor ddiddorol ag ydyw yn y byd go iawn. Ond pa drafodaeth bynnag ynghylch y tywydd sydd, mae’r geiriau “chwythu”, “gafael” a “braf” yn anochel am lithro i mewn i’r sgwrs.

Hynny ydi, mae “chwythu” nid yn cyfeirio at y gwynt ond “Gwynt Mawr”, fel petai. Dyma dywydd dal dy het, atal rhag rhoi dillad ar y lein a.y.y.b.

Mae “gafael” yn echrydus o oer, ond yn aml y gwynt ei hun, ac nid y tywydd o reidrwydd sy’n oer. Felly pan fydd yn chwythu, mai’n gafael.

Yng Nghymru, gall “braf” olygu unrhyw beth nad yw’n “chwythu” neu’n “gafael”. Ymhlith yr enghreifftiau ydyw tywydd clos, eira trwchus a glaw heb wynt yn yr awel. Dyma ydyw ystyr “braf”.

Noder:
Brâf – tywydd heulog
Bràf – ddim cystal; safonau Cymreig yn gymwys
Brêf – haul yn y Canolbarth